Llythyrau Haf 2022
O ‘Jeriwsalem y Prut’ i Flaenau Ffestiniog
Annwyl Olygydd,
Hynod ddifyr oedd darllen ysgrif Mererid Puw Davies, ‘Tserniftsi: Trwy’r ffenestri, dros y moroedd’ yn rhifyn gwanwyn O’r Pedwar Gwynt.
Dinas y gororau gwaedlyd rhwng Rwsia a’r gorllewin yw Tserniftsi, fel Lfif gyfagos. Adlewyrchir hyn yn y newid enwau cyson a fu yn yr ardal.
Ni wyddwn am y disgrifiadau ‘Fienna Fechan’ a ‘Jeriwsalem y Prut’ tan i mi ddarllen yr ysgrif dan sylw. Hwyrach y bydd o ddiddordeb i’ch darllenwyr bod un o feibion Iddewig y Jeriwsalem hon wedi dilyn gyrfa gyfreithiol lwyddiannus yn Fienna, cyn canfod lloches a bedd ym Mlaenau Ffestiniog. Ei enw oedd Achill Rappaport ac mae braslun o’i hanes wedi ei gyhoeddi ar wefan O’r Pedwar Gwynt ar 31 Awst 2018 o dan y penawd ‘Achill Rappaport 1871-1941’.
Gresyn yw sylweddoli bod hanes, unwaith eto, yn ailadrodd ei hun, yn y ‘Gororau gwaedlyd’ tu hwnt i’r Carpathiaid.
David Elwyn Lewis
Dolgellau