Beth yw teilyngdod?
Cyhoeddi Rhifyn Gwanwyn 2021
I'w ryddhau 28 Ebrill 2021
Meritocratiaeth, diffinio cariad, cyflog am waith tŷ a chrwydro coridorau’r nofel brifysgol ...
Yn Rhifyn Gwanwyn 2021 O’r Pedwar Gwynt gofynnir ai haeddiant y llwyddiannus yw eu llwyddiant. Meddai Rhianwen Daniel: ‘Mae’r natur ddynol yn gyfrwys pan mae’n fater o gyfiawnhau llwyddiant.’ Ac i ba raddau mae ein diwylliant cystadleuol digyfaddawd yn tanseilio bywyd i bob un ohonom?
Ffilm gan yr awdur Nobel Sfetlana Aliecsiefits - Lyubov, Love in Russian - sydd wedi gafael yn nychymyg Eluned Gramich. Wrth sgwrsio â’i gŵr ar y ffordd i barc Trelái, mae’r ddau yn pendroni beth yw cariad mewn gwirionedd: ‘Mae cariad yn deimlad trugarog … Wnes i erioed ddeall beth oedd mor ddrwg am deimlo “tosturi” dros rywun. Mae angen gofalu am bawb mewn rhyw ffordd. Does dim cywilydd yn hynny,’ meddai ei gŵr.
Yn ei herthygl ‘Nid Slwtsh mo waith tŷ’ dadleua Catrin Ashton y dylai llafur cariad gael ei drin fel gwaith go iawn ac y dylid talu cyflog i rieni i edrych ar ôl eu plant ac i gadw tŷ: ‘Talwch y mamau; talwch y rhieni; rhowch gyflog iddynt. Nid cyflog mo fudd-daliadau.’
Caiff Ceridwen Lloyd-Morgan hwyl yn crwydro coridorau’r nofel brifysgol ond mae hi hefyd yn olrhain dyfodiad y cwsmer i’r byd academaidd i nofel C P Snow, The Masters, lle gwelwn gymrodyr yn seboni diwydiannwr cyfoethog. Meddai, ‘Yn y byd didrugaredd hwn, try cam-drin arian yn grefft.’
Yn eu colofnau, mae Dylan Foster Evans yn dadansoddi tywydd brochus, Siân Melangell Dafydd yn ffroeni craf y geifr ar lawr y goedwig, Huw L Williams yn gresynu nad oes gan athroniaeth ddim i’w ddweud am rianta, Mihangel Morgan yn casglu mai arwyddocaol yw prinder yr enghreifftiau Cymreig o bethau ‘camp’, Emyr Ll Gruffudd yn gofyn pam nad oes plac coffa yng Nghaernarfon i T Hudson-Williams a Schopenhauer yn rhoi cyngor defnyddiol ac amserol ar sut i fod yn gywir bob amser.
Ceir mwy hefyd: yn ogystal â’r adolygiadau arferol, y gwaith cyfansoddi a’r croesair, mae gennym gyfweliad â Peter Lord ac un arall â Sfetlana Aliecsiefits; mae Cynog Dafis yn holi beth dda yw myth?, Llion Wigley yn gofyn am ailddiffinio nerth, Iwan Rhys Morus yn olrhain y berthynas rhwng Musk, Tesla ac Edison, R J W Evans yn edrych ar y tebygrwydd rhwng O M Edwards a ffigurau cyffelyb ar y cyfandir a Mererid Puw Davies yn dadlennu pleser rhannu iaith yn ei hysgrif, ‘Mewn tafod does dim esgyrn’. Heb anghofio Derfel Clarke yn pwdu yng nghysgod y deallusion metro a’r golofn sêr sy’n bowio a chodi het i’r lleuad.
Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 48tt.
Ceir casgliad o luniau YMA.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â cyfathrebu@pedwargwynt.cymru
Nodiadau i’r Golygydd
• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
• Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.