Adolygu

Golau a thywyllwch

Barddoniaeth Louise Glück, Gwobr Nobel Llenyddiaeth 2020

Louise Glück

Faithful and Virtuous Night

FSG, 80tt, $8, 2015

Eluned Gramich

Amser darllen: 6 munud

11·11·2020

Louise Glück (Wikimedia Commons)

It had occurred to me that all human beings are divided
into those who wish to move forward
and those who wish to go back.

— ‘Faithful and Virtuous Night’, Louise Glück

Yn y bar Americanaidd o’r enw Denny’s o’n i, wedi talu fy mil yen Siapaneaidd am yfed-faint-a-fynnwn-i: te gwyrdd oer, te haidd brown, coffi du cryf, a’r New Yorker ar y bwrdd o’m blaen. Roedd y geiriau Saesneg fel balm i’m enaid – mor hawdd i’w darllen, yn datgelu eu hystyr i mi heb i mi frwydro yn erbyn y Kanji anhysbys. Ac ar un tudalen, roedd cerdd o’r enw ‘An Adventure’. Llinellau eithriadol o hardd, agored, teimladau heb eu cuddio gan drosiad neu iaith dlws: roedd y llais hwn yn siarad yn eglur ac yn uniongyrchol. Ym mhob cornel o’m mywyd ar y pryd roedd yna gymhlethdod, ond fan hyn, ar y tudalen, roedd symlrwydd. Symlrwydd heb golli yr un mymryn o ddyfnder na grym. Yn ofalus, torrais y gerdd mas, plygu’r tudalen yn sgwâr bach a’i roi yn fy mhwrs. Roedd y tudalen mor denau, mor fregus ... Yn yr ysgol drannoeth, dangosais y gerdd i’m ffrind, bardd arbrofol. Edrych: geiriau hardd o’r Unol Daleithiau. Geiriau sydd yn siarad am y dyfodol, am farwolaeth, am gariad ... Rhaid imi gyfaddef bod fy ffrind wedi troi ei thrwyn ar yr iaith eglur, ond cynyddu'r agosatrwydd rhyngof i a'r gerdd hon wnaeth ei hymateb, rhyngof fi a llais y bardd o’r enw Louise Glück.

Po fwyaf rwy’n dysgu amdani, po fwyaf rwy’n ei hedmygu. Mae’n debyg bod tryloywder a gonestrwydd Glück yn ymestyn o’i barddoniaeth i’w bywyd. Sut gall unrhyw un fethu ag edmygu person a ysgrifennodd (yn ei chyflwyniad i flodeugerdd o farddoniaeth cylchgronau Americanaidd a olygwyd ganddi), ‘I do not believe excellence always finds its way into magazines’ a ‘this book should not be regarded as an anthology of the memorable work of a period, but as a culling’? Am ei phedair cyfrol gyntaf, mae hi’n nodi, yn ddiflewyn ar dafod, ‘the books contained here haven't been changed, which doesn't mean the poems couldn't be improved’. Efallai erbyn hyn y byddwch chi’n gofyn, ond a yw personoliaeth y bardd yn gwneud unrhyw wahaniaeth? Y gwaith sy’n bwysig. Gwir. Ond dywedodd Glück – p’un a yw hi’n iawn neu beidio – ‘poems are autobiography ... divested of the trappings of chronology and comment’. Felly, mae ei bywyd a’i byd-olwg yn rhan o’i gwaith: ei brwydr gynnar yn erbyn anorecsia, y blynyddoedd yr oedd hi’n mynychu sesiynau therapi, y chwaer a fu farw cyn iddi hi gael ei geni, ei phrofiad fel athrawes a darlithydd yn Vermont, ei phrofiad fel mam, ei huchelgais fel merch ifanc nad yw wedi lleihau dros y blynyddoedd. Mae’r profiadau hyn i gyd yna, yn y cerddi. Yn baradocsaidd, mae’r ffaith bod Glück yn gallu cyfeirio at y pynciau personol hyn yn ei cherddi – marwolaeth, barddoniaeth, teulu, cariad, yr ysbryd – yn gwneud ei gwaith yn lenyddiaeth sy’n agored i bawb. Yng ngeiriau beirniaid y Wobr Nobel: ‘[Glück’s] austere beauty makes individual existence universal.’ 

Dwi ddim yn siŵr am y gair ‘austere‘. O leiaf, pan rwyf yn darllen Glück nid oes dim byd oer na chaled yn y cerddi. Efallai bod ‘austere’ yn cyfeirio at y synnwyr o’r hyn sydd ar goll, sydd heb ei ddweud, yr hyn y mae Glück yn ei alw’n ‘the unfinished quality of great poetry’. Nodwedd yw hon sydd yn ein hatgoffa ni o adfeilion, neu o gelf wedi’i difrodi; celf anghyflawn sydd yn cyfeirio at gyd-destun ehangach. Gwelwn hyn ym mhennill cyntaf ‘The Past’, sydd yn disgrifio’r hyn sy’n absennol wrth iddi hi ddisgrifio’r presennol:

Small light in the sky appearing
Suddenly between
Two pine boughs, their fine needles

Now etched onto the radiant surface
And above this
High, feathery heaven – 

Yn y casgliad Faithful and Virtuous Night (2014), mae'r ddelweddaeth yn canolbwyntio ar ddeuoliaeth bur – golau/tywyllwch, dydd/nos, tywod/eira, unigedd/teulu. Megis mewn haiku, mae’r geiriau cyffredin yn datblygu, ac yn adleisio, mewn cyfosodiad â’i gilydd. Mae’r teitl ‘The Past’, er enghraifft, yn rhoi cyd-destun newydd, eang, i’r golau prin yn yr awyr rhwng dwy gangen pinwydden. Symuda Glück yn rhwydd rhwng y neilltuol (y binwydden) a’r haniaethol (y nefoedd), rhwng cof a’r golau anwadal. Eto, yn ‘An Adventure’, mae hi’n symud yn naturiol o syniad eang, annealladwy (marwolaeth) i deimlad cyfarwydd i lawer:

I was, you will understand, entering the kingdom of death
Though why the landscape was so conventional
I could not say. Here, too, the days were very long
while the years were very short.

Marwolaeth yw un o themâu pwysicaf Glück (‘I’ve written about death since I could write’). Mae gen i wastad ddiddordeb yn niweddglo bywyd hefyd – efallai oherwydd nad ydym fel cymdeithas orllewinol yn siarad yn aml am farwolaeth, nes bod hynny wedi datblygu'n fath o dabŵ. Mae ei gwaith yn llawn siwrneiau – trên, cwch, awyren, yn teithio o blentyndod i henaint ac o henaint i blentyndod. Does yna ddim ffin gadarn rhwng y gorffennol a’r presennol chwaith. Mae ysbrydion y meirw yn ei dilyn hi trwy gydol ei bywyd: ‘All around, the dead were cheering me on, the joy of finding them / obliterated by the task of responding to them –’

Nid oedd y dasg o ymateb i feirniaid y Wobr Nobel yn hawdd i Glück chwaith. ‘Drwgdybus’ oedd ei hymateb cyntaf i’r llais Swedaidd ar y ffôn. Mewn cyfweliad gyda’r New York Times, dywedodd hi: ‘I come from a country that is not thought fondly of now, and I’m white, and we’ve had all the prizes. So it seemed extremely unlikely that I would ever have this particular event to deal with in my life.’ Fel ei rhagair i’r flodeugerdd Americanaidd a olygodd, mae Glück yn onest ac yn uniongyrchol ei barn. Nid oes unrhyw beth yn ddiogel rhag ei golwg beirniadol. Er ei bod hi’n hapus i ennill y wobr, mae ei hymateb yn dweud yn glir – paham fi? Paham nawr? Efallai bod ganddi bwynt. Wrth gwrs, mae Glück yn haeddu’r Wobr Nobel, ond mewn gwirionedd mae awduron haeddiannol eraill yn bodoli. Awduron gwyn â bydolwg gorllewinol sydd wedi dod i’r brig dro ar ôl tro yn hanes y wobr Nobel ar gyfer llenyddiaeth. Mae gwobrau arall – fel gwobr y Booker eleni – yn ceisio creu llenyddiaeth Saesneg sydd yn fwy cynhwysol, ond nid yw’n ymddangos bod hyn yn digwydd gyda’r Nobel. Fel llinellau cyntaf yr ysgrif hon, ‘all human beings are divided / into those who wish to move forward / and those who wish to go back’. Mae’n debyg bod beirniaid y Nobel yn perthyn i’r ail garfan.  

Ond does dim ots am y gwobrau, nac oes? Y peth pwysig yw’r gwaith llenyddol. O leiaf, mae’r ffaith bod Glück wedi ennill yn golygu bod llawer mwy o bobl yn mynd i ddarllen ei gwaith. Mae ei llyfrau barddoniaeth wedi eu gwerthu i gyd ar wefan ei chyhoeddwr ym Mhrydain, Carcanet, sydd yn arwydd da. Efallai bod yna rywun arall nawr yn cario cerdd ganddi yn ei phoced neu ei phwrs, yn dod o hyd i gysur yn ei llais, sydd yn siarad am fywyd Glück ond yn goleuo bywyd arall ...

Dyma eiriau Glück o'r gerdd ‘Faithful and Virtuous Night’ i gloi: 

I think here I will leave you. It has come to seem
There is no perfect ending. 
Indeed, there are infinite endings.
Or perhaps, once one begins, 
There are only endings. 

Cyhoeddiad diweddaraf Eluned Gramich yw'r nofela 'The Lion and the Star' yn Hometown Tales Wales (Orion Books, 2018).

Po fwyaf rwy’n dysgu amdani, po fwyaf rwy’n ei hedmygu. Mae’n debyg bod tryloywder a gonestrwydd Glück yn ymestyn o’i barddoniaeth i’w bywyd

Pynciau:

#Eluned Gramich
#Gwobr Nobel
#Barddoniaeth
#Gogledd America