Y noson cyn mynd, mi alwodd. Amser maith i fod i ffwrdd. Mi yrra’ i, meddai hi; wnaeth hi ddim. Hen stori rhy dywyll o’r hanner. A’r hyn na wyddai yntau: mi botsiodd hi â’r cloc mawr yn y dref nes y canai’r holl glychau cofia fi; euro’r tyrrau i…
Noson dywyll, noson fado, mae’r môr yn llyfn fel croen. Ac mae geneth yma’n canu – rhywbeth am sêr a llong a gwyll – mae’r môr yn feddal fel croen. Does ’run gwydryn ar y bar yn gandryll, ’run tram mewn trawiad tu allan. Difrod llai amlwg sydd…
Gellir cysylltu’r twf cyffredinol ym mhoblogrwydd barddoniaeth yn y blynyddoedd diwethaf â’r ffaith ei bod, bellach, yn rhan o fywyd ar-lein miliynau o bobl wrth iddyn nhw sgrolio drwy eu apiau, a hefyd â'r ffaith ei bod yn cael ei defnyddio fel…
Dydw i ddim wedi symud o’r unfan ers awr. Braidd wedi tynnu anadl. Prin wedi gallu gwthio fy mysedd trwm i droi, fesul un, y deg tudalen ar hugain sydd yn fy llaw. Mae Mynd gan Marged Tudur yn gyfrol syfrdanol. ‘Ddechreua i fel hyn’, meddai llinell…
Y mae dramâu teledu Sky Atlantic yn cael nawdd gan Volvo’r gwneuthurwr ceir: gan Volvo fel yr yngenir ef yn Swedeg, yn feddal gyfoethog grwn, Volvo’n cynganeddu â felfed ...
Mae cynifer o straeon, mae’r plentyn wedi colli cownt sut daethon nhw i fod. Daeth rhai o bapur losin, eraill o flwch cardiau pen-blwydd, yn olion hen bryfed i gyd. Daeth un stori epig o acordion. Pan dynnwyd e o’i ges gan y plentyn, rhoddodd wich…
Eleni, mae’r Her Gyfieithu, ynghyd â’i chwaer gystadleuaeth, y Translation Challenge, yn troi ei golygon tuag at y byd Arabaidd, ddegawd wedi’r Gwanwyn hwnnw, ac at ddwy o ieithoedd yr un rhanbarth ...
Y mae’r clawr yn awgrymu cyfrol am gelfyddyd graffeg y 1970au. Y mae’r broliant ar y cefn fel petai’n siarad â disgyblion yn eu harddegau. Ac mae’n amlwg fod y golygyddion am ddihysbyddu pob ongl ar y pwnc a chyflwyno gwyddoniadur cartwnaidd a…
Mae’r plant bach yn cychwyn fis Medi i’r ysgol leiaf yn y ddinas fawr yn dringo’r grisiau cyfyng at ddwy stafell, un cyntedd, piano, ei ffenestri tua thôi dall tai, llathenni ei buarth mor fain ...
Yn llwch y trowyd fy llais o gyfaill; un a gefais yn driw heb ei weld erioed; llais a gefais yn gyfoed, fy llais o gyfaill a oedd yn feudwy, eto’n fydoedd. Tawodd a fferrodd y ffôn; rhewi’n iasoer un noson o Ionawr; daeth distawrwydd; trôi’n…
Bu farw'r bardd Americanaidd Louise Glück yn wyth deg oed ar 13 Hydref 2023. // Yn y bar Americanaidd o’r enw Denny’s o’n i, wedi talu fy mil yen Siapaneaidd am yfed-faint-a-fynnwn-i: te gwyrdd oer, te haidd brown, coffi du cryf, a’r New Yorker ar y…
Mae’r darn cynnil sy’n cychwyn cyfrol gyntaf Casia Wiliam, Eiliad ac Einioes, yn hoelio’r sylw yn syth. Dyma gerdd fer a theimladwy am heneiddio, am dreigl sydyn y blynyddoedd nes fod y ‘pulpud a’r fferyllfa fechan ar bwys y gwely’ yn mynnu hawlio’u…
Cyfrol i’w chroesawu yw hon, ac un y bu cryn ddisgwyl amdani ers ymddangosiad Llyfr Glas Eurig ddeuddeng mlynedd yn ôl. I’r sawl sy’n gyfarwydd â gwefan eurig.cymru, y podlediadau ‘Clera’ a’i awen gynhyrchiol, daw’n amlwg yn syth mai casgliad…
Crwban o ddyn ar y bocs. Mae ei groen yn gynoesol, hynafol o hen, fel pe bai rhyw wynt poeth wedi ei ysu yn blisgyn, yn rhisgl heb sudd a heb sawr. Crwban o ddyn heb gragen, sy’n hercio ei ben yn ddi-ddal tua’r camera i weld ydi’r byd yn dal i fod…
Rydw i wedi bod yn dychwelyd i Aberystwyth yn amlach yn ddiweddar. Nid dychwelyd yn llythrennol (byddai hynny’n annoeth ac yn dor cyfraith heddiw, wrth i mi sgwennu), ond dychwelyd yn y cof. Rhyfedd yw ein perthynas â’n trefi a’n dinasoedd…
‘Gwreiddiau’ oedd testun Coron yr Eisteddfod Genedlaethol 2003 ac mae’r gerdd hon, sydd yn gerdd gomisiwn Eisteddfod AmGen (lle mae gofyn i gyn enillwyr ymateb i’w cerddi gwreiddiol), yn dechrau gyda dyfyniad o’r hen gân werin ‘Y Pren ar y Bryn’.…
Tudalen 2 o 7
Tanysgrifio