Llafur cariad
Sgwrs wrth fynd am dro
Madeleine Bunting
LABOURS OF LOVE
Granta, 326tt, £20, 2020
Staffan Julén, Svetlana Alexievich
LYUBOV: KÄRLEK PÅ RYSKA (LYUBOV: LOVE IN RUSSIAN)
Sweden, 89’, 2017

Golygfa o deulu'n cael eu holi am gariad yn y ffilm Lyubov (Llun: Majaq Julén Brännström)
‘Amor es el acto que transforma a su objeto de cosa en persona.’
(Cariad yw’r weithred sy’n trawsnewid ei gwrthrych yn berson.)
– Nicolás Gómez Dávila, Escolios a un texto implícito: Selección
Byddai’n well gen i pe na bawn wedi darllen rhai o’r straeon sydd yng nghyfrol Madeleine Bunting, Labours of Love: The Crisis of Care (2020). Wrth gerdded gyda’m gŵr a’m merch ym Mharc Trelái, ar ddiwrnod heulog cyntaf y gwanwyn, soniais am y dyn sy’n dioddef o glefyd niwronau motor yr oeddwn wedi darllen amdano yn y llyfr. Rhoddir ei ofalwyr (sydd ddim yn derbyn tâl digonol a heb eu hyfforddi’n ddigonol ychwaith) ar ben y ffordd yn gyflym mewn ystafell gyfarfod ysbyty; dywedir wrthynt y bydd y dyn yn marw cyn hir, o dagu, ac ar wahân i roi pum slap ar ei gefn (pump? Pam dim ond pump?) ni allant wneud dim ond ei wylio’n marw. ‘Mae’n brofiad ingol iawn gwylio rhywun yn marw wrth dagu,’ dywed Bunting, gan ddyfynnu’r Ymgynghorydd Gofal Lliniarol. Mae fy ngŵr yn fy nwrdio: ‘Pam wyt ti’n dweud hyn wrtha i nawr, tra mod i’n ceisio mwynhau’r unig ddiwrnod braf rydyn ni wedi’i gael eleni?’
Rwy’n deall sut mae e’n teimlo. Byddai’n well gennym ni i gyd beidio â meddwl am y pethau hyn, wrth gwrs: ein dibyniaeth ar bobl eraill, ein dibyniaeth ar ofal, a’n dyletswydd fel rhoddwyr gofal – pryd bynnag y digwyddith hynny. Mae hyn yn rhan o’r rheswm pam mae gofal mor an-weledig yn ein diwylliant a’n cymdeithas, yn ôl Bunting. Mae hyd yn oed y gair ‘gofal’ wedi ei erydu gan ei fod yn cael ei ddefnyddio am bob dim. Mae Bunting yn disgrifio gweld hysbyseb ar gefn fan wrth eistedd mewn traffig – ‘Gofalu am eich eiddo’. Mae hi’n gofyn wedyn: ‘Paham mae’r un ferf yn cael ei defnyddio am gynnal a chadw eiddo masnachol ac i ddisgrifio rhai o’r eiliadau dwysaf mewn perthynas ddynol?’ Mae iaith gofal wedi’i chamarfer, ei glastwreiddio, a’i hystumio trwy ei defnyddio mewn cyd-destunau masnachol neu gyfalafol (‘yr economi gofal’, ‘y diwydiant gofal’, ‘y pecyn gofal’), yn ogystal â meysydd biwrocrataidd (‘y sector gofal’). Mae’r broblem hon ynglŷn ag iaith wrth wraidd diffyg dealltwriaeth ynghylch gwaith gofal, ac yn symptom o’r diffyg hwnnw: nid oes gennym yr iaith i ddisgrifio’n union yr hyn y mae gofal yn ei olygu, ac felly mae statws gofal yn amwys, yn anghyffyrddadwy, yn anweledig.
‘Rhyfedd, on’d yw hi?’ (Rwy’n dal i siarad am y llyfr ar y tro braf gyda’m gŵr.) ‘Rhyfedd fod gofal wedi diffinio ein bywydau ni i gyd – mae pob unigolyn ar y blaned wedi elwa o ofal fel baban, a thrwy salwch a damweiniau – ond prin yw’r lle a roddir i ofal yn ein hymwybyddiaeth gymdeithasol neu ddiwylliannol. Mae pobl yn brwydro i ddarparu neu dderbyn gofal ymhobman ond anaml maen nhw’n clywed eu straeon ar y newyddion. Mae’n ymddangos ein bod ni’n meddwl y dylai pobl yn y sefyllfaoedd hyn ddioddef yn dawel. Cwyd dy galon, cario ymlaen. Rhywbeth fel ’na.’
Nid yw fy ngŵr yn hapus iawn gyda hyn. Mae’n edrych dros ei ysgwydd. Efallai fod rhywun arall ar gael i sgwrsio ag ef am bynciau haws, dymunol?
‘Er enghraifft,’ rwy’n bwrw ymlaen. Mae fy merch yn hanner cysgu yn ei phram, yr haul yn cochi ei boch. ‘Er enghraifft, yn ei llyfr mae Bunting yn cyfweld rhieni plant ag anghenion cymhleth. Mae straeon y rhieni’n gymysgedd o stoiciaeth, anobaith, a hiwmor tywyll. Mae gan un fenyw fab sy’n byw gydag Asperger’s difrifol. Mae angen gofal cyson arno. Iddo ef, mae’r byd yn llawn bygythiad, ac oherwydd y bygythiadau tybiedig hyn mae’r mab yn aml yn dreisgar tuag at ei rieni. Weithiau, mae’n rhaid iddyn nhw gloi eu drysau. Llusgodd ei fam gerfydd ei gwallt ar draws y carped. Roedd ei dad yn dioddef o PTSD ac roedd angen therapi arno. Ac eto, y disgwyl yw eu bod nhw – a dydw i ddim yn golygu dim ond y rhieni, ond eu mab hefyd – mae disgwyl iddyn nhw rygnu ymlaen heb fawr o gefnogaeth. Mae’r cynghorau wedi’u tanariannu, mae pawb yn gwybod hynny, hyd yn oed cyn cyfnod y cyni. Nid oes ganddyn nhw’r adnoddau i gynnig i deuluoedd y math o gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw, ac felly mae’r teuluoedd yn dioddef am flynyddoedd diddiwedd. Roedd y fam yn methu cysgu; weithiau ni fyddai ei mab yn mynd i’r gwely o gwbl, a doedd ddim cefnogaeth arall ar gael. Roedd ei theulu wedi cilio oherwydd bod ofn arnyn nhw. Onid yw hynny’n ofnadwy?’

Llun: Alex Majoli / Magnum Photos
Agorodd fy ngŵr ei geg a’i gau eto. Ddywedodd e ddim byd. Felly, fe wnes i barhau i draethu:
‘Ond pam nad oeddwn i’n gwybod am hyn cyn i mi ddarllen y llyfr? Rwyt ti’n cymryd bod teuluoedd fel yna’n cael gofal – ond dydyn nhw ddim, ddim digon. Yn waeth na hynny, maen nhw wedi eu siomi gan ein cymdeithas. Dywedodd un o’r bobl a oedd yn gweithio i elusen ar gyfer teuluoedd â phlant ag anabledd: “Rwyf wedi gweithio gyda rhieni, a’u hofn mawr yw nad yw eu plentyn yn cael ei garu. Rwyf wedi eistedd gyda nhw yn eu galar dwys oherwydd nad oes mynegiant o gariad gan eraill tuag at eu plentyn – mae hynny’n cyrydu’r enaid.”’
Rydym yn oedi o dan gysgod coeden ffawydd. Mae fy ngŵr yn edrych ar ein merch; mae hi’n dal i fod yn effro, yn syllu arno. ‘Yn Brasil mae’r eglwys yn gwneud y math hwn o waith cymdeithasol.’
‘Ydi, ac yma hefyd. Roedd yn arfer gwneud hynny, beth bynnag. Roedd cymhelliant crefyddol ac ysbrydol dros ddarparu gofal i’r gymuned. Ond mae’r ysgogiad crefyddol wedi mynd, mwy neu lai. Rydyn ni’n wlad seciwlar, felly mae’r gofal yn disgyn ar unigolion. Menywod. Cynghorau lleol. Meddygon teulu. Menywod, eto.’
‘Beth wyt ti’n ei olygu – menywod eto?’
‘Gweithlu benywaidd yn bennaf yw’r proffesiwn gofal – nyrsys, gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol. Ddim hyd yn oed yn bennaf: yn llethol felly. Ac yna os wyt ti’n meddwl am ein mamau, roedden nhw’n gofalu amdanon ni fel plant ac roedden nhw’n gofalu am eu rhieni ac maen nhw’n gofalu nawr am eu hwyres ... Mae’n gyfrifoldeb cyson. Gwaith heb ei gydnabod. Gwaith wedi ei danbrisio.’
‘Iawn, iawn.’
‘Mae Bunting yn dweud rhywbeth diddorol, ti’n gwybod – bod ein meddygon teulu fel ficeriaid. Pan wyt ti’n meddwl am y peth, dyna’r gyfatebiaeth berffaith. A meddygfeydd yw ein heglwysi, ein canolfannau cymunedol. Rydyn ni’n mynd at feddygon teulu i gael sicrwydd, am gef-nogaeth emosiynol yn ogystal â chorfforol. Mae gan gymaint o gleifion MUS nawr ...’
‘Beth?’
‘MUS, sef Medically Unexplained Symptoms yn Saesneg. Symptomau sy’n cael eu hachosi gan, wel, y byd modern. Pwysau, straen. Y cyfan y gall meddyg teulu ei wneud yw gwrando, er bod gwrando hefyd yn bwerus iawn.’
Rydyn ni’n cerdded trwy Barc Trelái; mae yna blant yn rasio i fyny ac i lawr y llwybr concrit ar sgwteri. Mae yna gŵn yn ffroeni o amgylch y coed a’r biniau sy’n gorlifo, a’u perchnogion heb fod ymhell o’u hôl.
‘Mae mwy o straeon yn y llyfr,’ rwy’n dechrau.
‘O na! Plis,’ meddai. ‘Dim mwy o straeon trist.’
‘Wel, iawn. Stori yw gofal, serch hynny. Straeon am natur eiddil y ddynol ryw, cariad, trugaredd, rhoi sylw. Dyna pam nad yw’n ffitio o fewn fframweithiau cyfalafol. Mae gofalwyr yn cael eu talu fesul awr, ond nid yw eu gwaith yn ffitio o fewn system felly, ddim o gwbl. Y broblem yw fod un llywodraeth ar ôl y llall wedi ceisio cael y sector gofal i weithredu ar sail busnes i ddefnyddwyr sy’n gwbl drafodaethol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ond nid yw bywyd yn gweithio felly. Gall unrhyw un weld hynny. Felly pam nad oes dim byd, unwaith eto, wedi newid?’
‘Dydyn ni ddim yn gwerthfawrogi’r pethau iawn, dyna beth rwyt ti’n ei ddweud,’ meddai, gan geisio osgoi fy straeon trwy grynhoi, trwy symud ymlaen.
‘Ie. Mae Bunting yn meddwl y dylem wrthsefyll marchnata gofal. Nid cynnyrch ar gyfer defnyddiwr yw gofal; mae gofal bob amser yn gyfarfyddiad rhwng un person a’r llall, ac mae angen ei gynnal trwy ysbrydoliaeth, delfrydau, ac esiampl.’
‘Wnest ti gofio hwnna air am air?’
‘Mae gen i gof gwych.’
Rydym yn cyrraedd pen y llwybr; mae coetir mwdlyd ar y naill ochr a’r llall ac mae twnnel o’m blaenau. ‘Ti eisiau cario ymlaen?’
Mae fy ngŵr yn nodio. Rydyn ni’n mynd ymlaen i mewn i’r tywyllwch. Mae marciau graffiti ar y waliau, wedi’u cymylu gan ddŵr glaw. ‘Beth mae hi’n ei ddweud yw bod biwrocratiaeth ac agenda sy’n canolbwyntio ar y farchnad wedi niweidio ein syniad o ofal,’ meddai fy ngŵr, ei lais yn atseinio.
‘Ydy. Mae’n sefyllfa eithaf tywyll.’
‘Ond mae gennym ni robotiaid, on’d oes? Bydd robotiaid gofal yn Japan yn datrys ein problemau. Mae ganddyn nhw un yn gweithio yn yr Almaen hefyd. Care-o-bot. Mae’n dod â bwyd a diod i bobl.’
Rwy’n rholio fy llygaid. ‘Robotiaid! Mae angen cyswllt dynol arnom ni. Cyffwrdd. Llygaid yn cyfarfod. Cwmnïaeth. Wyt ti’n hapus gyda’r syniad o dy rieni’n cael gofal gan robot mewn ugain mlynedd?’
‘Na, dim rîli,’ meddai. ‘Jôc oedd e, ti’n gwybod. ’Sdim rhaid i ti fod mor ddifrifol drwy’r amser.’
‘Sorri. Mae’r holl syniad o robotiaid yn codi ofn arna i. Dydw i ddim yn meddwl mai fi yw’r unig un, ’chwaith.’
Rydym yn dod allan o’r twnnel. Ar y dde, mae beic modur sy’n rhydu, yn glymau o eiddew daear a chanclwm Japan.
‘Cyfres o weithgareddau sydd, fel cerddoriaeth, barddoniaeth a chelf, yn ein gwneud yn fodau dynol yw gofal,’ meddaf. ‘Bunting eto.’
Mae fy ngŵr yn troi ataf, gan ddangos diddordeb o’r diwedd. ‘Mae’n fy atgoffa o’r ffilm yna welon ni. Yr un Rwsiaidd.’
Mae’n siarad am Lyubov: Love in Russian, ffilm sydd wedi’i chyfarwyddo gan Staffan Julén a’r awdur enwog Sfetlana Aliecsiefits. Ffilm ddogfen ydyw sy’n cyd-fynd â llyfr newydd Aliecsiefits am gariad; crynhoad o gannoedd o gyfweliadau â phobl ledled Rwsia, yn gofyn iddynt am eu diffiniad o gariad a’u straeon cariad.

Sfetlana Aliecsiefits (ar y dde) yn y ffilm Lyubov (Llun: Majaq Julén Brännström)
‘Beth wnaeth fy nharo am y ffilm honno oedd y ffordd roedd Aliecsiefits yn cymysgu “cariad” â “hapusrwydd” neu “ddedwyddwch”,’ meddai fy ngŵr. ‘Byddai’n dechrau drwy holi ynghylch cariad ond yna byddai’r sgwrs yn troi at y cwestiwn sut i fod yn ddedwydd a sut i ddod o hyd i ddedwyddwch. Dechreuodd â’r rhagosodiad fod diwylliant Rwsia yn gwrthsefyll y syniad o ddedwyddwch, oherwydd nid oes gan lenyddiaeth a diwylliant Rwsiaidd lawer o enghreifftiau o fywydau hapus.’
‘Ie, roedd hynny’n ddiddorol. Roedd i fod yn ffilm am gariad rhamantus, ac mewn rhai ffyrdd fe roedd hi ac mewn rhai ffyrdd doedd hi ddim o gwbl. Roedd rhywbeth arall yn y fantol – cwestiynau ynglŷn â sut i fyw bywyd da, falle.’
Cerddwn mewn distawrwydd; daw delweddau o Lyubov i fy meddwl. Mae’n agor ar stryd gyffredin, dyn yn ysmygu, dyn arall â bagiau siopa yn cerdded i mewn i’r olygfa, yn chwilio yn ei fagiau am ei allwedd. Rhwng y cyfweliadau, dangosir inni blant yn chwarae mewn meysydd chwarae cymunedol, eu rhieni gerllaw, yn gwylio, yn eu helpu i lawr o’r ffrâm ddringo. Mae Aliecsiefits yn recordio pob cyfweliad ar dâp, ac yna mae trawsysgrifydd yn eu teipio ar deipiadur. Wrth wrando ar un stori am fenyw sydd wedi gwahanu oddi wrth ei gŵr, rydyn ni’n gweld y trawsysgrifydd yn sychu ei dagrau.
Wrth galon Lyubov mae Aniwsia, sy’n ferch i artist canol oed o’r enw Folodia. Mae’n rhaid cyfeirio at stori arall er mwyn egluro arwyddocâd Anyusha: syrthiodd Folodia mewn cariad â’i wraig pan oedd yn ei ugeiniau. Perthynas gythryblus oedd ganddyn nhw. Roedden nhw byth a hefyd yn gwahanu ac yn dod yn ôl at ei gilydd. Nid oedd ei wraig, medd Folodia, erioed wedi ei garu mewn gwirionedd, ond pan sylweddolodd hi ei bod yn feichiog, penderfynon nhw briodi, er nad Folodia oedd y tad. Ganed Aniwsia â pharlys difrifol ar yr ymennydd. Roedd hyn yn ystod y cyfnod Sofietaidd, ac roedd disgwyl i rieni Aniwsia ei rhoi i ofal y wladwriaeth yn yr ysbyty. Gwrthodasant; ac fe wnaeth-ant ei magu a gofalu amdani, ei dysgu i gerdded – roedd y meddygon wedi rhagdybio y byddai’n annhebygol o allu gwneud hynny o gwbl. Gadawodd gwraig Folodya ef yn y pen draw, ond parhaodd i ofalu am Aniwsia. Er nad hi yw ei ferch fiolegol, mae’n ymweld â hi bob dydd yn y cartref gofal. Dyfnhaodd a chyfoethogodd bywyd Folodia yn sgil ei ofal am Aniwsia: ‘Pan mae’n cael ffitiau ac yn methu anadlu,’ meddai Folodia wrth Aliecsiefits, ‘mae’n digwydd yn sydyn. Ac mae marwolaeth yno yn disgwyl, bob tro. A phan wyt ti yno, a phan wyt ti wedi goroesi, nid unwaith neu ddwywaith neu ddwsin o weithiau, mae’n rhoi grym digynsail i ti. Ei bod hi a minnau gyda’n gilydd wedi goroesi ... Mae rhywbeth yn hynny sy’n gyffredin i gariad ... mor agos at farwolaeth ac mor agos at gariad.’

Aniwsia wrth y ffenest yn y ffilm Lyubov (Llun: Majaq Julén Brännström)
Mae fy ngŵr yn cyffwrdd â’m braich, gan ddod â mi yn ôl at y presennol. ‘Beth oedd yr ymadrodd hwnnw y mae Rwsiaid yn ei ddweud yn lle “Rwy’n dy garu di”?’
‘Rwy’n tosturio wrthot ti,’ meddwn.
‘Yn union. Mae’n swnio’n rhyfedd i ni, on’d yw e? Ond os wyt ti’n meddwl amdano, mae’n gwneud synnwyr. Mae cariad yn deimlad trugarog, a dweud y gwir. Wnes i erioed ddeall beth oedd mor ddrwg am deimlo “tosturi” dros rywun. Mae angen gofalu am bawb mewn rhyw ffordd. Does dim cywilydd yn hynny.’
‘Ni ddylai fod cywilydd, ti’n hollol gywir. Ond mae’n ymddangos bod cywilydd yn dal ynghlwm wrth dderbyn a darparu gofal. Neu ein hagwedd tuag ato, beth bynnag. Ym mhennod Bunting am ofalwyr pobl oedrannus sy’n byw ar eu pennau eu hunain, sonnir am “ofal personol” dros ddwsin o weithiau. Dyma’r peth cyntaf y mae’r gofalwyr yn ei grybwyll, fel pe baent yn awyddus i siarad am yr eliffant yn yr ystafell. Efallai ei fod wrth wraidd y rheswm pam mai statws isel sydd i “ofal”, oherwydd bod y gweithredoedd yn cynnwys helpu pobl i fynd i’r toiled ac ymolchi. Mae’n drist meddwl bod ein cymdeithas mor gysetlyd am y pethau bob dydd hyn, bod cymaint o gywilydd ynghlwm â swyddogaethau corfforol cyffredin. Mae’r enghraifft hon yn y llyfr gan Bunting o ofalwr sydd wedi mynd i’r ysbyty ei hun, ac yn derbyn gofal gan nyrs. Mae hi’n dweud, “O, dim ond gofalwraig ydw i. Dwi jyst yn sychu penolau. Dim byd yn debyg i chi.”’
‘Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ofalwyr fel hithau. Dy’n ni ddim yn gallu gweithio hebddi. Mae’n … hanfodol. Mae’n bopeth.’
‘Yn union. Ond mae hi wedi mewnoli’r cywilydd, on’d yw hi? Mewnoli’r hierarchiaeth ddigymell hon mewn gofal sy’n golygu ei bod hi rywsut ar waelod yr ysgol.’
‘Mae angen ffordd well arnon ni i siarad am y math hwn o waith. Gwell iaith, i wneud iddi swnio’n agosach at yr hyn ydyw mewn gwirionedd. I ychwanegu gwerth. Mae’r syniad “gofal yw’r hyn sy’n ein gwneud ni’n ddynol” yn ddechrau da.’
‘Mae gennym eiriadur cyfan o dermau biwrocrataidd a jargon busnes, a phan fyddwn yn mynd ati i geisio disgrifio’r hyn y mae nyrs yn ei wneud, neu ofalwr, neu riant, rydym yn cwympo’n ôl ar fwytheiriau ac ystrydebau. Mae’r iaith yn gysylltiedig â gwerth cymdeithasol a diwylliannol. Byddai iaith gyfoethog yn rhoi cydnabyddiaeth a statws cymdeithasol i’r gwaith. Gallai arwain at well system ofal …’
Mae’r llwybr wedi culhau i fod yn drac mwdlyd. Mae gwreiddiau coed trwchus yn croesi ein ffordd; mae’r pram wedi ei drechu. Mae fy ngŵr yn codi ein merch allan o’r pram. Mae hi’n gwenu ac yn chwerthin wrth i ni fynd yn ein blaenau i mewn i goetir y ddinas gan adael y pram wedi ei hanner gwthio o’r neilltu dros wreiddiau a detritws pecynnau creision a bagiau baw cŵn.
‘Mae’r un peth yn wir am y celfyddydau,’ meddaf. ‘Mae effeithiau’r celfyddydau ar gymdeithas yn anfesuradwy. Maen nhw’n mynd y tu hwnt i ffigurau gwerthiant; mae’r celfyddydau’n ymwneud â’n dynoliaeth, ein synnwyr cydymdeimlad, ein hyder diwylliannol, hyd yn oed …’
‘Roeddwn yn aros i ti ddod â hyn yn ôl at lenyddiaeth.’
‘Wel, mae’n wir! Edrych ar Never Let Me Go, gan Kazuo Ishiguro, y nofel am glonau dynol. Maen nhw’n annog y myfyrwyr yn ysgol Hailsworth i greu celf i brofi bod ganddyn nhw eneidiau.’
‘Dal i farw, serch hynny,’ meddai fy ngŵr.
‘Rydyn ni i gyd yn marw.’
‘Diolch am y nodyn atgoffa.’
‘Un o’r cyfweliadau yn Lyubov,’ meddai fy ngŵr yn sydyn. ‘Menyw ganol oed yn dweud: “Mae gen i ddiddordeb mewn byw er mwyn rhywun arall.” Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n hyfryd, brawddeg hyfryd. Rydyn ni i gyd yn byw er mwyn rhywun arall, ond y prif feddylfryd nawr yw ein bod ni i gyd yn annibynnol, yn unigol, yn gyfrifol am ein hapusrwydd ein hunain.’
Rwy’n cytuno. ‘Ie, hunanofal. Self-care. Cysyniad peryglus, on’d yw e? Mae’n gwneud iddi ymddangos ein bod ni i gyd ar fai am ein hiselder, ein brwydrau, ond mewn gwirionedd maen nhw’r tu hwnt i’n rheolaeth. Mae yn nwylo llywodraethau – eu polisïau a’u deddfwriaeth. Dyna’r gwir. Nid oes y fath beth â hunanofal. Mae’r gofal pwysig, ystyrlon a dderbyniwn yn dod gan bobl eraill.’
‘Heddiw, rydyn ni’n byw yn oes hapusrwydd preifat,’ meddai fy ngŵr.
‘Waw! Wnest ti feddwl am hynny nawr?’
‘Na. Geiriau Aliecsiefits.’
Rydym yn stopio am hoe yn ymyl coeden geirios. Mae’r blodau bellach yn dangos eu harlliw pinc golau. Mae fy merch yn estyn amdanyn nhw, gan gyffwrdd â’u petalau â’i dwylo bach.
‘O feddwl am y ffilm eto,’ meddai fy ngŵr, ‘rwy’n sylweddoli pa mor, wel, glyfar oedd hi. Creodd y ffilm yr holl ddadl hon am gariad yn ein cymdeithas heb hyd yn oed ei rhoi mewn geiriau. Wyt ti’n cofio’r olygfa agoriadol? A’r diwedd ’fyd? Anyusha. Anyusha yn aros wrth y ffenestr i’w thad ddod i’w gweld hi. A chyn hynny mae yna olygfa yn dangos tad a’i ddau fab. Maen nhw’n dringo cerflun o Karl Marx ac mae’r bachgen lleiaf yn methu mynd i lawr ...’
‘Dwi’n cofio! Mae ei dad yn gadael iddo neidio ar ei gefn …’
‘Ydi. Felly ai dyna safbwynt ffilm Aliecsiefits a Julén mewn gwirionedd? Cariad mewn Rwsieg – nid yw’n ymwneud â chariad rhamantus o gwbl, na dod o hyd i’r person iawn i dreulio’ch bywyd ag e … mae Aliecsiefits a Julén yn dadlau i’r gwrthwyneb. Mae cariad priodasol neu ramantus yn amwys ac annibynadwy; ond y gofal a’r tosturi ac, wel, y trueni, a deimlwn yn ein perthynas ag eraill – ai dyna beth sy’n bwysig?’
‘Mae cariad yn ymddangos bob dydd. Mae cariad yn golygu ymweld â rhywun bob dydd, ac aros i’r person ddod i ymweld â ni. Mae cariad yn golygu gofalu am rywun a gadael i rywun ofalu amdanat ti.’
‘Ie, efallai ein bod ni’n gwneud gormod o gariad rhamantus. Yr holl ffilmiau a chyfresi a phriodasau gwyn a thrugareddau San Ffolant …’
‘Ti jest yn dweud ’na achos anghofiaist ti brynu rhywbeth i fi ar ddydd San Ffolant!’
Chwarddwn. Mae ein merch yn protestio, wedi cael digon ar sgwrs yr oedolion. Mae eisiau bwyd arni. Rwy’n chwilota am y bar grawnfwyd ar waelod fy mag ac yn ei roi iddi mewn darnau bach.
‘Ddylen ni fynd ’nôl.’
‘Ble ydyn ni?’
O’r diwedd, rwy’n sylwi ar yr hyn sydd o’n hamgylch. Rydyn ni wedi crwydro i’r llain o goetir rhwng y ffordd ddeuol a’r parc. Gallaf glywed hymian y traffig, lleisiau plant o bell.
‘Bydd yn gwaethygu cyn iddo wella,’ meddwn.
‘Be?’
‘Gofal yn y wlad hon. Nid oes gennym ddigon o ofalwyr ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio, ac mae’r holl bethau Brexit hyn wedi gwaethygu’r sefyllfa. Yn y pen draw, rhaid i’r system newid.’
‘Rhaid i ni obeithio y bydd yn newid yn y ffordd iawn.’
‘Mae Bunting yn dweud y dylem fabwysiadu economi rhoi – gift economy – ac nid economi marchnad. Mae’r Gwasanaeth Iechyd eisoes yn economi rhoi yn yr ystyr ei fod yn rhedeg ar y syniad o roi. Mae cyfalafiaeth yn ymwneud â chael pethau ac mae’r GIG yn ymwneud â rhoi pethau.’
‘Ond mae’n mynd i gael ei breifateiddio …’
‘Paid â dweud hynny. Mae’n rhy drist.’
‘O, nawr ti eisiau rhoi’r gorau i siarad am bynciau trist!’
‘Fe ddylen ni siarad am ofal, am bwysigrwydd rhoi gofal, nid ei frwsio o dan y carped …’
‘Fe ddylen ni siarad am sut rydyn ni mynd i ffeindio’r ffordd adref,’ medd fy ngŵr, gan symud ein merch o un glun i’r llall. ‘Mae hi mor drwm!’
Mae wyneb ein merch wedi’i orchuddio â cheirch slwtshlyd a siocled.
‘Pam na wnest ti ddweud? Fe’i cymeraf.’
Rwy’n ei chodi allan o’i freichiau. Mae ei hwyneb yn agos at f’un i, ei hanadl yn gynnes neis. Rwy’n meddwl am y dyfodol. Ninnau’n hen, yn dibynnu ar ofal ein merch yn union fel y mae hi’n dibynnu ar ein gofal ni nawr. Gobeithio y bydd yn hawdd iddi, er fy mod yn gwybod nad yw yn fy ngallu i benderfynu hyn.
Mae fy ngŵr yn mynd â’r pram ac yn araf bach rydyn ni’n cerdded yn ôl i wyrddni agored Parc Trelái.
Mae Eluned Gramich yn awdur a chyfieithydd. Cyrhaeddodd ei chofiant o gyfnod yn byw yn Japan, Woman Who Brings the Rain, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i phartner a'i merch 16 mis oed.
Yr ail lun: Antoine d'Agata / Magnum Photos