Ar drywydd afon

Afon Dyfi o orsaf Glandyfi (Llun: Ben Brooksbank, 1962 / Wikimedia Commons)
Cystal i mi gyfaddef ar y cychwyn – dydw i ddim yn un sy’n rhy hoff o reolau, yn enwedig os nad ydw i’n eu deall ac yn cytuno â’r rhesymau drostynt. Fy ymateb greddfol yn aml yw gofyn ‘pam?’, ‘pwy sy’n dweud?’. Dau gerydd ysgafn a digon caredig sydd wedi sbarduno’r erthygl fach hon. Derbyniais y naill ar gyfrif Twitter am i mi ysgrifennu ‘yn afon Conwy’; a’r llall yn sgil fy ngwaith fel golygydd cylchgrawn ar enwau lleoedd, am i mi ddefnyddio bannod o flaen enw afon, ‘yr Honddu’. Yr un sail oedd i’r ddwy gŵyn, sef bod enwau’r afonydd yn ddigon ynddynt eu hunain yn y Gymraeg, ac felly bod defnyddio afon neu’r fannod y/yr o’u blaenau yn ddiangen, ac yn dangos ôl dylanwad yr iaith Saesneg. Gallwn dybio, felly, petawn i wedi ysgrifennu ‘yn yr afon Conwy’ neu ‘dros yr afon Honddu’, y byddwn i wedi cyflawni trosedd ddwbl. Ond dyma gyfaddefiad arall – gallwn i’n hawdd fod wedi gwneud hynny, gan fod y ddau’n swnio’n hollol iawn i’m clust i.
Ceisiais ddadlau gyda’r trydarwr y gallai ‘bûm yn nofio yng Nghonwy’ neu ‘ciciais y bêl i Gonwy’ fod braidd yn amwys, a bod cynnwys yr elfen ‘afon’ yn help i wahaniaethu rhwng enw’r dref a’r sianel ddŵr sy’n llifo i lawr y dyffryn o’r Mignaint. Ond nid oedd dim yn tycio: rheol yw rheol a ‘heb safonau, mae’r cwbl yn disgyn yn dipiau’, oedd y rhybudd digyfaddawd. Ar ôl y profiad hwnnw, nid oedd gennyf lawer o awydd taclo cwynwr rhif dau, o leiaf nid cyn fy mod i’n deall pethau’n well fy hun.
Mae tipyn o ddŵr wedi llifo dan bont ers i mi ddechrau meddwl am hyn, a bellach mae rhagor o gwestiynau’n mynnu ateb – er enghraifft, os defnyddir ‘afon’, a chymryd bod hynny’n dderbyniol, a oes angen rhoi priflythyren: afon Conwy neu Afon Conwy? A beth am dreiglo – a yw afon Gonwy yn gywirach? (Cofier mai ar lan hen afon Ddyfrdwy ddofn yr eisteddai’r lân forwynig ers talwm.) A beth am Fenai, a ydym yn cael cyfarch honno fel Y Fenai neu afon Menai, neu a oes angen iddi hithau fod yn Fenai yn syml bob tro, yn enwedig o gofio nad afon arferol mohoni, ond culfor?
Yn Gramadeg y Gymraeg [GyG], Peter Wyn Thomas (1996, 322), esbonnir mai hen arfer sy’n gyfrifol am y treiglad yn afon Gonwy: treiglad i enw priod yn dilyn enw benywaidd unigol (sef afon yn yr achos hwn). Yr un rheswm sydd i’r treiglad yn gŵyl Ddewi, sir Ddinbych, Eglwys Rufain a phobl Dduw: hen reol treiglo sydd wedi hen farw o’r iaith, ond sydd wedi goroesi mewn cyfuniadau sydd wedi ‘ymgaregeiddio’ fel y rhain. Pan ffurfir cyfuniadau newydd, y duedd yw peidio â threiglo – felly sir Powys, pobl Caerdydd, ac wrth gwrs gŵyl Dewi, sydd yr un mor gywir â gŵyl Ddewi. Dyna un mater wedi ei ddatrys felly: afon Conwy heddiw, nid afon Gonwy, er nad yw’r ail yn anghywir, dim ond bod blas hŷn arno.
Roedd John Morris Jones yn gadarn ei farn am y fannod: ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf meddai, ‘The use of the article before names of rivers, as y Fenai, y Ddyfrdwy, is a late importation from English. It does not occur at all in good Welsh’ (cyhoeddodd hyn yn 1931, Welsh Syntax, 9); ac meddai ymhellach yn Cerdd Dafod (1925, 29), ‘Peth diweddar, hyd yn oed yn Saesneg, yw rhoi’r fannod o flaen enwau afonydd, a dynwarediad slafaidd o’r Saesneg yw ei harfer yn Gymraeg; hebddi y cân yr hen feirdd yr enwau’n wastad.’ A dyna, felly, eni cenhedlaeth o awduron a fyddai’n osgoi defnyddio’r fannod fel y pla o flaen enw afon; wedi’r cyfan a oes cyhuddiad gwaeth na bod eich Cymraeg yn dangos ôl dylanwad y Saesneg?
Cytuna Peter Wyn Thomas yntau (GyG, 186) mai dylanwad y Saesneg ‘sy’n gyfrifol am ddefnyddio’r fannod o flaen enwau afonydd weithiau’ – ac awgryma fod y sawl sy’n tueddu i’w defnyddio yn methu ‘ymglywed â threiglo’ enwau’r afonydd, sy’n enwau benywaidd, ac felly ‘yr hyn a geir yn sgîl ymyrraeth o’r Saesneg yw olyniadau fel y Taf, y Teifi’. Eto i gyd, yn ôl Thomas Rowland, wrth drafod enwau afonydd yn ei Grammar of the Welsh Language (1865, 131), cadw’r gytsain gysefin sy’n gywir: ‘although fem[inine], they retain the rad[ical] after the article’.
Mae Peter Wyn Thomas (GyG, 186) a Stephen J Williams (Elementary Welsh Grammar, 1959, 9) yn cydnabod bod dau achos lle mae defnyddio’r fannod yn oddefiad cyffredin: Yr Iorddonen, oherwydd ‘dylanwad yr iaith Roeg’, meddai Peter Wyn Thomas (mae dylanwad y Roeg yn berffaith iawn!), ac Y Fenai sydd, meddai, yr un mor dderbyniol ag ‘afon Menai neu Menai’. Dychwelwn atynt hwy yn y man.
Mae Rhiannon Ifans hithau (Y Golygiadur, 2006, 316), yn bendant, ‘Ni roir bannod o flaen enw afon yn Gymraeg’ (gan sôn am Y Fenai ac Yr Iorddonen fel eithriadau), a chan nodi ymhellach (317), ‘Ni ddylid defnyddio enw afon heb na bannod na’r gair afon o’i flaen’ (sy’n awgrymu bod angen defnyddio’r elfen afon bob tro wrth gyfeirio at afonydd, heblaw’r Fenai a’r Iorddonen).
Y cwestiwn nesaf yw ai dylanwad y Saesneg sydd hefyd yn gyfrifol am ddefnyddio afon o flaen yr enw, fel yr awgrymwyd wrthyf gan gwynwr rhif un: hynny ydi, ai dan ddylanwad ‘river Dee’ y cafwyd afon Dyfrdwy? Neu a yw’r gystrawen yn gwbl dderbyniol yn y Gymraeg, ond bod pobl wedi cymryd yn ei herbyn am ei bod yn ymddangos fel petai’n seiliedig ar batrwm Seisnig?
Dyma droi felly at weithiau gan arbenigwyr ar iaith ac enwau lleoedd i geisio gweld beth yw eu harfer hwy. Arfer John Lloyd-Jones (Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, 1928), yw defnyddio’r fannod, priflythrennu ‘Afon’, a threiglo: ‘yr Afon Loire’ (13), ‘yr Afon Gegin’ (17), ‘yr Afon Gonwy’ (93). Mewn nodyn geiriol yn Canu Llywarch Hen (1935, 224), cyfeiria Ifor Williams at ‘yr Afon Rhiw’, ac yn ei gyfrol Enwau Lleoedd (1945), at ‘Afon Menai’ (11), ‘yr afon Cain’ (31), ‘yr Afon Lee’ (40), ‘Afon Wysg’ (45) yn ogystal ag at ‘y Ddyfrdwy’ (35). Tuedd R J Thomas (Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, 1938), golygydd cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru, yw defnyddio enw’r afon yn syml, ‘rhagafon i Deifi’ (63), ‘nant yn rhedeg i Daf’ (63), ond ceir ganddo hefyd ‘yr afon Mawddach’ (17) ac ‘yr afon Brân’ (31), eto gan symud yn rhwydd rhwng y ddwy arfer. Mae T J Morgan, (Treigladau a’u Cystrawen, 1952, 445), yn hollol hapus i ddefnyddio ‘Afon Gonwy’ neu ‘Afon Conwy’, gan nodi bod y gyntaf yn gyfuniad hŷn. Mae Gwilym T Jones, Afonydd Môn (1989), yn tueddu i hepgor y fannod ac yn priflythrennu Afon – ‘Afon Ffraw’ (63), ‘Afon Cefni’ (69). Sonia Bedwyr Lewis Jones (Enwau, 1991) am ‘Afon Afan’ (11) ac am ‘Aber neu geg yr afon Gwaun’ (11). Yn ei gyfrol Ar Lan Hen Afon (2005), mae J Geraint Jenkins yn aml yn defnyddio enw’r afon yn syml – ‘mae Teifi’n llifo’ (96), ‘cysylltiedig â Hafren’ (14) – ond ceir ganddo hefyd ‘yr afon Teifi’ (120), ‘i afon Dyfrdwy’ (160) ac ‘ar lannau’r afon Clywedog’ (151). Mae yntau’n symud yn rhwydd a naturiol rhwng y naill arfer a’r llall. O edrych drwy rifynnau diweddar Llafar Gwlad, Bwletin Llên Natur, Bwletin Enwau Lleoedd a chyhoeddiadau tebyg, gwelir yr holl amrywiaeth o arferion yn cael eu defnyddio’n ddigon naturiol, sydd o leiaf yn esbonio pam mae ‘yn yr afon Conwy’ a ‘thros yr Honddu’ yn swnio’n berffaith iawn i mi. Os cynhwysir yr elfen afon, yna mae’r awduron hyn yn tueddu i roi’r fannod o’i blaen; prinnach, ond nid prin, yw’r achosion o’r fannod yn uniongyrchol o flaen enw’r afon, oni bai am Y Fenai.
Mantais mynd yn ôl at hen destunau yw ein bod ni’n gallu gweld sut yr oedd y Gymraeg yn gweithio pan oedd llai o ddylanwad yr iaith Saesneg arni – dyna a wnaeth John Morris Jones, wrth gwrs, pan aeth ati i glirio’r llanast o ran iaith ac orgraff a geid yng nghyhoeddiadau diwedd y 19g. Gwnaeth gymwynas fawr iawn â’r iaith, ond weithiau fe aeth yn rhy bell, heb gydnabod bod yr iaith hefyd yn newid ac yn datblygu’n naturiol – mae’r ffrae rhyngddo ef a chyngor Bangor am y treiglad yn Ffordd Ddeiniol yn enwog, fel y mae’r ddadl fwy cyfoes am Bro Ddyfi / Bro Dyfi. Ond beth am arfer yr hen feirdd – y beirdd ceidwadol ar y cyfan a ganai cyn tua diwedd yr 16g? (Am y cyfeiriadau a roddir isod, gw. ‘Mynegai i Enwau Lleoedd ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’.)
Afon Cymaron a’i cymerai meddai’r Mab Cryg (14g) mewn cerdd ddychan i Sais o’r enw Griffri a fu farw wrth foddi; a disgrifiodd y bardd tu hwnt o geidwadol o Fôn, Gruffudd ap Maredudd (ail hanner y 14g), Grog enwog Caer fel ryfawr goelfain geir Afon Ddyfrdwy. Yn ddiweddarach cyfeiriodd Ieuan Llwyd Brydydd, bardd o Ddyffryn Conwy, at Afon / Glwyd fawr; ac wrth foli dau blwyf Mawddwy, meddai Mathau Brwmffild, Gwlad hardd ei golud yw hi, / Drwy hon dôi afon Dyfi (heb dreiglo’r enw afon yma, gan fod D- yn aml yn gwrthsefyll treiglad yn dilyn -n mewn hen destunau). Ceir y cyfuniad hyd afon Drent gan Lewis Glyn Cothi a Hywel Dafi (y ddau o’r 15g), hyd Afon Deifi gan Lewys Morgannwg (16g) a soniodd Dafydd Epynt (15g) am fynd Ar draws Afon Fenai. Weithiau hoffai’r beirdd droi cyfuniadau fel y rhain o gwmpas – Ein rhif yn Rhiweirth afon, meddai Cynddelw Brydydd Mawr (12g) gan gyfeirio at yr afon a adwaenwn bellach fel afon Eirth sy’n ymuno ag afon Tanad ger Llangynog; ac wrth foli Brycheiniog, meddai Llawdden (15g), Rhoed nef geir Hodni Afon. Ceir hefyd ddigonedd o enghreifftiau yn y farddoniaeth o ddefnyddio enw afon heb y gair afon yn ei ragflaenu: mae’n amlwg fod y ddau ddull o enwi yn gwbl dderbyniol. Diddorol nodi mai un enghraifft yn unig y deuthum ar ei thraws o’r cyfnod cynnar hwn o roi bannod o flaen enw afon, ac efallai nad yw honno’n enghraifft gwbl ddiogel. Wrth ddisgrifio gwyrth a gyflawnodd y sant Cynog wrth iddo hollti afon Ysgir yn ddwy gydag Ysgir Fechan yn llifo i’r gorllewin o’i eglwys ym Merthyr Cynog, ac Ysgir Fawr yn llifo i’r dwyrain ohoni, meddai Dafydd Epynt (15g): Dŵr, o’i henwaed y hanoedd, / Dan ei draed yn dir a oedd: / Yr Ysgêr a wasgarodd. Mewn cyfnod diweddarach byddai Wil Ifan (1883–1968) yn ei gerdd ‘Gadael Cartref’ yn canu Gyda glan yr Wnion fechan (T H Parry-Williams, Elfennau Barddoniaeth, 1935, 35).
Mae’n amlwg, felly, fod blaenori enw afon â’r gair afon/Afon yn hynod gyffredin drwy holl gwrs llenyddiaeth y Gymraeg, a dyma yw arfer cyson William Morgan hefyd ym Meibl 1588 (er enghraifft, Barnwyr 4:7 wrth afon Cison). Felly nid dylanwad y Saesneg a welir yma: yn hytrach dyma’r patrwm arferol yn y Gymraeg a welir hefyd yn achos enwau llynoedd, nentydd, ac enwau sy’n cynnwys nodweddion daearyddol eraill: Llyn Tegid, Llyn Syfaddon, Nant Peris ac ati.
Ond beth am roi’r fannod i ragflaenu cyfuniad o’r fath – pa bryd y mae’r patrwm yr afon Conwy yn dod yn gyffredin, patrwm na chafwyd yr un enghraifft ohoni yng ngwaith yr hen feirdd? A phatrwm na welir ychwaith gydag elfen megis llyn: Llyn Tegid bob tro, nid Y Llyn Tegid. Ai dylanwad patrwm y Saesneg, ‘the river Conwy’, sydd yma?
Ymddengys mai ym Meibl 1588 y gwelir y patrwm hwn gyntaf, a hynny yn ôl pob tebyg, dan ddylanwad y frawddeg Hebraeg wreiddiol: er enghraifft yn Croniclau 1 5:9 cyfeirir at yr afon Euphrates, lle mae ‘yr afon’ yn gyfieithiad manwl o’r Hebraeg hannāhār (sef y fannod ‑ha, gyda nahar, y gair mwyaf cyffredin am afon); ac yn yr un modd yn Deut 3:16 mae yr afon Jabboc yn dilyn yn agos union eiriad yr Hebraeg; ceir yr un patrwm yn Joshua 12:2 ar fin yr afon Arnon … hyd yr afon Jabboc, ond y tro hwn ni cheir patrwm tebyg yn yr Hebraeg. Yn yr un modd, ceir Yr Iorddonen yn gyson gan William Morgan ym Meibl 1588, gan ddilyn yr Hebraeg (hai-iardēn) a’r Roeg (ὁ Ἰορδάνης = ho Iordanes). Ond yn ddiddorol ddigon, os edrychir ar gyfieithiad cynharach William Salesbury o’r Testament Newydd (1567), ni ddefnyddiodd ef y fannod yno: Marc 1:5 ac ei bedyddiwyt oll ganto yn afon Iorddonen, Ioan 1:28 Y pethae hyn a wnaethpwyt ym-Bethabara y tuhwnt i Iorddanen. (Diolch i’r Athro Ceri Davies am ei gymorth gyda’r cyfeiriadau hyn.)
Mae’r dystiolaeth felly’n awgrymu y gallwn briodoli’r defnydd o’r fannod mewn cyfuniadau yn dilyn y patrwm ‘yr + afon + enw’ neu ‘y(r) + enw’, yn y lle cyntaf i ddylanwad yr Hebraeg (ac o bosibl y Roeg) ar gyfieithiad William Morgan o’r Beibl yn 1588, ac wrth gwrs, mae unrhyw batrwm a geir yn y Beibl yn debygol o gael dylanwad yn fuan ar awduron yn gyffredinol, gan fod iaith y Beibl wedi cael ei hystyried ar hyd y canrifoedd yn safon i’w dilyn. Ni ellir gwadu bod dylanwad y gystrawen Seisnig ‘the river Dee’ wedi bod yn bwysig hefyd yn atgyfnerthu’r patrwm hwn, yn enwedig yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf.
Mae’n eglur, felly, mai’r patrwm ym Meibl 1588 sy’n esbonio pam mae Yr Iorddonen yn cael ei dderbyn fel goddefiad i’r ‘rheol’ gan y gramadegwyr, ond nid mor hawdd yw esbonio’r goddefiad yn achos Y Fenai, gan na lwyddais i ddod o hyd i’r un enghraifft o’r patrwm hwnnw cyn y 19g, pan oedd wedi datblygu’n batrwm digon cyffredin yn achos pob afon. Er enghraifft, os chwiliwch am ‘y Ddyfrdwy’ ar wefan Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol, cewch 1,605 o ganlyniadau, y rhan fwyaf ohonynt o’r 19g. Afon Fenai neu Menai yn syml a ddefnyddiai’r hen feirdd.
Gyda llaw, golygyddion cyfoes ac nid y beirdd na’r ysgrifwyr sy’n gyfrifol am yr amrywiaeth Afon/afon a welir yn y dyfyniadau uchod o gerddi’r beirdd – nid oedd priflythrennu enwau yn arfer cyson yn llawysgrifau’r Oesoedd Canol. Mater o chwaeth bersonol fel arfer, neu o orfod gwneud penderfyniad er mwyn cysondeb golygyddol neu er mwyn dilyn arddull tŷ, yw sail y dewis rhwng ysgrifennu ‘afon Conwy’ neu ‘Afon Conwy’: nid yw’r naill arfer yn ‘gywirach’ na’r llall.
Wrth gwrs, mae rhai achosion lle mae Afon yn rhan anhepgor o’r enw, gan mai ansoddair ac nid enw yw’r ail elfen, ac yn yr achosion hynny mae’n rhaid ei phriflythrennu: er enghraifft Afon Goch (Amlwch), Afon Wen (Eifionydd) neu Afon Fawr (Cynwyl Elfed). Nid yw’r ail elfen yn gallu sefyll ar ei phen ei hun: byddai pobl yn edrych braidd yn rhyfedd arnoch pe baech yn honni eich bod wedi ‘nofio yng Nghoch’ neu wlychu’ch traed ‘yng Ngwen’!
Mae’r arolwg sydyn hwn wedi dangos, gobeithio, mai simsan braidd yw unrhyw ‘reol’ o safbwynt dull cyfeirio at afonydd, a bod hen hanes i ystod eang o batrymau, a bod patrwm fel afon Dyfrdwy yn gyffredin drwy holl gwrs llenyddiaeth y Gymraeg, gan gynnwys cerddi’r beirdd mwyaf ceidwadol eu hiaith. Yn bersonol, ni wnaf boeni bellach ynglŷn ag ysgrifennu ‘yn yr afon Conwy’ neu ‘dros yr Honddu’ – ac os bydd rhywun eto’n awgrymu bod y fath gystrawen yn anghymreig, gallaf feio William Morgan, Beibl 1588 a dylanwad yr iaith Hebraeg.
Mae Ann Parry Owen yn Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, ac yn ymddiddori’n arbennig yn yr iaith Gymraeg a barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Yn ferch i blisman, yr oedd wedi byw ym Mangor, Caergybi, Bethesda a Llangollen erbyn iddi fod yn 10 oed, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Llanilar yng Ngheredigion.