Egwyddor gobaith: y traddodiad Cymreig
Cyhoeddi rhifyn gaeaf 2022
I'w ryddhau 10 Rhagfyr 2022
Egwyddor gobaith, datganoli’r Rhyfel Oer, ac ein hanes o gyfeiriad arall.
Mae Rhifyn Gaeaf 2022 O’r Pedwar Gwynt yn olrhain y traddodiad iwtopaidd Cymreig. Yn ôl Llion Wigley, dyma ‘hanes cudd sy’n arbennig o werthfawr i’w gofio mewn cyfnod mor dywyll’.
Olrheinir lliaws o fentrau cymunedol, iwtopaidd eu naws, o gymunedau Owenaidd y 19g i ardd-bentrefi y cyfnod Edwardaidd, a’r ‘ffrwydrau o gomiwnau’ a mentrau eraill a welwyd yn y 1960au hwyr a’r 1970au. Roedd y rhain yn barhad ‘o draddodiad cynharach o’r 20g â’i wreiddiau yn y mudiadau heddychol a sosialaidd’. Cawn ein hatgoffa o weledigaeth uchelgeisiol prosiectau fel y gyfres ‘Pamffledi Heddychwyr Cymru’ a gyhoeddodd ar bynciau megis didreisedd Gandhiaidd, anarchiaeth ac economeg heddwch.
Gan adleisio egwyddor gobaith un o brif feddylwyr iwtopaidd yr 20g, Ernst Bloch, dadleua Wigley ‘nad rhithfyd peryglus neu gamarweiniol [mo] iwtopia o reidrwydd ond model o’r math o gymdeithas yr hoffem fyw ynddi y gallwn i gyd gyfrannu tuag at ei hadeiladu, trwy ein dychymyg a’n parodrwydd i gredu bod gwell byd yn bosib.’
Sut mae sicrhau heddwch? Nod pennaf cyfraith ryngwladol yw heddwch parhaol, meddai Howard Williams. Yn ei erthygl ar gyfraniad yr athronydd Immanuel Kant i’r drafodaeth, mae’n gofyn ai doeth fyddai buddugoliaeth i Wcráin. ‘Nid brwydro yn erbyn y gelyn (tan y diwedd) yw’r ffordd allan o’r gyflafan hon,’ meddai ‘ond ceisio creu cyfundrefn ryngwladol lle nad yw rhyfel yn ffordd dderbyniol o ddod ag unrhyw anghydfod i ben.’
Mewn cyfweliad arbennig yn y rhifyn hwn, mae awdur Atoms and Ashes (2022) ac arbenigwr ar hanes Wcráin ym Mhrifysgol Harvard, Sergi Plochi, yn trafod yr angen i osod Wcráin yn ôl yng nghanol stori’r Rhyfel Oer er mwyn deall yr hanes hwn – a’r rhyfel – yn well. Cawn olwg wahanol ar Alecsandr Solsienitsin ganddo, nid yn gymaint fel awdur The Gulag Archipelago (1973) ac eiriolwr dros hawliau dynol ond fel ‘cyfieithydd meddylfryd y Rwsia imperialaidd [...] ar gyfer y Rwsia ôl-Sofietaidd’. Dadleua hefyd nad ydym yn llawn werthfawrogi bygythiad newydd atomfeydd niwclear heddiw, rhywbeth nad oedd yn rhan o brofiadau’r Rhyfel Oer.
Llesol ydi gweld ein hunain trwy lygaid eraill ac o ganol Ewrop croesewir cyfrol unigryw ar hanes Cymru gan R J W Evans, cyfrol nad oes ei thebyg, meddai, mewn unrhyw iaith arall: ‘Fel menter ddeallusol, ysgolheigaidd o’r tu allan i’r byd Prydeinig,’ meddai, ‘mae hon yn gyfrol arloesol.’ Mae'r awdur Blanka Říchová yn awgrymu cymariaethau rhwng Cymru a'i mamwlad ei hun a gwledydd canol Ewrop yn gyffredinol. Cawn ein harwain at gwestiynau megis lle Cymru a’i threftadaeth anghydffurfiol yng nghyd-destun cwestiwn clasurol ar y cyfandir ynghylch y berthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a rhyddfrydiaeth a sosialaeth.
Gweld cymariaethau y mae Catrin Ashton hefyd. ‘Hanes Bedlinog yw hanes Ewrop,’ meddai yn ‘Mosco fach a Pittsburgh’ sy’n ymateb i adolygiad Mabli Siriol o gyfrol Gabriel Winant am Pittsburgh, The Next Shift. Pan oedd y frenhines yn cael ei chladdu fis Medi, ‘a strydoedd Llundain yn teimlo fel Carnifal’, yn y Marx Memorial Library and Workers’ School yn Llundain yr oedd. Aeth yno i ymchwilio ymhellach i hanes ei phentref. ‘Mae [hanes Bedlinog] yn adlewyrchu hanes cyfalaiaeth fyd-eang. Glowyr oeddent yn Medlinog, yn Sallumines, yn Penzberg; gweithwyr fferm yn Finterswolde; gwehyddwyr yn Halluin; gweithwyr porselen yn Selb.’ Aiff ymlaen i nodi gwahaniaethau diddorol rhwng natur cymunedau Pittsburgh a’r Cymoedd.
Dyma flas ar bum cyfraniad o blith 34 sydd yn rhifyn gaeaf 2022 (rhifyn 20). Ewch i'r dudalen gynnwys i gael cip ar y rhifyn yn llawn! Cewch ddarllen am ‘wyrcws y Gymru sydd’ mewn sgwrs rhwng Elis Dafydd a Wiliam Owen Roberts, am hanes merched yn dringo creigiau (Steffan Gwynn), am gyfieithiad Cymraeg newydd o La Peste gan Albert Camus (Ceridwen Lloyd-Morgan), am ddiboblogi yn Sbaen (Helena Migueléz-Carballeira), am wyddoniaeth ac astroleg yng nghyfnod Pantycelyn (Iwan Rhys Morus), am deulu mewn nofel Japaneeg sy’n credu eu bod yn dod o blaned arall (Eluned Gramich), am chwilio am flodau (Morgan Owen), ac am ffilm hynod gan Branwen Okpako, ‘Chwilio am Taid’ (Mererid Puw Davies). Ac mae yna ugain cyfraniad arall na soniwyd amdanynt!
Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris un copi print: £4.95; pris tanysgrifiad blwyddyn: £15, neu £10 ar gyfer tanysgrifiad digidol yn unig. Gellir gweld rhestr gynnwys rhifyn gaeaf 2022 yn y fan hon.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch!
Nodiadau i’r Golygydd
- Sefydlwyd cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir gan gwmni annibynnol O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
- Yn Nhachwedd 2022, cyhoeddodd O’r Pedwar Gwynt ei chyfrol gyntaf, sef Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts, a bwriedir cyhoeddi oddeutu un gyfrol y flwyddyn o hyn allan;
- Cartrefir O’r Pedwar Gwynt yn Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth;
- Mae cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
- Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
- Rydym yn gweld y byd trwy lyfrau gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
- Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
- Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
- Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.