Jon Fosse: yr enw arall
Gwobr Nobel Llenyddiaeth 2023

De Tysvær (1867) gan Lars Hertervig. (Hawlfraint y llun: CC BY-NC-SA).
Mae yna dueddiad ymysg diwylliannau lleiafrifol i gasglu mai natur economi'r farchnad sy'n gyfrifol am ddiffyg gwobrau rhyngwladol ymhlith eu llenorion. Pa obaith ennill plu enwogrwydd yn achos awdur a ysgrifenna mewn iaith sydd ar ymylon grym, iaith nad ydi'r mwyafrif yn ei deall? A digon gwir ei bod yn anos, fel arfer.
Pan ddyfarnwyd Gwobr Nobel Llenyddiaeth 2023 i Jon Fosse ar 5 Hydref, tynnodd nifer sylw at y ffaith mai o'r cyrion y daw Fosse mewn mwy nag un ystyr: nid mewn Norwyeg ond mewn Nynorsk y mae'n ysgrifennu, sef amrywiad ysgrifenedig llai cyffredin ar y Norwyeg a berthyna i ardaloedd gwledig gorllewin y wlad. Serch hynny, dyma'r pedwerydd tro i Wobr Nobel Llenyddiaeth gael ei dyfarnu i awdur o Norwy, gwlad sydd â phoblogaeth o ychydig dros bum miliwn. Gwobrwywyd Bjørnstjerne Bjørnson yn 1903, Knut Pedersen Hamsun yn 1920, a Sigrid Undset yn 1928. Caiff erthygl arall ddadansoddi'r rhesymau am y llwyddiant cymharol hwn, ond mae'n werth cofio mai gwobrwyo gwaith sy'n rhoi mynegiant i idealaeth gref yw bwriad y wobr oddi ar ei sefydlu yn 1901, ac fallai mai dyna sydd i gyfrif am y ffaith fod hon yn un o'r ychydig wobrau sy'n werth ei chymryd o ddifri heddiw.
Prin ydi'r adnabyddiaeth o gyfraniad Jon Fosse ym Mhrydain, er i wasg Fitzcarraldo, yn gymeradwy iawn, ddechrau cyhoeddi ei lyfrau yn 2018. (Mwy adnabyddus ydi ei ddisgybl triw, Karl Ove Knausgård, ac mae dylanwad Fosse ar arddull Knausgård i'w glywed yn rhythm ei waith, yn naws llythrennol ei arddull.) Ond ar y cyfandir, mae'n enw amlwg, fel dramodydd yn fwy nag fel bardd, ysgrifwr neu ryddieithwr, er iddo ysgrifennu dros hanner cant o destunau rhyddiaith, ac er mor allweddol ei farddoniaeth i'w ddatblygiad fel nofelydd. Cyfieithwyd ei ddramâu i dros 40 o ieithoedd, erbyn hyn, ac fe'u perfformir yn rheolaidd. Fel dramodydd y deuthum innau ar ei draws am y tro cyntaf. Mae hefyd wedi cyfieithu i'r Nynorsk waith Georg Trakl a Rainer Maria Rilke.
Yn fwy diweddar, neilltuodd ei amser i ysgrifennu un llyfr mawr ar ffurf saith cyfrol, sef Septologien (2021) (Saitholeg). Mae hwn yn destun sy'n ymestyn dros fil o dudalennau ac yn cyfleu, trwy gyfrwng monolog i bob pwrpas, saith niwrnod ym mywyd Asle, artist gweddw lled lwyddiannus sy'n byw mewn pentref diarffordd ar arfordir gorllewinol Norwy. Dilynwn ei feddyliau wrth iddo deithio – a phetruso ynghylch mynd – yn ôl ac ymlaen yn yr eira i Bjørgvin (dyma'r enw hanesyddol ar Bergen) a cheir digon yma i fodloni rhamantiaeth yr ymwelydd am natur bywyd ar lannau fjord ddi-sŵn, er gwaethaf gwewyr meddwl Asle, gallu ei gymydog Asleik i fynd ar ei nerfau, ac absenoldeb ei wraig. Prin ydi nodweddion heddiw yn y darlun a gawn gan Fosse ac un o'r ychydig elfennau yn y naratif sy'n dangos ôl amser ar fyd allanol ydi arwyddocâd atgynhyrchiad o lun eiconig a sentimental o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Torrwyd y llun, 'Ymdaith Briodasol ar yr Hardangerfjord', o lyfr gan Asle yn blentyn, ac wrth fynd ati i'w gopïo â llaw yn llwyddiannus, a'i werthu, y dechreua ar ei lwyddiant fel artist. Ond darlun 'sydd wedi breuo' ydi hwn, 'nes nad oes modd gweld, mwyach, yr hyn sydd yn y llun'. Wrth ei atgynhyrchu, daw Asle i'r casgliad mai mwya tywyll ydi ei ddarlun, mwya o olau sydd. (Mae nofel arall gan Fosse, Melancholia I-II (1995-6), yn cyfleu ar ffurf ffuglen fywyd yr artist Norwyaidd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Lars Hertervig (1830-1902), a dynnai dirluniau sy'n cyfleu sensitifrwydd arbennig i olau. Gweler y llun uchod.)
Dechreua pob diwrnod o'r saith yn yr wythnos hon yn Septologien â disgrifiad o lun haniaethol, paentiad sydd ar ei hanner gan Asle, sef dwy linell yn croesi ei gilydd, un o liw brown a'r llall o liw fioled. Ac mae pob un o'r saith adran yn gorffen â datganiad o'r Ave Maria mewn Lladin (trodd Fosse at y ffydd Gatholig yn 2012, fel ag y gwnaeth Asle.). Oddi mewn i'r adeiladwaith hwn, nid oes atalnod llawn, dim llinyn naratif i dynnu'r darllenydd yn ei flaen, dim dringo at uchafbwynt; ar un olwg does fawr ddim yn digwydd, ac ychydig o siarad sydd, fel petai amser yn aros yn ei unfan, ac fel petaem nid yn darllen nofel wedi'r cyfan ond testun litwrgaidd sy'n dibynnu ar ailadrodd elfennau. Does dim nodweddion allanol i'r cymeriadau ychwaith, dim wynebau, ac mae'r adroddwr yn cyfeirio atynt, fwy na heb, wrth eu henwau categori: Chwaer, y Tad, y Fam... Mae un o'r ychydig gymeriadau eraill yn dwyn yr un enw ag Asle ac mae yntau hefyd yn artist, ac yn gwisgo fwy neu lai yr un dillad. Y prif wahaniaeth rhyngddynt ydi fod yr ail wrthi'n yfed ei hun i farwolaeth ac yn ystyried hunanladdiad, a greddf y cyntaf yn ei dynnu i geisio achub bywyd ei gyfaill. Trwy feddyliau Asle yr artist llwyddiannus y byddwn yn ei weld.
Ceir adlais o'r ailadrodd hwn ar wahanol lefelau yn strwythur y gwaith yn nheitl y rhan gyntaf, 'Yr enw arall', ac unwaith eto yn epigraff yr ail ran ('Je est un autre', 'Arall ydw i', sef geiriau cofiadwy Rimbaud) gan ddadlennu diddordeb dwfn Fosse mewn amrywiadau a'r cwestiwn sylfaenol: pam mai fy mywyd i rydw i'n ei fyw ac nid bywyd rhywun arall? Caiff yr effaith hon ei chryfhau gan yr anhawster a gaiff y darllenydd i wahaniaethu'n glir rhwng cymeriadau, fel petaent yn fersiynau o'i gilydd, ac yn yr un modd gan yr holl amrywiadau a wêl Asle yn ei ddarlun ar y gweill: 'megis gweledigaeth, gwêl Asle o'i flaen yr holl arlliwiau brown fel ag y maent, fel lliwiau brown gwahanol, nid fel lliwiau brown gwahanol sy'n perthyn i gwch ond fel lliwiau unigol, dim arall ond lliwiau penodol, ac mae'n gweld yr arlliwiau gwahanol hyn yn cyfuno efo'i gilydd'. Ac mewn sgwrs â'i chwaer a hwythau'n blant, dywed,
Mae yna lawer mwy o liwiau nag sydd yna o enwau amdanyn nhw [...] tydi lliwiau byth yn union yr un fath â'i gilydd a hefyd maen nhw'n newid o hyd, mae a wnelo'r golau, meddai, felly mae'n amhosib cael enwau ar gyfer yr holl liwiau sy'n bodoli, mi fyddai yna gymaint o enwau nes na fyddai neb yn medru eu dysgu nhw, meddai...
Diddorol hefyd oedd darllen mewn cyfweliad ddisgrifiad Fosse o Samuel Beckett, dramodydd y mae'n uniaethu'n gryf â'i waith, fel 'peintiwr ar gyfer y theatr yn hytrach nag awdur'. Ac fel petaent yn cymryd lle'r diffyg atalnodi yn y mil a mwy o dudalennau, ceir ailadrodd hefyd yn y defnydd dygn o eiriau sy'n arafu'r testun: 'meddai', 'meddyliaf', 'meddylia', drosodd a throsodd, fel llais mewnol sy'n sylwi arno ef ei hun yn null myfyrdod.
Y tawelwch yn ei waith sydd yn fy nenu'n ôl at Jon Fosse dro ar ôl tro, yn arbennig fel darlleniad cynta'r dydd wrth iddi oleuo, ac mae rhyw lymder eglwysig amdano sy'n cyfuno'n rhyfeddol â'r ailadrodd baróc, mae yna rym cerddorol i'w gystrawen sy'n ymestyn i mewn ac allan yr un pryd, at yr hyn sydd y tu hwnt i eiriau. Wedi'r cyfan, fel y nododd Fosse ei hun, mae iaith yn cyfleu un peth a'r hyn sy'n groes iddo, a rhywbeth arall eto. Ac mae fel petai'r hyn sy'n mynd â bryd cymdeithas heddiw, a'r holl sŵn, yn absennol – tydi golwg cymeriadau ddim yn bwysig, ac i raddau eu gorffennol ychwaith. Lleisiau yn y presennol ydyn nhw, a does fawr ddim o'r byd cyhoeddus, fel y meddyliwn amdano, yn dod i darfu arnynt. Y mewnol sy'n real, nid yr allanol, ac iaith Fosse nid yn gymaint yn disgrifio realiti ond yn creu darlun ohono.
O gofio dyfarniad yr athronydd Jürgen Habermas ein bod eisoes yn byw mewn byd ôl-seciwlar, arwyddocaol fallai ydi gwobrwyo'r awdur hwn eleni. Dyma lenyddiaeth ar ei gorau, sy'n creu pellter oddi wrth y byd er mwyn tynnu'n agosach ato; mae'n cario ei phoen, ei gwely, ar ei chefn gan ei gosod rhwng yr adleisiau, er mwyn rhoi lle i'w chelfyddyd ddirgrynu yn y tawelwch.
Sioned Puw Rowlands ydi golygydd O'r Pedwar Gwynt.