Hanes a rhywedd
Beth Jenkins, Paul O’Leary a Stephanie Ward (goln)
GENDER IN MODERN WELSH HISTORY: PERSPECTIVES ON MASCULINITY AND FEMININITY IN WALES FROM 1750 TO 2000
Gwasg Prifysgol Cymru, 275tt, £24.99, 2023
Sut olwg sydd ar hanes y Gymru fodern o’i ystyried o safbwynt rhywedd, sef y cysyniad bod benyweiddiwch a gwrywdod yn hunaniaethau sy’n cael eu creu a’u perfformio, a hynny mewn ffyrdd gwahanol mewn cymdeithasau gwahanol? Dyna’r cwestiwn canolog a ofynnir gan y gyfrol hon. Fel y pwysleisia’r golygyddion yn eu cyflwyniad, nid cynnig un ateb cynhwysfawr yw nod y gyfrol ond yn hytrach dangos gwerth a photensial y dull hwn o sgrifennu hanes drwy gyflwyno casgliad o astudiaethau ar agweddau dethol ar y pwnc. Ac nid cyfrol yn codi o unlle mohoni chwaith, gan ei bod yn dyst i’r gwaith cynyddol ar rywedd gan haneswyr Cymru ers y 1980au (a hyn yn adlewyrchu yn eu tro dueddiadau hanesyddiaethol ehangach), gwaith a ganolbwyntiai’n bennaf i ddechrau ar hanes menywod – enghraifft nodedig yw’r casgliad a olygodd Angela V John, Our Mother’s Land (1991) – ond sydd wedi ymestyn ei orwelion yn y ganrif bresennol i gwmpasu hanes gwrywdod yn ogystal. Er enghraifft, cyhoeddwyd pennod gan Michael Roberts ar ymddygiad dynion yn y gyfrol a olygodd gyda Simone Clarke, Women and Gender in Early Modern Wales (2000), a dadleuodd Paul O’Leary o blaid pwysigrwydd rhywedd fel categori dadansoddol yn hanes modern Cymru mewn erthygl arloesol yn 2004.
Mae nifer o’r cyfranwyr yn bwrw golwg newydd ar yr economi a’r gymdeithas. Gan dynnu ar gofnodion Llys y Sesiwn Fawr dadleua Angela Muir fod merched wedi troi at waith rhyw yn y cyfnod c.1750–1830 fel ymateb i’w sefyllfa economaidd ansicr, tra pwysleisir ganddi yr un pryd fod eu profiadau’n amrywiol iawn; cawn gan Paul O’Leary drafodaeth ddadlennol, wedi ei seilio’n rhannol ar waith anthropolegwyr cymdeithasol, ar bwysigrwydd llwch glo fel arwydd o hunaniaeth wrywaidd glowyr yn y degawdau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf; a dengys Simon Jenkins fod barn sylwebyddion ar rywioldeb dynion a merched Tre-biwt yn annatod ynghlwm wrth ragfarnau hiliol meddylfryd imperialaidd a ystyriai’r gymuned yn ofod problemus yr oedd angen ei ddwyn dan reolaeth. Thema arall a drafodir yw gweithgarwch dros amcanion gwleidyddol a chymdeithasol. Cymhletha Steven Thompson y ddealltwriaeth o hanes llafur yn y de diwydiannol rhwng tua 1870 a 1939 drwy ddadansoddi defnydd undebau llafur o wrywdod fel arf rhethregol a symbolaidd er mwyn ennill dynion yn aelodau a sicrhau eu cefnogaeth adeg streiciau, gan awgrymu fod gwrywdod efallai’n ffactor yr un mor bwysig â dosbarth cymdeithasol yng ngwleidyddiaeth y mudiad llafur. Yn eu pennod ar fudiadau cymdeithasol menywod yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn 1914 mae Neil Evans a Beth Jenkins yn priodoli rhan fawr o’u llwyddiant i’r cyfleoedd i fenywod dosbarth canol gydweithio yn eu gofodau eu hunain, yn eu plith maestrefi (dyfynnir o Monica Saunders Lewis lle ceir darlun o’r rhan allweddol a chwaraeai menywod yn y rhain). Agwedd arall ar ofod benywaidd oedd y cartref. Fel y dadleua Stephanie Ward, daeth hwn, yn annisgwyl hwyrach, yn ffocws i weithgarwch gwleidyddol gwragedd tŷ rhwng y ddau ryfel byd; un o’i chasgliadau yw bod y Blaid Geidwadol, gyda’i neges o ddiogelu sefydlogrwydd y teulu, wedi llwyddo’n well na’r pleidiau eraill i ddenu cefnogaeth y garfan newydd hon o bleidleiswyr. Wrth droi at ddegawdau olaf yr ugeinfed ganrif, fodd bynnag, cawn ein tywys i ferw ymgyrchu radicalaidd mewn penodau’n archwilio ymgyrchoedd myfyrwyr benywaidd coleg prifysgol Abertawe dros gydraddoldeb yn y 1970au a’r 1980au (Jay Rees) a gwleidyddiaeth wrth-niwclear yng Nghymru o 1970 hyd 2000, yn arbennig protestiadau menywod o Gymru yn erbyn lleoli taflegrau niwclear yng ngwersyll Comin Greenham (Elaine Titcombe).
Yn debyg i lawer o wledydd eraill roedd rhywedd yn wedd ganolog ar ddelweddau o’r genedl yng Nghymru. Fel y dengys Marion Löffler, roedd hynny’n wir am y darlun o fenywod Cymru a gyflwynwyd gan awduron Cymreig a Seisnig fel ei gilydd yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. I gryn raddau, cydymffurfiai’r darlun â’r ddelwedd ehangach o fenywod Prydain fel bodau rhinweddol o dan fygythiad gan y gelyn o Ffrainc, ond cyflewyd safle darostyngol Cymru fel gwlad ecsotig drwy fynnu fod y Gymraes yn agosach at natur na’i chwaer boléit dros y ffin. Trafodir agwedd arall ar berthynas Cymru â Phrydain Fawr a’i hymerodraeth gan Mike Benbough-Jackson, sy’n olrhain yr ymdrechion i droi dathliadau Gŵyl Ddewi’n achlysur i frolio dewrder gwrol y Cymry adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, er gwaethaf yr anhawster o bortreadu’r nawddsant ei hun yn arweinydd milwrol tebyg, dyweder, i Sant Siôr yn Lloegr neu Jeanne d’Arc yn Ffrainc.
Cyfrol i’w chroesawu yw hon yn union oherwydd amrywiaeth ei phynciau a’r dulliau o’u trin, nodweddion sy’n ei gwneud nid yn unig yn gyfraniad gwerthfawr i faes sydd wedi esblygu’n sylweddol dros y deugain mlynedd diwethaf ond hefyd yn ysgogiad i waith pellach yn y dyfodol. Ac yn anad dim, mae’n gyfrol sydd yn ein herio i feddwl am rywedd nid fel agwedd benodol ar y gorffennol yn gymaint ag fel fframwaith hanfodol ar gyfer deall hanes Cymru – a’n byd ni heddiw – yn ei holl gymhlethdod.
Cyfrol ddiweddaraf Huw Pryce yw Writing Welsh History: From the Early Middle Ages to the Twenty-First Century (OUP, 2022).