Holi bardd cenedlaethol yr Alban

Pàdraig MacAoidh (Peter Mackay), yw’r bardd Gaeleg cyntaf i gael ei benodi’n Makar, Bardd Cenedlaethol yr Alban
Yn gyntaf, llongyfarchiadau ar gael eich penodi. Beth yw eich ymateb i’r penodiad?
Mae’n anrhydedd ac yn gyfrifoldeb enfawr. Rwy’n olynu beirdd fel Edwin Morgan, Liz Lochhead, a Jackie Kay y darllenais eu gwaith wrth dyfu i fyny gan elwa wrth astudio eu crefft. A dweud y gwir, rwyf wedi defnyddio eu cerddi fel sail i ddarlithoedd am lenyddiaeth gyfoes yr Alban. Felly, mae dilyn yn ôl eu traed ychydig yn swreal, a’r profiad rywle rhwng bod yn ddigon i godi ofn arna i a fy mywiogi drwodd.
Beth yw rôl y Makar?
Ar lefel sylfaenol, mae gofyn ysgrifennu tair neu bedair cerdd y flwyddyn ar themâu wedi eu cytuno â Llywodraeth yr Alban. Yn fwy na hynny, mae disgwyl i’r Makar ddathlu, hybu a phledio achos barddoniaeth – a llenyddiaeth yn gyffredinol – ar hyd a lled yr Alban a sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn darllen, ysgrifennu a mwynhau barddoniaeth. Hyd yn hyn mae wedi golygu cydweithio â grwpiau a chymunedau: er enghraifft, prosiect enwi a phlannu gwinllan ym Mhrifysgol Stirling, ymweld ag ysgolion yng Nghaeredin, prosiect Tiroedd Cyffredin yn St Andrews sy’n golygu cydweithio â ‘Sgotiaid Newydd’ (gan gynnwys ffoaduriaid), disgyblion, awduron a ffotograffwyr.
O ble daw’r enw?
‘Makar’ oedd yr hen enw Sgoteg am feirdd llys yr Alban yn y bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg, a hynny yn ystod cyfnod sy’n un o uchafbwyntiau hanes ein llên gyda phobl fel William Dunbar a Gavin Douglas. Rwy’n deall nad oedd Edwin Morgan yn fodlon ar y gair oherwydd y cysylltiadau aristocrataidd. Does dim ots gen i. Gan fy mod i’n siarad Gaeleg a heb dyfu i fyny mewn ardal Sgoteg, mae ‘Makar’ yn teimlo fel math ar adfeddu haerllug (yn sicr, doedd Iago VI, brenin ola’r Alban, ddim yn or-hoff o siaradwyr Gaeleg) yn hytrach na rhywbeth wedi ei wthio arna i â phasiant a seremoni ddiangen – yr holl gadwyni, y medalau a'r mentyll. Ac mae’n well gen i’r gair na ‘laureate’: mae’r pwylais ar wneud, ar greu gwaith newydd, yn hytrach nag ar anrhydedd â sêl glasurol.
Beth yw eich amcanion ar gyfer y rôl?
Yn ogystal â phwysleisio bod angen dathlu barddoniaeth yn gyffredinol, rwy’n gobeithio cyfuno cynifer o ieithoedd â phosib yn y digwyddiadau y bydda i’n rhan ohonyn nhw er mwyn dangos pa mor amlieithog ac amrywiol yw’r Alban (o ran ieithoedd ‘traddodiadol’ a ‘newydd’) a cheisio normaleiddio hyn mewn gwahanol ffyrdd.
Sut fyddwch chi’n cyflawni hynny?
Wel, rwy’n ystyried gwahanol brosiectau lle bydd beirdd yn cydweithio, gan gynnwys prosiectau cyfieithu, digwyddiadau amlieithog a digwyddiadau lle bydd sawl awdur yn bresennol. Fe gawn ni weld sut y bydd y syniadau’n datblygu.
Pa mor bwysig fydd y ddeialog rhwng y gwahanol ieithoedd?
Mae hyn yn ganolog i fy nealltwriaeth i o’r Alban fodern, a’r hyn y gallaf i ei gyflawni fel Makar. Rydyn ni’n ddifesur gyfoethocach am fod gwahanol ieithoedd yn cydfodoli, yn siarad â’i gilydd, yn dylanwadu ar ei gilydd. Yn fy marn i, mae’n bwysig dod o hyd i ffyrdd lle gallan nhw fodoli yn eu parthau diwylliannol, heb yr angen i bopeth gael ei gyfieithu neu ei isdeitlo yn Saesneg, gan bontio rhwng yr ieithoedd mewn modd ystyrlon a hyd yn oed chwareus.
Beth am eich cefndir?
Doedd tyfu i fyny ar Eilean Leòdhais (Ynys Lewis) ar na h-Eileanan Siar (Ynysoedd Heledd Allanol) ddim yn brofiad ynysig o gwbwl. Wel, roedd angen teithio ar long fferi am dair awr a gyrru am awr a hanner i’r McDonalds agosa, ac roedd adegau pan nad oedd sinema ar yr ynys.
Ond roedd hen ffyrdd a ffyrdd modern, annisgwyl weithiau, o gysylltu â gweddill y byd. Ar ôl cerdded am ddeng munud o dŷ fy mam mae rhywun ar waun lle nad oes modd gweld tŷ i'r un cyfeiriad. Ond fe allwch chi weld anheddiad o Oes yr Haearn, llwybrau anwedd awyrennau jet sy’n teithio dros Fôr Iwerydd, ac olion torri mawn dros y canrifoedd.
Gan mai ynys yw hi, mae pawb wedi gadael ar ryw bwynt. Roedd cyswllt rhwng pob tŷ gyda chefndryd yng Ngogledd America, Awstralia neu Seland Newydd, er enghraifft, neu â llongwyr masnach oedd wedi bod yn Valparaiso neu Singapore, neu â rhywun oedd wedi gwasanaethu yng Nghaeredin.
Felly roedd y straeon yn ffantastig, yr hanesion yn gyfoethog: beirdd, adroddwyr straeon, cantorion ymhob pentref. Ac roedd y llyfrgell deithiol felen yn gymysgedd ryfedd o nofelau (Thomas Hardy yn ogystal â Sven Hassel), a Transworld Sport a Football Italia a Twin Peaks ar y teledu. Fel hyn, roedd modd cyrraedd at lenyddiaeth y byd a breuddwydio’r ddelfryd hurt, fodern, ein bod ni i gyd yn perthyn.
Pa mor bwysig oedd barddoniaeth yn yr ysgol?
Tormod Caimbeul oedd un o’r beirdd ac awduron straeon byrion gorau mewn Gaeleg ond yn anffodus ni fuodd yn athro arna i. Wrth lwc, roedd pob athro yn yr ysgol gynradd a chyfnod cynnar yr ysgol uwchradd yn siarad Gaeleg, er nad oedden nhw i fod i ddysgu drwy gyfrwng yr iaith.
Oddi ar pan oeddwn i’n ifanc cyflwynwyd ystod eang o ganeuon a cherddi i mi: caneuon Gaeleg ar gyfer y Mòd, y brif ŵyl Aeleg; carolau Nadolig; yn ddigon rhyfedd hefyd, ‘Kookaburra sits on the old gum tree’ ar gyfer Diwrnod Anzac (diwrnod coffáu milwyr Awstralia a Seland Newydd); a cherddi Sorley MacLean, Sylvia Plath, a Seamus Heaney yn yr ysgol uwchradd.
Sut y dechreuoch chi ysgrifennu cerddi?
Dechreuais i yn yr ysgol gynradd, a hynny dim ond fel rhywbeth i’w wneud; ond dal ati wedyn yn yr ysgol uwchradd. Cawsom ein hybu i ysgrifennu darnau creadigol yn yr arholiad Higher (sy’n cyfateb i lefel A) ac roeddwn i’n ddigon lwcus i gyhoeddi gwaith pan oeddwn yn yr ysgol. Rwy’n cofio ysgrifennu cerddi ar gais ffrindiau oedd am eu hanfon at bobl oedd wedi cymryd eu ffansi.
Ond fe gefais i saib pan oeddwn yn y brifysgol a dim ond pan symudais i Ddulyn, lle roeddwn i’n gwneud doethuriaeth ar waith Seamus Heaney a William Wordsworth, yr es ati i ailddechrau ysgrifennu, i ryw raddau, ac wedi hynny ailddechrau o ddifri.
Beth sydd wedi dylanwadu arnoch fel bardd?
Mae gen i ddiddordeb yn sut mae ieithoedd yn croesi ar draws ei gilydd neu beidio, sut maen nhw’n cyfathrebu neu beidio, ac felly rwy’n hoff o chwarae ar ymylon iaith er mwyn darganfod yr hyn all drawsnewid deunydd, gan gynnwys geiriau mwys a chyfansoddeiriau cywasgedig, un o gryfderau Dylan Thomas. Rwy’n hoff o archwilio ffyrdd o osod hen draddodiad Gaeleg barddoniaeth ochr yn ochr â llenyddiaethau eraill neu syniadau neu ddigwyddiadau cyfoes: er enghraifft, cerdd am Pacman ochr yn ochr ag ailweithio y ddelwedd o ‘ffynnon’ diwylliant, a honno wedi ei hadeiladu o Lego a darnau o bapur newydd.
Pwy yw'r beirdd a'r llenorion sydd wedi dylanwadu arnoch?
Dylan Thomas, Seamus Heaney, Emily Dickinson, Màiri Mhòr nan Oran, Federico Garcia Lorca, Alasdair mac Mhaighstir Alasdair, Zbigniew Herbert, Bob Dylan, Claudia Rankine, Elizabeth Bishop, Jason Allen-Paissant, Kathleen Jamie, ac yn y blaen, er dwi ddim o angenrheidrwydd yn swnio fel pob un ohonyn nhw …
Beth all barddoniaeth ei gyflawni?
Gall roi bod i rywbeth newydd: cyfuniad o ddau air, syniadau, synau nad ydynt wedi bodoli o’r blaen. Gall beri penbleth a’ch gorfodi i edrych ar y byd o’r newydd, o gyfeiriad gwahanol. Neu gall greu gofod neu absenoldeb lle gall damweiniau, er gwell neu er gwaeth (er gwell, gobeithio), ddigwydd.
Sut mae cerdd yn cychwyn? Ydy hi’n cychwyn yn yr iaith Aeleg?
Mae’n cychwyn gyda gair, ymadrodd, delwedd, sain neu rythm ac yna’n cyrraedd tir anhysbys, tir neb. Os oes potensial, mae’n mynd â chi i rywle annisgwyl. Nid yw cerddi bob tro yn cychwyn yn yr iaith Aeleg (gan fy mod i’n ddwyieithog) ac yn ystod yr ail neu’r trydydd drafft fe fydda i’n chwarae â’r gerdd er mwyn gweld a all fodoli mewn iaith arall (Gaeleg i Saesneg, neu Saesneg i'r Aeleg, ac weithiau ieithoedd erall). Ac yn ystod y drafftio gall yr ieithoedd dyfu ar wahân neu ailysgrifennu, gwrth-ddweud neu wrthwynebu ei gilydd. Ym mhle y daw’r broses i ben? Wel, roedd rhaid rhoi’r gorau i regi wrth orffen cerdd ac rwy’n cytuno i raddau â barn y bardd mawr o Ogledd Iwerddon, Michael Longley, fu farw’n ddiweddar, fod cerddi’n cael eu gollwng nid eu cwblhau.
Sut fyddech chi'n disgrifio eich arddull?
Ar un adeg roedd yn dameidiog, yn wrthdelynegol, yn anelu at droi natur bersain yr Aeleg yn erbyn ei hun, i raddau. Ac arweiniodd hyn at gerddi tyn, caeedig, tywyll (rhai yr wyf i hyd yn oed yn cael gwaith eu deall). Erbyn hyn, mae’r llinellau’n hirach, mae mwy o odlau, ac rwy’n barod i ddiweddu ag adlais neu ergyd yn lle sefyllfa all newid yn sydyn. Ond pwy a ŵyr beth fydd y gerdd nesaf? Rwy’n gobeithio y bydd yn ei harddull ei hun.
Beth yw eich themâu?
Yn nrafft un gerdd roedd gen i’r llinellau canlynol: ‘mae’n rhaid bod mwy o bynciau na’r rhain / adar, Gaeleg, gweunydd, moroedd’ ond teimlais fy mod i’n dadlennu gormod. Rwyf wedi ysgrifennu am ymateb y cyfryngau i refferendwm yr Alban, yfed wisgi fy nhad-cu, gwrando ar Belle and Sebastian, dienyddiwr yn llosgi cyfrol gyntaf barddoniaeth yr Aeleg wrth Groes Mercat yng Nghaeredin, cymeriad a ddyfeisiais o’r enw ‘Bùrach’, serch, ailadrodd, Franco Baresi ... Mae olion Ynys Lewis ar y cerddi, plentyndod, llawer o gorsydd. Ond rwy’n gobeithio nad yw’r themâu’n llwydo.
Ydych chi’n obeithiol am ddyfodol yr iaith Aeleg?
Mae’r iaith mewn cyflwr peryglus ar hyn o bryd ac wedi bod drwy gydol fy mywyd. Rwyf wedi ceisio cofio’r tro cyntaf y dywedodd rhywun wrthyf fod yr iaith ‘yn farw’ neu ‘yn marw’. Roeddwn i tua wyth oed, rwy’n credu. Profiad rhyfedd yw hynny yr oedran yna. Ond yn nhermau siaradwyr, mae’r sefyllfa erbyn hyn yn llawer gwaeth gan mai dim ond bron i 60,000 sydd â rhyw allu i siarad Gaeleg yn yr Alban i gyd. Serch hynny, mae gwelliannau wedi bod: bu rhywfaint o gynnydd yn nifer y siaradwyr yng nghanlyniadau'r cyfrifiad diwethaf, gan gynnwys mwy o siaradwyr yng nghymunedau Glasgow a Chaeredin. Ac ers deugain mlynedd mae cefnogaeth i’r iaith a’r parthau lle mae modd ei siarad hi wedi cynyddu’n fawr: gorsaf radio BBC Radio nan Gàidheal, gorsaf deledu BBC Alba, ysgolion Gaeleg yn y dinasoedd, pwysigrwydd parhaol coleg Gaeleg Sabhal Mòr Ostaig, chwaraeon yn cael eu dysgu a’u chwarae drwy gyfrwng yr iaith, mwy o swyddi Gaeleg nag erioed. Er gwaethaf hyn, mae nifer siaradwyr yr ynysoedd, y ‘cadarnleoedd,’ wedi gostwng yn fawr, i tua 50%, tra oedd y ffigwr yn 80% pan oeddwn i’n blentyn. Mae’n anodd gwadu’r bygythiad i’r Aeleg fel iaith gymunedol oni bai bod newid mawr a chyflym. Ers y cyfnod clo, mae’r problemau wedi cynyddu. Yr un yw’r achosion o gwmpas y Deyrnas Gyfunol: tai ar werth am yr un pris â rhai yn Llundain neu Gaeredin fel nad oes neb ar yr ynysoedd yn gallu eu fforddio; cynnydd enfawr twristiaeth; yn sgil hynny, diffyg tai a swyddi; anawsterau magu teuluoedd ifanc. A hynny’n golygu newid diwylliannol anferth.
Beth yw’r peryglon pan fo iaith o dan fygythiad?
Mae’r hanes diwylliannol hir, y ffordd o edrych ar y byd sy’n rhan annatod o’r iaith, mewn peryg o gael ei golli ond yr un mor real yw’r perygl o geidwadaeth, bod pobol ag obsesiwn ynghylch diogelu’r hyn a fu (gan deimlo fod iaith y genhedlaeth flaenorol yn gyfoethocach ac yn fwy rhugl) a bod hyn yn disodli popeth. Os yw iaith yn hen ffasiwn, wedi dyddio, mewn cas arddangos, mae wedi marw yn barod.
Beth yw cyflwr barddoniaeth Aeleg heddiw?
Er gwaethaf popeth, mae hi mewn cyflwr da iawn; mae llawer o feirdd gwahanol yn defnyddio arddulliau traddodiadol ac arbrofol, mewn rhychwant o leisiau. Y rheswm efallai yw bod llawer o’n beirdd gorau wedi dysgu’r iaith yn oedolion ac yn ysgrifennu cerddi’n llawn hydeimledd a phrofiadau gwahanol sy’n cryfhau’r tueddiadau telynegol sydd wedi bod yn rhan o'r iaith erioed. Yr un pryd, nid yw’r iaith efallai wedi bod mor ymylol i’r diwylliant Gaeleg gan mai barddoniaeth a chân hyd at gyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif oedd y ddwy brif ffurf lenyddol a diwylliannol. Ond does dim o’i le ar farddoniaeth Aeleg yn cyd-fyw heddiw gyda noir-Gaeleg, fideos TikTok, llyfrau coginio a nofelau graffeg.
Beth am y traddodiad sy’n sail iddi?
Tan ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif roedd y farddoniaeth yn fydryddol ac yn hawdd ei chanu. Oddi ar hynny mae dau draddodiad wedi datblygu, un sy’n cynnal yr hen draddodiad telynegol (oedd yn gysylltiedig â bàird baile, ‘beirdd y pentref’ yn yr ugeinfed ganrif), a’r llall yn fwy arbrofol, yn llai ffurfiol, yn gysylltiedig â beirdd wedi eu haddysgu mewn prifysgol (Sorley MacLean a’r modernydd Hugh MacDiarmid oedd y rhai cyntaf i osod y safon hon); yn y ddau draddodiad mae modd ysgrifennu am unrhyw bwnc o unrhyw bersbectif (er bod agwedd beirdd unigol yn fwy neu lai radicalaidd, rhyngwladol, plwyfol neu hunan-fodlon). Rydw i’n nes at yr ail draddoddiad, er fy mod i wedi ysgrifennu caneuon a rapiau ac yn hoff o gynnwys elfen delynegol yn fy ngwaith. Rwy’n hoff o hyd o dorri’r llinell cyn cyrraedd gair sy’n odli.
Pa mor bwysig yw ysgrifennu yn yr iaith?
Mae’n holl bwysig, i mi yn bersonol ac yn ddiwylliannol. Rwyf wedi bod yn ddwyieithog ers y cof cyntaf, felly mae ysgrifennu yn yr iaith, neu rhwng ieithoedd, yn hen arfer ac, a bod yn onest, yn fwy gwerthfawr. Fe allen i ysgrifennu cerddi Saesneg â goslef Aeleg ond hanner llais, hanner y byd fyddai hynny. Heb ysgrifenwyr yn creu gwaith newydd, yn ymateb i ofynion a chymhlethdodau’r byd o’n cwmpas, yn chwarae ag iaith, yn ei gwthio i gyfeiriadau newydd, fe fyddai dyfodol yr Aeleg ar y gorau’n llwm a digalon.
Faint ydych chi’n ei wybod am farddoniaeth Gymraeg?
Yn anffodus, dim ond trwy gyfieithiad y gallaf ei darllen ond roeddwn i’n ffodus iawn o gael gweithio ar brosiect yn yr ieithoedd Gaeleg, Gwyddeleg a Chymraeg gydag Ifor ap Glyn a’r bardd o Ddulyn, Ciara Ní É. Cefais gyfle i ymhel â sut mae barddoniaeth Gymraeg yn gweithio, ac i ddeall ychydig am ei rhythmau. Ym Mhrifysgol St Andrews rwy’n cyflwyno myfyrwyr i gyfieithiadau o gerddi Hedd Wyn a Saunders Lewis: mae’r cyfieithiad o linell olaf ‘Gweddi Terfyn’ Saunders Lewis, ‘One prayer remains for all, to go silently to the silent’, yn adleisio gwaith Hugh MacDiarmid, sef bardd mwyaf yr Alban yn yr ugeinfed ganrif, a oedd wastad fel petai’n ymdrechu tuag at lonyddwch.
A ddylai beirdd yr ieithoedd Celtaidd gynnal deialog?
Yn bendant, ac mae hyn wedi digwydd yn achlysurol am ganrifoedd. Yn amlwg, mae’n haws rhwng Gwyddeleg a Gaeleg am fod yr ieithoedd yn nes at ei gilydd ac am ddegawdau roedd cyfnewid bob blwyddyn rhwng beirdd a chantorion y ddwy wlad, yr hyn a elwid Cuairt nam Bàrd. Hyd yn oed yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd llyfrau’n cymharu gweithiau’r beirdd ochr yn ochr â’i gilydd, er bod tuedd i hyn ddigwydd mewn cyfieithiad Saesneg, fel Lyra Celtica yn 1896. Mater arall yw cynnal y ddeialog heb droi i’r Saesneg. Yn y brifysgol mi ddilynais gwrs Astudiaethau Celtaidd ac rwy’n difaru na chefais gyfle i ddysgu Cymraeg ond mae’r dechnoleg bresennol yn golygu llai o rwystrau nag erioed.
Rydych chi’n darlithio ym Mhrifysgol St Andrews. Ydy’r byd academaidd yn ffrwyno’r awen?
Wrth ddarlithio am lenyddiaeth, rwy’n cael cyfle i ddarllen gwaith gwych o wahanol ganrifoedd: James Hogg, Charles Dickens, Aphra Behn, Ali Smith, Muriel Spark, Beckett, Shakespeare. O ran hybu’r awen, does dim byd yn bwysicach na darllen, cael dianc oddi wrth yr hunan. Fe fyddai dysgu Ysgrifennu Creadigol yn fwy anodd, rwy’n credu, pe bawn i’n gorfod rhoi adborth yn aml, a phwysleisio’r grefft o flaen y rhyfeddod, fel petai. Yn sicr, roedd ysgrifennu cerddi’n fwy anodd pan oeddwn i’n newyddiadurwr gyda’r BBC: mae’r agwedd at iaith a’r gwirionedd yn wahanol iawn yn y ddau gyfrwng ac nid oes modd, neu ni ddylid efallai, droi popeth yn ddatganiad mor gryno ac uniongyrchol â phosib. Ond y gwir yw bod y byd academaidd yn golygu cymaint o alwadau ar amser (yn enwedig o ganlyniad i'r gwaith gweinyddol). Yr her bob tro yw neilltuo rhywfaint o amser ar gyfer ysgrifennu, neu hyd yn oed adael i’r meddwl fynd i gyfeiriad ffrwythlon.
Chi yw capten Tîm Ysgrifenwyr Pêl-droed yr Alban. All barddoniaeth gyrraedd y stadiwm?
Mae hi wedi bod yno erioed: y lle rhyfedd hwnnw lle mae grwpiau mawr (dynion, fel arfer) wrthi’n potsian ag iaith gyda’i gilydd, yn aml yn rheglyd, yn aml yn gerddorol, weithiau’n dramgwyddus. Ac os yw’n gafael, fe fydd yn troi’n sylfaen, yn rhyw fath o angor. Dwi ddim yn cefnogi Hibernian ond pan ganodd eu cefnogwyr ‘Sunshine on Leith’ ar ôl ennill y cwpan roedd yn … anhygoel, a’r blew yn codi ar fy ngwar i.
Newyddiadurwr wedi ymddeol ydi Martin Huws a ddaeth fwy nag unwaith yn agos at y brig yng nghystadlaethau'r Goron, Gwobr Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.