Y Wasg

Gwybodaeth i lyfrwerthwyr

Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts

Wiliam Owen Roberts

Cymru Fydd

O’r Pedwar Gwynt, Nofel, 434tt, £12.99, clawr papur â llabedi, 23 Tachwedd 2022, 978-1-7390975-0-9

10·10·2022

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? 

I Koi a’i ffrindiau, mae’n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater. Ond fel roedd y Cymrics eu hunain yn ei wybod trwy brofiad, mewn gwendid y perffeithiwyd pob mudiad chwyldroadol – hyd at yr awr pan fo’r gwan rhyw ddydd yn codi yn gry.
 



Cyn y Rhyfel yn 2049, pobol ddigon disylw oedd y Cymry, a’u gwlad yn un o daleithiau tlotaf Gorllewin Ewrop – yn wlad nad oedd yn marw, ond nad oedd chwaith yn byw. Roedd angen gweledigaeth wrol i ddychmygu math arall o gymdeithas ar hen dir. Trwy drugaredd, boddwyd dinas Caerdydd o dan y tonnau.

Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a’u gwlad. Ond mae’r hyn sy’n herio Koi yn fwy nag y gall o – na neb arall – ei ddychmygu. All o hyd yn oed hawlio mai yr un person ydi o yn 2100 ag yr oedd o yn 2090?

*

‘Sut le fydd y Gymru annibynnol? Cewch wybod o dreulio degawd yng Nghymru Fydd y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr. Yn wyneb trychineb newid hinsawdd, mae dwy gymdeithas yn brwydro dros yr un darn o dir. Nofel wiw yw hon am fuddugoliaeth cenedlaetholdeb, ac am adferiad y Gymraeg hyd at derfynau’r wlad a thu hwnt. Cymru Rydd, Cymru Gadarn, Cymru Gymraeg!’ 
— Simon Brooks 

‘Craff, carlamus, proffwydol. Mae hon yn nofel fydd yn newid eich meddwl am ddyfodol Cymru. Dyma’n canu darogan newydd.’ 
— Angharad Price 

‘Mewn ymateb i’r cais am froliant i Cymru Fydd, ni fyddaf yn ymuno â chewri ein diwylliant i ganu ei chlodydd. Oblegid, a galwch fi’n hen ffasiwn yn unol â’ch dymuniad, ni chredaf mai baeddu unigolyn na chenedl yw swyddogaeth llên.’
— Derfel Clarke

*

Mae Wiliam Owen Roberts (1960—) yn byw yng Nghaerdydd ac yn awdur chwe nofel: Bingo! (1985), Y Pla (1987), Paradwys (2001), Petrograd (2008), Paris (2013) a Cymru Fydd (2022), yn ogystal â chyfrol o straeon byrion, Hunangofiant (1990). Mae hefyd wedi ysgrifennu cryn dipyn ar gyfer y llwyfan, y radio a’r teledu. Cyfieithwyd ei nofelau i dros ddeg o ieithoedd. Dewiswyd ei waith ar gyfer y flodeugerdd Best European Fiction gan Dalkey Archive ac ar gyfer gwobr gyfieithu English PEN.

Dyma’r gyfrol gyntaf yng nghyfres Llyfrau O’r Pedwar Gwynt fydd yn cael ei lansio yn swyddogol yn ein cartref newydd yn y Senedd-dy, Machynlleth am 6 yr hwyr, nos Wener, 25 Tachwedd 2022.

Cyhoeddir Cymru Fydd ar 23 Tachwedd 2022 gan Lyfrau O’r Pedwar Gwynt.
Nofel, Gwyddonias, 432 tudalen, £12.99, clawr papur â llabedi. 
Ar gael i lyfrwerthwyr yng nghanolfan ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau o 11 Tachwedd 2022 ymlaen.

Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru

Pynciau:

#Wiliam Owen Roberts
#Gwyddonias
#Llyfrau O’r Pedwar Gwynt
#Cymru Fydd