Adolygu

Llyfrau Plentyndod

Elizabeth Watkin-Jones

Luned Bengoch

Gomer, 115tt, £6.50, 1946, 1984

Joan R. Riera

Stori Go Iawn Karl Marx

Gair Rhydd, 32tt, £10.00, 2015

Moelona

Teulu Bach Nantoer

Cromen, 88tt, £2.99, 1913, 2013

J O Williams & Jennie Thomas

Llyfr Mawr y Plant

Carreg Gwalch, 222tt, £15.00, 1931, 2014

Llyfrau Plentyndod
Amrywiol

Amser darllen: 2 funud

25·07·2016

Sioned Haf
Cyhoeddwyd Stori Go Iawn Karl Marx ym mis Tachwedd 2015. Trwy stori a llun, mae’n esbonio i blant sut mae cyfalafiaeth yn gweithio. Amseru da o ystyried yr holl helbul gwleidyddol a chymdeithasol mae Cymru yn ei wynebu yn 2016. Dwi erioed wedi bod yn fwy argyhoeddedig o'r angen am addysg wleidyddol gynhwysfawr ar ddinasyddion Cymru, er mwyn deall gwreiddiau tlodi ac effeithiau globaleiddio a chyfalafiaeth. Mae angen i addysg  ganiatáu i ni gwestiynu seiliau moesegol ac egwyddorol ein heconomïau a'n cymdeithas, er mwyn anelu at well tegwch i bawb. Dyna pam mae’r llyfr hwn yn arbennig o briodol i blant Cymru, gan gyfrannu at greu addysg a dinasyddiaeth ddeallus, ystyriol a chariadus. Gobeithio y bydd y gyfrol hon yn ysgogi mwy o lyfrau tebyg.

Emily Huws
Darllen a Chwarae 2: hen wraig druan yn cysgu ar y ffordd i’r farchnad i werthu wyau ac yn breuddwydio bod cwningod yn chwarae pêl efo’r wyau, ac olwyn fawr yn mynd i’r ffair i gario mwnci i Lanbrynmair. Chwedlau Aesop: yn llawn dop o hanesion am greaduriaid cyfareddol. Llyfr Mawr y Plant, Teulu Bach Nantoer a llyfrau Bwthyn Bach y Bryn. Raggedy Ann a anfonwyd yn anrheg gan berthnasau o America bell, bell: doli glwt, a phladras o ddynes fawr ddu yn ei golchi hi a’i dillad efo’i gilydd, yn ei hongian ar y lein i sychu a’r adar yn tynnu’r stwffin o’i phen hi fel cynrhon. Gwyddwn i sicrwydd y byddai ganddi gur yn ei phen am byth. Poenwn amdani. Pob un yn werthfawr, ac yn goron ar y cyfan roedd Luned Bengoch. Trysorau bob un. Am byth.

Gordon Jones
Bu cynnydd mawr yn y llyfrau Cymraeg i blant ers y 1990au a bu’n rhaid i’r rhai gwreiddiol gystadlu ag addasiadau o oreuon neu werthwyr gorau Prydain mewn marchnad rydd lem. Fel un oedd yng nghanol y berw hwn deuais i sylweddoli bod angen ceisio creu cyfrolau o’r un safon â’r addasiadau gwych hynny, o ran cynnwys, coethder a diwyg; nid mater hawdd ar gyllideb gymharol fechan. Llwyddwyd yn rhyfeddol, ond faint ohonyn nhw welsoch chi? Ychydig iawn decini. Oes fer o werthiant sydd i ganran uchel o lyfrau gwreiddiol – chwe mis i flwyddyn – cyn iddyn nhw farw ar silff yn rhywle a llenwi bin bargen a sgip. Os hoffech gloddio am drysorau cynhenid mewn siop neu lyfrgell awgrymaf eich bod yn chwilio am yr enwau hyn ar y cloriau: Emily Huws, Siân Lewis, Mair Wynn Hughes, Gareth F Williams, Myrddin ap Dafydd, Gwenno Hughes, Brenda Wyn Jones, Haf Llewelyn, Manon Steffan Ros, Caryl Lewis.

Siwan M Rosser
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones yw un o’r llyfrau a greodd yr argraff fwyaf arnaf pan oeddwn tua 11 neu 12 mlwydd oed. Roeddwn eisoes wedi llowcio anturiaethau Twm Siôn Cati a Barti Ddu, a dyma (o’r diwedd) ganfod merch o arwres gref a charismatig. Fe helpodd y clawr, wrth gwrs: tonnau o wallt coch, crych a baner Glyndŵr yn cwhwfan yn y cefndir. Fe’m denwyd yn syth ac ni chefais fy siomi gan y stori chwaith. Stori anturus, gyfoethog, Gymreig gyda merch yn brif gymeriad. Swynwyd cenedlaethau o ddarllenwyr gan Luned Bengoch, a synnwn i fawr na fyddai’n bwrw ei hud ar ddarllenwyr heddiw hefyd pe câi gyfle.

Siân Teifi
Yn blentyn, eithriad prin fyddai fy ngweld heb lyfr yn fy llaw. A dweud y gwir, byddai Mam weithiau’n galw arna’ i i ddod am fwyd, a finnau’n ei hanwybyddu’n llwyr am ’mod i ar goll mewn llyfr, fy nychymyg yn rhedeg yn wyllt drwy setiau ffilm gwerth biliynau o bunnoedd, a phrif gerddorfeydd y byd yn darparu cyfeiliant oesol i’r cyfan. Llyfr Mawr y Plant heuodd yr hedyn, wrth gwrs. Yn dair oed, cyflwynai fy nhad y straeon gydag afiaith, gan gau’r llyfr yn ddefodol ofalus ar ôl pob darlleniad oherwydd mai ei gopi ef o’r argraffiad cyntaf oedd hwn, a’i atgofion yntau am blentyndod gyda Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach yn lliwio’r cyfan. Rwy’n trysori’r copi yma o hyd. Cael ar ddeall wedyn mai Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938) gan E Morgan Humphreys oedd hoff lyfr fy nhad, a mynd ati’n syth, yn wyth oed, i’w lyncu’n gyfan. ’Does gan I’m a Celebrity… ddim byd tebyg o ran arswyd. A dwi’n dal i ofni nadroedd hyd y dydd heddiw.

Llŷr Titus
Doeddwn i ddim yn ddarllenwr mawr nes i mi ddechrau ar gyfres Harry Potter ac yna’n hwyrach ddeunydd Terry Pratchett, a brofodd yn bur ddylanwadol am gyfnod. Rhaid cyfaddef nad oes gen i fawr o atgof o lyfrau Cymraeg dylanwadol ym mlynyddoedd cynharaf fy narllen. Pan oeddwn yn blentyn doedd yna ddim llawer o ddeunydd roeddwn i’n hoff o’i ddarllen ar gael yn Gymraeg, neu felly yr oeddwn i’n ei gweld hi. Wrth symud i ddarllen llyfrau a oedd ar gyfer demograffeg hŷn (wn i ddim pa mor llesol ydi demograffegau ym myd llyfrau chwaith) yr argraff yr oeddwn i’n gael wrth ddarllen deunydd i ‘bobol ifanc’ oedd eu bod unai yn siarad i lawr hefo fi fel darllenydd neu eu bod nhw’n trio’n llawer rhy galed i fod yn cŵl. Mater o chwaeth oedd hynny, dybiwn i. Doeddwn i chwaith ddim yn or-hoff o ddeunydd T Llew Jones, yn groes i'r rhelyw.
 

Darllenwch yn ogystal: Llên plant a dychymyg y Gymraeg gan Siwan M Rosser

Doli glwt, a phladras o ddynes fawr ddu yn ei golchi hi a’i dillad efo’i gilydd, yn ei hongian ar y lein i sychu a’r adar yn tynnu’r stwffin o’i phen hi fel cynrhon

Pynciau:

#Llyfrau plant
#Rhifyn 1
#Llŷr Titus
#Siwan M Rosser