Dadansoddi

Brochus

Geiriau

Dylan Foster Evans

Amser darllen: 5 munud

27·04·2021

Llun gan Cody Chan / Unsplash
 

Er bod y rhan fwyaf ohonom yn sownd wrth ein milltiroedd sgwâr ers misoedd, mae’n rhyfedd sut y byddwn – ar sail arferiad yn fwy na dim – yn dal i wrando ar ragolygon tywydd sy’n trafod pen arall y wlad. Ac wedyn byddwn yn trafod yr wybodaeth ddi-fudd honno’n ddefodol â’n gilydd. Ailadroddus yw sgyrsiau o’r fath – dyna sydd mor gysurus amdanynt. Ond ambell dro mae rhywbeth yn tarfu ar drywydd cyfarwydd y dweud. Felly y bu yn ddiweddar wrth i ragolygon tywydd y BBC ddechrau darogan tywydd ‘brochus’. ‘O ble daeth y “brochus” yma?’ clywais gan ambell un mewn cyfarfodydd Zoom neu ar y cyfryngau cymdeithasol: rhai yn dotio at air newydd, eraill yn ymfalchïo wrth i derm tafodieithol ennill ei blwyf yn genedlaethol, eraill yn cwyno na wyddent mo’i ystyr.

Pe bawn am ddadlau bod elfen onomatopeiaidd i brochus, ni fyddai’n syndod deall mai ‘garw’ neu ‘dymhestlog’ yw ei ystyr. I mi, mae’n air lled gyfarwydd ar lafar ond eto nid yn un a ddefnyddiwn fy hun. Gair y byddaf yn ei glywed gan bobl Penllyn, efallai, a brodorion Sir Ddinbych. Wn i ddim yn iawn – anodd chwilota am bethau fel hyn ar hyn o bryd. Ond gair da, beth bynnag fo union derfynau ei gynefin.

Daw brochus o broch, wrth gwrs. Gair yw hwnnw yr wyf yn ddigon cyfarwydd â’i weld mewn testunau canoloesol. Cyfeiria at ddicter – dicter a allai fod fel môr ewynnog. Wrth gyfarch Brycheiniog tua dechrau’r 15g, gobaith y bardd Siôn Cent oedd sicrhau ‘Braich Duw i’th gadw rhag broch diawl’. Rai degawdau’n ddiweddarach, dyna Dafydd Nanmor yn canmol merch â ‘breichiau teg fal broch ton’. Mae’n bosib fod modd cysylltu’r broch hwn â broch arall y Gymraeg, sef y mochyn daear, creadur nodedig – os caiff ei gornelu – am ei ffyrnigrwydd. Ceir sôn am chwarae ‘broch yng nghod’ yn y Mabinogi; rhyw fath o ymaflyd codwm oedd hwnnw â’r nod o sodro eich gwrthwynebydd i sach (mae’n debyg). Ym mhapur Seren Cymru ym mis Mai 1895 ceir disgrifiad digrif o aelod seneddol y Torïaid a’i cawsai ei hun ar ddamwain ymhlith y Rhyddfrydwyr mewn pleidlais ar ddatgysylltu’r Eglwys. ‘Broch mewn Odyn’, meddai’r pennawd. Wn i ddim beth yn union yw tarddiad yr ymadrodd hwnnw, ac eithrio bod odyn yn lle cyfyng na fyddech yn awyddus iawn i gwrdd â mochyn daear ynddo. Mae broch hefyd yn un o’r geiriau Brythoneg prin hynny a fenthyciwyd i’r Saesneg, ar y ffurf brock; fe’i codwyd gan y Saeson o Gymraeg cynnar neu o un o’i chwaer ieithoedd. Wn i ddim a yw brock yn para ar lafar heddiw ynteu a ydyw wedi ei lwyr ddisodli gan badger erbyn hyn. Ond bu’r ymadrodd ‘stinking brock’ yn ffordd hwylus o fwrw anfri ar eraill yn Lloegr am genedlaethau.

Gallwn fod yn hyderus fod y gair Cymraeg broch, a’r ffurfiau cytras yn y Gernyweg, y Llydaweg, a’r Wyddeleg hwythau, yn tarddu yn y pen draw o *broccos yn yr iaith Gelteg. (Mae’r seren yn ffordd o ddangos nad oes gennym gofnod o’r union ffurf hon ar glawr.) Cafwyd sawl awgrym ar gyfer ystyr sylfaenol y ffurf hon, gan gynnwys ‘llwyd’ a ‘drewllyd’, dwy ystyr addas ddigon ar gyfer y mochyn daear. Dichon hefyd mai rhywbeth main neu bigog yw ystyr sylfaenol *broccos; os felly, mae’n siŵr mai ffroen bigfain y mochyn daear sydd dan sylw. Gallwn nodi hefyd fod gair tebyg iawn i’w gael yn Lladin, sef broccus neu brocchus – ansoddair a ddefnyddid i ddisgrifio dannedd ymwthiol, neu enw ar rywun â dannedd o’r fath. Nid afresymol yw awgrymu y gallai fod cyswllt rhwng *broccos y Celtiaid a broccus y Rhufeiniaid; os felly, y tebyg yw mai’r Rhufeiniaid a fenthycodd y gair gan Geltiaid Gâl. Etifeddwyd y gair Lladin gan sawl un o’r ieithoedd Romáwns, ac oddi yno datblygodd i gyfeiriadau newydd a thra annisgwyl.

Mae tystiolaeth yr ieithoedd hynny’n awgrymu bod y gair *brocca, ‘pigyn, erfyn pigog’, i’w gael mewn Lladin diweddar. Ffurf fenywaidd oedd honno a gyfatebai i’r broccus gwrywaidd a nodwyd uchod. Yn y pen draw, fe droes *brocca yn broche yn y Ffrangeg. Benthyciwyd hwnnw yn ei dro gan Saesneg Canol gan esgor ar ddau air gwahanol mewn Saesneg cyfoes, sef broach a brooch. Yr ystyr sylfaenol yn achos y ddau yw ‘erfyn pigog’. Defnyddid broach yn benodol am erfynnau a ddefnyddid i wanu neu ‘dapio’ casgenni gwin; datblygiad ffigurol o hynny yw’r ferf broach yn yr ymadrodd ‘to broach a subject’. Aeth y broach hwn i’r Gymraeg gan roi inni’r ferf broesio. Gair cyfarwydd iawn i feirdd gwingar yr Oesoedd Canol oedd hwn, fel y gwelwn o gywydd dyfeisgar Guto’r Glyn, ‘Brwydr y beirdd yn erbyn gwin Tomas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch’ (tua 1440). Yn y gerdd hon mae Guto’n dychmygu’r canlyniadau pe bai beirdd Cymru yn ceisio trechu gwinoedd Ffrainc mewn brwydr yn neuadd Tomas ap Watgyn, uchelwr o Went. ‘Ni bydd dy feirdd naw byddin’, meddai Guto wrth Tomas, ‘heb roi sawd o broesi win’, gan gyfeirio at barodrwydd di-oed y beirdd i fynd i’r afael â’r alcohol. (‘Ni fydd dy feirdd, y naw carfan ohonynt, / heb roi cyrch os agori di’r gwin’ yw’r aralleiriad ar wefan gutorglyn.net.) Afraid dweud mai gwinoedd Ffrainc sydd drechaf. Y ffurf Saesneg arall a darddodd o broche yw brooch; mae’n ddigon amlwg sut y datblygodd hwnnw hefyd o’r ystyr ‘erfyn pigog’. Benthyciwyd brooch i’r Gymraeg yn ogystal gan roi broetsh a brôtsh; o’r 19g y daw’r enghraifft gynharaf o brôtsh, meddai Geiriadur Prifysgol Cymru. Gair arall o’r un gwreiddyn a gyrhaeddodd y Saesneg yw brochure; ei ystyr wreiddiol oedd rhywbeth wedi ei wnïo.

Ond nid Ffrangeg oedd yr unig gyfrwng ar gyfer benthyg ffurfiau a darddodd o broccus. Yn Eidaleg, cafwyd y gair brocco yn yr ystyr ‘eginyn, brigyn’. Ffurf fachigol ar y gair hwnnw yw broccolo, a ffurf luosog broccolo yw broccoli. Daeth hwnnw i’r Gymraeg drwy’r Saesneg cyn gynhared â diwedd y 18g. Y sillafiad annisgwyl bricoli a geir yn yr enghraifft gynharaf yn Geiriadur Prifysgol Cymru – rhaid bod y llafariaid wedi eu trawsosod yn rhywle ar hyd y daith.

Er yr holl gyfoeth ieithyddol yr ydym wedi ei nodi uchod, mae’n wir mai gair prin yw broch yn y Gymraeg heddiw. Ond braf bob amser yw clywed am y tywydd brochus – mae’n dwyn i gof bob math o gysylltiadau ieithyddol cyffrous.

Mae Dylan Foster Evans yn bennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n bosib fod modd cysylltu’r broch hwn â broch arall y Gymraeg, sef y mochyn daear, creadur nodedig – os caiff ei gornelu – am ei ffyrnigrwydd

Pynciau:

#Dylan Foster Evans
#Geiriau
#Tywydd
#Rhifyn 15