Colofnau

Rhywiaeth y rhywogaethau

Geiriau

Dylan Foster Evans

Amser darllen: 5 munud

05·12·2022

Turdus merula, Turdus torquatus ... (Flickr/Biodiversity Heritage Library)

 

‘Be’ ydi hwnna Dad?’
‘Aderyn du.’
‘Ond mae’n frown.’
‘Ydi, mae’n frown.’
‘Pam wyt ti’n ei alw’n aderyn du os ydi o’n frown?’
‘Wel, mae pob aderyn du sy’n geiliog – neu’n dad – yn ddu. Ond mae pob iâr – neu fam – yn frown.’
‘Beth am y cywion?’
‘Wedi iddyn nhw fagu plu, maen nhwytha’n frown hefyd.’
‘Felly mae aderyn du fel arfer yn frown?’
‘Wel, ydi.’
‘Pam wyt ti’n ei alw’n aderyn du eto?’
‘Ymm ...’

Sgwrs wneud yw hon, wrth gwrs, ond un ddigon credadwy er hynny. Rhyfedd iawn ar un olwg yw galw aderyn sydd gan amlaf yn frown yn ‘aderyn du’. A byddai modd llunio sgwrs debyg ar sail enw cyffredin arall ar yr aderyn hwn, sef y bigfelen. Dim ond y ceiliogod sydd â phig felen, ac ni fydd hyd yn oed y rheini’n datblygu’r lliw euraid hyd nes iddynt oroesi eu gaeaf cyntaf.

Pam felly y dewiswn freintio’r ceiliog wrth enwi’r rhywogaeth hon? Am fod y plu du a’r gwrthgyferbyniad â’r big a’r fodrwy euraid o gwmpas y llygaid yn fwy trawiadol na phlu brown tywyll yr iâr a’r rhai ifanc – am wn i. A’r ceiliog, wrth gwrs, sy’n canu, gan ei ddangos ei hun yn glir inni ar ben coeden, perth neu erial deledu.

Mae enw arall eto ar yr aderyn hwn yn Gymraeg, a hwnnw a gawn gan R Williams Parry yn ei gerdd enwog ‘Angau’:

Y mwyalch pêr â’i osgo
       Mor brydferth ar y brig,
Mae pwt o bridd y berllan
       Yn baeddu aur dy big ...

Dyma’r ceiliog mwyalch, yn canu’n braf a’i lygaid ‘fel dwy em, / Tu mewn i’w haur fodrwyau ...’ Ond hyd yn oed i Carneddog, yn Cymru’r Plant yn 1903, roedd mwyalchen fel gair llafar yn ddieithr ‘yng nghwmpasoedd yr Eryri fawr’. Gair ydoedd a berthynai i gryn raddau i fyd llenyddiaeth y gorffennol, er bod Carneddog yn iawn i ddweud mai diddorol fyddai gwybod pa un ai aderyn du ynteu mwyalchen a oedd ar lafar yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Yn sicr, roedd mwyalchen wedi goroesi nid nepell o’r Eryri fawr, er mewn ffurf dra gwahanol – cofnododd O H Fynes-Clinton gialch, gialchan ac y wialchan yn ei gasgliad o eiriau llafar ardal Bangor (1913).

I adarwyr Cymraeg eu hiaith, mwyalch – nid aderyn du – yw’r enw swyddogol ar y rhywogaeth hon. Ac yn gydymaith i’r Mwyalch cyffredin, sydd â’r enw gwyddonol Turdus merula, cawn ei gefnder llawer prinnach, sef Mwyalch y mynydd (Turdus torquatus). Mae hwn yn nythu mewn rhai uchelfannau creigiog yn y gogledd, er iddo ddiflannu o barthau deheuol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Dyma Ring ouzel y Sais – mae ouzel neu ousel yn enw hynafol ar y mwyalch sydd yn dal i fod ar lafar mewn rhannau o Loegr. ‘The ousel singing in the woods of Cilgwri’ meddai R S Thomas yn ei gerdd ‘The Ancients of the World’, wrth gyflwyno Mwyalch Cilgwri, un o’r ‘Tri Anifail Hynaf’ yn chwedl Culhwch ac Olwen, i gynulleidfa Saesneg. Mae’r enw ouzel yn gytras a chyfystyr â’r Almaeneg Amsel, ac efallai hefyd â’r Lladin merula (a welir yn enw gwyddonol y Mwyalch cyffredin) ac o bosibl â mwyalch ei hun.

Gellid efallai gwyno bod naturiaethwyr yn mynnu defnyddio enw digon anghyfarwydd am aderyn mor gyffredin. Ond rhaid cydnabod bod yr enw mwyalch, yn yr achos hwn, yn cynnig dihangfa inni rhag patriarchaeth ein tacsonomeg. Mewn geiriau eraill, mae tuedd gref iawn gennym i enwi rhywogaethau ar sail ymddangosiad y gwryw, neu i ddefnyddio enwau gwrywaidd pan fo’r rhywogaeth yn arddangos nodweddion ystrydebol ‘wrywaidd’. Meddyliwch am dri o’r adar mwyaf cyffredin sy’n cadw cwmni i’r mwyalch yn ein gerddi – Titw tomos las, Robin goch, a Siani lwyd. Mae pob un ag enw personol wedi ei gymryd o’r repertoire dynol. Mae’r Titw tomos yn aderyn lliwgar a bywiog y byddwn yn hoff o’i weld yn hongian yn acrobataidd o fagaid o gnau. Mae Robin yntau’n ffigwr cyfarwydd ac atyniadol, a’i frest goch yn amlwg wrth iddo ganu nerth ei big, hyd yn oed yng nghanol gaeaf noethlwm. Ond beth am yr hen Siani lwyd? Aderyn diolwg, brown ydyw, yn cropian yn y dail marw ac yn llechu dan y perthi. Nid rhyfedd fod Llwyd y baw a Llwyd y dom yn enwau eraill arno, a’r defnydd o llwyd yn deillio o gyfnod cyn benthyg brown i’r Gymraeg. Ond yn wahanol i Tomos a Robin, enw answyddogol yw Siani. Er mor gyfarwydd yw Siani lwyd, o leiaf mewn rhannau o’r gogledd, yr enw a ddewiswyd gan naturiaethwyr am yr aderyn bach hwn – creadur tra diddorol dan ba enw bynnag – yw Llwyd y gwrych. 

Yn ogystal ag enwau cyntaf fel Tomos a Robin, mae enwau unigolion penodol wedi eu hymgorffori mewn enwau Cymraeg ar adar. Dyna ichi George Montagu (1753–1815; Boda Montagu), Thomas Bewick (1753–1828; Alarch Bewick), a William Elford Leach (1791–1836; Pedryn drycin Leach), er enghraifft. Beth sy’n nodweddu’r enwau hyn? Maent bron iawn i gyd yn ddynion – rhaid diolch i Sarah Amherst, iarlles gyntaf Amherst (1762–1838; Ffesant Amherst) am fod yn eithriad. Maent hefyd yn dod o’r dosbarth canol neu uwch – mae gennyf ofn nad yw’r iarlles yn eithriad y tro hwn. Ac ni ddaw’r un ohonynt o Gymru – er mai pumed iarll Plymouth (ac felly ddeiliad ystadau’r Fan a Sain Ffagan ym Morgannwg) oedd gŵr cyntaf Sarah Amherst. Yn fwy penodol, Saeson yw’r cyfan, bron â bod, ac enwau’r adar yn Gymraeg wedi eu haddasu o’r Saesneg hefyd. Gwir bod ambell eithriad, megis yr Eidalwr Francesco Cetti (1726–78). Mae’r aderyn a enwyd ar ei ôl, sef Telor Cetti, bellach yn ddigon cyfarwydd yng Nghymru, diolch i gynhesu byd-eang (sef un o’r ffactorau sy’n prysur hel Mwyalch y mynydd o’n hucheldiroedd). Cetti’s warbler yw ei enw Saesneg a Cettia cetti yw’r enw gwyddonol. Ond mae’n drawiadol na choffeir Francesco yn ei iaith ei hun – l’usignolo di fiume (‘eos yr afonydd’) yw enw hyfryd y telor hwn yn yr Eidaleg.

Gwelwn felly nad yw enwau Cymraeg ar adar yn anwleidyddol, yn yr ystyr ehangaf. Mae elfen rywiaethol iddynt – a diddorol yw’r gwahaniaeth rhwng yr enw Lady Amherst’s pheasant yn Saesneg a’r enw Ffesant Amherst yn Gymraeg sydd, wrth gwrs, yn cuddio’r ffaith mai menyw oedd yr Amherst hon. (Mae hanes ehangach y teulu Amherst yn cynnwys sawl pennod dywyll yn hanes trefedig-aethu Prydeinig.) Ac mae statws ymylol naturiaethwyr Cymraeg eu hiaith ar hyd y canrifoedd, o gymharu ag enwau mawr y byd Saesneg, hefyd wedi gadael ei ôl. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud wrth enwi rhywogaethau’r byd yn Gymraeg. Ond gan fod gennym erbyn hyn gorff mawr o enwau, tybed a oes cyfle bellach i gamu’n ôl a sylwi ar ambell batrwm y byddai’n fuddiol, efallai, inni ei gwestiynu?

Mae Dylan Foster Evans yn bennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Gwelwn felly nad yw enwau Cymraeg ar adar yn anwleidyddol, yn yr ystyr ehangaf. Mae elfen rywiaethol iddynt

Pynciau:

#Rhifyn 20
#Dylan Foster Evans
#Geiriau
#Adar
#Byd natur
#R Williams Parry