Adolygu

Blwyddyn o ddarllen: llyfrau plant

Ysgol Gynradd Eglwyswrw a Bethan Gwanas

Amser darllen: 2 funud

09·12·2016


Lefi Dafydd, Blwyddyn 6
Mr Ffiaidd gan David Walliams, cyf. Gruffudd Antur (Atebol, 2016)

Mae Mr Ffiaidd yn llyfr ffuglen newydd gan David Walliams. Cafodd ei gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg gan Gruffudd Antur. Mae'r llyfr yn orlawn o luniau'r arlunydd enwog Quentin Blake. Mae'r stori'n sôn am ferch fach unig o'r enw Alys, sy'n ceisio goresgyn ei swildod wrth iddi wneud ffrindiau gyda thrempyn o'r enw Mr Ffiaidd, sy'n, wel ... ffiaidd. Yr unig broblem yw bod mam Alys (sydd eisiau bod yn Brif Weinidog) eisiau taflu pob trempyn allan o'r dre! Mae yna ddirgelion i'w datrys, fel pam mae Dad yn cuddio yn y cwtsh dan stâr? A pham mae Mr Ffiaidd yn ymddangos ar raglen deledu wleidyddol? Mae cyfrinachau i'w datgelu a gweinidogion slei i'w cyfweld, felly daliwch eich trwynau a phlymiwch i fewn i'r antur ddrewllyd ond gyffrous hon. Fe wnaeth y llyfr hwn argraff fawr arna i er fy mod wedi darllen y fersiwn Saesneg, Mr Stink, gan ei fod yn antur a hanner. Rwy'n argymell y llyfr hwn i blant dros wyth oed – mae yna ddigwyddiadau trist a thamaid o ddadlau. Rwy'n rhoi marciau llawn iddo, gan fod yna lawer o ddigrifwch, heb fynd dros ben llestri.

Beck Balmer, Blwyddyn 5
Cyfrinach Nana Crwca gan David Walliams, cyf. Gruffudd Antur (Atebol)

Mae Cyfrinach Nana Crwca yn arbennig! Rydw i wedi dewis y llyfr fel llyfr darllen yn yr ysgol a nawr dydw i ddim yn gallu ei roi i lawr! Os ydych chi eisiau llyfr llawn cyffro, hwyl a sbri yna dewiswch y llyfr yma. Cyn hwn roeddwn wedi darllen Henri Helynt a'i fwynhau yn fawr iawn, ond o gymharu â Cyfrinach Nana Crwca, dyw Henri Helynt yn ddim byd! Mae stori Cyfrinach Nana Crwca yn sôn am rywbeth pwysig iawn. Mae'n ein dysgu ni na ddylen ni farnu pobl eraill. Ar y dechrau mae'r prif gymeriad yn dweud bod ei fam-gu yn fenyw ddrewllyd, hen a ddim yn hwyl o gwbl. Ond wedyn mae'n clywed am ei chyfrinach bwysig ac yn newid ei feddwl yn syth. Dyw Nana Crwca ddim yn ddiflas o gwbl! 

Manon Elster-Jones, Blwyddyn 5
Nefoedd yr Adar gan Ceris Mair James (Gomer)

Mae'r llyfr arbennig hwn am fachgen o'r enw Ifan sy'n dod yn ffrindiau, yn annisgwyl, gyda thri aderyn. Yn y stori clywn am yr adar yn creu band o'r enw 'Nefoedd yr Adar'. Fe wnes i fwynhau'r llyfr yn fawr iawn oherwydd roedd yn ddoniol ac roedd y cymeriadau yn hoffus iawn. Dwi'n credu bydd bechgyn a merched yn hoffi'r llyfr oherwydd mae'n addas i bawb. Un o fy hoff gymeriadau yw Gwil achos mae'n gwneud pethau doniol. Hoffais y ffordd mae'r awdur wedi defnyddio geiriau cyffrous (un o fy hoff eiriau yn y nofel yw 'chwyrligwgan'!). Darllenwch Nefoedd yr Adar nawr am ei fod yn ddarllen hwylus ac yn llawn doniolwch!

Dewis Bethan Gwanas: nofelau a straeon plant 2016

Straeon Tic Toc gan amrywiol awduron, darluniau Helen Flook (Gomer)
Straeon byrion i blant 3-7 oed

Pluen gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Nofel i blant 9-12+ oed

Yr Argae Haearn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Nofel i blant 9-12+ oed

Seren y Dyffryn gan Branwen Davies (Gomer)
Nofel i blant 7-10+ oed

Nan a'r Sioe Fawr gan Ifan Jones Evans, darluniau Petra Brown (Gomer)
Nofel i blant 6-9 oed

Y Bws Hud ac OMB gan Eurgain Haf, darluniau Hannah Doyle (Gwasg Carreg Gwalch)
Dwy stori i blant 6+ oed

Na, Nel! AAA! gan Meleri James, darluniau John Lund (Y Lolfa)
Tair stori i blant 7-9 oed

Morgan y Morgrugyn a Melysion Moes Mwy gan Dafydd Llywelyn, darluniau Hannah Doyle (Gwasg Carreg Gwalch)
Dwy stori i blant 6+ oed

Nadolig Llawen Jac y Jwc gan Ifana Savill, darluniau Catrin Meirion (Gomer)
Stori i blant dan 5 oed

Alun yr Arth a'r Gêm Bêl-droed gan Morgan Tomos (Y Lolfa)
Stori i blant 3-7 oed

Mae Bethan Gwanas yn awdur toreithiog ac yn blogio am lyfrau fan hyn.

Pynciau:

#Llyfrau plant
#Bethan Gwanas
#Rhifyn 2