Y Wasg

Manylion lansiad Cymru Fydd

yn Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

Wiliam Owen Roberts

Cymru Fydd

Llyfrau O’r Pedwar Gwynt, 432tt, £12.99, 23 Tachwedd 2022

12·10·2022

Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth

 

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a’u gwlad.

Dyma nofel wyddonias hirddisgwyliedig Wiliam Owen Roberts. Byddwn yn dathlu ei chyhoeddi yn Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth am 6 yr hwyr, nos Wener, 25 Tachwedd 2022. Bydd yr awdur yn cael ei holi gan Elin Haf Gruffydd Jones. Bydd gwin ar gael i bawb sy’n dymuno, a chyfle i brynu’r nofel am bris arbennig.

Trefnir y digwyddiad gan O'r Pedwar Gwynt a Galeri a Siop Lyfrau Penrallt. Mae croeso cynnes i bawb. Tocynnau yn £3, i’w harchebu o flaen llaw a chyn gynted â phosib.

Os nad ydych yn debyg o ymuno efo ni, prynwch y nofel yn eich siop lyfrau leol, neu rŵan hyn yn ein hadran LLYFRAU.

*

‘Sut le fydd y Gymru annibynnol? Cewch wybod o dreulio degawd yng Nghymru Fydd y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr. Yn wyneb trychineb newid hinsawdd, mae dwy gymdeithas yn brwydro dros yr un darn o dir. Nofel wiw yw hon am fuddugoliaeth cenedlaetholdeb, ac am adferiad y Gymraeg hyd at derfynau’r wlad a thu hwnt. Cymru Rydd, Cymru Gadarn, Cymru Gymraeg!’ 
— Simon Brooks 

‘Craff, carlamus, proffwydol. Mae hon yn nofel fydd yn newid eich meddwl am ddyfodol Cymru. Dyma’n canu darogan newydd.’ 
— Angharad Price

Cyhoeddir Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts ar 23 Tachwedd 2022. Bydd ar gael i lyfrwerthwyr ei harchebu o ganolfan ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau o 11 Tachwedd ymlaen.

Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru

Pynciau:

#Cymru Fydd
#Wiliam Owen Roberts