Dadansoddi

Byd natur ansefydlog

Wynebu Gaia

Bruno Latour

Face à Gaïa (Wynebu Gaia)

La découverte, 400tt, 23 ewro, Hydref 2015

Bruno Latour
24·09·2016

Ceisiais amlinellu [yn y ddarlith hon] rhyw fath o driniaeth gychwynnol a'n harweiniai i chwarae yn erbyn ei gilydd wahanol ffyrdd o 'fod yn y byd'. Hynny yw, i ofyn cwestiynau hen a chyffredin iawn: pwy, ble, pryd, sut a pham? Pwy ydym ni, ni sydd yn ein galw'n hunain yn ‘bobl ddynol’ o hyd? Ym mha gyfnod ydym ni'n byw? Nid ‘ym mha gyfnod yn ôl y calendr’ dw i’n ei feddwl ond beth yw symudiad, rhythm a mydr amser? Ym mha fan ydym ni'n trigo? Pa fath o dir, o bridd, o ofod, o le ydym ni'n debygol o fyw ynddynt ac arnynt ac â phwy fyddwn ni'n barod i rannu’r trigfannau hynny? Sut a pham gyrhaeddon ni sefyllfa o'r fath – sefyllfa sydd, yn rhinwedd y cwestiwn ecolegol, yn ein gyrru ni o’n pwyll? Pa lwybrau a ddilynwyd gennym ac am ba resymau y gwnaed penderfyniadau o’r fath? Mae i bob un o'r cwestiynau hyn nifer o atebion a hynny, yn union, sydd i gyfrif am y ffaith ein bod yn drysu i'r fath raddau. Ond yr hyn sy'n debygol o'n gyrru ni'n wallgo' go iawn – yr hyn sydd yn digwydd eisoes – yw’r sylweddoliad bod yr atebion hynny yn gwbl anghymesur ag ansefydlogrwydd byd natur a'r syniad o 'natur' ei hun.

Amser i adlewyrchu, Yr Ynys Las 2014 gan Sara Penrhyn JonesBeth ddigwyddai, er enghraifft, pe baem ni'n cynnig atebion hollol wahanol i'r cwestiynau hynny sy'n diffinio ein perthynas â'r byd? Pwy fyddem ni wedyn? Beth petaem ni’n dweud Daearwyr yn hytrach na ‘bodau dynol’? Ble fyddem ni? Ar y Ddaear ac nid ym Myd Natur. Ac, a bod yn fwy penodol, ar ddaear lawr y byddem yn ei rannu â bodau rhyfedd eraill ac iddynt ofynion amlweddog. Pryd fyddai hynny? Ar ôl cyfres o newidiadau sylweddol, trychinebau hyd yn oed, neu ryw ychydig cyn y cataclysm anochel, mewn rhyw gyfnod a roddai argraff o fyw ar ddiwedd amser – neu ar ddiwedd yr oes a fu, beth bynnag. Sut fyddem ni wedi cyrraedd man o’r fath? O ddilyn llwybrau croes yn ystod ein hystyriaethau blaenorol am Fyd Natur. O dadogi arni, hynny yw, alluoedd, dimensiynau, moesoldeb a gwleidyddiaeth hyd yn oed, nad oedd hi, Natur, yn medru eu cynnal.

Pa syndod bod rhywun yn drysu, pan sylweddolir bod y chwyldro a ddisgwylid mor eiddgar gan y blaengarwyr ('progressistes') eisoes wedi digwydd? Ac nad canlyniad ydoedd i newid ym 'mherchnogaeth y modd o gynhyrchu' ond canlyniad, yn hytrach, i gyflymiad pensyfrdanol y gylchred garbon! Fyddai Engels hyd yn oed, yn Dialektik der Natur (Dialecteg Natur, 1883), ddim wedi ystyried y gallai holl weithredwyr ('agents') y blaned ddod at ei gilydd ac ymfyddino, go iawn, yng ngwylltineb penfeddwol 'gweithredu hanesyddol' o’r fath. Fyddai Hegel hyd yn oed, yn Phänomenologie des Geistes (Ffenomenoleg yr Ysbryd, 1807), ddim wedi gallu dychmygu y byddai dyfodiad yr Anthroposen yn gwrthdroi mor llwyr ei brosiect yntau fel y byddai i fodau dynol eu rhan wedi hynny nid yn anturiaethau'r Ysbryd Absoliwt ond yn anturiaethau geo-hanes. Dychmygwch ei ymateb wrth iddo weld bod anadl yr Ysbryd Absoliwt hwnnw bellach yn aufgehoben – wedi cael ei oresgyn, ei oddiweddyd a'i wenwyno gan garbon deuocsid!

Mewn cyfnod pan fo sylwebyddion yn cwyno am 'ddiffyg ysbryd chwyldroadol' ac am 'chwalfa’r delfrydau a allai ein gwaredu', y fath syndod yw clywed haneswyr byd natur yn datgelu, wrth sôn am y Cyflymiad Mawr y mae ei ddechrau yn nodi dechrau'r Anthroposen, bod y chwyldro eisoes wedi digwydd ac mai yn y gorffennol agos, nid yn y dyfodol, y mae'r her i ni. Bydd pledwyr ac ymgyrchwyr y chwyldro ar ei hôl hi'n ddifrifol pan sylweddolant y pery’r bygythiad am ganrifoedd a milenia, waeth beth a wnawn ni heddiw, a hynny am fod awenau chwyldroadol y gorffennol (gweithredoedd a gyflawnwyd gan fodau dynol) wedi cael eu codi gan gynhesu inertiol y môr, gan newidiadau yng nghyfraddau adlewyrchedd y pegynau a chan asidedd cynyddol y cefnforoedd. Ac nid sôn yr ydym am ddiwygiadau graddol ond am newidiadau trychinebus. Nid rhwystrau mo’r rhain y gellir eu chwalu, fel Pileri Ercwlff oes a fu, ond pwyntiau tyngedfennol (‘tipping points’). Ac mae hynny'n ddigon i beri i unrhyw un golli ei bwyll. Wrth wraidd y sgeptigiaeth am newid hinsoddol mae yna wrthdroad annisgwyl o union natur cynnydd; gwrthdroad o’r diffiniad o’r hyn sydd i ddod a gwrthdroad o ystyr perthyn i dir a thiriogaeth. I bob pwrpas, rydym yn wrth-chwyldroadwyr bob un, yn ceisio lleihau goblygiadau chwyldro a gwblhawyd hebom ni, yn ein herbyn ni ac, ar yr un pryd, gennym ni.

Pe bai modd i ni wylio'r drasiedi hon yn mynd rhagddi o ryw draeth pell, heddychlon, man na fyddai iddo hanes o unrhyw fath, bron na fyddai hi'n gyffrous cael byw mewn cyfnod o'r fath. Ond, bellach, ni all y 'gwyliwr diniwed' fodoli, am fod pob man, pob traeth a glan, yn rhan o'r ddrama geo-hanesyddol. Ac am nad oes yna 'dwristiaid' bellach, mae'r syniad o 'bethau aruchel' yn diflannu ar y cyd â’r syniad o ddiogelwch y gwyliwr. Mae’r llong wedi’i dryllio ar y creigiau, yn ddi-os, ond does neb yno i weld. Mae’r sefyllfa’n debycach, efallai, i honno a welir yn y nofel The Life of Pi, lle mae bachgen yn hwylio mewn bad achub â theigr Bengal yn gwmni iddo! Does yna ddim tir solet yn weddill o’r lle y gall y bachgen ifanc llongddrylliedig wylio'r sbectacl, y frwydr wyllt i oroesi. Ac, yn fwy na hynny, mae yna fwystfil na ellir mo’i ddofi yn ei ymyl. O safbwynt y bwystfil, mae'r bachgen ifanc yn ddofwr – ond y mae hefyd yn fwyd, wrth gwrs! Yr hyn sydd yn rhuthro amdanom ni â'r fath ffyrnigrwydd gwyllt yw Gaia; honno y mae’n rhaid i ni ei hwynebu, o ddifrif, er mwyn peidio â cholli’n pwyll go iawn.

Bruno Latour yw Cyfarwyddwr y Médialab yn Sciences Po, Paris. Enillodd Wobr Holberg yn 2013.

Cyfieithiad gan Owen Martell.

Lluniau: oll gan Sara Penrhyn Jones, gan gynnwys 'Amser i adlewyrchu, Yr Ynys Las 2014' uchod. 

Y fath syndod yw clywed haneswyr byd natur yn datgelu bod y chwyldro eisoes wedi digwydd ac mai yn y gorffennol agos, nid yn y dyfodol, y mae’r her i ni

Pynciau:

#Yr amgylchedd
#Bruno Latour
#Yr argyfwng hinsawdd