Gwersyll Neprošteno, Macedonia
Darllen lluniau Melanie Friend

Vlora a Fatjon, 15 Mehefin 1999 yng ngwersyll Neprošteno, Macedonia / © Melanie Friend
Rydw i’n craffu ar y plant. Maent yn sefyll yn agos at ei gilydd, eu dwylo wedi eu cau yn dynn, a’u llygaid yn edrych arnaf, eu haeliau ymhleth. Maent wedi bod yng ngwersyll ffoaduriaid Neprošteno yn ddigon hir i ddod yn gyfeillion. Vlora a Fatjon. Tair oed. Vlora, ei llaw wedi ei dal yn erbyn ei chorff, mewn osgo amddiffynnol, ac yn pwyso ar Fatjon. Yng ngwanwyn 1999, bu rhaid iddynt ddianc o Kosovo i ddiogelwch Macedonia.
Fis Mai a Mehefin y flwyddyn honno treuliodd y ffotograffydd Melanie Friend ddeng niwrnod yng ngwersyll Neprošteno. Yng nghwmni cyfieithwyr lleol bu’n siarad am oriau ‘efo pobl roeddwn i’n medru teimlo cysylltiad efo nhw – roedd eu llygaid dwys yn pefrio’. Magwyd digon o ymddiriedaeth rhyngddynt nes y cytunodd mam Vlora a thad Fatjon iddi hi dynnu portreadau o’u plant.
I’r oedolion, lluniau’r teulu yn aml iawn oedd yr eiddo pwysicaf a’r hyn oedd rwyddaf i’w cludo efo nhw. Mae’r plant yn gweld colli eu cyfeillion gartref. Mae rhai wedi gwneud ffrindiau newydd. Maent yn ei gweld hi’n chwith heb eu teganau. Tydi derbyn tegan yn anrheg ddim yr un peth o gwbl. Mae merch ifanc (Edita yn y llun) yn cadw ‘sgert las fechan a gafodd ei gwneud i mi gan fy nain pan oeddwn i’n flwydd oed’; ac mae hogyn yn peintio llun o dŷ efo gardd ‘drwy’r amser’. ‘Dwi jyst isio mynd adra,’ meddai.
Dechreuodd Melanie Friend ei gyrfa fel ffotograffydd newyddion, ac o fewn dim roedd wedi ei dal yn hualau amserlen frys cyfryngau newyddion. Bu ei hymweliad cyntaf, pedwar diwrnod, â Kosovo yn 1989 yn brofiad ffurfiannol iddi, meddai. Yn ystod y 1990au, dychwelodd nifer o weithiau. Ar y pryd, o dan drefn ormesol Slobodan Milošević, roedd peryg i’r deunydd ffilm gael ei gymryd, a’r cyfieithwyr lleol a’u gyrwyr a oedd yn wynebu’r bygythiad mwyaf.
Yr adeg honno, roedd llawer o’r gorthrwm ynghudd. Aeth Melanie Friend ati i dynnu lluniau o’r tai a’r gerddi lle bu cyrchoedd yr heddlu. Yn 1996, arddangoswyd y lluniau hyn i gyfeiliant trac sain o leisiau pobl yn siarad am eu profiadau. Erbyn 1999, roedd rhai o’r bobl y cyfarfu â hwy ac y daeth i’w hadnabod wedi gorfod ffoi, yn ffoaduriaid felly neu mewn gwersylloedd i ffoaduriaid. Rheswm i ddychwelyd. Yn Neprošteno, yn hytrach na gweithio fel ffotograffydd newyddion, penderfynodd fynd ati yn bwyllog, yn arddull lluniau stiwdio, gan gyfweld yn araf y bobl yr oedd yn tynnu eu lluniau a chan gymryd ei hamser i ddod i’w hadnabod fel pobl. Wedyn dychwelodd i Kosovo ac ailgyfweld â nifer o’r ffoaduriaid y cyfarfu â hwy am y tro cyntaf yn y gwersylloedd i glywed am eu profiadau yn dilyn y rhyfel.
Mae archif Melanie Friend bellach yn rhan o gasgliad hanesyddol Sefydliad Bishopsgate yn Llundain. Trwy roi eu sylw yn bennaf i fywydau merched a phlant, gan gyfuno tystiolaeth lafar â’r ffotograffau, a chan bennu sut ac yn lle y dylid arddangos eu lluniau, mae cyfraniad ffotograffwyr benywaidd fel hyn wedi gweddnewid ffotograffiaeth ddogfennol gan ysgogi newid ac agor y maes. Mae’r arddangosfeydd a’r llyfrau a ddatblygodd yn sgil hynny yn gyfle i fyfyrio ar yr esblygiad a fu.
Yr hyn sy’n drawiadol i mi ydi’r ymrwymiad hir dymor a’r cyfrifoldeb y mae Melanie Friend yn ei deimlo tuag at ei gwaith. Nid yw’n syndod i’w chyfrol No Place Like Home: Echoes from Kosovo, a gyhoeddwyd yn 2001, gael ei chydnabod a’i chylchredeg ymysg y bobl hynny a gafodd eu heffeithio gan y gwrthdaro. Aeth ei chofnod o’r chwe blynedd bylchog a dreuliodd yn eu cwmni yn rhan o’u hanes hwythau.
Beth am Vlora a Fatjon? Mae’r ffotograffydd yn dweud wrthyf iddynt oroesi, eu bod bellach yn oedolion. Llwyddasant i ddychwelyd adref. Mae Luarda, a welir yn un o’r lluniau uchod, wedi mudo i’r Deyrnas Gyfunol, ac yn dal i fyw yma. Mae Melanie yn cadw cysylltiad ag Edita. Doedd pawb ddim mor ffodus, ond i’r rhai a fu, mae’r trawma yn dal yn rhan o’u bywydau. Yn Kosovo, mae materion ynghylch sofraniaeth a rhwygiadau ethnig yn dal i rygnu. Nid pobl wedi eu ‘hyrddio allan o hanes’, chwedl Czesław Miłosz, mo’r rhain. Mewn byd lle mae alltudiaeth yn dod yn brofiad mwy cyffredin, gwyddai’r bobl hyn, pan dyn-nwyd y lluniau, eu bod wedi dod yn rhan o hanes.
Mae Diane Bailey yn un o berchnogion Galeri a Siop Lyfrau Penrallt ym Machynlleth.