Dadansoddi

Baner cywilydd: Trump, y CBF a fi

George Schedler

Racist symbols and reparations: philosophical reflections on vestiges of the american civil war

Rowman & Littlefield, 165tt, 1998

Torin Alter

'Symbolic Meaning and the Confederate Battle Flag'

Philosophy in the Contemporary World 7, rhifau 2/3, 2000

Jerry Hunter

Amser darllen: 12 munud

05·12·2020

Dau hogyn yn sefyll o flaen perfformwyr sy’n cofio Rhyfel Cartref y Conffederasiwn, 1961 (Hawlfraint y llun: Bruce Davidson/Magnum Photos)
 

Byddai dadansoddi’r holl ffyrdd y mae Donald Trump wedi tanseilio democratiaeth, dwysáu rhwygiadau cymdeithasol a gwenwyno disgwrs gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau yn swydd lawn-amser am oes. Gellid meddwl felly mai tasg anodd fyddai dewis un camwedd sy’n crisialu ffieidd-dra arlywyddiaeth Trump. Ond eto mae’n hawdd i mi, yn bersonol. Ac mae hyn yn rhywbeth personol, fel y ceisiaf egluro maes o law.

Y camwedd sy’n dod i’m meddwl i yw’r hyn a wnaeth arlywydd yr Unol Daleithiau yn dilyn y rali asgell dde yn Charlottesville, Virginia, 11–12 Awst 2017. Protestio yn erbyn symud cerflun Robert E Lee, cadfridog enwocaf gwrthryfelwyr y de yn ystod Rhyfel Cartref 1861–5, oedd man cychwyn rali ‘Unite the right’. Daeth gwrth-brotestwyr yno hefyd, a lladdwyd un ohonynt, Heather Heyer, gan un o’r neo-Natsïaid a ddaethai i amddiffyn cofeb Robert E Lee. Dywedodd Trump fod ‘pobl dda’ ar y ddwy ochr yn Charlottesville. Ym marn Arlywydd yr Unol Daleithiau, felly, roedd ‘pobl dda’ wedi dod ynghyd i orymdeithio gyda chymysgedd o faneri, gan gynnwys y CBF – y ‘Confederate Battle Flag’, baner gwrthryfelwyr y de – a rhai â swastica. Roedd y Ku Klux Klan a neo-Natsïaid yn gorymdeithio, ond roedd ‘pobl dda’ yn eu plith. Cefnogodd Trump gymhelliad honedig trefnwyr y rali hefyd, gan leisio barn y mae wedi’i mynegi nifer o weithiau yn ystod y tair blynedd a’r ddau fis ers hynny. Dywed y dyn a etholwyd yn arlywydd yr Unol Daleithiau na ddylid chwalu cofebau Taleithiau Cydffederal y De na thynnu’r CBF i lawr, gan awgrymu bod pethau felly’n symbolau derbyniol sy’n arwyddo balchder dealladwy’r deheuwyr yn eu hanes. ‘Sad to see history and culture of our great country being ripped apart,’ oedd ei ddisgrifiad o ymdrechion i ddileu arwyddion sy’n gysylltiedig â hiliaeth yn yr Unol Daleithiau.

Pan aeth ati yn ddiweddar i amddiffyn y CBF eto (haf 2020), defnyddiodd Trump ddadl a glywir yn aml, sef bod y bobl sy’n falch o’u ‘Confederate flags’ yn eu hoffi oherwydd eu bod yn cynrychioli’r De (‘It represents the South’), nid hiliaeth (‘they’re not talking about racism’). Mentraf fod rhai o ddarllenwyr mwyaf eangfrydig a gwrth-hiliol O’r Pedwar Gwynt yn teimlo’n anghyfforddus wrth sylweddoli eu bod nhw’n cytuno – o bosib am y tro cyntaf yn eu bywydau – â rhywbeth a ddywedodd Donald Trump. 

Mentraf ddweud hynny, gan fy mod i wedi cael yr union ddadl honno â chyfeillion Cymraeg o’r blaen. Ar ôl ymgartrefu yn Arfon ryw 20 mlynedd yn ôl, fe’m gwylltiwyd gan gar yn yr ardal a oedd â CBF – clamp o faner, cofiwch – yn ei ffenest gefn. (Fel y dywedais ar y dechrau, mae hyn yn bersonol.) Dôi llifeiriant o regfeydd o’m ceg bob tro y gwelwn y cerbyd troseddol ar y stryd. Aeth yn obsesiwn gennyf. Fe’i trafodwn â chyfeillion dros baned neu beint. Dywedai rhai fy mod i’n unllygeidiog yn fy nicter; gall symbol arwyddo gwahanol bethau i wahanol bobl, meddent. Roedd yn bosib bod perchennog y cerbyd Cymreig wedi bod ar ei wyliau yn un o daleithiau’r de ac wedi prynu’r faner ar ôl clywed ei bod yn cynrychioli hunaniaeth yr ardal honno. Mae’n bosib ei fod yn hoffi’r band Lynyrd Skynyrd (a oedd yn addurno’u llwyfan â’r CBF yn ystod eu cyngherddau). Neu, meddai cyfaill arall, mae’n bosib ei fod yn ffan mawr o Elvis Presley, fel cynifer o Gymry eraill (os nad ydych yn deall y cyfeiriad, ewch ar y we a theipio’r geiriau Elvis Confederate Flag yn eich porwr o dan images a byddwch yn deall mewn cwpl o eiliadau). Os ydych yn rhannu’r un safbwynt â’r cyfeillion hynny a fu’n dal pen rheswm â mi, mae’n debyg eich bod chi’n meddwl fy mod i’n rhy gul fy marn. ‘Gall symbolau olygu gwahanol bethau i wahanol bobl,’ meddech, gan awgrymu, ‘nad yw pawb sy’n chwifio’r CBF yn hiliol.’

Rwyf am archwilio’r cwestiwn yng nghyd-destun nifer o hanesion personol, ond cyn gwneud hynny, byddai’n werth troi at semioteg. Yn ôl diffiniad Charles S Pierce, dyma’r ddisgyblaeth sy’n craffu ar ‘how communication occurs when one thing (a word, gesture, spoor, visual image) represents another (an idea, emotion, animal, nation) to an observing third party’ [‘Sundry Logical Conceptions’ yn Semiotics: Critical Concepts in Language Studies, Stjernfelt a Bundgaard (goln.), 2010]. Yn achos y CBF, y nod yw deall sut mae defnydd unigolyn o’r arwyddwr hwnnw (baner) yn creu ystyr pan fydd rhywun arall yn sylwi ar yr arwyddwr a arddelir. Dof yn ôl at semioteg ar ôl crynhoi rhai digwyddiadau hanesyddol – nid penawdau pwysig yn hanes yr Unol Daleithiau, ond penodau yn hanes fy nheulu i.
 



                  Penddelwau Arlywyddion yn Richmond, Virginia, 2019 (Hawlfraint y llun: Hannah Price/Magnum Photos)


Pan oedd fy mam yn 18 oed, croesodd afon Ohio er mwyn gadael ei thalaith enedigol, Kentucky, ac astudio mewn coleg yn Indiana. Roedd wedi ei magu i feddwl amdani ei hun fel deuheuwraig a gwyddai y byddai’n byw ac yn bod yng nghanol gogleddwyr, felly aeth â baner fach CBF efo hi a’i rhoi yn ei hystafell. Mae’r stori hon yn destun cywilydd iddi heddiw, ac mae hi’n egluro’r manylyn bach chwithig hwn trwy ddweud mai merch sobr o naïf heb lawer o ddealltwriaeth hanesyddol ydoedd pan oedd yn ifanc. 

Symudwn ymlaen. Tua 15 mlynedd yn ddiweddarach, a minnau’n blentyn wyth mlwydd oed, roeddem ni’n byw ar gyrion Cincinnati, yn nhalaith Ohio. Roedd dros 99% o boblogaeth ein cymuned yn wyn, ond gellid cerdded ychydig dros filltir a chyrraedd cymuned wahanol iawn, un â llawer o deuluoedd Affro-Americanaidd. Hwn oedd y gwahaniad Americanaidd nodweddiadol ar waith, a’r segregation hwnnw’n llinell a ffurfiai ddaearyddiaeth ddynol ein bywydau beunyddiol.

Roedd ein teulu’n aelodau ffyddlon mewn eglwys Brotestannaidd gymunedol (ond, a bod yn gwbl onest, fy mam oedd yr unig un ffyddlon: mynnai fod ein tad yn mynd i’r gwasanaethau efo hi a’n bod ni’r plant yn mynd i’r ysgol Sul). Roedd y mudiad hawliau sifil a holl gythrwfl y 1960au wedi agor ei llygaid hi i realiti cymdeithasol a gwleidyddol y wlad erbyn hynny ac roedd wedi’i chyffroi’n lân pan glywodd fod ein heglwys yn ffurfio ‘pwyllgor materion yn ymwneud â hil’. Ymunodd â’r pwyllgor yn syth, a chyflwynodd gynnig syml yn ei chyfarfod cyntaf: gan fod ‘eglwys ddu’ nad oedd ond milltir neu ddwy i lawr y lôn, beth am gynnal gwasanaethau undebol weithiau a gofyn i bobl o’r eglwys honno ddod i’n heglwys ni a vice versa. Ond nid dyna’r math o ‘faterion yn ymwneud â hil’ yr oedd y pwyllgor eglwysig yn ymwneud â nhw; dywedwyd wrthi ei bod hi’n wraig ifanc naïf a’i bod hi’n awgrymu pethau gwirion. Mynnodd fy mam ein bod ni’n gadael yr eglwys ar unwaith, a dyna a ddigwyddodd. Ymneilltuasom. Dechreuodd hi freuddwydio am adael y gymuned honno’n gyfan gwbl a symud i ardal fwy cymysg yn y ddinas, ond byddai’n cymryd rhai blynyddoedd eto cyn y gellid gwneud hynny.

Tua’r un adeg ag yr oedd fy mam yn ceisio herio’r gwahaniad hiliol Americanaidd mawr yn ei ffordd fach ei hun, aethom ar wyliau. Ymweld ag amgueddfeydd a chofebau Washington, DC, oedd y nod, ond gan ein bod ni’n gyrru trwy Bensylfania, penderfynwyd treulio hanner diwrnod yn Gettysburg ar y ffordd er mwyn ymweld â maes brwydr enwocaf y Rhyfel Cartref. Prynodd fy nhad swfenîrs i ni yn y siop; ni chofiaf beth gafodd fy chwaer fach, ond hetiau milwrol gawsom ni’r hogiau, un ogleddol i’m brawd mawr ac un ddeheuol â CBF fach arni i minnau. Protestiais ar y dechrau, ond dywedodd fy nhad y dylwn fod yn falch. Gan ochr y De yr oedd y cadfridogion gorau, fel Robert E Lee, meddai. (Mewn gwirionedd, collodd Lee a’r Deheuwyr frwydr Gettysburg.)

Er mwyn cymhlethu pethau’n fwy, dylwn nodi mai gogleddwr o Indiana yw fy nhad. Maged ef mewn pentref bach gwledig, ynys fach yng nghanol môr o ffermydd. Dim ond un teulu Affro-Americanaidd a oedd yn byw yn y gymuned honno, a phrin yr oedd ei fam, fy nain, yn adnabod Affro-Americaniaid o gwbl, ond eto roedd hi’n hiliol iawn. Ni wreiddiodd yr hiliaeth honno yn fy nhad. Ni chredaf ei fod wedi gwrthryfela’n agored yn erbyn ei fam (er bod ganddo achos dros wneud hynny ar lawer cyfrif), ac yn sicr nid oedd yn ceisio arddel safbwynt gwleidyddol radicalaidd o unrhyw fath, ond am ba reswm bynnag, roedd yn ymagweddu at bobl Affro-Americanaidd mewn modd gwahanol iawn i’w fam hiliol. 

Ar ôl priodi ond cyn cael plant, consgriptiwyd fy nhad i’r fyddin, a hynny yn y flwyddyn 1960. Nid oedd ond 12 mlynedd ers i wahaniad hiliol ym myddin America gael ei ddileu, ac felly buasai’r milwyr proffesiynol hŷn a’i hyfforddai yn gwasanaethu yn y segregated army, gydag Affro-Americaniaid mewn unedau ar wahân i’r milwyr gwyn. Roedd llawer o strwythurau a nodweddion yr hen drefn hiliol yn dal yn amlwg. Yn ogystal, yn nhalaith Georgia yr oedd y gwersyll hyfforddi, ym mherfeddion y deep south. Nid oes gennyf ofod yma i ddisgrifio’r hiliaeth a welodd fy nhad yn y fyddin, ond daeth yn gyfeillgar â milwr Affro-Americanaidd o Chicago. Roedd fy mam yn ystod y cyfnod hwn wedi mynd adref i fyw gyda’i rhieni yn Kentucky, yr unig adeg iddi fyw ‘yn y de’ ers iddi adael yn 18 oed. Cafodd y milwyr newydd wythnos o ryddid a chan fod car gan fy nhad, aeth â’i gyfaill yr holl ffordd i Cincinnati, er mwyn iddo allu cael bws neu drên adref i Chicago o’r lle hwnnw. Ond galwodd heibio i gartref ei rieni yng nghyfraith yn Kentucky ar y ffordd. Croesawyd ei gyfaill gan fy nain a’m taid a chafodd y dyn o Chicago bryd o fwyd gyda’r teulu, rhieni fy mam yn gweini arno ac yn ei drin fel unrhyw westai arall. Ni fyddai fy nain o Indiana wedi gwneud hynny, mae’n siŵr. Tybed hefyd faint o bobl eu hoed hwy yn Kentucky a fyddai wedi gwneud hynny? 

Roedd mam fy nain yn byw yn yr un tŷ â nhw hefyd (rhannai fy mam lofft â hi gydol ei phlentyndod a hefyd yn ystod y cyfnod hwnnw pan oedd fy nhad yn y fyddin yn Georgia). Pan ddechreuodd yr hen wreigan ddod i lawr y grisiau ar gyfer y pryd bwyd teuluol, gwelodd fod ‘dyn du’ yn eistedd wrth y bwrdd a throdd ar ei sawdl a mynd yn ôl i fyny. Aeth fy nain â’i swper ati yn ei llofft yn nes ymlaen a cheryddodd fy hen nain hi; ‘dylen nhw fwyta ar wahân yn y gegin,’ meddai. Maged fy nhaid mewn ardal wledig, dlawd ym mryniau dwyreiniol canolbarth Kentucky. Maged fy nain mewn tref lewyrchus yn eithafion gogleddol y dalaith; gallai weld Ohio a’r ‘Gogledd’ ar ochr arall yr afon bob dydd. Roedd ei thaid hi – tad ei mam hiliol – wedi ymfudo i’r ardal honno o Ganada, y wlad y ceisiai caethweision Americanaidd ddianc iddi er mwyn bod yn rhydd. Bid a fo am ei thras ogleddol, mae’n debyg bod ymddygiad yr hen nain hiliol honno’n fwy nodweddiadol o drigolion gwyn Kentucky na’r hyn a wn am rieni fy nhaid. 

Cyn manylu, byddai’n fuddiol sôn ychydig am hanes cymhleth Kentucky. A hithau’n dalaith gaeth nad oedd wedi ymneilltuo’n ffurfiol o Undeb yr Unol Daleithiau ar ddechrau’r Rhyfel Cartref, ymladdai dynion o Kentucky ar y ddwy ochr. Y canfyddiad cyffredin yw bod y ‘border state’ wedi’i rhwygo yn ei hanner yn union, a chlywir pobl yn dweud yn aml fod 50% o ddynion Kentucky wedi ymladd ym myddin y gogledd (neu’r Undeb) a 50% ohonynt ym myddin gwrthryfelwyr y de, byddin a oedd – yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – yn ymladd er mwyn sicrhau bod caethwasiaeth yn parhau’n rhan o ddiwylliant ac economi taleithiau’r de. Gwyddwn pan oeddwn i’n blentyn fod un o deidiau fy nhaid wedi ymladd ar ochr y gogledd ac un ar ochr y de, ac roedd hynny’n gwneud synnwyr gan fy mod i’n gwybod mai ‘50–50’ oedd hi yn Kentucky yn ystod y rhyfel. Ond mae’r ffeithiau hanesyddol yn wahanol. Gwasanaethodd tua 100,000 o ddynion gwyn y dalaith ym myddin yr Undeb, a phan ddechreuodd y fyddin honno recriwtio Affro-Americaniaid yn Kentucky ym mis Ebrill 1864, ymunodd dros 23,000 ohonynt hwythau. Mewn cymhariaeth, dim ond rhwng 25,000 a 40,000 o ddynion gwyn y dalaith a ymunodd â gwrthryfelwyr y de. Eto, mae fel pe bai’r modd y mae trigolion gwyn Kentucky yn darlunio’u hunaniaeth yn gorbwysleisio’r cysylltiad hanesyddol â’r gwrthryfelwyr deheuol. Cofied y faner fach honno a aeth i’r coleg ym mag fy mam.

Ganwyd fy nhaid yn 1900. Ffermwyr tybaco tlawd oedd ei deulu, yn rhentu caeau gan nad oeddynt yn gallu prynu fferm. Yn ystod ei blentyndod gweithiai fy nhaid ochr yn ochr â chyn-gaethweision yn y caeau tybaco hynny. Dywedodd wrthyf nifer o weithiau pan fyddwn i’n holi am hiliaeth yn Kentucky fod ei dad wedi ei ddysgu i drin y cyn-gaethweision a’u teuluoedd fel pawb arall a’i fod wedi sicrhau nad oedd neb yn y teulu’n defnyddio’r math o iaith hiliol a ddefnyddid yn aml gan bobl wynion eraill. Roeddwn wedi ymfalchïo yn y ffrwd honno o wrth-hiliaeth yn y teulu, ond eto roedd fel pe bai’r teulu hwnnw yn Kentucky yn dyrchafu hunaniaeth ddeheuol yr un pryd. A rhaid cyfaddef: roedd y straeon gorau a oedd gan fy nhaid am y Rhyfel Cartref yn ymwneud â’r taid hwnnw a ymladdasai ar ochr y de. Deheuwyr oeddynt o ran hunaniaeth, er fy mod i’n gallu gweld wrth edrych yn ôl fod dylanwad diwylliant Appalachaidd i’w weld ar eu bywydau hefyd. Roedd yn beth naturiol iddynt fod eu merch wedi mynd â’r faner fach honno i’r coleg, mae’n rhaid.

*

Symudwn ymlaen at y flwyddyn 1991 a hanesyn pellach am faner debyg a aeth i goleg arall. A minnau’n fyfyriwr PhD yno ar y pryd, tystiais i’r modd y ffrwydrodd cynnwrf ymysg myfyrwyr Harvard ar ôl i fyfyrwraig o Virginia osod baner CBF yn ffenest ei hystafell yn un o’r ‘tai’, fel y gelwir neuaddau preswyl yn y brifysgol honno. Protestiodd llawer o fyfyrwyr mewn nifer o ffyrdd, ond safiad swyddogol y sefydliad oedd bod yn rhaid parchu rhyddid mynegiant yr unigolyn. Maentumiai’r fyfyrwraig o Virginia – yn gyson, dros nifer o fisoedd – mai arwydd o’i hunaniaeth ddeheuol yn unig oedd y faner. Dangosodd myfyriwr o un o daleithiau’r gogledd gefnogaeth i’r ddeheuwraig trwy osod baner CBF yn ei ffenest yntau â’r geiriau ‘Racism No’ arni hi.

Dywedodd un fyfyrwraig Affro-Americanaidd o Kentucky ei bod hi’n gweld y faner fel arwydd o hiliaeth. ‘Baner hil-laddiad ydoedd,’ meddai. Ni thynnwyd y baneri i lawr, ac felly ceisiodd hi wneud ei phwynt mewn modd gwahanol a rhoddodd swastica yn ei ffenest hithau ynghyd â’r cwestiwn ‘Racism No?’ Daeth ymateb ffyrnig, a thynnodd hi’r swastica i lawr. Cynhyrchodd un o gymdeithasau myfyrwyr y brifysgol bosteri yn arddangos y CBF a’r geiriau hyn: ‘This is a signifier of white supremacy [:] the official flag of a defeated nation born of treason and financed by inhumanity.’ Dyna’n union y byddwn i’n ei ddweud mewn iaith arall wrth gyfeillion yng Nghymru flynyddoedd wedyn ar ôl i’r cerbyd hwnnw yn Arfon fy ngwylltio i. 

Daw’r gair signifier â ni’n ôl at semioteg. Pa fath o arwyddwr yw’r CBF? Rhaid cofio’r berthynas drionglog honno rhwng yr un sy’n arddel arwyddwr, yr arwyddwr, a’r un sy’n ymateb i’r arwyddwr a arddelir. Pa fath o ystyr a grëir yn y symud rhwng y tri? Nid yw bwriad y rhai a arddelai’r arwyddwr penodol hwn yn yr enghreifftiau a drafodwyd uchod yn debyg o bell ffordd. Arwydd o’i hunaniaeth ddeheuol oedd baner fach fy mam pan aeth i goleg yn y gogledd yn 18 oed. Fe ymddengys mai dyna ydoedd i’r fyfyrwraig o Virginia yn Harvard hefyd; yn sicr, gwadodd fod ei CBF hi yr un fath â’r swastica. Eto, rwyf yn gwbl sicr y byddai fy mam wedi tynnu’i baner fach hi i lawr pe bai cyd-fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn ei gweld fel arwyddwr oedd yn arwyddo hiliaeth a hil-laddiad. A beth am yr het fach swfenîr a brynodd fy nhad i mi pan oeddwn i’n wyth oed? Arwydd bod fy nhad wedi’i swyno gan yr holl hanes poblogaidd yn rhamantu gallu milwrol gwrthryfelwyr y de, mae’n siŵr, a’m tad yn ei dro wedi llwyddo i’m swyno innau yn yr un modd (neu o leiaf wedi’m darbwyllo i’w gwisgo’r diwrnod hwnnw; nid oes gennyf gof fy mod i wedi’i
gwisgo wedyn). Ond pe bai teulu Affro-Americanaidd yno yn rhodio maes Gettysburg yr un diwrnod ac wedi dod ar ein traws, mae’n bosib y byddai un ohonynt wedi cyfeirio ataf a sibrwd, ‘Sbïwch ar y teulu gwyn hiliol yna.’ A hynny ar yr union adeg yr oedd ein teulu’n ymadael â’n heglwys leol oherwydd ei hiliaeth. (Tua’r un cyfnod, daeth nifer o gyfeillion Affro-Americanaidd fy nhad draw i’n cartref ar gyfer parti ryw gyda’r nos; roedd dyn oedrannus yn ein cymdogaeth yn aelod o’r Ku Klux Klan a cheisiodd achosi trafferth wedyn o’r herwydd, ond stori arall yw honno.)

Mae’n bosib nad yw bwriad yr un sy’n arddel arwyddwr yr un fath â’r ystyr a grëir pan fydd rhywun yn ymateb i’r arwyddwr hwnnw. Yn achos CBF fy mam 18 oed a’r un ar fy het i pan oeddwn i’n wyth oed, diffyg addysg ac ymwybyddiaeth oedd yn gyfrifol am y ffaith ein bod ni’n arddel arwyddwr a allai’n hawdd yrru neges nad oeddem yn dymuno’i gyrru (ac yn wir, mae’n sicr y byddwn yn arswydo wrth feddwl bod eraill yn credu ein bod ni’n ceisio cyfleu neges hiliol felly). Ond mae’r penodau bach hyn yn hanes ein teulu yn destun embaras yr un fath. 

Ar y llaw arall, mae’r enghraifft a drafodwyd gen i ar y dechrau yn gwbl ddigamsyniol. Pan aeth grwpiau asgell dde ati i orymdeithio yn Charlottesville yn 2017 roedd y CBF yno’n cwhwfan uwch eu pennau ochr yn ochr â’r swastica. Ni ellid honni nad oedd y rhai a arddelai’r arwyddwr penodol hwnnw’n bwriadu awgrymu neges hiliol amlwg. Gellid nodi hefyd fod y faner honno wedi chwarae rôl amlwg yn symboliaeth y Ku Klux Klan ers dros ganrif. ‘It represents the South,’ meddai Donald Trump am y CBF, ond cysylltiad y faner â hiliaeth yw’r union beth sy’n egluro’r ffaith bod aelodau gogleddol y KKK yn ei harddel hefyd. 

Roedd clywed arlywydd fy ngwlad yn cefnogi pobl sy’n arddel arwyddion hiliol yn ddigon i godi cyfog arnaf. Ond roedd yn waeth ei glywed yn beirniadu’r Americanwyr a fynnai dynnu’r CBF a chofebau Taleithiau Cydffederal y De i lawr trwy ddweud, ‘The history and culture of our great country [is] being ripped apart.’ Roedd fel pe bai Trump yn dileu’r wlad yr oedd wedi’i ethol i’w harwain, yr Unol Daleithiau, ac yn ei disodli â gwlad arall, y Confederate States of America – yr unig wlad y mae’r faner honno a’r cofebau hynny’n gysylltiedig â hi.

Nofel ddiweddaraf Jerry Hunter yw Ynys Fadog (Y Lolfa, 2018).

Arwydd o’i hunaniaeth ddeheuol oedd baner fach fy mam pan aeth i goleg yn y gogledd yn 18 oed

Pynciau:

#Rhifyn 14
#Gogledd America
#Jerry Hunter
#Cenedlaetholdeb
#Hiliaeth