Jiwels Paris a charpiau Llangollen
Darllen llun
Susan Sontag
On Photography
Penguin, 1977
Emyr Wyn Jones
John Thomas, Cambrian Gallery: Ei Adgofion a’i Deithiau
Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, iv.3, 1963
Brassaï
Paris de nuit
Arts et Métiers Graphiques, 1933

La Môme Bijou gan Brassaï, 1932
Yn y Bar de la lune ym Montmartre, yn ystod oriau mân un bore yng ngaeaf 1932, daeth y ffotograffydd Brassaï ar draws y cymeriad syfrdanol a adwaenir fel la Môme Bijou. Ymddengys nad oedd neb ymysg selogion y bar yn cofio ei henw iawn, ac felly fe’i llysenwyd ar ôl y dryswch o dlysau a wisgai. Pa enw arall yn wir fyddai’n fwy addas iddi na swyngyfaredd goeglyd ‘Miss Diemyntau’?
Roedd ei hanes yr un mor ddirgel â’i henw. Arferai fod yn gefnog a thlws, meddai rhai; un o greiriau gogoneddus y Belle Époque oedd bellach yn byw ar gardod. Wfftiwyd y fath ramantiaeth gan eraill a fynnai mai mewn tlodi y’i ganwyd, mai anfad ac anniben fu ei bywyd o’r cychwyn, a bod ei rhyfeddod yn seiliedig ar ddim mwy na’i goroesiad a’i chasgliad helaeth o jiwels rhad.
Ni lwyddodd Brassaï i ganfod yr atebion. Dywed na chafodd gyfle i’w holi, a diflannodd hithau fel rhithfod i’r nos. Mae’n debyg na fynnai’r ffotograffydd ddarganfod na rhannu’r gwir beth bynnag. Roedd y chwedloniaeth yn flasusach nag unrhyw ffaith ac yn sicr yn cyd-fynd yn well â’r ddelwedd a dynnodd ohoni. Yn amlwg fe’i cyfareddwyd gan enigma’r fath ddrychiolaeth. Mae’n ei chymharu â thrychfil prin ac â phryfyn lliwgar; mae ei hymddangosiad yn denu a chodi pwys i’r un graddau. Synnwn ninnau at nifer ei modrwyau, gan bendroni yr un pryd beth yn hollol yw’r staeniau ar ei bysedd. Nicotin, efallai? Neu olion y colur a rwbiodd mor afradlon ar ei hwyneb cyn cychwyn allan? Dyna fyddai’r esboniadau mwyaf derbyniol, beth bynnag. Gyda pharchedig ac eironig ofn, coronodd Brassaï hi’n ‘frenhines ar greaduriaid nosweithiol Montmartre’n
Ac mae’n rhaid cydnabod fod Brassaï’n arbenigwr ar y byd hwn. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1933, cyhoeddwyd Paris de nuit, cyfrol o’i ffotograffau ac erthyglau a ddarluniai ac a ddisgrifiai isfyd y ddinas ar ôl iddi dywyllu. Cyflwynodd olwg amgen i’r hyn a gyhoeddwyd ar y cardiau post a’r hyn a welai’r twristiaid, y maestrefwyr a’r sawl a glwydai’n gynnar. Ymysg ei gast mae mynychwyr y bals musettes a’r bariau hoyw, glanhawyr y carthbyllau, y sioeferched, y digartref, y puteiniaid a’u cwsmeriaid. Ac yn eu plith mae hynafedd a chrandrwydd coegwych la Môme Bijou’n ei dyrchafu’n frenhines deilwng drostynt i gyd.
*
Tua thrigain mlynedd ynghynt, cyfarfu’r ffotograffydd o Gymro, John Thomas, â chymhares i la Môme Bijou yn Llangollen. Fel Brassaï, roedd yntau ar sgowt am luniau. Byddai’n gadael ei stiwdio yn Lerpwl o dro i dro er mwyn ehangu ei gwsmeriaeth ymysg Cymry’r berfeddwlad a chael ychydig o seibiant o’r ddinas. Ar y tripiau hyn, yn ogystal â derbyn comisiynau newydd, byddai John Thomas hefyd yn tynnu lluniau’r sawl na fynnent gael eu hanfarwoli ac na allent fforddio portread i’w gyflwyno i’w cyfeillion ar ffurf y cartes de visite ffasiynol. Un o’r rhain oedd y gardotes Pegi Llwyd.
Nid oedd iddi’r un rhwysg na sglein â la Môme Bijou, a waeth pa mor lliwgar ei gorffennol, byddai y tu hwnt i ddychymyg holl drigolion Llangollen ei darlunio mewn car a cheffyl yn cymryd tro yn y Bois de Boulogne. Yr hyn a rannai’r ddwy oedd eu tlodi a’u hamharodrwydd – a hysbysebir i bawb diolch i’w hagwedd a’u hymddangosiad hynod – i gamu o’r neilltu’n wylaidd i neb.
Fel y rhyfedda Brassaï at gymhlethdod addurniadau la Môme Bijou, felly, mewn disgrifiad geiriol, y ceisiodd John Thomas wneud synnwyr o’r holl haenau o garpiau a wisgai Pegi Llwyd. Wrth graffu ar ei llun, gwerthfawrogwn nad oedd hynny’n hawdd ei wneud. Sonia’r ffotograffydd am ‘amryw glytiau heb eu heisiau’ a ‘het fechan am ei phen, heb ddim cantal, a chlwt ar ei thop o liw arall, a thwll yn hwnnw, ac weithiau peth o’i gwallt allan trwyddo’. Fel pob tlotyn arall ac fel la Môme Bijou’n ddiweddarach, gwyddai Pegi Llwyd mai dim ond trwy wisgo pob tameidyn o’i heiddo yr oedd modd sicrhau eu diogelwch.
Mae disgrifiad John Thomas, fel un Brassaï, yn goeglyd. Mae’n trafod carpiau’r gardotes yn nhermau sydêt ei gyfnod: ‘Business Suit’ yw ei gwisg a’i phais ‘yn ffurfio math o fringe ... o ddefnydd gwahanol i’r original, for an effect.’
Ond er mor afraslon yr ymddengys ymateb y ddau ffotograffydd, doedd bosib na sylweddolent werth a grym y delweddau a gyflwynwyd iddynt ar ffurf la Môme Bijou a Phegi Llwyd. Wedi’r cwbl, roedd y ddwy yn gelfweithiau cyflawn, eu hymddangosiad yn cyfleu, nid yn unig eu personoliaeth a’u gwreiddioldeb, ond hefyd wirionedd plaen eu hanes: yr holl eitemau anghydnaws a wisgent yn grynhoad blynyddoedd o dlodi ac o orfod byw fel piod. Ar un wedd, gellir dadlau mai camp Brassaï a John Thomas, yn syml iawn, oedd cydnabod a chofnodi golwg a bodolaeth y fath gymeriadau.
Serch hynny, mae’n werth cofio mai fel rhan o waith ehangach y tynnwyd lluniau la Môme Bijou a Phegi Llwyd. Roedd Brassaï eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o gofnodi bywyd amgen ei ddinas fabwysiedig, a thebyg ei fod yn y broses o gynllunio ei gyfrol pan gyfarfu â la Môme Bijou. O’i gweld, roedd yn amlwg bod iddi le yn ei gasgliad: sylweddolodd ei fod wedi canfod sbesimen anfarwol – a chofier ei ddisgrifiad ohoni fel ‘trychfil prin’ – i gyfrannu at ei weledigaeth o Baris ac addurno'r weledigaeth honno.
Ar yr olwg gyntaf, ymddengys cymhelliant John Thomas yn fwy amwys. Yn wahanol i Brassaï, ni chyhoeddodd ffoto-gyfrol fyddai’n gosod cyd-destun cadarn i Begi Llwyd. Y dybiaeth gyffredin yw mai ar hap a damwain yn unig y dewisodd ddarlunio’r fath nifer o gymeriadau tlodaidd fel Pegi Llwyd, sy’n ymddangos megis antidot i’w luniau arferol o barchusion ac enwogion. Er na wyddom i sicrwydd beth oedd cynllun John Thomas, eto, ar ddechrau ei yrfa fel ffotograffydd masnachol, mynegodd fod ganddo ‘olwg ychydig yn ehangach ar yr alwedigaeth’, sy’n awgrymu awydd i ddatblygu ei waith y tu hwnt i gonfensiynau’r portread bwrgeisaidd arferol. Yn ddiweddarach wedyn, nododd obaith, nas gwireddwyd, i gyhoeddi ‘album coffadwriaethol Cymreig’. Ffoto-gyfrol, felly – fel Paris de nuit Brassaï – fyddai’n cofnodi a choffáu ei gyd-Gymry, gan gynnwys efallai’r sawl a wthiwyd, fel y gwthiwyd Pegi Llwyd, fwyfwy i’r cyrion, wrth i Gymry blaengar Oes Fictoria gofleidio ac efelychu cynnydd ac uchelgais y cyfnod.
O ystyried y ddwy ddelwedd yng nghyd-destun gwaith y ddau ffotograffydd, gwelwn mai cyfraniad at brosiect personol a chreadigol ydynt yn hytrach na chomisiwn neu waith masnachol. Nid gwerthu eu gwasanaeth i la Môme Bijou na Pegi Llwyd a wnâi Brassaï a John Thomas, ond yn hytrach, gofyn iddynt gydweithio â hwy. Yn ddelfrydol, wrth sgwrs, mae unrhyw gydweithio’n galw am fesur o ymddiriedaeth, ond gwyddai’r ddwy gyfranwraig cystal â neb beth oedd costau a pheryglon hynny.
Ymhell cyn i Susan Sontag ddatgan, ‘there is something predatory in the act of taking a picture. To photograph people is to violate them’, roedd la Môme Bijou a Phegi Llwyd yn ddigon craff a digon profiadol i fod yn wyliadwrus o’r camera. Yn absenoldeb yr eirfa i’w ddadansoddi, gallent fras-gydnabod cysyniad llawer diweddarach – yr hyn a elwid y sylliad gwrywaidd. Ac er iddynt ill dwy ddenu digon o sylw atynt eu hunain, gwyddent hefyd sut a phryd i wfftio’r busneslyd a’r bygythiol. Waeth pa mor llyfn a huawdl oedd perswâd y ffotograffwyr, glynodd y ddwy at eu hamheuaeth, hyd yn oed ar ôl iddynt ddod i’r casgliad cyndyn, ‘Beth sydd gen i i’w golli?’.
Mae’n amlwg o’r edrychiad cyntaf fod y ddau lun yn datgelu bwlch anghyfartaledd aruthrol rhwng y gwrthrych a chrëwr y ddelwedd, a hynny o safbwynt rhyw, oedran, dosbarth, modd, ac (mae’n debyg) addysg. Ac eto tanseilir hyn oll gan grintachrwydd y ddwy hen wreigan tuag at y broses a’u amharodrwydd i ildio’n wasaidd i’r lens.
Bron na ellir dychmygu geiriau unrhyw un o’r ddwy wrth wynebu’r ffotograffydd: ‘Paid â meddwl am eiliad ’mod i mor ddiniwed â llyncu dy ffalsio na chredu y gwnaiff y teclyn yna gipio fy enaid...’ a chyda hynna saethir edrychiad Medwsaidd i lygad y camera. Yn y pen draw, a thrwy fod yn hwy eu hunain, cynigient lawer mwy na’u bwriad: cyfraniad a oedd y tu hwnt i obeithion Brassaï a John Thomas hefyd. Gochelgarwch a herfeiddiwch la Môme Bijou a Phegi Llwyd sy’n creu’r tensiwn a wna’r lluniau hyn mor gofiadwy.
Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfeddol, mae Brassaï a John Thomas yn nodi’r union un coda i’w cysylltiadau â la Môme Bijou a Phegi Llwyd. Pan gyhoeddwyd Paris de Nuit a phan arddangoswyd llun Pegi Llwyd yn ffenestr stiwdio John Thomas, cythruddwyd y ddwy hen wreigan i’r eithaf. Rhuthrodd la Môme Bijou at swyddfa’r cyhoeddwyr. Yn ôl Brassaï (er nad oedd yno ar y pryd) collodd la Môme Bijou, yn ei gwylltineb, bob chwa o’i chyfaredd gynt ac roedd golwg go ddychrynllyd arni yng ngolau dydd. Yn yr un modd, â’r un ffyrnigrwydd, cornelodd Pegi Llwyd John Thomas ei hun a’i fygwth â’i ffon. O weld eu portreadau ar goedd, mynnodd y ddwy daliad am eu trafferth a setlwyd hynny i’r ddwy yn y man a’r lle.
Nid oes cofnod o’r tâl. Swm pitw, mae’n debyg: digon, efallai, i brynu llymaid o win neu dafell o gaws a bara. Digon o waith ei fod yn ddigon i ychwanegu gemau go-iawn at gasgliad la Môme Bijou na siwt o ddillad cyflawn ar gyfer cefn Pegi Llwyd. Hen ddiweddglo llipa, anfoddhaol, felly, a buddugoliaeth y ddwy yn cadarnhau eu statws truenus a’u troi, drachefn, yn dipyn o destun sbort.
Gwell o lawer troi’n ôl at y lluniau a thrwy hynny, edmygu eu craffter, eu hystyfnigrwydd a’u herfeiddiwch. Gwell fyth: gorfoleddwn am iddynt wneud y gorau o un o’r ychydig fanteision a ddaw i ferched wrth iddynt heneiddio – y rhyddid i falio dim.
Mae Ruth Richards yn awdur dwy nofel: Pantywennol (2016) a Siani Flewog (2018), a gyhoeddwyd ill dwy gan wasg y Lolfa. Mae wedi cwblhau doethuriaeth yn ddiweddar ar y berthynas rhwng ffotograffiaeth a’r nofel Gymraeg yng Nghymru yn ystod Oes Fictoria.
Manylion yr ail lun: Pegi Llwyd, c. 1875, gan John Thomas (o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru)