Cyfweld

Wyrcws y Gymru sydd

Holi Wiliam Owen Roberts

Elis Dafydd

Amser darllen: 15 munud

10·12·2022

Fis Tachwedd eleni, cyhoeddwyd Cymru Fydd, nofel hirddisgwyliedig Wiliam Owen Roberts. Yma, mae’r awdur yn sôn wrth Elis Dafydd am ddylanwadau megis Iwan Llwyd ac Islwyn Ffowc Elis, am gyflwr argyfyngus y diwydiant darlledu Cymraeg, ac am yr her o ddiffinio hunaniaeth heb gefnogaeth sefydliadol.

*

Ers pryd wyt ti’n sgwennu’n greadigol? Be oedd yr ysgogiad cychwynnol? 

Dyddiau ysgol, am wn i. Mae o’n brofiad mae amryw byd o bobol yn ei gael, fod rhyw athro neu athrawon yn dylanwadu arnyn nhw. Ro’n i’n lwcus iawn mai Penri Jones oedd un, a’r llall oedd Dewi Davies, a fu’n brifathro Ysgol y Berwyn wedi iddo fo adael Ysgol Eifionydd. Dwi’n cofio fy chwaer a finnau yn cael cyfle i actio mewn drama hefo Dewi ac athrawes arall o’r enw Carys Roberts – fel roedd hi ar y pryd – yn Theatr y Gegin yng Nghricieth, a W S Jones yn cyfarwyddo. Roedd Wil Sam yn ffigwr allweddol pan o’n i’n fy arddegau a’i ddylanwad yn aruthrol ar lu. Yr amlycaf un ohonyn nhw i gyd, faswn i’n tybio, oedd Meic Povey. Ar wahân i annog ac ysgogi brwdfrydedd yn y ddrama, ei gymwynas fwyaf o oedd hudo gwahanol unigolion i fwynhau cwmni ei gilydd a chael dipyn o hwyl, gan amlaf ym mar Gwesty’r Marine ar y prom yn Aberystwyth, neu nôl ar yr aelwyd yn Nhyddyn Gwyn lle byddai miri’r trin a thrafod yn para tan yr oriau mân.

Mae’r Gelli Aur, y tŷ lle buost ti’n byw yn ystod dy ddyddiau coleg yn Aberystwyth efo Iwan Llwyd ac amryw un arall, yn rhan o chwedloniaeth lenyddol Cymru erbyn hyn. Ai Aberystwyth a’r dyddiau coleg wnaeth lenor ohonot ti?

Mae gen i atgofion melys iawn am y cyfnod hwnnw o hyd. Tŷ trillawr yn Stryd Siôr oedd o, a mi fuo Iwan a finnau yno am o leia dwy flynedd. Ond ar wahân iddo fo, mi roedd yno letywyr difyr fel Emyr Lewis a Siôn Aled – y ddau erbyn hyn yn Brifeirdd. Roedd aelodau y grŵp Doctor, sef Gwyn Williams, Owen Owens ac Elwyn Williams hefyd yn denantiaid, a dau arall a fu yno am ryw hyd oedd Glyn Heilyn, a fu’n rhedeg yr Harbour Master yn Aberaeron, a Dylan Jones, y cyflwynydd radio. Mae hi’n rhyfeddol meddwl fod dros ddeugain mlynedd a mwy wedi mynd heibio ers yr adeg honno, a’r golled fwyaf o bell ffordd ydi Iwan. Mae hi’n chwith garw iddo fo’n gadael ni mor gynnar, oherwydd pan mae ffrind yn marw, mae rhan ohonach chi hefyd yn marw. Pleser cyfarfod hen gydnabod nad ydach chi wedi eu gweld ers amser maith ydi eu bod nhw, trwy sgwrsio, yn procio rhyw atgofion i ddechrau brigo, rhai sydd wedi mynd yn angof ganddoch chi ond sy’n fyw o hyd ynddyn nhw. Ond heb y person arall, mae talp o’ch bywyd chi yn mynd yn anghofiedig.

Dwi’n falch ofnadwy imi nabod Iwan. Dwi’n ystyried hi’n fraint aruthrol. Roedd o’n gymeriad mor hynaws, a mor barod i chwerthin, yn fardd arbennig iawn ac yn sgwrsiwr difyr. Roedd ganddo fo hefyd ddawn d’eud hollol unigryw fel ‘Smokin’ neu ‘Lash it out!’ Dyn a ŵyr be oedd pethau felly yn ei olygu, ond roedd o’n eu d’eud nhw’n amal. Yn ei stafell o’n y Gelli Aur y buon ni’n dau yn cydweithio ar gyfieithiad o King Lear – Y Brenin Llŷr – a gafodd ei llwyfannu yn Theatr y Castell tan gyfarwyddyd Emily Davies. Mi wnes i fwynhau y profiad hwnnw yn fawr. Ond cyfieithiad digon anwastad oedd o achos mai llenwi bylchau oeddan ni oherwydd ein bod ni’n gweithio ar fersiwn talfyredig ohoni gan yr Athro W J Gruffydd, a ddarlledwyd yn wreiddiol ar y radio yn y 1930au. Y gwir amdani ydi y basa hi wedi bod yn well o’r hanner gofyn i Iwan ei chyfieithu hi o’i chwr, oherwydd roedd ei arddull foel ac uniongyrchol o yn berffaith ar gyfer trosi y math o ddrama ag ydi’r Brenin Llŷr.   

Pam wyt ti’n sgwennu nofelau? Rwyt ti wedi sôn mewn cyfweliadau blaenorol i ti gael crysh poeth ar ganu caeth rywdro, a bod ’na gyfnod o ddeng mlynedd wedi bod lle nad oeddet ti hyd yn oed yn darllen nofelau o gwbl. Beth ddenodd di at y ffurf yn y diwedd?

Trwy gydol fy arddegau roedd gen i obsesiwn efo barddoniaeth – canu caeth, yn benodol. Oherwydd inni ddysgu’r cynganeddion yn yr ysgol tan law Penri, mi wnes i ddechrau gwirioni. Yn Aberystwyth wedyn, mi wnes i ymuno â dosbarth cynganeddu Roy Stephens, gŵr galluog iawn ac awdur Yr Odliadur. Roeddan ni’n cyfarfod mewn parlwr bach o stafell yn yr hyn oedd y Cŵps, cyn i’r lle gael ei weddnewid – y stafell ar y dde wrth ichi gerdded i mewn. A phan wnes i symud i Gaerdydd ar ddechrau’r wythdegau, mi aeth Iwan, Emyr Lewis, Ifor ap Glyn, Ynyr Williams a finnau ati i sefydlu tîm er mwyn cystadlu ar y radio. Mi fuon ni wrthi am flynyddoedd tan i mi ddechrau alaru a theimlo mod i’n tin-droi ac yn ailadrodd yr un pethau yn yr un hen ffordd. Wrth i’r wythdegau dynnu tua’u terfyn, dyma fi’n penderfynu rhoi’r gorau iddi. A hyd yn oed wrth wrando ar y Talwrn heddiw, dwi’n dal i deimlo fod y cwbwl rywsut yn weddol statig. Yr un ydi ’nheimlad i am nifer o gystadlaethau barddoniaeth y Steddfod. Dwi ddim yn gweld unrhyw bwrpas o gwbwl mewn gofyn i bobol gyfansoddi rhywbeth fel y Delyneg. Pam? Mae hi’n ffurf sydd wedi hen chwythu ei phlwc. Fasa neb, bellach, byth bythoedd yn gosod yr Anterliwt fel cystadleuaeth yn yr Adran Ddrama. Mae hon hefyd yn ffurf llenyddol sy’n perthyn i gymdeithas wledig, gyn-ddiwydiannol. Yn anffodus, dadfeilio a methdalu ydi tynged rhai ffurfiau llenyddol sydd ddim yn meddu ar y gallu i esblygu er mwyn dygymod â chroestyniadau cymdeithasol mwy cymhleth – fel yn achos yr anterliwt. Gorfod newid wnaeth y soned Shakesperaidd wrth droi yn soned laes o dan law R Williams Parry, a hynny o dan bwysau gwleidyddol ac emosiynol dwys. Mae gan y beirniad Raymond Williams derm am y peth, sef ‘strwythur o ymdeimlad’.

Felly, mae’r nofel fel ffurf yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ti?

Ydi. Heb os. Mawredd y nofel fel ffurf lenyddol ydi ei bod hi’n hyblyg ac yn cynnig posibiliadau di-ben-draw o ran yr hyn y gellir ei wneud a’i ddweud. Ond dwi ddim yn hollol siŵr sut y gwnes i droi at y nofel. Rhywbeth graddol iawn oedd o na alla i o’r braidd roi fy mys arno fo. Trwy gydol fy amser i’n y coleg, ro’n i’n sgwennu dramâu, yn enwedig ar gyfer cystadleuaeth fel y ddrama ryng-golegol ac ati. A’r cwbwl ro’n i’n ei ddarllen, yn ddiddiwedd, oedd dramâu. Ychydig iawn o nofelau ro’n i wedi eu darllen erioed. Mae’n rhaid fod yr ysgogiad tuag at y nofel felly wedi tarddu o seminarau John Rowlands. Padar i berson ydi honni iddo fo gael dylanwad ar nifer fawr o bobol, ond roedd o wastad yn hael hefo’i amser ac yn barod iawn i drin a thrafod. Mawredd John oedd ei fod o’n agored i gwestiynu ac yn gyson chwilfrydig ynglŷn â phosibiliadau llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol. Rydan ni i gyd yn fawr ein diolch iddo fo am yr anogaeth a’r gefnogaeth, a fo, yn anad neb, fu’n gefn i awduron dyfeisgar a disglair fel Mihangel Morgan a Robin Llywelyn.

Be am y nofel gyntaf, Bingo!?

Pan es i ati i sgwennu Bingo! do’n i’n amlwg ddim yn saff o’r llwybr ro’n i’n ei droedio. Rhyw fath o arbrawf hefo’r ffurf ei hun ydi’r nofel honno. 

Ai symptom o dlodi economaidd y diwylliant Cymraeg ydi’r ffaith dy fod ti’n sgwennu nofelau? A nofelau swmpus eithriadol at hynny. Sgriptiwr a dramodydd wyt ti wrth dy waith bob dydd. Mae ’na elfennau eitha ffilmig neu weledol yn dy nofelau di. Mi fedra i ddychmygu Cymru Fydd yn gyfres ddeg neu ddeuddeg rhan ar Netflix, er enghraifft. Wyt ti’n sgwennu nofelau am na fyddai neb yn comisiynu ffilmiau neu gyfresi teledu mor epig? Ai rhywbeth i’w wneud rhwng prosiectau mwy proffidiol ydi sgwennu nofel i ti?

Dwi’n meddwl fod teledu mewn lle gweddol argyfyngus, a bod yn hollol onest. Yr hyn sydd wedi sigo S4C a’i hesbio hi fel sianel ydi’r toriadau erchyll a fu yn 2010 – lle diflannodd bron i draean o’r gyllideb. Doedd hi ddim yn gyllideb nodedig o hael cyn 2010, ond o leiaf roedd hi’n filwaith gwell na’r hyn a gafwyd ers hynny. Mae’r sianel ar ei chythlwng ac mae hyn i’w weld yn amlwg yn y ddarpariaeth ar y sgrin. Dydw i ddim yn beio neb o’r criw sydd wrth y llyw. Maen nhw wedi etifeddu sefyllfa amhosib. Ond ers 2010 mae llawer iawn llai o gyfresi drama wedi bod. Does yr un gyfres ddrama hanesyddol wedi ei chynhyrchu ers amser – go brin y gwelir un byth eto – ac mae y ffilm Nadolig wedi hen ddiflannu. Dwi’n cofio Euryn Ogwen yn dod i siarad hefo ni ym mhwyllgor Undeb yr Ysgrifenwyr beth amser ar ôl y cyhoeddiad oherwydd, os dwi’n cofio’n iawn, ei fod o wrthi’n llunio arolwg ar gyfer rhywun, ac yn mynnu fod rhaid gwneud y gorau o’r gwaethaf, a bod yn fwy creadigol a chwilio am arian cyd-gynhyrchu ac ati. Ond hefo pob dyledus barch: o fewn muriau’r wyrcws mae pen draw i allu creadigol y gorau o feibion neu o ferched dynion, waeth befo disgleirdeb eu hamrywiol dalentau. Ac mae cyd-gynhyrchu – gefn wrth gefn – yn golygu eich bod chi, i raddau, yn aberthu rhyw gymaint o reolaeth tros eich deunydd. Y gwir amdani ydi mai’r ffasiwn gynyddol ers blynyddoedd ydi cyflogi awduron o Saeson a chyfieithu eu sgriptiau i’r Gymraeg. Yr un ydi’r duedd i ddefnyddio actorion sydd yn ‘enwau’ er mwyn hwyluso marchnata’r gwaith. Mae lleihad amlwg felly yn y gwaith i awduron Cymraeg eu hiaith ac mae i’r cwbwl oblygiadau diwylliannol pellgyrhaeddol nad ydyn nhw, hyd yma, wedi eu gwyntyllu ddigon.   

Dwyt ti ddim yn swnio’n obeithiol iawn. 

Dydi arwyddion yr amserau ddim yn obeithiol. Dal i grebachu mae’r ddarpariaeth o hyd. Hyd at flwyddyn yn ôl, roedd Pobol y Cwm yn arfer comisiynu 250 o benodau y flwyddyn. Bellach, maen nhw’n comisiynu 150. Ers sefydlu S4C yn 1982 mae ysgrifennu sebon wedi bod yn fodd i awduron fel Siôn Eirian, Gareth Miles, Dafydd Huws, Manon Rhys, a nifer fawr o rai eraill i ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu yn llawn-amser, a gallu troi ati wedyn i neilltuo cyfnodau i weithio ar nofelau neu ddramâu neu gyfrolau o farddoniaeth, sydd yn ei dro wedi cyfoethogi ein bywyd diwylliannol ni yn ddirfawr. Ond oherwydd lleihad mewn cyfleoedd i weithio ar yr ychydig gyfresi drama sy’n cael eu comisiynu, a lleihad yn nifer y penodau sebon, y perygl yw y bydd hi’n fwyfwy anodd i bobol ennill bywoliaeth trwy awdura yn broffesiynol. Mae rhai sgwenwyr eisoes yn darogan mai o fewn pum mlynedd gwaith rhan-amser fydd ysgrifennu yn y Gymraeg unwaith eto – fel roedd pethau yn y 1970au.   

Yn y pum nofel gynta, be’n union oeddet ti’n trio’i gyflawni? Oedd pob nofel yn waith unigol ynte wyt ti’n ystyried bod pob un yn rhan o ryw brosiect nofelyddol ehangach?

Fel dwi wedi nodi, rhyw fath o arbrawf – neu o chwarae mig – hefo posibiliadau ffurf ac arddull oedd Bingo! Mae hyn bellach yn cael ei ddiffinio fel metaffuglen, a rhyw fath o arbrawf ôl-fodernaidd oedd y nofel a ddaeth ar ei sawdl hi hefyd, sef Y Pla. Mi gafodd honno ei hysgrifennu mewn ymateb i’r traddodiad o nofelau hanesyddol a oedd yn cael eu hysgrifennu yn y Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf, sef math o ramantiaeth hanesyddol o fewn y confensiwn naturiolaidd. Dwi wedi trafod hyn i gyd droeon o’r blaen mewn llefydd eraill ac felly dwi ddim am fynd i orfanylu arni eto fyth. Mi fuo yna fwlch go faith rhwng Y Pla, a gyhoeddwyd yn 1987, a Paradwys, a welodd olau dydd yn 2001, ond mae y ddwy yn rhannu yr un math o fydolwg Marcsaidd. Darllen nofel yr awdur o Ciwba, Alejo Carpentier, sef 'Teyrnas y Byd Hwn' (El reino de este mundo, 1949), oedd un ysgogiad i roi cychwyn ar Paradwys. Erbyn hyn, mae’r themâu ro’n i’n eu trafod droad y ganrif – sef perthynas caethwasiaeth yn Ynysoedd India’r Gorllewin â thwf cyfalafiaeth yng Nghymru – wedi tyfu yn bwnc llosg yn sgil yr holl helyntion a godwyd gan Black Lives Matter. Y rhyfeddod ydi fod hyn oll wedi cymryd cymaint o amser i ddod yn swmp a sylwedd mewn trafodaeth gyhoeddus. Mae hi’n warth o beth fod hyn wedi cymryd gyhyd. Fe ddylai’r drafodaeth fod wedi digwydd ymhell yn ôl. Ond wedyn, dydi o ddim o unrhyw fantais i’r Saeson – yn enwedig disgynyddion eu dosbarth llywodraethol, sydd wedi elwa yn sylweddol o gaethwasiaeth – gael eu hatgoffa o wir natur amryfal anturiaethau imperialaidd eu hynafiaid a’r caswir am eu rheibio a’u treisio.

Beth am Petrograd a Paris?

Diddordeb yn hanes chwyldro Rwsia yn 1917, a Marcsiaeth, ysgogodd Petrograd a Paris. Y bwriad gwreiddiol oedd ysgrifennu am y comiwnyddion, am Lenin, Trotsci, Stalin, Radec, ac ati. Ond yn sgil mwy o ddarllen a chwaneg o ymchwil, yr hyn a aeth â’m bryd i yn y diwedd oedd hanes y Gwynion, sef y bobol a gollodd y Rhyfel Cartref yn erbyn Byddin Goch Trotsci, ac a orfodwyd wedyn i droi yn alltud. Roedd hon yn gymuned sylweddol iawn, ac mae haneswyr hyd y dydd heddiw yn dal i anghytuno ynglŷn â faint yn union o bobol a orfodwyd i gefnu ar Rwsia. Dwy filiwn, yn ôl rhai. Tair miliwn a mwy, yn ôl eraill. Fe setlodd rhai ohonyn nhw yng Nghymru, yn enwedig yn sir Benfro. O dipyn o beth, mi ddatblygodd Petrograd a Paris yn nofelau a aeth ati i archwilio y profiadau ingol o golli cartref, colli gwlad, colli gafael ar fath arbennig o hunaniaeth ac archwilio natur bywyd ffoaduriaid. Y tristwch ydi fod y rhain yn brofiadau byw heddiw i’r miloedd sydd wedi cael eu gorfodi i adael Wcráin yn sgil y rhyfel. 

Nofel sydd yn trafod Cymru am rai blynyddoedd o’r flwyddyn 2090 ymlaen ydi Cymru Fydd. Mae’n deitl go addas, felly. Ond mae o hefyd yn deitl cyfeiriadol iawn. Emotive, hyd yn oed. Pam dewis hwnnw?

Ar un adeg, 'Pythefnos yng Nghymru Fydd' ro’n i’n ei galw hi. Teitl dros dro oedd o oherwydd mod i’n amddifad o un arall. Wedyn, wrth weithio arni o ddifri, mi ’nes i benderfynu ei galw hi’n 'Cymru Fydd'. 

Sydd yn amlwg yn adleisio teitl nofel ddyfodolaidd enwog Islwyn Ffowc Elis? 

Ydi. Yn ogystal â drama Saunders Lewis. A Chymru Fydd hefyd oedd enw’r mudiad a sefydlwyd i frwydro tros fesur o ymreolaeth i Gymru yn niwedd y 19g trwy ymdrechion aelodau o fewn Plaid Ryddfrydol Gladstone. Y tristwch mwyaf oedd i’r mudiad yma fynd i’r gwellt, a hynny i raddau helaeth o achos cynnen a chenfigen rhwng Lloyd George a D A Thomas ynghylch pwy oedd i fod yn geffyl blaen. Ond mi roedd yna hefyd ddryswch o ran union amcanion y mudiad ac anghytundeb rhwng agweddau aelodau seneddol y de a’r gogledd. Pan geisiodd William George ailennyn diddordeb ei frawd mewn ailgychwyn ymgyrch mudiad Cymru Fydd yn 1921 neu 1922 – dwi’m yn cofio pa flwyddyn yn union – pan oedd Lloyd George erbyn hynny’n brif weinidog, y cyngor gafodd o oedd ‘i fynd amdani’. Ond yn amlwg, doedd y dyn ei hun ddim yn mynd i faeddu ei ddwylo mewn rhywbeth mor bitw â chwestiwn ymreolaeth i Gymru. Ar y pryd, roedd Lloyd George wedi bod wrthi yn negydu setliad yn Iwerddon ac roedd honno wedi bod yn dasg ddigon beichus.

Pam wyt ti mor gyndyn i drafod y Gymru gyfoes yn dy nofelau? Mi allet ti ddadlau mai nofel am heddiw a rŵan ydi pob nofel, a phob un o dy nofelau di, yn y pen draw. Ond ar yr olwg gynta, mae gen ti un nofel am Gymru’r Oesoedd Canol, un ar ei ffordd am Gymru’r dyfodol, un am Lundain a’r Caribî, a dwy yn dilyn émigrés Rwsiaidd ar draws Ewrop. Ydi hi’n haws peidio ysgrifennu am Gymru heddiw? Ai dewis peidio wyt ti gan amlaf?

Mae pob un dim dwi wedi ei sgwennu ar gyfer radio a llwyfan a theledu yn ymwneud â Chymru mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Felly, pam ddim mewn nofel? Yr ateb syml ydi na wn i ddim. Falla fy mod i’n mwynhau yr apêl – a’r her – o archwilio profiadau diwylliannau a chyfnodau eraill. Y cyngor mae awduron ifanc yn ei gael fynychaf ydi sgwennu am yr hyn maen nhw yn ei nabod. Dwi wastad wedi anghytuno hefo hynny ac yn meddwl fod mwy i’w ddysgu trwy sgwennu am yr hyn nad ydach chi’n ei nabod. Falla mai hynny oedd y cymhelliad. 

Y cyfeiriad cynta weles i at y nofel oedd mewn cyfweliad yn Ysgrifau Beirniadol yn 2011. 'Pythefnos yng Nghymru Fydd' oedd ei theitl hi bryd hynny. Wyt ti wedi bod yn gweithio arni’n barhaus am un mlynedd ar ddeg, felly?

Adeg y Clo ym mis Mawrth 2020 es i ati i ddechrau ei sgwennu hi. Ond mae hi’n wir d’eud mod i wedi bod yn meddwl amdani ers sbel go lew cyn hynny. Mi roddodd lol-mi-lol Brexit a’r holl rwtsh-ratsh a fu yn sgil hynny fwy o betrol yn y tanc. Ond yn bersonol, roedd y Clo yn gyfnod cynhyrchiol iawn i mi. Doedd neb na dim yn tarfu arna i ac ro’n i’n cael perffaith lonydd i sgwennu yn ddi-dor am wythnosau bwy gilydd. A deud y gwir, dyma’r unig dro i hynny ddigwydd. Mae pob nofel arall wedi cael ei gwasgu rhwng gwaith teledu neu theatr, neu beth bynnag. 

Dydi hynny ddim yn fy synnu i oherwydd er mai yn 2090 y mae’r nofel yn dechrau, digwyddiadau 2016, a refferendwm Brexit yn benodol, sy’n esgor ar sefyllfa a digwyddiadau Cymru Fydd. Eglura’r cefndir hwnnw, a beth fydd yn digwydd yn y flwyddyn 2049. Beth sydd wedi braenaru’r tir ar gyfer y Gymru fydd ohoni yn 2090, ym myd y nofel?

Yn 2049 mae Cymru a Lloegr yn mynd benben â’i gilydd mewn rhyfel. Er mor annhebygol, mae sefyllfa yn datblygu – sy’n cael ei darlunio yn y nofel – lle mae tywallt gwaed yn troi yn realiti. Sgen i ddim isio manylu gormod ar hyn i gyd gan fod glo mân y broses, a’r tensiynau a’r gwrthdaro, i gyd yn y nofel. Wedyn, yn sgil y ffaith fod Cymru yn fuddugoliaethus, mae colli’r rhyfel yn erbyn ei threfedigaeth gyntaf yn gymaint o ergyd wleidyddol a seicolegol i Loegr nes ei bod hi’n chwalu yn bedwar rhanbarth. Y Pedwar Rhanbarth tros y Ffin ydi’r lle fyth oddi ar hynny. Ond mae stori y nofel ei hun yn cychwyn yn 2090 – ddeugain mlynedd ar ôl y rhyfel, pan fo Cymru wedi hen sefydlu ei hun yn wladwriaeth sofran annibynnol gref. 

Felly yn rhyfel annibyniaeth Cymru yn 2049 mae yna ddwy ochr. Mae un ochr yn ennill a’r llall yn colli. Mae’r nofel yn dechrau drwy ddilyn hynt yr ochr gollodd y rhyfel – yr ochr unoliaethol. Disgrifia rywfaint ar yr ochr honno. Pwy ydi’r cymeriadau, beth ydi eu sefyllfa nhw?

Fel ym mhob sefyllfa o’r fath mae’r gymdeithas yn cael ei hollti yn ddwy garfan wrthwynebus. Ac fel yn achos unrhyw ryfel, mae effaith y gwrthdaro yn hidlo trwy’r cenedlaethau. Yn achos y bobol sy’n colli’r rhyfel tros annibyniaeth Cymru, maen nhw i bob pwrpas yn diffinio eu hunain fel unoliaethwyr ac yn dal i arddel y cysyniad o adfer y status quo presennol, sef englandandwales. Ond wrth i amser fynd heibio, maen nhw’n cael eu gorfodi i gwestiynu y safbwynt yma ac mae hynny yn ei dro yn codi chwaneg o broblemau sy’n gofyn am atebion newydd.

Mae’r cymeriadau hyn yn siarad Saesneg gydol y nofel a dydi hi ddim yn glir iawn ar y dechrau beth ydyn nhw: ai Saeson? Ai Cymry di-Gymraeg? Fesul tipyn rydan ni’n dod i ddeall mai’r bobl a gollodd y rhyfel annibyniaeth ac a ymgetoeiddiodd neu a getoeiddiwyd mewn mannau penodol ydyn nhw. Cyn mynd fawr pellach, mae rhywun yn dychmygu nad dyma’r ochr y byddet ti’n ei chefnogi. Wyt ti’n cael dy dynnu i sgwennu am bobl yr wyt ti’n anghytuno efo’u safbwyntiau gwleidyddol nhw? Dw i’n meddwl am Petrograd a Paris.

Mae cymeriadau y safbwynt unoliaethol yn siarad Saesneg. Mae hyn yn wir. Ond mae Cymry Cymraeg wedi cwffio yn erbyn annibyniaeth Cymru hefyd – fel sy’n cael ei nodi yn y nofel – er fod Llywodraeth y wladwriaeth newydd wedi gosod nod iddi’i hun o greu cymuned genedlaethol Gymraeg ei hiaith erbyn 2150. Nid pawb o bell ffordd yn 2090 sy’n ei siarad hi a dydi dinasyddiaeth ddim yn ddibynnol ar iaith. Yr unig beth mae Gwladwriaeth Cymru yn ei ddisgwyl ydi teyrngarwch ei dinasyddion i warchod annibyniaeth Cymru i’r carn. Yr hyn sy’n peri rhwyg rhwng pobol a’i gilydd ydi’r cwestiwn yma – a hyd yn oed y cysyniad – o Gymru sofran annibynnol. Ydach chi’n barod i frwydro hyd at angau tros y ddelfryd yma? Neu ydach chi’n fodlon marw tros gadw y status quo, dros englandandwales?  Ond yr hyn sy’n cymhlethu’r sefyllfa yn ddirfawr i’r ochor unoliaethol ydi’r ffaith fod Lloegr wedi chwalu ac yn sgil hyn, y cwestiwn gwirioneddol boenus sy’n wynebu aelodau o’r gymuned hon trwy gydol y nofel ydi hwn: os ydi Lloegr wedi darfod, i bob pwrpas, os ydi holl symbolau sefydliadol Prydeindod – y Frenhiniaeth, Tŷ’r Arglwyddi, y Senedd, y Gwasanaeth Suful, y Lluoedd Arfog, y rhan fwyaf o’r prifysgolion, y wasg a’r cyfryngau, a beth bynnag arall sy’n atgyfnerthu yr ethos – wedi diflannu, wel, pwy yn union ydach chi wedyn? Sut ydach chi’n diffinio eich hun? Beth sy’n cynnal ac yn maethloni eich ymwybod chi? A beth – yn bwysicach – sy’n teilyngu eich teyrngarwch chi? Dyma sy’n gwneud sefyllfa y gymuned yma yn ddiddorol iawn i mi, ond ar yr un pryd, yn drasig. Mae aelodau’r gymuned yn gorfod mynd ati i ddiffinio eu hunaniaeth heb gefnogaeth sefydliadol wladwriaethol – fel oedd yn bodoli tan 2049. Ond mi gymerodd hi sbel imi sylweddoli mod i wedi bod trwy’r un felin unwaith yn barod.

Sef yn Petrograd a Paris?

Ia. Yr un ydi’r sefyllfa, i bob pwrpas, yn y ddwy nofel hyn â’r hyn sy’n cael ei bortreadu yn Cymru Fydd. Pan orfodwyd miliynau i droi’n alltud yn sgil chwyldro 1917, y comiwnyddion oedd bellach yn llywodraethu Rwsia ac yn rheoli y broses o greu hunaniaeth o fath gwahanol, sef y ‘person sofietaidd’. Roedd yr hunaniaeth yma, wrth reswm, yn gwbwl annerbyniol i’r bourgeoisie a’r dosbarth uchelwrol. Cyn belled ag yr oedd alltudion Gwynion Paris yn y cwestiwn y nhw oedd yn cynrychioli ‘gwir enaid’ Rwsia. Ond unwaith rydach chi’n colli gafael ar rym llywodraethol a sefydliadol i roi mynegiant i’ch hunaniaeth chi, mae y dasg o’i chynnal hi trwy weithgaredd beirdd, llenorion, newyddiadurwyr, cerddorion a chantorion gymaint yn anoddach. Dyma’r wers galed a ddysgodd y Gwynion yn fuan. Dyma hefyd ein tynged anffodus ni fel Cymry ar y daith herciog a phoenus i gynnal rhyw fath o hunaniaeth ers y Ddeddf Uno, sef gorddibyniaeth ar feirdd, newyddiadurwyr, deallusion, cymdeithasau llenyddol a hanesyddol ac ati i gadw cysyniadau o ymwybod cenedlaethol yn fyw. Mae hon yn sefyllfa ddyrys ac yn y pen draw, yn amhosib. Yr hyn sydd ar goll ydi canolbwynt grym gwleidyddol. Heb hwnnw, mae pethau yn anodd iawn ar unrhyw genedl. Heb ganolbwynt grym mewn alltudiaeth, buan aeth y Gwynion i sectydda ac i ymgecru ymysg ei gilydd ynglŷn â pha garfan ohonyn nhw oedd yn ‘burach’ ac yn ‘ffyddlonach’ i’r hyn roeddan nhw yn ei ystyried yn ‘wir ysbryd Rwsia’. Doedd ryfedd i gynifer droi at y botel neu wallgofi, neu wneud amdanyn nhw eu hunain. Yn yr un twll yn union mae fy nghymuned alltud unoliaethol i yn y nofel. Yr un problemau yn union sy’n eu hwynebu nhw ag a oedd yn wynebu y Gwynion Rwsiaidd ym Mharis yn y 1920au a’r 1930au.   

Wrth i mi ddarllen y nofel, er mai nhw ydi’r ochr ‘arall’ a bod yna bethau annymunol iawn yn eu cylch nhw – maen nhw’n cydweithio efo’r Ku Klux Klan, er enghraifft – ro’n i fel pe bawn i’n cydymdeimlo mwy â’r cymeriadau hyn ar yr ochr unoliaethol. Oedd hynny’n fwriadol? Ai uniaethu efo nhw ydw i? Ai ein disgrifio ni wyt ti, mewn difri – pobl heb rym? Pobl gyfan gwbl ddiffrwyth?

Mae’r nofel yn bortread o bobol a oedd yn arfer grym, ond sydd bellach wedi ei golli. Ac maen nhw’n teimlo’r golled honno i’r byw. Wrth ysgrifennu, ro’n i o bryd i’w gilydd yn meddwl am fy nghymuned alltud i fel y rheiny a gafodd eu gorfodi i gefnu ar Giwba yn sgil buddugoliaeth chwyldro Castro, ac a fu fyth oddi ar hynny yn cynllwynio yn ddiddiwedd yn eu chwerwedd a’u dialedd o dan haul crinboeth Miami. Does dim yn ynfydu pobol yn fwy, hyd at orffwylledd cynddeiriog yn amal, na bod criw o chwyldroadwyr ifanc yn cipio eu tai a’u tiroedd a’u ffatrïoedd nhw. Ac fel yn achos alltudion Ciwba, neu Wynion Rwsia, mae pobol ddi-rym yn amal yn cael eu gyrru i chwilio am nawdd a chefnogaeth o ble bynnag y daw o. Fe drodd arweinyddion y Rwsiaid alltud, er enghraifft, at y Natsïaid a hyd yn oed at Franco a Mwsolini. Aeth Ciwbiaid alltud Miami i weithio law yn llaw hefo’r CIA, a’r CIA yn hwyluso y ffrydio arian ac arfau iddyn nhw o lefydd tywyll iawn a thrwy ddwylo pobol na fasech chi ddim yn dymuno mynd hefo nhw am beint. Ond pan ydach chi fel cymuned yn teimlo eich bod chi yn llythrennol yn diflannu oddi ar lwyfan hanes trwy weld eich plant yn cael eu cymhathu yn ddinasyddion mewn cymdeithas arall ac yn troi yn Americanwyr, a oes dewis ganddoch chi ond ceisio adfer y gogoniant a fu trwy bob dull a modd – gan gynnwys trais?

Mae’r nofel hefyd yn dilyn hynt rhai o drigolion Gwladwriaeth Cymru – enillwyr y rhyfel annibyniaeth. Pwy ydyn nhw? Beth ydi sylfeini ac egwyddorion y wladwriaeth hon?

Y bwriad gwreiddiol – sawl drafft yn ôl, bellach – oedd dilyn patrwm Wythnos yng Nghymru Fydd a rhannu fy nofel i yn yr un modd ag y gwnaeth Islwyn Ffowc Elis, sef yn ddwy ran, er mwyn cyflwyno dwy weledigaeth wahanol, a thrwy wneud hynny, ganolbwyntio yn y rhan gyntaf ar bortreadu yr iwtopia yn 2090, cyn ei gyferbynnu wedyn hefo’r dystopia. Ro’n i wedi ailddarllen nofel Islwyn cyn cychwyn, er mwyn atgoffa fy hun sut roedd o wedi mynd o’i chwmpas hi. Yr eironi mwyaf un oedd fy mod i’n bersonol yn cael fy hudo fwy tuag at y dystopia yn hytrach na’r iwtopia, a oedd yn bortread o gymdeithas ddirwestol, anghydffurfiol noson lawenaidd braidd, yn or-ffugwerinol i fy chwaeth i. O leia roedd gweithwyr y goedwig yn y dystopia yn cael mwy o hwyl a sbri wrth slotian a chywestachu yng nghysgod y ffair. A bod yn hollol onest, lle fasach chi’n dymuno bod tasach chi’n cael y dewis? Yn sipian sudd oren neu laeth enwyn wrth wrando ar ryw driawd mewn brethyn cartra a chlocsia yn canu penillion telyn mewn sgubor, neu yn tancio a chnawdio o’i hochor hi ar swae o gwmpas Aberystwyth hefo gang o rafins? Erchylltra hunllefus arall i Islwyn oedd meddwl fod yr Eglwys Gatholig yn mynd i ailwreiddio ei hun yng Nghymru. Mi barodd hyn fwy o oglais i mi na dim. Oedd Catholigiaeth yn gymaint â hynny o fygythiad? Neu ai dim ond riffio oedd Islwyn ar baranoia a rhagfarnau ei gyfnod? ’Rôl d’eud hyn i gyd, mi ges i fy ysbrydoli gan Wythnos yng Nghymru Fydd i geisio mynd ati i lunio dau naratif iwtopia/dystopia. 

Pam na wnes di, felly?

Dyma sut y buo hi am rai misoedd, nes imi deimlo mod i’n hesbio ac yn prysur gyrraedd pen draw y lôn gors. Doedd y patrwm ddim yn gweithio. Mi aeth hynny yn andros o gur pen a fuo bron iawn imi roi’r gorau iddi. Wedyn, ddechrau 2021, mi wnes i ailedrych ar y cwbwl a phenderfynu fod yn rhaid cyfuno y dystopia/iwtopia a rhedeg y ddwy weledigaeth o fewn yr un naratif. Ond hyd yn oed wedyn, roedd problem arall, sef stori pwy oedd i gael y flaenoriaeth? Roedd hwnnw yn benderfyniad pwysig iawn gan ei fod o’n llywio naws a natur y nofel yn y penodau agoriadol. Yn y diwedd, penderfynu wnes i o blaid canolbwyntio ar yr ochor a gollodd y rhyfel, a chyflwyno trigolion Gwladwriaeth Cymru yn ddiweddarach. Erbyn hyn, dwi’n falch imi ddechrau hefo’r di-rym, ac wedyn cyflwyno y cymeriadau a oedd yn fwgan tros eu bywydau nhw. Mater o ryng-dorri oedd hi wrth blethu helyntion y ddwy gymuned yn un stori. Ond o ran sylfeini ac egwyddorion Gwladwriaeth Cymru, dwi’n gyndyn i ddatgelu gormod. Gwell gen i fyddai pe bai pobol yn mynd ati i ddarllen y nofel. Ond p’run ai ydach chi’n meddwl fod y wladwriaeth hon yn bortread o iwtopia neu ddystopia, wel, mater i chi ydi penderfynu hynny.  

Mae Elis Dafydd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor

Mae’r sianel ar ei chythlwng ac mae hyn i’w weld yn amlwg yn y ddar-pariaeth ar y sgrin

Pynciau:

#Rhifyn 20
#Wiliam Owen Roberts
#Elis Dafydd
#Cymru Fydd
#Nofelau
#Iwan Llwyd
#Siôn Eirian