Dadansoddi

Gorsedd Cymru a Lloegr Gymraeg

Gweld y gwynt

Simon Brooks

Amser darllen: 5 munud

13·07·2022

Yr Orsedd (Llun: Lyn Lewis Dafis/Flickr)

 

Ni wyddom pam y bu i Orsedd Beirdd Ynys Prydain newid ei enw i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Llanrwst, 2019. Nid oes ar wefan yr Orsedd gofnodion yn esbonio’r penderfyniad. Ceir sôn yn adroddiad blynyddol y flwyddyn honno am wneud yr Orsedd yn fwy cynhwysol, a hefyd am gynnwys elfennau poblogaidd mewn seremonïau. Ond nid oes unrhyw gyfeiriad at newid yr enw, ac ni allwn felly ond dyfalu. Gwnaed y cyhoeddiad yn y cyfnod pan oedd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a chenedlaetholwyr yn darogan fod bygythiad dirfodol i’r genedl Gymreig. Hwyrach yr ymddangosai’n chwithig fod y gair ‘Prydain’ yn codi ei ben yn dalog yn nheitl yr Orsedd, sefydliad mwyaf symbolaidd y genedl hon. Ni waeth beth yw’r cyfiawnhad swyddogol, anodd credu nad oedd hyn yn isymwybod rhai, o leiaf, o’r Gorseddogion: moderneiddio’r Orsedd drwy dynnu’r elfen Brydeinig allan ohoni, a hogi’r arfau at y frwydr.

Felly, priodol cychwyn hyn o lith drwy bwysleisio i mi gredu fod y penderfyniad er yn frysiog yn ddiffuant. Mae’n werth nodi hefyd fod yr Orsedd wedi ymateb i argyfwng Covid mewn modd urddasol a theilwng, a bod Myrddin ap Dafydd fel Archdderwydd wedi taro’r tant cywir wrth wneud hynny. Does dim pwynt beio unigolion am y penderfyniad, yn hytrach dylid hoelio sylw ar yr ideoleg. Enghraifft ydyw o agwedd ddidaro cenedlaetholdeb sifig at y diwylliant Cymraeg lleiafrifol y tu allan i Gymru, bron fel pe na chredai ei fod yno. 

O ran yr elfen ‘Ynys Prydain’ yn enw iawn yr Orsedd, gwyddom fod a wnelo ag uned ddiwylliannol Gymraeg y cyfnod ôl-Rufeinig a ymestynnai o’r Hen Ogledd heibio Cymru i Gernyw, ac a gynhwysai hefyd ar un adeg ddeheubarth Prydain yn ei gyfanrwydd o Gaer Saint i Gaer Ludd. Mae Dafydd Glyn Jones wedi trafod ei arwyddocâd gwleidyddol i’r hen Gymry yn dreiddgar odiaeth yn ysgrifau campus Agoriad yr Oes (2001), a dyna hefyd fan cychwyn syniadol J R Jones yn ei glasur Prydeindod (1966), er bod ei ymwrthodiad ag ef yn gyfeiliornus yn fy marn i, fel y dadleuais mewn ysgrif yn O’r Pedwar Gwynt llynedd, ‘Prydeindod (Ateb i J R Jones)’ [Rhifyn Haf 2021, Gol.]. Golau hefyd yw cyfrol afaelgar Bethan Jenkins, Between Wales and England (2017), sy’n bwrw goleuni, ymysg pethau eraill, ar ddiwylliant Brytanaidd Cymru a Lloegr y 18g.

O’r myfyrdodau hyn, gallwn weld mai llaw-fer yw ‘Beirdd Ynys Prydain’ am y syniad mai’r Cymry yw cenedl frodorol yr ynys hon. Gwreiddia’r Gymraeg fel priod iaith y genedl Gymreig mewn modd na wna’r gair tiriogaethol, ‘Cymru’. Am y rheswm hwnnw’n unig, cam gwag yw troi Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ‘Orsedd Cymru’. 

Ond y prif wrthwynebiad yw’r un moesegol, sef nad oes gan yr Orsedd yr hawl i newid ei enw. Fel enwau Cymraeg mynyddoedd, traethau a ffermydd, rhan o’n treftadaeth gyffredin fel Cymry Cymraeg yw enw Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn union fel y dylid ymbwyllo cyn rhoi i berchennog preifat yr awdurdod moesol i newid enw ei fwthyn o rywbeth fel ‘Ty’n Llwyn’ i ‘Rosehill Cottage’ gan mai eiddo’r fro gyfan ydyw, rhaid cwestiynu a oes hawl gan Orseddogion i newid enw o’r 18g sy’n perthyn i’r genedl gyfan. Er mai hwy, yn gyfreithlon, sy’n berchen yr endid o dan sylw, perchnogaeth dros dro meidrolion yw honno, gan fod y dreftadaeth yn rhan o wead diwylliannol ehangach. Yn achos Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn benodol, dyma un o’r ychydig sefydliadau Cymraeg (yr unig un, efallai?) sydd, oherwydd ei arwyddocâd i’r Oleuedigaeth Ewropeaidd a rhamantiaeth y cenhedloedd llai, o bwysigrwydd byd-eang. Nid ar chwarae bach y mae newid enw sydd o bwys rhyngwladol i’r ddynoliaeth.

Bwriwn ymlaen â’r gymhariaeth. Yn achos troi ‘Ty’n Llwyn’ yn ‘Rosehill Cottage’, caiff adnoddau’r Gymru Gymraeg (ei thai, ei hiaith a’i chof hanesyddol) eu cipio mewn ffordd sy’n cloi Cymry allan o’u hetifeddiaeth eu hunain. Yn achos ‘Gorsedd Cymru’, gwneir rhywbeth tebyg i’r Lloegr Gymraeg. Ym meddwl tymhestlog Iolo, mae’n amlwg fod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn sefydliad cenedlaethol Cymreig, a bod peth o’r weledigaeth yn deillio o’i obsesiynau am Forgannwg, ac eto, o fwrw golwg ar hanes syniadol Cymry Llundain yn y 18g, yno yn y Llundain Gymreig y mae’r argyhoeddiad dyfnaf mai’r Cymry yw brodorion yr ynys. Ac i Lundain yr âi Iolo i sefydlu ei Orsedd yn 1792.

Creadigaeth diwylliant Cymreig Lloegr, a Llundain Gymreig yn benodol, yw Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Chwedl The Welsh in London 1500-2000 (2001), ‘Nothing is more symbolic of the links between the London Welsh and their homeland than that Gorsedd.’ Ond mae’r bathiad ‘Gorsedd Cymru’ yn diarddel Cymry Llundain o’r genedl, ac yn defnyddio eu sefydliad eu hunain er mwyn gwneud hynny. Mae elfen gref o cultural appropriation yma. 

Her foesegol yw hyn i genedlaetholdeb Cymru. Yn ymarferol, byddai modd i Gymry Cymru drawsfeddiannu’r Orsedd yn llwyr. Wedi’r cwbl, nid oes gan y diwylliant Cymraeg yn Lloegr unrhyw statws sefydliadol neu swyddogol. Nid oes yr un corff yn bodoli i’w amddiffyn, nid yw cyfreithiau amrywiaeth a chydraddoldeb yn llefaru ar ei ran. Diwylliant lleiafrif disylw ydyw. Gwir y ceir ambell Gymro o Loegr yn achwyn, ond gellid eu hanwybyddu’n hawdd, a bydd y sioe yn mynd yn ei blaen. Ond a ddylid gwneud hynny? A fyddai’n foesol? 

Sail athronyddol cenedlaetholdeb Cymreig yw’r apêl at foeseg. Mae’n llefaru o blaid y lleiafrif. Ond yma mae’n dinistrio etifeddiaeth lleiafrif, gan weithredu yn null John Bull, sef yn yr union ddull y’i sefydlwyd i’w wrthsefyll. Mae’n cipio eiddo am fod hynny’n bosib. Mae hyn yn gwanhau’r ddadl foesol dros genedlaetholdeb Cymreig yn sylweddol. Mae’r eironi’n rhyfeddol. Ai ei unig lwyddiant yn y frwydr yn erbyn Prydeindod fydd difwyno sefydliadau Cymraeg Lloegr? Mae diwylliant Saesneg Lloegr heb ei gyffwrdd. 

Yn niwylliant Cymraeg Lloegr, mae i Frytaniaeth, fel y cyfeiria Dafydd Glyn Jones ati, ystyr benodol. Wrth ddynodi mai’r Cymry yw brodorion Prydain, mae’n datgan fod ganddynt hawl i gyfanheddu pob rhan o’r ynys. Felly yr aeth terminoleg Brytanaidd yn obsesiwn ymysg lleiafrif Cymraeg Lloegr. Fe’i ceir yn nheitl papur newydd Y Brython, a’r wasg o’r un enw, ar Lannau Mersi. Enwau Brytanaidd sydd gan gymdeithasau Cymreig Llundain fel y Cymmrodorion (‘cyn-frodorion’), a dyna gyd-destun Gorsedd Beirdd Ynys Prydain wrth gwrs. Aeth yn rhan o ddiwylliant poblogaidd Cymry Lloegr hefyd. Bwriwch olwg ar gystadleuwyr Eisteddfod Witton Park, eisteddfod bro Gymreiciaf County Durham, yn 1865, er enghraifft, ac mae ‘Brodor o Ynys Brydain’ yn eu plith. Roedd i fyth Ynys Prydain ei apêl yng Nghymru hefyd ond bu pwyslais neilltuol arno yn Lloegr. Un o ddibenion Brytaniaeth oedd gwrthsefyll ymosodiadau senoffobaidd ar gymunedau Cymreig Lloegr. Da y deallai Cymry Llundain hynny pan sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fryn y Briallu. Felly hefyd y’i deellid gan Gymry Lerpwl ac mewn cymunedau Cymreig ym mharthau diwydiannol gogledd Lloegr yn y 19g a’r 20g. Roedd Brytaniaeth yn slogan wrth-hiliol.

Ceir parhad o hyn yn yr 21g, fel y dysgais wrth ymweld yn ddiweddar â chymunedau Cymreig gweddilliol Lloegr wrth baratoi llyfr amdanynt. Ceir gan Gymry o’r cymunedau hynny gyfeiriadau digymell at fyth Ynys Prydain, yr Hen Ogledd a hen hanes Cymry Lloegr. Ymdrechion i gadw mythos cymuned leiafrifol ar gof a cadw.

Yma, ym mharthau gorllewinol yr ynys hon, mae’r gwynt yn chwythu’n fain. Gwnawn bopeth a fedrwn i gefnogi eisteddfodau cenedlaethol Ceredigion a Llŷn ac Eifionydd. Dwy fro sydd yn sgil adladd creulon Covid, a’r holl ergydion cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, angen cefnogaeth ddiamod os yw’r Gymraeg i fyw yno. Ond ni fydd y frwydr hon yn cael ei chynorthwyo drwy dynnu cof ac etifeddiaeth cymunedau Cymreig bychain Llundain a Lloegr oddi arnynt. Rwy’n ymbil ar Orsedd Beirdd Ynys Prydain i adfer ei henw iawn, ac am heddwch i bawb sy’n medru Cymraeg. 

Mae’r golofn ‘Gweld y gwynt’ yn wahoddiad i ddarllenwyr O’r Pedwar Gwynt rannu eu hymateb i unrhyw beth maent yn teimlo yn gryf yn ei gylch neu a ddarllenwyd yn y cylchgrawn. Os hoffech gyfrannu, gyrrwch neges at gol@pedwargwynt.cymru

Hwyrach yr ymddangosai’n chwithig fod y gair ‘Prydain’ yn codi ei ben yn dalog yn nheitl yr Orsedd, sefydliad mwyaf symbolaidd y genedl hon

Pynciau:

#Simon Brooks
#Eisteddfod
#Rhifyn 19