Cyhoeddi Cymru Fydd
Nofel newydd Wiliam Owen Roberts
Nofel wleidyddol garlamus sydd wedi ei gosod yng Nghymru 2090
‘Craff, carlamus, proffwydol. Mae hon yn nofel fydd yn newid eich meddwl am ddyfodol Cymru. Dyma’n canu darogan newydd.’
— Angharad Price
Ar nos Wener, 25 Tachwedd bydd O’r Pedwar Gwynt yn lansio nofel hirddisgwyliedig un o brif awduron yr iaith Gymraeg, Wiliam Owen Roberts, a hynny mewn man hanesyddol addas iawn: yn Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth. Dyma ei nofel gyntaf ers bron i ddegawd, ers cyhoeddi Paris yn 2013.
Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Dyma Gymru 2090: gwlad annibynnol, gwlad lewyrchus, gwlad sofran rymus, sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan byd ers 2049.
Meddai Wiliam Owen Roberts: ‘Pam wnes i sgwennu’r nofel? Achos mod i’n teimlo rhyw reidrwydd i wneud – ond dyna’r cymhelliad i bob un o’r nofelau eraill hefyd!’
Bydd Elin Haf Gruffydd Jones yn cyfweld yr awdur ar y noson, bydd gwin gan Dylanwad Dolgellau yn cael ei wasanaethu, a bydd cyfle i bori yn Siop Lyfrau’r Senedd-dy ac yn silffoedd llyfrau O’r Pedwar Gwynt. Trefnir y digwyddiad gan Galeri a Siop Lyfrau Penrallt mewn partneriaeth ag O’r Pedwar Gwynt.
I drefnu copi adolygu o Cymru Fydd neu gyfweliad â’r awdur:
Cysylltwch â Sioned Puw Rowlands trwy yrru ebost at gol@pedwargwynt.cymru neu neges destun at 07966 338 606. Ceir detholiad o luniau ar waelod y datganiad hwn.
Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts
Nofel | 432 tudalen | £12.99 | Lansiad: 25 Tachwedd 2022
Beth a ddywedwyd eisoes am y nofel?
‘Sut le fydd y Gymru annibynnol? Cewch wybod o dreulio degawd yng Nghymru Fydd y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr. Yn wyneb trychineb newid hinsawdd, mae dwy gymdeithas yn brwydro dros yr un darn o dir. Nofel wiw yw hon am fuddugoliaeth cenedlaetholdeb, ac am adferiad y Gymraeg hyd at derfynau’r wlad a thu hwnt. Cymru Rydd, Cymru Gadarn, Cymru Gymraeg!’
— Simon Brooks
‘Mewn ymateb i’r cais am froliant i Cymru Fydd, ni fyddaf yn ymuno â chewri ein diwylliant i ganu ei chlodydd. Oblegid, a galwch fi’n hen ffasiwn yn unol â’ch dymuniad, ni chredaf mai baeddu unigolyn na chenedl yw swyddogaeth llên’
— Derfel Clarke
‘Hyrddiad dychrynllyd a sobreiddiol i’r dyfodol gan feistr ar y nofel – mae’n plethu straeon a chymeriadau â dychymyg a dawn aruthrol. Ond daw y cwestiynau fel bomiau: Cymru Fydd? Cymru Sydd? Cymru Rydd?’
— Alun Llwyd
Mwy am y nofel
Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb?
I Koi a’i ffrindiau, mae’n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater. Ond fel roedd y Cymrics eu hunain yn ei wybod trwy brofiad, mewn gwendid y perffeithiwyd pob mudiad chwyldroadol – hyd at yr awr pan fo’r gwan rhyw ddydd yn codi yn gry. Cyn y Rhyfel yn 2049, pobol ddigon disylw oedd y Cymry, a’u gwlad yn un o daleithiau tlotaf Gorllewin Ewrop – yn wlad nad oedd yn marw, ond nad oedd chwaith yn byw. Roedd angen gweledigaeth wrol i ddychmygu math arall o gymdeithas ar hen dir. Trwy drugaredd, boddwyd dinas Caerdydd o dan y tonnau.
Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a’u gwlad. Ond mae’r hyn sy’n herio Koi yn fwy nag y gall o – na neb arall – ei ddychmygu. All o hyd yn oed hawlio mai yr un person ydi o yn 2100 ag yr oedd o yn 2090?
Pwyntiau pellach i’r golygydd:
- Mae’r teitl Cymru Fydd yn adleisio nofel ddyfodolaidd Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd (1957), a drama Saunders Lewis.
- Mae Cymru a Lloegr yn mynd ben-ben mewn rhyfel yn 2049 a Chymru sy’n ennill y dydd. Dyma gefnlen digwyddiadau’r nofel. Yn anorfod, mae refferendwm Brexit hefyd yng nghefn y meddwl.
- Mae’r nofel yn garlamus, yn wleidyddol ac, yn fwy na’r un nofel arall gan yr awdur hwn, yn ddwysingol.
Am yr awdur
Mae Wiliam Owen Roberts (1960—) yn byw yng Nghaerdydd ac yn awdur chwe nofel: Bingo! (1985), Y Pla (1987), Paradwys (2001), Petrograd (2008), Paris (2013) a Cymru Fydd (2022), yn ogystal â chyfrol o straeon byrion, Hunangofiant (1990). Mae hefyd wedi ysgrifennu cryn dipyn ar gyfer y llwyfan, y radio a’r teledu. Cyfieithwyd ei nofelau i dros ddeg o ieithoedd. Dewiswyd ei waith ar gyfer y flodeugerdd Best European Fiction gan Dalkey Archive ac ar gyfer gwobr gyfieithu English PEN.
Pwyntiau pellach i’r golygydd:
- Disgrifiwyd Wiliam Owen Roberts fel y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr.
- Mae’n nofelydd Ewropeaidd, sy’n ysgrifennu ar gynfas hanesyddol a diwylliannol eang.
- Gwnaeth ei enw â’r nofel Y Pla (1987), lle portreadir cymeriadau sy’n ceisio dygymod â chroeswyntoedd hanes. Cyfieithwyd y nofel honno i dros 10 o ieithoedd.
- Mae ei nofelau yn archwilio sut mae pobl yn ymdopi â cholli gwlad a hunaniaeth, ac heb gefnogaeth sefydliadol, e.e. hanes y Gwynion yn ffoi adeg Chwyldro Rwsia yn y ddwy nofel Petrograd (2008) a Paris (2013).
- Mae ei nofel Paradwys (2001) yn ymdrin â chaethwasiaeth yn y ddeunawfed ganrif ac yn sôn hefyd am deulu Castell y Penrhyn a sefydlodd chwarel y Penrhyn. Mae hon wedi denu sylw eto yn ddiweddar yn sgil datblygiadau Black Lives Matter.
- Mae â’r enw ei fod yn ysgrifennu yn erbyn rhamantiaeth hanesyddol a’r confensiwn naturiolaidd ac fe’i disgrifiwyd fel awdur Marcsaidd.
- Mae’n cydnabod dylanwad Kafka a Brecht ar ei waith.
- Enillodd Y Pla a Petrograd wobr Llyfr y Flwyddyn.
Ar y cyfryngau
- Bydd Wiliam Owen Roberts yn cael ei gyfweld ar y rhaglen radio Beti a’i phobl yn y flwyddyn newydd.
- Bydd AM a Culture Colony yn rhyddhau recordiad o gyfweliad Elin Haf Gruffydd Jones â Wiliam Owen Roberts yn y noson lansio (30 Tachwedd 2022).
- Cyhoeddwyd detholiad o’r nofel yn rhifyn Haf 2022 O’r Pedwar Gwynt.
- Bydd cyfweliad Elis Dafydd â Wiliam Owen Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Awst 2022 yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn Gaeaf 2022 O’r Pedwar Gwynt, fydd allan ar 10 Rhagfyr 2022.
- Cyhoeddwyd cyfweliad blaenorol â’r awdur, ‘Chwyldroadau ddoe a heddiw’, yn rhifyn cyntaf cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt (Haf 2016), sydd ar gael ar ein gwefan.



Mae Cymru Fydd ar gael o 23 Tachwedd 2022 ymlaen mewn siopau llyfrau Cymraeg. Gellir ei phrynu’n uniongyrchol gan y cyhoeddwr hefyd, ar pedwargwynt.cymru
Cyhoeddir: 23 Tachwedd 2022 | 432 tudalen, £12.99
Clawr cyfandirol deuliw, â llabedi a siaced lwch
Categorïau: Nofel, Gwyddonias, Gwleidyddiaeth
ISBN 978-1-7390975-0-9
Mae cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris un copi print: £4.95; pris tanysgrifiad blwyddyn: £15, neu £10 ar gyfer tanysgrifiad digidol yn unig. Bydd rhifyn Gaeaf 2022 yn cael ei gyhoeddi ar 10 Rhagfyr 2022.
Nodiadau i’r golygydd
- Sefydlwyd cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir gan gwmni annibynnol O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
- Yn Nhachwedd 2022, cyhoeddodd O’r Pedwar Gwynt ei chyfrol gyntaf, sef Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts, a bwriedir cyhoeddi un gyfrol y flwyddyn o hyn allan;
- Cartrefir O’r Pedwar Gwynt yn Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth oddi ar Rhagfyr 2021;
- Mae cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
- Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
- Rydym yn gweld y byd trwy lyfrau gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
- Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
- Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
- Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.