Dadansoddi

Chwilio am yr Arall

Olrhain hanes pla

Charles C Mann

1491: New Revelations of the Americas before Columbus

Granta, 576, £12.99, 2006 (2005)

Gruffydd Penrhyn Jones
22·04·2020

Llun gan Tedward Quinn/Unsplash

Heddiw, rydym yn clywed y gair pandemig yn ddyddiol. I’r rhan fwyaf ohonom mae hyn yn gyfystyr â pla – afiechyd heintus sy’n lledaenu’n fyd-eang mewn byr o amser ac yn effeithio ar ran helaeth o’r boblogaeth gyda chyfradd marwoldeb sylweddol. Er i’r byd orfod dygymod â sawl pandemig eisoes yn yr 21g, nid ydym wedi gweld pandemig difrifol ar raddfa COVID-19 ers ffliw 1918-19. Serch hynny, mae pla yn rhan annatod o’n hanes a’n cof cyfunol. Mae hen syniadau ac arferion traddodiad yn parhau i liwio ein hymateb fel unigolion i’r pandemig presennol: maent yn cymhlethu ein hymateb fel cymdeithas mewn cyfnod pan fo cydweithrediad rhyngwladol pendant a phrydlon, ar sail gwyddoniaeth fodern, yn hollbwysig. 

Cyn datblygiadau microbiolegol chwarter olaf y 19g, arferion traddodiad oedd yn penderfynu sut y byddai pobl anllythrennog yn ymateb i afiechyd. Roedd ffoi rhag haint yn rhan o hynny. Dyna wnaeth dinasyddion llewyrchus Llundain yn ystod pla’r nodau yn 1665; a dyna mae ambell i berchennog tŷ haf yn ceisio ei wneud heddiw, yn slei bach. Hawdd credu bod ffoi yn ymateb greddfol, ond wedi ei ddysgu y mae’r ymateb hwn – drwy chwedlau, hanes lafar, a thrwy‘r Beibl, lle enwir pla tua cant o weithiau. Cludwyd tua pymtheg o heintiau newydd i gyfandir America gan forwyr, milwyr ac ymsefydlwyr yn sgil mordeithiau Columbus, a’r frech wen yn eu plith. Nid oedd gan y brodorion unrhyw amddiffyniad imiwnolegol, ac fe ddinistriodd y frech wen strwythur cymdeithasol a gwleidyddol ymerodraethau yr Astec, yr ymerodraeth fwyaf yn y byd ar y pryd, cyn iddi syrthio, yn ei gwendid, dan orthrwm y Conquistadores. Ond nid oedd gan y brodorion unrhyw amddiffyniad diwylliannol ychwaith, nid oedd ganddynt unrhyw draddodiad o ddelio ag epidemig. Roedd gan frodorion New England draddodiad o aros wrth wely’r claf drwy gydol ei salwch, gyda chanlyniadau andwyol yn ystod epidemig o’r frech wen – roedd y syniad o afiechyd heintus mor estron i’r Blackfoot â’r syniad o anaf heintus. Credai’r ymsefydlwyr mai cosb gan Dduw oedd pla, ond yr oedd traddodiad wedi eu dysgu mai doeth oedd cadw draw. 

Os nad oedd modd ffoi rhag yr haint, rhaid oedd, fel heddiw, hunanynysu. Pan ymosodwyd ar Kaffa (Feodosia, yn y Crimea) yn 1347 gan fyddin y Tatariaid, caewyd pyrth y ddinas ac fe ddatblygodd yn warchae gyson gyda thrigolion y ddinas yn ceisio goroesi prinder bwyd a diod, a’r ymosodwyr yn ceisio cipio’r ddinas cyn i haint eu difa, fel y digwyddai bob amser pan oedd milwyr yn byw ar ben ei gilydd heb fodd i gadw dŵr, bwyd, corff na dillad yn lân. Roedd y dinasyddion yn llwyr ymwybodol o hyn: a hwythau wedi hunanynysu yn ddiogel tu cefn i furiau trwchus y ddinas, bu gorfoledd yn eu plith pan y trawyd y Tatariaid â’r Pla Du wrth i’r bacteriwm, oedd wedi teithio efo’r fintai o Asia yn nghyrff llygod mawr a chwain, fanteisio ar eu cyfle. Ond trodd llawenydd yn arswyd wrth i’r Tatariaid daflu cyrff y meirw dros furiau’r ddinas i ledaenu’r haint drwy’r ddinas ac, yn anfwriadol, drwy Ewrop gyfan.

Ni wyddai’r Tatariaid am fodolaeth Yersinia pestis, ac roeddent yn grediniol mai pydredd a drewdod – y miasma farwol – oedd achos yr haint. Parodd y gred hon tan chwarter olaf y 19g. Cyn hynny, arferai dinasyddion Llundain gerdded heibio mynwentydd drewllyd y ddinas â hances boced dros eu trwynau, yn aml â thipyn o potpourri neu bersawr arni. Credwyd y gallai arogl cryf, yn enwedig arogl drwg, wrthweithio peryglon y miasma drewllyd – sail ofergoelion megis cadw bwch gafr drewllyd yn yr ystafell wely, neu glymu hen hosan o amgylch y gwddf, i gadw afiechyd draw. Mae’r ofergoel hon yn fyw ac iach heddiw, gyda ffug feddyginiaethau at COVID-19 yn frith ar y rhyngrwyd – fel sinsir, garlleg, persawr a baw gwartheg. Clywn am bobl heddiw yn gosod nionod amrwd yng nghorneli ystafelloedd gwely er mwyn eu gwarchod rhag COVID-19. Ofn y miasma sydd yn sail hefyd i’r ffydd mewn ‘awyr iach’ a’r gred mewn effaith lesol osôn, hynny ydi, arogl y traeth. 

Nid yw’r chwedlau hyn yn arbennig o niweidiol, dim ond iddynt beidio â disodli meddygaeth wyddonol. Wedi’r cwbl, mae bwyta cyri a mynd am dro ar draeth Dinas Dinlle yn llesol i’r enaid hyd yn oed os nad yw’n driniaeth effeithiol ar gyfer COVID-19. Ond mae un ofergoel sydd yn arbennig o niweidiol, ac yn dod fwyfwy i’r amlwg. Dros y canrifoedd mae dynol ryw wedi ceisio darganfod esboniad i’r plâu rheolaidd. Cosb Duw ar bechaduriaid oedd yr eglurhad mwyaf parod mewn cymdeithas grefyddol – fel esboniad y Tad Paneloux yng nghlasur Albert Camus, La Peste (1947), sy’n ddarlun o effaith pla ar dref Oran yn Algeria. Hyd yn oed heddiw nid oes prinder gweinidogion Americanaidd neu gynghorwyr o Ogledd Iwerddon sydd yn barod i gynnig yr esboniad hwn am COVID-19. Yn draddodiadol, at leiafrifoedd a’r difreintiedig yr anelir y cyhuddiadau. Bai ‘pechaduriaid’ hoyw yw hi fel arfer y dyddiau hyn. Pwy all anghofio’r ‘Gay Plague’?

Yn y Canol Oesoedd y cocyn hitio oedd yr Arall – anghredinwyr croendywyll, teithiwyr, a chlydwyr haint o wledydd pell, hynny ydi pobman tu hwnt i ffin y pentref. Weithiau gwnai’r sipsiwn y tro (gwraidd y gair Sipsi yw Egyptian), ond fel rheol yr Iddew oedd y cyhuddedig, yr un a wenwynodd y ffynhonnau. Ac yn ystod y ddwy flynedd y bu angen ar y Pla Du i ledaenu o Kaffa drwy Ewrop i Brydain, fe welwyd y pogromau mwyaf erchyll ym mhob gwlad yn ei lwybr.

Mae’r angen i ddarganfod rhyw estron i gario’r bai wedi parhau hyd at yr Oes Fodern. Syffilis oedd un o’r ychydig afiechydon i groesi’r Iwerydd o’r gorllewin i’r dwyrain yn sgil mordeithiau Columbus: Mal Napolitain yn Ffrangeg a French Disease yn Saesneg. Roedd y Rwsiaid yn beio’r Pwyliaid a’r Pwyliaid yn beio’r Almaenwyr. Roedd pobol yr Iseldiroedd yn credu fod syffilis wedi dod o Wlad Belg. Nid oes sail meddygol na hanesyddol i’r termau cyfoes Spanish Flu [1] a German Measles. Tarddiad pandemig ffliw 1918 oedd yr Unol Daleithiau, lle esblygodd y firws H1N1 newydd drwy gyfrwng ceffylau a ieir cyn achosi haint oedd yn un anghyfarwydd i system imiwnedd y mwyafrif, yn enwedig y rhai hynny rhwng 20 a 35 – oedran y milwyr ifainc oedd yn ymgynnull yn Rhyfel Ewrop. Galwyd pandemig 1957 yn Ffliw Asiaidd ac un 1968 yn Ffliw Hong Kong. Cychwynnodd ffliw moch 2009 yn Mecsico, ac fe’i galwyd yn Ffliw Mecsicanaidd am gyfnod byr, pan gafodd chwaraewyr pêl droed proffesiynol y wlad eu difrïo ar y maes chwarae, a gwrthwynebwyr yn poeri arnynt a’u galw’n foch. Gyda COVID-19 mae’r senoffobia hwn yn cael ei anelu at Tsieina, yn enwedig gan wleidyddion adain dde yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Cyhuddir y Tsieineaid o fod wedi cychwyn y pandemig yn fwriadol, neu drwy flerwch. Cyhuddir hwy o gelu datblygiad yr haint a pheidio â rhybuddio gweddill y byd yn brydlon. Dywedir fod Arlywydd Trump yn bwriadu newid enw y San Andreas Fault i China’s Fault. Jôc, efallai.

Nid oes unrhyw sail wyddonol i’r cyhuddiadau. Mae ymchwil rhyngwladol yn awgrymu’n gryf fod SARS-CoV-2 â pherthynas glos â nifer o firysau sydd yn heintio ystlumod, a chredir i’r firws esblygu yn yr ystlum cyn neidio i anifail arall – mwyaf tebyg y pangolin – cyn heintio dynol ryw. Os oedd angen pangolin i’r firws hwn esblygu, go brin y byddai wedi codi ei ben am y tro cyntaf yn Sir Fôn.

Mae’n cymryd amser i adnabod salwch newydd. Mae’n debyg fod awdurdodau meddygol Tsieina wedi sylweddoli tua dechrau mis Rhagfyr 2019 fod firws newydd yn lledaenu yn Wuhan. Gwnaethpwyd hyn yn hysbys i’r WHO ddiwedd y mis. Rhoddwyd enw i’r firws wythnos yn ddiweddarach a chyhoeddwyd genom y firws ar wefan agored ar 10 Ionawr 2020. Roedd cyhoeddi y genom yn golygu y gallai ymchwilwyr o unrhyw wlad fwrw ati i ddatblygu profion a brechiadau yn seiliedig ar y wybodaeth hon. Dyma enghraifft dda o gydweithredu rhyngwladol diamod. Ddechrau Chwefror, dechreuwyd dau arbrawf yn Tsieina o’r feddyginiaeth Americanaidd Remdesivir a’u cofrestru ar wefan ymchwil meddygol llyfrgell genedlaethol yr UD.[2]

Hwyrach y gellid barnu Tsieina am wallau diogelwch biolegol yn eu marchnadoedd anifeiliaid byw, ond ni ddylai unrhyw Brydeiniwr wneud hyn heb ystyried yn gyntaf ein perfformiad ninnau yn sefyllfa gyffelyb y BSE neu ‘Mad Cow Disease’. Gwelwyd yr achos cyntaf mewn gwartheg yn 1984, a’r farwolaeth gyntaf o’r fersiwn dynol, vCJD ym Mai 1995. Er bod tystiolaeth gadarn fod y salwch yn cael ei drosglwyddo gan flerwch mewn lladd-dai, ni hysbyswyd senedd San Steffan am y cysylltiad hwn cyn mis Mawrth y flwyddyn ganlynol, nid cyn i wyth o bobl ifanc farw o’r clefyd a nifer amhenodol eu heintio ganddo. Tybed faint o’r rhai sydd heddiw yn awyddus i alw SARS-CoV-2 yn ‘Chinese Virus’ fyddai’n barod i alw BSE yn ‘English Cow Disease’ neu pandemig 1918 yn ‘American Influenza’? 

Cafwyd ymateb cyflym ac effeithiol i COVID-19 gan wledydd y Dwyrain Pell ac nid oes un wlad yn Ewrop wedi llwyddo i ymateb cystal â De Corea a Taiwan. Er i COVID-19 ledaenu ar draws y byd mewn ychydig wythnosau, nid yw hyn yn esgus nac yn eglurhad parod dros fethiant arbennig Prydain a’r Unol Daleithiau. Wedi’r cyfan, dyma’r tro cyntaf yn hanes y byd i unrhyw wlad gael rhybudd o bandemig a gwybodaeth lawn am strwythur genetig y microb cyn i’r afiechyd gyrraedd – cyrhaeddodd y wybodaeth ynghylch sut i orchfygu’r firws cyn y firws ei hun. Ac eto, fe’n syfrdanwyd pan ledaenodd ymysg ein pobl ni.

Yr eglurhad mwyaf parod, yn fy marn i, yw ein bod yn parhau i weld pobl Tsieina fel yr Arall – pobl wahanol, israddol, slei a bygythiol. Beth ar y ddaear allwn ni ei ddysgu gan bobl o’r fath? Pa fantais sydd o gydweithio â phobl mor anwybodus? Rwyf yn cofio ’nhad yn prynu Datsun yn y saithdegau cynnar a phawb yn tynnu ei goes: ‘Be ŵyr y Japanîs am wneud car?’ Wel, fe ddaeth yr ateb mewn ychydig flynyddoedd, ac mewn ychydig flynyddoedd cawn ninnau weld, o bosib, be ŵyr y gwyddonwyr bach melynion sydd ‘draw, draw yn Tsieina ...’. Mae firws COVID-19 yn medru pylu ein gallu i flasu ac arogli. Mae firws senoffobia yn ein gwneud yn ddall ac yn ffôl.

 

[1] Disgrifiwyd effeithiau pandemig ffliw 1918 yn llawn yn Sbaen, pan oedd sensoriaeth yn cyfyngu newyddiadurwyr gwledydd y Rhyfel Mawr.
[2] Rhoddwyd y gorau i'r arbrofion oherwydd prinder cleifion yn sgil llwyddiant mesurau iechyd cymdeithasol. Fe’u trosglwyddwyd i’r UD lle, yn anffodus, nid oes prinder cleifion.

Brodor o Gaernarfon yw Gruffydd Penrhyn Jones. Bu'n feddyg teulu yn Nhreffynnon, Lapland a Waunfawr cyn ymddeol a graddio mewn hanes gyda'r Brifysgol Agored.

Tybed faint o’r rhai sydd nawr yn awyddus i alw SARS-CoV-2 yn ‘Chinese Virus’ fyddai’n barod i alw BSE yn ‘English Cow Disease’ neu pandemig 1918 yn ‘American Influenza’?

Pynciau:

#Pandemig
#Iechyd
#Gruffydd Penrhyn Jones