Colofnau

Maria Gruzdeva ar ymylon Rwsia

Darllen llun

Maria Gruzdeva

Border - A Journey Along the Edges of Russia

Schilt, 356tt, €35, 2016

Geoff Young

Amser darllen: 3 munud

05·12·2020


 

Y flwyddyn 1989 oedd hi. Roedd y lôn drol a ddilynais i Rachaf, pentref colchos 30 milltir i’r gorllewin o Minsg, yn torri ar draws fforest fedw. Tan 1939, roedd y darn hwn o dir yn rhan o Wlad Pwyl ac yna, rhwng 1941 a 1944, yn rhan o’r ardal estynedig a oedd dan law’r Almaenwyr ar y pryd yng ngorllewin yr Undeb Sofietaidd. Roedd dwyster yn perthyn i’r lle, oherwydd fy mod yn ymwybodol o ffyrnigrwydd gwrthsafiad hir y partisaniaid yma, yn arbennig pan gyrhaeddais safle lladdfa Chatin (22 Mawrth 1943). Ceir llawer o ffiniau cyffelyb yn y rhan hon o ‘Ewrop’, sydd fel petaent mewn cyflwr parhaus o newid, dan oruchwyliaeth filitaraidd ddi-ben-draw. Ac mae ffin tir Rwsia, sydd dros 20,000 km o hyd, yn hwy na ffin unrhyw wlad arall, namyn Tsieina. 

Byddai creu record ffotograffig o ‘ymylon Rwsia’ yn her i unrhyw ffotograffydd. I un a anwyd ar gorn glasnost a perestroica, yn 1989, roedd yn uchelgeisiol. Ond nid yw gwaith ymchwil trwm a’r paratoadau hanfodol ar gyfer prosiect o’r fath yn ddigon i ddychryn Maria Gruzdeva, er ei bod yn cyfaddef na fyddai wedi bwrw ati pe gwyddai o’r dechrau faint y dasg. 

Ym Mosgo y’i ganwyd ac wedi astudio ffotograffiaeth yn Llundain, setlodd yno. Pan geisiais gysylltu â hi ynghylch ‘Darllen llun’, atebodd ei bod ‘ymhell tu hwnt i’r Cylch Arctig heb fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd na fy ffeiliau’. Fel taith ethnograffig y disgrifir y daith arbennig hon ar hyd ymylon Rwsia ganddi. Parodd am bedair blynedd, o 2011 hyd 2015. Rhaid oedd iddi negodi pob ymweliad safle, un ai â’r fyddin neu â’r tywydd.
 


 

Wedi gadael dinas Sotsi, teithiodd Gruzdeva dros y ffin i’r de, i Gali, tref fechan yng ngwladwriaeth de facto Abchasia a oedd tan 2009 yn rhan o Ardal Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Yn Abchasia y tynnwyd y tri llun hyn, yn neuheubarth y Cawcasws ar lannau’r Môr Du. Mae statws Abchasia wrth galon y berthynas rhwng Georgia a Rwsia, a Rwsia yn ei chydnabod fel talaith annibynnol. Ond fe’i hystyrir gan fwyafrif aelodau’r Cenhedloedd Unedig yn rhan o Georgia. Mewn egwyddor, mae ysgolion cynradd ac uwchradd Georgia yn gallu addysgu trwy gyfrwng yr ieithoedd Georgeg, Azerbaisianeg, Armeneg a Rwsieg. Yn Abchasia, er gwaethaf polisi’r llywodraeth de facto i hyrwyddo addysg trwy gyfrwng yr iaith Abchaseg (ar draul Georgeg), gwelwyd yn hytrach gynnydd mewn dysgu trwy gyfrwng y Rwsieg. Mae’r rhanbarth yn dioddef yn gyson o ymrafael a gwrthdaro, megis rhwng 1992 a 1993 pan fu raid i nifer fawr o Georgiaid ethnig adael Abchasia. Ar hyn o bryd, mae’r ardal ehangach yn y newyddion eto o ganlyniad i’r rhyfel yr hydref hwn rhwng dwy wlad gyfagos sy’n rhannu ffin â Georgia, sef Azerbaisian ac Armenia – dros Nagorno Karabach.
 


 

Lluniau heb ragfarn, heb sentiment yw’r ffotograffau sy’n ffrwyth y pedair blynedd hyn a dreuliodd Gruzdeva yn rhoi ei holl sylw i bellafion Rwsia. Fe’u cesglir ynghyd yn ei chyfrol Border – A Journey Along the Edges of Russia a gyhoeddwyd yn Amsterdam yn 2016. Yr hyn sy’n rhyfeddol yw iddi weithio ar hyd y ffordd drwy ddefnyddio ffilm, nid â chamera digidol. Fe aeth ati i lenwi tudalennau ar dudalennau o’i llyfr â chofnodion ysgrifenedig yn ogystal, ochr yn ochr â channoedd o brintiau ‘cyffwrdd’ fformat sgwâr, ac mae’r nodiadau hyn yn rhan annatod o’r gyfrol. Arweinir y darllenydd gan ei sylwadau difyr, treiddgar i’r holl lefydd yr ymwelodd â hwy, ar hyd y 6,000 km a deithiodd. Mae ei llygad ffotograffydd yn amlwg:

A soldier trod hurriedly past, straight legs and broad precise strides, head bowed and folder in hand. Then, emerging from the shade and into a sunlit stretch of street, he stopped dead and raised his face to the sun, transfixed. A deep breath and a fraction of a second later he was striding determinedly onwards, as if nothing had happened.

Anodd dychmygu golygfa a fyddai’n cyfleu’n well gyfyng-gyngor barddonol a dinistriol yr hyn y cyfeiria Gruzdeva ato fel yr ‘ymwybyddiaeth Sofietaidd, y mae Rwsia heddiw yn ymdrechu i’w chynnal ond hefyd i’w goroesi’.

Sefydlodd Geoff Young a Diane Bailey Ffotogaleri y Gofeb, Machynlleth, yn 2017. Y nhw hefyd yw perchnogion Galeri a Siop Lyfrau Penrallt yn yr un dref.

Gyda diolch i’r cyhoeddwr, Maarten Schilt, am ddarparu’r lluniau. Hawlfraint y lluniau: Maria Gruzdeva.

Fel taith ethnograffig y disgrifir y daith arbennig hon ar hyd ymylon Rwsia ganddi. Parodd am bedair blynedd

Pynciau:

#Rhifyn 14
#Ffotograffiaeth
#Rwsia
#Darllen llun