Hanes siop lyfrau Gymraeg
Holi Gwyn Siôn Ifan, Awen Meirion
Sut deimlad ydi ennill gwobr cyfraniad arbennig Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2023?
Iesgob – i mi, rheolwr Awen Meirion ydw i. Mae’n fraint cael y gydnabyddiaeth hon, ond yn fwy na dim dwi’n ei gweld yn gydnabyddiaeth i’r gwaith mae Awen Meirion wedi ei wneud dros yr hanner canrif diwethaf.
Cafodd y siop ei sefydlu ym Mai 1972 gan bobl arbennig o fentrus – unigolion a oedd mewn swyddi dibynadwy fel athrawon ac a gafodd fenthyciad i brynu’r adeilad. Roedd 11 ohonyn nhw. Ond dwi wastad yn dweud bod cyfraniad gwragedd tri o'r cyfarwyddwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf honno wedi bod yn ganolog i lwyddiant y fenter. Mi wnaeth y dair weithio’n ddi-dâl am flwyddyn yn y siop. Hynny sefydlodd y busnes ac a baratôdd y ffordd at gyflogi rheolwr yn nes ymlaen. Dechreuwyd cyflogi Alan Llwyd yn 1973. Roedd llawer llai o gyhoeddi yn y cyfnod hwnnw i gymharu â heddiw, ond roedd chwyldro yn y Gymru Gymraeg ac roedd pobl fel Gwilym Tudur a Dyfrig Tomos wedi cychwyn pethau, a ninnau wedyn wedi dilyn, nes yn y diwedd roedd degau o siopau wedi eu sefydlu mewn gwahanol rannau o Gymru.
Roedd Awen Meirion ymysg y siopau llyfrau Cymraeg cyntaf, wrth gwrs.
Oedd, ar ôl siop Mrs Parry yn Llanrwst a agorwyd yn 1955, sef Bys a Bawd, a Siop y Pethe [Gwilym a Megan Tudur] yn Aberystwyth. Daeth Awen Meirion yn fuan wedyn, a Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin yn nes ymlaen yn yr un flwyddyn, ym mis Tachwedd ’72. Ac yna Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug a sefydlwyd yn yr un ffordd ag Awen Meirion, sef nifer o bobl yn dod at ei gilydd ac yn cydweithio. Erbyn hynny, roedden ni wedi dangos fod siopau llyfrau Cymraeg yn gallu bodoli!
Pan oeddwn i yn yr ysgol dwi’n cofio mynd hefo ’nhad i Awen Meirion a phrynu dau lyfr – Ymysg Lladron a Dial o’r Diwedd – hefo tocynnau llyfr a ges i yn wobr mewn rhyw gystadleuaeth. Mis Hydref ’72 oedd hynny, a doeddwn i ddim mor ymwybodol pa mor newydd oedd Awen Meirion ar y pryd.
Fedri di ddweud yr hanes sut ddes di i fod yn Awen Meirion?
Flynyddoedd yn ôl, dwi’n cofio dod i’r siop i weld Gronw, ffrind i mi. Roedd o’n fab i un o’r cyfarwyddwyr, Trefor Edwards ac roedd Sgwêl [Elwyn Edwards] wedi gofyn i Gronw allai o helpu ambell ddydd Sadwrn yn y siop. Wedyn yn nes ymlaen, pan oeddwn i’n gweithio fel cogydd, byddwn i’n taro i mewn i Awen Meirion yn aml, nes y gofynnodd Sgwêl i minnau hefyd, ‘Fedri di wneud ryw ddydd Sadwrn?’ Dwi’n meddwl mai fel ’na wnaeth y diddordeb gychwyn.
Yn ’84, ges i gyfweliad am swydd yn Siop y Siswrn. Mi fues i yn yr Wyddgrug wedyn am chwe mlynedd a hanner nes ces i alwad ffôn yn 1990 yn rhoi gwybod bod Awen Meirion yn chwilio am reolwr. A dyna hi. Dwi’n meddwl ’mod i wedi mynd i ffwrdd er mwyn cael dod yn ôl.
Mae dros ddeng mlynedd ar hugain wedi pasio ers hynny ...
Mae yna gyfnodau amrywiol wedi bod, fel ym mhob busnes – i fyny ac i lawr. Ond rydan ni ar i fyny ar hyn o bryd. Rhyw bymtheg mlynedd a mwy yn ôl mi wnaethon ni wario’n helaeth i wella’r siop. Roedd hen lwybr y feddygfa yn mynd hefo ochr y siop. Mi wnaethom ni brynu’r llwybr hwnnw a chwalu wal er mwyn adeiladu estyniad. Roedd o’n fuddsoddiad mawr iawn i’w wneud ar y pryd ond roedd angen ei wneud o, er gwell. Bach ydi’r siop, yn dal i fod, yn de?
Mae yna awyrgylch ogof Aladin yma.
Oes. Mae sesiynau arwyddo’n digwydd yn aml ond mae’n anodd, bron yn amhosib, cynnal digwyddiadau mwy sylweddol yn y siop ei hun, fel buaswn i’n lecio. Mae’r adeilad yn rhy fach. Ac eto dwi’n meddwl fod y gornel lle’r yden ni wedi ein lleoli, ar y Stryd Fawr, yn siwtio. Mae yna ddigon o bobl yn pasio fan hyn. Er mwyn cael lle mwy, byddai rhaid symud. Felly pan mae angen cynnal digwyddiadau, yn amlach na pheidio rydan ni’n defnyddio Canolfan Cantref yma yn y Bala.
Ga’ i ofyn am uchafbwyntiau’r cyfnod rwyt ti wedi bod wrth y llyw?
Mae yna gymaint o bethau gwahanol y gellid eu crybwyll. Y sesiwn arwyddo fwya gawsom ni erioed oedd pan ddaru’r diweddar Dai Jones gyhoeddi ei hunangofiant. Mi ddaru ni werthu cannoedd o gopïau. Mi fuodd John Ogwen draw hefyd, yn arwyddo, a Gerallt Lloyd Owen a Lyn Ebenezer ... Roedd y cyfarfod efo Lyn Ebenezer yn un arbennig o ddifyr achos roedd rhai o hen ffrindiau Lyn o gyfnod yr FWA [Free Wales Army] yn galw i mewn ac ro’n i’n cael cyfle i ryw glustfeinio ar eu sgyrsiau nhw.
Wedyn, mae awduron lleol fel Haf Llewelyn a chdithe, Siân [Melangell Dafydd], a Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros ... tra bo’r sesiynau arwyddo wedi bod ychydig yn fflat yn y ddwy neu dair blynedd diwethaf yma, hefo Covid a ballu, mae’r gefnogaeth gynnoch chi awduron wedi bod yn gyson, waeth faint o gopïau ryden ni’n debyg o’u gwerthu. Ryden ni wedi bod yn lwcus o’r holl awduron, do. Maen nhw mor barod i’n helpu ni a dod draw.
Dwi’n cofio hefyd – ryden ni’n gwerthu cardiau a CDs ac ati yn ogystal – Bryn Fôn yn dod draw i arwyddo CD Abacus. Mi fuodd honno’n cael ei hyrwyddo am flwyddyn neu ddwy cyn iddi fod yn barod ac unwaith eto mi ddaeth cannoedd o bobl yma. Yn y diwedd, roedd yn fater o greu rowndabowt yn y siop – i mewn un pen ac allan pen arall. Mi fasai lle mwy o faint wedi ei gwneud hi’n bosib i ni gynnal digwyddiadau mwy sylweddol yn fwy cyson.
Rhywbeth arall sydd angen ei gydnabod ydi pa mor dda yden ni siopau annibynnol am gefnogi ein gilydd. Ryden ni’n trafod yn aml hefo’n gilydd: sut wyt ti wedi gwneud hyn, beth ddylswn i wneud yn yr achos hwn, neu sgen ti syniadau am y peth arall? Hefyd, weithiau, os ydi rhywun wedi gor-storio ambell i deitl, ryden ni’n rhannu. Ryden ni’n gweithio’n dda trwy’n gilydd.
Mae Awen Meirion wedi bod yn ganolfan, yn do?
Do wir. Mae pobl yn gallu taro i mewn am sgwrs heb orfod prynu dim byd. Ac wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth Cymru wedi bod yn rhan mor bwysig o ddatblygiad y siop. Mae’n anodd weithiau pan ti’n cael ambell un sydd yn dod i mewn sydd ddim yn deall gwleidyddiaeth Cymru, sydd ddim yn deall pam ryden ni’n gwneud yr hyn ryden ni’n ei wneud. Ac o egluro, yn aml iawn, mae yna well dealltwriaeth wedyn. Mewn ardal lle boddwyd Capel Celyn, mewn ardal lle cartrefwyd bron i ddwy fil o filwyr yr IRA, mae’n anorfod fod gwleidyddiaeth hefyd yn chwarae ei rhan.
Tydi’r busnes iaith ddim yn gymaint o broblem ag oedd o hanner can mlynedd yn ôl oherwydd ers sefydlu’r Cynulliad, mae pobl yn dod i ddeall fod gwleidyddiaeth Cymru wedi newid, yn deall fod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio bob dydd, yn gymdeithasol ac mewn busnes. Mae agwedd pobl wedi newid. Roedd yna gyfnod pan oedd rhywun yn gorfod brathu ei dafod. Mae yna adegau pan fu dadleuon chwyrn acw. Byddai wedi bod yn ddifyr recordio ambell i sgwrs ...
Yn sgil yr holl ddathliadau, rwyt ti wedi dechrau crybwyll y gair ‘ymddeoliad’. Sut wyt ti’n gweld y dyfodol ar gyfer Awen Meirion? Rwyt ti mewn lle da i edrych ymlaen.
Yden, ryden ni rŵan mewn lle da, yn gyfforddus yn yr hyn ryden ni’n ei wneud. Wrth gwrs, byddai unrhyw fusnes yn lecio mwy o fusnes. Ond wrth edrych ymhellach, dwi’n meddwl y bydd angen i ni wneud mwy o waith y tu allan i oriau agor siop, er enghraifft mynd allan i hyrwyddo llyfrau, arddangos llyfrau i gymdeithasau ac ysgolion – rhywbeth ryden ni wedi gwneud rhywfaint ohono ers y dechrau. Allwn ni ddim dibynnu dim ond ar bobl yn dod trwy’r drws. Mae hynny’n fwy o her o ganlyniad i ddatblygiadau fel llyfrau electronig. Mae hefyd yn galetach ym maes llyfrau plant a phobl ifanc oherwydd bod pethau eraill yn mynd â’u bryd nhw heddiw.
Ar y funud ryden ni ar ganol cynllun hyrwyddo llyfrau Caru Darllen hefo’r Cyngor Llyfrau a Llywodraeth Cymru, sy’n golygu mynd allan a rhoi cyfle i bobl ifanc weld a chyfnewid tocynnau am lyfrau. Mae hynny wedi gweithio’n dda iawn. Wrth gwrs, mi fyddai’r math yna o gynllun yn well petaen ni’n medru ei wneud yn amlach ond mae’n gostus i’w gynnal. Rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd i adeiladu ar hyn a chadw’r cysylltiadau’n fyw; rhaid i ni fagu patrwm o brynu a darllen ymysg yr ifanc. Mae’r ffaith fod plant yn darllen llai yn eu harddegau yn dueddiad a fu erioed ond os nad yden ni’n ofalus mi fydd hynny’n dechrau ynghynt ac ynghynt. Mae i fyny i ni’r siopau llyfrau i greu digwyddiadau i gadw’r diddordeb yn fyw. Ac amrywio’r digwyddiadau hefyd. Ryden ni’n mynd i orfod gweithio’n galetach. Rhywsut, rhaid ehangu, fel ein bod ni’n parhau yn rhan o’r gymuned tu allan i furiau’r siop.
Cyfweliad gan Siân Melangell Dafydd.
Y llun a fewnosodwyd: Gwyn Siôn Ifan yn Awen Meirion.