Tserniftsi
Trwy’r ffenestri, dros y moroedd
Paul Celan, cyf. Rosemarie Waldrop
Speech on the Occasion of Receiving the Literature Prize of the Free Hanseatic City of Bremen (1958), Paul Celan, Collected Prose
Carcanet, 68tt, ail-law, 1986

Llun: Caffi Czernowitz (Alamy)
Echnos roeddwn i’n syllu i sgrin ac ynddi resi o ffenestri bach disglair a duon am yn ail â’i gilydd. Mae byd cyfan y tu ôl i bob un ffenest, byd sydd yn y gwyll neu mewn goleuni, gan ddibynnu ar leoliad a chyfarpar y defnyddiwr, yr hyn sydd o’i gwmpas, cyflwr ei iechyd, ei dymheredd emosiynol, sŵn a thawelwch, ymysg llawer o bethau eraill. Mae’n dibynnu ar nerth y signal. Ar gyflenwad y trydan.
Echnos, roedd y ffenestri bach gloyw yn agor ar heulwen canol dydd yn America; ar ddiwedd prynhawn yn Llundain, lle’r oeddwn i; ar fin nos yn yr Almaen sydd awr o’n blaen; ac ar gyfnos hwyr yn Wcráin, sydd ddwyawr o’n blaen. Am y ffenestri tywyll, wn i ddim yn iawn.
Gwn fod dwy o’r ffenestri golau ac un o’r ffenestri tywyll yn agor ar ddinasoedd yn Wcráin. Barddoniaeth a’u hagorodd, a thrwyddynt roedd tri bardd yn darllen eu cerddi, ddwyawr yn y dyfodol. Roedd eu llinellau a’u geiriau yn tasgu’n loyw trwy’r gwifrau sy’n clymu cyfandir, yn chwyrlïo trwy electronau. Yng nghanol y darlleniad mi gododd nadu seiren yn un o’r ffenestri hyn – yn rhybudd o gyrch awyr. Mae’n sain sy’n fferru’r gwaed ac yn drysu pob rheswm, a ninnau wedi pasio trothwy yr 21g.
Pan gychwynnais ar yr ysgrif hon echnos, yn union ar ôl y darlleniad, doedd dim sôn eto am ymosod ar ddinas Lfif, lle’r oedd un o’r beirdd. Yn y bore bach heddiw, prin ddiwrnod a hanner yn ddiweddarach, bu ffrwydriadau mawr ar ei chyrion. Mae’r rhyfel a’i ddrycin yn symud yn gynt na’r geiriau ar fy sgrin ac mae hyn yn arswydus.
Holi yr oedd cynulleidfa’r darlleniad, o’r Almaen i America: beth ydych chi’n ei wneud rŵan, ydych chi’n troi at lyfrau? Does neb yn darllen llyfrau rŵan, meddai’r beirdd, dim ond y newyddion, y newyddion, y trydar a Telegram, eu negeseuon bychain di-ddiwedd sy’n agor ac agor ac agor un ar ôl y llall ar y sgrin. Tra bod y trydan yn dal. Beth ddylen ni ei wneud? Gwnewch beth allwch chi. Beth sydd arnoch chi ei angen? Mae arnom ni angen i chi wrando, medden nhw. Gwrandewch arnom ni. Nid ar farddoniaeth, nid ar feirdd, ond ar ddinasyddion. Ryden ni am i chi glywed ein lleisiau, o’r pen arall i Ewrop, gerllaw. Gwrandewch ar eiriau o Wcráin. Os na allwch chi ddod atom ni, os na chawn ni ddod atoch chi, yna trwy wifrau’r we. Dyma ni’n agor ein ffenestri i chi. Tra bod y trydan yn dal. Gwrandewch, gwrandewch, medden nhw, ar ein lleisiau ni. Clywch ni.
*
Mi fûm i yn Ciif unwaith, am ryw ddiwrnod rhwng y naill le a’r llall, ers talwm, mewn hydref mwyn, a meddyliais mai dyma ddinas fwyaf tawel y byd. Gwawr euraidd drosti. Mi wnaeth argraff annileadwy. Fel arall, anghyfarwydd i mi yw’r holl ddinasoedd a threfi a phentrefi ac anheddau sydd yn y newyddion rŵan, llefydd mawr a mân yr oedd cymaint o’u henwau’n ddiarth inni cyn hyn. Rydym yn dysgu enwau llawer ohonynt am y tro cyntaf, bob dydd. Erbyn darllen y llinellau hyn, byddwn wedi dysgu llu o enwau newydd eto. Gwers ddaearyddiaeth drychinebus.
Ond mae dinasoedd a thirluniau Wcráin yn byw mewn ffyrdd gwahanol, hefyd – yn y dychymyg. Fel Odesa fawr rhwng tir a môr, fel llong fawreddog o’r oesau aur. Neu Tserniftsi. Dinas ydi Tserniftsi yng ngorllewin Wcráin heddiw, ar lan afon Prut ac am y ffin bron iawn â Rwmania a Moldofa. Yn 2021, roedd 265,471 o bobl yn byw yno, sef rhyw dipyn yn fwy nag sydd yn Abertawe. Mae yno brifysgol adnabyddus sy’n un o safleoedd treftadaeth y byd gan UNESCO, dwy theatr, deg neu fwy o amgueddfeydd, 31 o lyfrgelloedd, colegau cerdd a chelf, a chant a mwy o addoldai. Yn ôl ei lluniau ar-lein, dinas o adeiladau lliwiau’r gwanwyn ydi hi, ac mae yno ôl golud canolbarth Ewrop y 19g, yn ogystal â phopeth modern: maes awyr, ffyrdd osgoi, gweithleoedd. Heddiw, o leiaf, nid oes sôn bod yno ymladd ond pwy a ŵyr, erbyn i’r ysgrif hon gyrraedd clawr?
Dinas hynafol yw Tserniftsi, yn dyddio o’r oesau cyn bod ein gwledydd fel y maen nhw heddiw. Am ganrifoedd, bu o dan reolaeth Rwmania a Gwlad Pwyl. Czerniowce yw enw’r ddinas mewn Pwyleg. Ers diwedd y 18g a hyd 1918 roedd yn rhan o Ymerodraeth Habsbwrg, a adwaenid yn nes ymlaen fel teyrnas Awstria-Hwngari. Czernowitz y’i gelwir mewn Almaeneg, a Csernovic mewn Hwngareg. Ar ôl diddymu Awstria-Hwngari yn 1918, yn sgil y Rhyfel Mawr, dywedir na wyddai neb yn y ddinas yn iawn yma mha wlad yr oedden nhw’n byw, am flwyddyn neu ddwy, ond mewn gwirionedd daethai’n rhan o Rwmania, dan yr enw Cernăuți. Meddiannwyd y ddinas wedyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan y Fyddin Goch, yn 1940, cyn iddi gael ei chipio yn ôl gan Rwmania yn 1941, am bedair blynedd arall. Wedi hynny, a diwedd y rhyfel, daeth yn rhan o Wcráin yn yr Undeb Sofietaidd, a Tsernofitsi yw ei henw mewn Rwsieg. Ers 1991, mae Tserniftsi wedi bod yn rhan o Wcráin annibynnol.
Felly buasai’r neb a aned yn Czernowitz yn 1911, dyweder, ac a fu byw yn bedwar ugain oed, wedi newid ei ddinasyddiaeth bum gwaith yn ystod ei oes, byddai wedi bod yn ddinesydd i bedair neu bump neu chwe gwladwriaeth wahanol (gan ddibynnu sut cyfrir hwy; ac yn ddinesydd yr un wladwriaeth, efallai, am gyfnodau bach yma ac acw). Heb symud un cam o’r lle.
O ganlyniad, dinas gyfoethog o amlieithog yw Tserniftsi. Heddiw, siaredir yno yn bennaf Wcreineg, Rwsieg, Pwyleg, Rwmaneg a Moldofeg. Hyd yr Ail Ryfel Byd, galanas yr Holocost a’r newidiadau demograffig enfawr a’u dilynodd, roedd niferoedd helaeth hefyd yn siarad Almaeneg, Romani a Yiddish, ac roedd y ddinas yn ganolfan adnabyddus ym myd llên Almaeneg ei hiaith. Gelwid hi felly yn ‘Fienna Fechan’. A chyn yr Ail Ryfel Byd, roedd hyd at ryw chwarter trigolion y ddinas yn Iddewon, ac enw arall arni oedd ‘Jeriwsalem y Prut’. Mae’n fan arbennig o bwysig yn hanes yr iaith Yiddish, ac yma y cynhaliwyd y gynhadledd ryngwladol gyntaf am lenyddiaeth yr Iddewon, yn 1908, sef ‘Cynhadledd Czernowitz’. Roedd yn feithrinfa bwysig i lenyddiaeth Yiddish fawr.
Dyma ddinas, felly, sy’n groesffordd diwylliant ac iaith a llên amryw iaith canolbarth Ewrop. Dinas sy’n byw nid yn unig yn y byd sydd ohoni, ond ar fapiau ac mewn llyfrau a lluniau. Dinas sydd yn gyforiog o hanes cosmopolitaidd. Yn wir, mae gwefan gŵyl farddoniaeth ryngwladol flynyddol o’r enw ‘Meridian’ a gynhelir yma yn ei disgrifio fel prifddinas ddirgel llenyddiaeth Ewrop.
Mae’r meridian, neu gyhydedd, hwnnw yn ein cyfeirio at un o leisiau mwyaf amlwg llenyddiaeth Tserniftsi, sef y bardd o Iddew Paul Celan (1920–70), oedd ei hun yn ŵr amlieithog, ond sy’n adnabyddus heddiw yn bennaf fel bardd Almaeneg ei iaith. Ar ôl i Cernăuți, fel yr adwaenid y ddinas bryd hynny, ddod o dan ddylanwad y Natsïaid trwy gydweithrediad llywodraeth Rwmania yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu i Celan brofi dyddiau erchyll ghetto Cernăuți a gwersyll llafur, a llofruddiaeth ei rieni gan y gyfundrefn drahaus.
Wedi diwedd y rhyfel, ar ôl cyfnodau byrion yn byw yn Bẃcarest a Fienna, ymsefydlodd Celan ym Mharis. Cofir amdano heddiw fel un o feirdd mwyaf Moderniaeth mewn unrhyw iaith, ac am ei gerddi sy’n gwthio iaith i’r eithaf wrth geisio cyfleu, ymysg pethau eraill, ryw awgrym o ganlyniadau’r Holocost a rhyfel. Mi ysgrifennodd hefyd am farddas, gan gynnwys araith ar achlysur dyfarnu iddo Wobr Georg Büchner, sef prif anrhydedd yr Almaen i lenor Almaeneg ei iaith, yn 1960. Enw’r araith hon yw ‘Y Meridian’, neu ‘Y Cyhydedd’. Ynddi, mae Celan yn dychmygu barddoniaeth fel llinell anweledig sy’n cysylltu, fel cyhydedd ar fap.
Ddwy flynedd ynghynt, yn 1958, derbyniasai Celan un arall o brif wobrau llenyddiaeth Almaeneg, Gwobr Lenyddiaeth Dinas Bremen, a thraddodi araith arall yno, yn ôl yr arfer. Yn yr araith fyrrach honno, mae Celan yn myfyrio ar iaith, a’r hyn a oddefodd iaith lai na phymtheng mlynedd ynghynt. Yn ystod blynyddoedd erchyll y cyfnod Natsïaidd, meddai:
Dim ond unpeth arhosai o fewn cyrraedd, wrth law ac yn ddiogel ymhlith yr holl golledion: iaith. Ie, iaith. Er gwaethaf popeth, arhosodd yn ddiogel rhag colled. Ond bu rhaid iddi fynd trwy ei diffyg atebion, trwy dawelwch dychrynllyd, trwy fagddu filblyg iaith lofruddiol. Aeth trwy. Ni roesai imi eiriau am yr hyn oedd ar droed, ond aeth trwy. Aeth trwy a medru dod yn ei hôl i’r wyneb, wedi ei ‘chyfoethogi’ gan y cwbl.
Diarth iawn yw’r defnydd yma o ‘trwy’; mae’n tynnu ein sylw at y ffaith mai rhywbeth hynod sydd ar waith yn y fan hon. Eironig iawn, wrth gwrs, yw’r sôn am drais yn ‘cyfoethogi’ iaith. Eto, dyma olwg ddwysfyfyriol, heb fod yn sinigaidd, ar iaith a’i gallu i oroesi trais.
Mae Celan yn cloi ei araith trwy sôn am hanfod barddoniaeth mewn perthynas â hanes ansicr, cythryblus, pan na ŵyr neb i sicrwydd pryd na sut y’i darllenir eto:
Efallai bod y gerdd, fel esiampl o iaith, ac felly o ddeialog, yn neges mewn potel a daflwyd i’r môr yn y gobaith – yn sicr nid gobaith cryf – y gall rywsut gyrraedd tir yn rhywle, efallai ar lannau calon. Yn yr un modd, mae cerddi en route: maen nhw yn mynd tuag at.
Rhyfedd hefyd ydi gorffen brawddeg fel hyn, mewn Almaeneg fel yn Gymraeg, ond dyna sydd gan y bardd. Mae’r frawddeg anghyflawn yn galw am rywbeth i’w chyfannu.
Porthladd pwysig yw dinas Bremen, dinas fawr arall rhwng tir a môr, sy’n sefyll fel Odesa ar briffyrdd masnach morwrol y byd, ei chyhydeddau anweledig. Mi ollyngodd Celan y neges hon i’r dŵr yn harbwr Bremen 64 mlynedd yn ôl. Dyma hi’n dod i’r lan, rŵan, ar lannau afon Tafwys, yn yr un modd ag y glaniodd ar draethau cymaint o diroedd eraill. Mi ollyngodd Celan, hefyd, lu o negeseuon eraill, dros flynyddoedd, i ddŵr tywyll y Seine ac afonydd eraill. Ac yn eu blaenau yr aethant, i Fôr Udd, yr Iwerydd, a phob eigion arall; eigion amser, glannau’r galon. Maen nhw’n dal i gyrraedd heddiw, wedi taith trwy hanner canrif a mwy. Tuag at.
Ar un olwg heddiw, fel rhywbeth o oes o’r blaen yr ymddengys sôn am negeseuon mewn poteli sy’n cyrraedd glan hanner canrif a mwy wedi eu lansio i’r dŵr. Mor araf ydi eu symudiad, mewn oes lle mae newyddion, adroddiadau brys, yn ein cyrraedd o’r dyfodol trwy gerrynt y trydan, mewn amrantiad, o Tserniftsi, Melitopol, Cherson, Lfif ac Odesa fawr. Mae meridianau newydd yn ymestyn trwy’r gwifrau.
Ond beth os bydd diffodd y trydan? Diffoddodd eisoes yn Mariwpol. Os felly, bydd y golau yn y ffenestri’n pylu, bob yn dipyn, yn ysbeidiol, yn grynedig. Bydd ffenestri bob yn un yn tywyllu ac yn cau. A hyd yn oed os na fetha’r trydan, beth erys? Pa lestr all gludo geiriau atom ni neu’n holynwyr wedyn, trwy ddŵr afon Prut neu dros y Môr Du? Pa brofedigaethau fydd ynddynt, a beth fydd eu niferoedd? Pa wydr all wrthsefyll y gwynt a’r glaw ar y moroedd mawr? O ba wneuthuriad, a pha lun? Trwy ba eigion tywyll, ac ar ba gerrynt? Pryd fyddan nhw’n cyrraedd ac ymhle? Ac ar y lan, pwy fydd yno i’w casglu?
Gwrandewch arnom ni, meddai’r lleisiau trwy’r sgrin. Clywch ni.
Mae Mererid Puw Davies yn Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).
Llun: Prifysgol Tserniftsi (Wikimedia Commons)