Gorffennol heddiw
Pedro Almodóvar
MADRES PARALELAS
120 munud, 2021
Elin Jones
Hanes yn y Tir
Carreg Gwalch, 222tt, £16.50, 2021
Jasna Jozelić, Gorana Ognjenović (goln)
NATIONHOOD AND POLITICIZATION OF HISTORY IN SCHOOL TEXTBOOKS
Palgrave Macmillan, 298tt, £89.99, 2020
Jawaharlal Nehru
The Discovery of India
Penguin, 656tt, £16.75, (1946) 2004
R T Jenkins
Yr Apêl at Hanes ac Ysgrifau Eraill
Hughes a’i Fab, 1930
Ambrose Bebb
Trydydd Anffawd Fawr Cymru
yn Y Llenor, cyfrol 3, rhan 2, 1924
Ernest Renan
Qu’est-ce qu’une nation?
Fayard (Collection 1001 nuits), 48tt, €3, (1882) 2023

Llun: Mark Power/Magnum Photos
Yn y bôn, ffilm am natur perthyn yw Madres paralelas (Parallel Mothers, 2021) Pedro Almodóvar, ac yn arbennig am berthynas y ddwy fam sengl y cyfeirir atynt yn y teitl. Ond caiff y cwbl ei fframio gan y berthynas rhwng y presennol a’r gorffennol, y byw a’r meirw, wrth i ni ddilyn ymdrechion un o’r mamau, Janis (Penélope Cruz), i drefnu datgladdu gweddillion ei hen daid a’r bobl eraill o’r un dref a laddwyd yr un pryd ag ef gan ffasgwyr y Ffalanche (Falange) ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen. Ffilm ac iddi ddimensiwn hanesyddol cryf yw hon, felly, a’r rhyfel cartref ac unbennaeth Franco yn bresenoldeb heriol ac anghysurus sy’n brigo i’r wyneb yn bwerus ynddi. Mewn un olygfa crynhoir beth sydd yn y fantol wrth i Janis edliw i’r fam ifanc Ana (Milena Smit) ei hanwybodaeth am yr hyn oedd wedi digwydd yn ei gwlad. Dan deimlad, mae Janis yn egluro wrth Ana fod dros 100,000 o bobl wedi diflannu a chael eu claddu mewn ffosydd ac ar bwys mynwentydd a bod eu disgynyddion wedi addo wrth eu mamau a’u neiniau y byddent yn cael hyd i’r cyrff a’u claddu’n barchus: nes i hynny ddigwydd ni fydd y rhyfel byth ar ben. Ar ddiwedd y ffilm gwelwn Janis ac Ana ymhlith criw o bobl, rhai ohonynt yn dal ffotograffau du a gwyn o’r sawl a laddwyd, yn cerdded yn urddasol at ymyl bedd torfol sydd newydd ei gloddio gan archaeolegwyr fforensig. Ynddo mae deg sgerbwd, pob un wedi ei labelu â rhif, gan gynnwys hen daid Janis a ratl ei ferch, a oedd ganddo pan aed ag ef i ffwrdd i’w saethu, yn gorwedd gerllaw. Wrth gloi tanlinellir neges wleidyddol y ffilm drwy ddangos y geiriau canlynol gan y llenor a’r sosialydd o Uruguay, Eduardo Galeano (1940–2015): ‘Does dim hanes mud. Ni waeth faint maen nhw’n ei losgi, faint maen nhw’n ei dorri, a faint o gelwyddau maen nhw’n ddweud amdano, mae hanes dynol yn gwrthod cau ei geg.’
Cyd-destun uniongyrchol y ffilm yw hanes modern Sbaen ac yn arbennig yr ymdrechion i alluogi disgynyddion y miloedd o ddinasyddion a laddwyd gan y cenedlaetholwyr yn y rhyfel cartref ac wedyn o dan lywodraeth Franco i gael hyd i’w gweddillion. Mae’r ymdrechion yn rhan o adwaith cynyddol ers dechrau’r ganrif bresennol yn erbyn yr hyn a elwir y pacto del olvido (cytundeb anghofio), sef y consensws a ffurfiwyd wedi marwolaeth Franco fod rhaid symud ymlaen o’r rhyfel cartref a chyfundrefn yr unben er mwyn gallu adfer democratieth yn Sbaen. I’r diben hwnnw pasiwyd Deddf Amnest yn 1977 a oedd yn rhyddhau carcharorion gwleidyddol ond hefyd yn atal erlyn swyddogion cyhoeddus am droseddau a gyflawnwyd am resymau gwleidyddol o dan Franco. Yn 2000 sefydlwyd La Asociación para la Recuperación de la Memoria Histórica (Y Gymdeithas ar gyfer Adfer Cof Hanesyddol), corff gwirfoddol sydd wedi arwain yr ymdrechion i gasglu gwybodaeth am bobl a ddiflannodd yn y rhyfel cartref ac o dan gyfundrefn Franco, gan ddarganfod y mannau lle claddwyd hwy, a datgladdu eu cyrff a dychwelyd yr olion i’w teuluoedd. At hynny, mae llywodraethau sosialaidd Sbaen wedi cymryd camau pendant i’r un perwyl, yn fwyaf diweddar drwy Ddeddf Cof Democrataidd 2022 a gyflwynwyd gan lywodraeth glymblaid y prif weinidog sosialaidd Pedro Sánchez (ceir rhagor am sefyllfa wleidyddol gyfoes Sbaen yn erthygl Helena Miguélez-Carballeira yn rhifyn gaeaf 2022 O’r Pedwar Gwynt). Mae’r ddeddf newydd nid yn unig yn rhoi cyfrifoldeb ar y wladwriaeth i gael hyd i gyrff y diflanedig a sefydlu cronfa DNA er mwyn cynorthwyo adnabod y gweddillion ond hefyd yn datgan bod llywodraeth Franco’n anghyfreithlon ac yn gwahardd pob ymgais i fawrygu’r unben. Yn ogystal, er bod y ddeddf yn ymwneud â Sbaen yn gyffredinol, cyffyrddir â chyfansoddiad datganoledig y wlad wrth ddatgan bod ‘y cymunedau, yr ieithoedd a’r diwylliannau Basgaidd, Catalanaidd a Galisaidd’ wedi dioddef drwy gael eu herlid am ddefnyddio eu hieithoedd brodorol. Gwrthwynebwyd y ddeddf gan bleidiau’r dde am fynd yn groes i Ddeddf Amnest 1977 ac mae arweinydd y blaid fwyaf, y Partido Popular, wedi addo ei diddymu os byddant yn ennill etholiadau seneddol Sbaen eleni. Ar y llaw arall, beirniadwyd mesur 2022 gan y Gymdeithas ar gyfer Adfer Cof Hanesyddol a dwy o’r pleidiau Catalanaidd am fethu â diddymu’r ddeddf gynharach honno.
*
Mae’r gwahaniaeth barn ar sut i ymdrin â hanes cythryblus Sbaen yn yr ugeinfed ganrif yn codi nifer o gwestiynau am y berthynas rhwng y gorffennol a’r presennol. Un, wrth gwrs, yw sut ac i ba raddau y dylai cyfundrefn ddemocrataidd sicrhau bod yr hyn a ddigwyddodd o dan gyfundrefn ormesol flaenorol yn cael ei gofio a’i archwilio, cwestiwn a wynebwyd mewn ffyrdd gwahanol yn yr Almaen wedi cwymp y Natsïaid, gan wledydd dwyrain Ewrop wedi cwymp comiwnyddiaeth a chan Dde Affrica ar ôl diddymu apartheid, ac enwi dim ond ychydig o enghreifftiau amlwg. Mae Sbaen yn un o nifer o wledydd lle cymerwyd camau i geisio darganfod beth ddigwyddodd i ddioddefwyr, heb o angenrheidrwydd gosbi’r rhai fu’n gyfrifol am eu herlid a’u lladd: mae Comisiwn Gwirionedd a Chymod De Affrica wedi bod yn batrwm dylanwadol yn hyn o beth. Ond mae Sbaen hefyd yn enghraifft o wlad a geisiodd anghofio ei gorffennol diweddar yn enw cymod cenedlaethol. Dyma agwedd y gellir ei chymharu â datganiad de Gaulle nad oedd a wnelo llywodraeth Vichy ddim byd â hanes Ffrainc, gan gynnig darlun arwrol o’r Ffrancwyr fel gwrthsafwyr dewr yn erbyn y Natsïaid, darlun y dechreuwyd ei herio dim ond ar ôl marwolaeth de Gaulle yn 1970; neu bolisi llywodraeth Rwanda wedi diwedd y gyflafan hil-laddol yn 1994 – pan lofruddiwyd bron i 800,000 o’r boblogaeth Tutsi mewn rhyw chwe wythnos – o geisio creu un hunaniaeth genedlaethol Rwandaidd i ddisodli rhaniadau ethnig y wlad. Honna’r llywodraeth bresennol (yn anghywir yn ôl arbenigwyr ar hanes Rwanda) mai llywodraeth drefedigaethol Gwlad Belg a greodd gategorïau ethnig yr Hutu a’r Tutsi a bod pawb yn cyd-fyw’n heddychlon cyn hynny, ac fe gyhuddir unrhyw un sy’n cwestiynu’r naratif o gydlyniad cenedlaethol o geisio rhannu’r wlad. Yr un yw’r dehongliad a gyflwynir i ddisgyblion ysgol Rwanda ers caniatáu dysgu am yr hil-laddiad fel rhan o’r cwricwlwm hanes yn 2008. Eto, nid gan y wladwriaeth yn unig y daeth ymdrechion i hybu undod cenedlaethol, gan fod y boblogaeth Tutsi a oroesodd yr hil-laddiad wedi tueddu i gadw’n dawel amdano er mwyn gallu cyd-fyw â’u cymdogion Hutu a fu’n gyfrifol am yr erchyllterau yn eu herbyn, strategaeth y mae Susanne Buckley-Zistel wedi ei galw’n ‘anghofrwydd dewisol’ (‘chosen amnesia’) – er nad yw’r erchyllterau wedi eu hanghofio mewn gwirionedd. Dyma ymateb pragmataidd i’r angen, yn enwedig yng nghefn gwlad, i gydweithredu â chymdogion.
Cwestiwn sylfaenol sydd ynghlwm wrth yr holl achosion hyn yw’r defnydd o hanes er mwyn cyfiawnháu a chynnal delwedd arbennig o wlad neu bobl fydd yn cyfrannu at greu ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol. Cyfeirir yn aml yn y cyswllt hwn at Qu’est-ce qu’une nation? (Beth yw Cenedl?), darlith a draddodwyd ym Mharis yn 1882 gan yr ysgolhaig a’r athronydd amryddawn Ernest Renan (1823–92). Yn gysgod dros y ddarlith mae Alsace-Lorraine, tiroedd a gollodd Ffrainc yn sgil buddugoliaeth Prwsia drosti a drowyd yn rhanbarth o ymerodraeth newydd yr Almaen yn 1871. Er na chyfeirir yn uniongyrchol at y digwyddiadau hyn, mae’n arwyddocaol bod Renan yn gwadu bod modd creu cenedl ar sail hil neu iaith (roedd mwyafrif poblogaeth Alsace-Lorraine, yn arbennig yng nghefn gwlad, yn siarad tafodieithoedd Almaeneg) ac mai camgymeriad mawr yw’r ddamcaniaeth fod gan y ‘teulu Almaenaidd’ yr hawl i ailfeddiannu eu haelodau gwasgaredig, hyd yn oed yn groes i’w hewyllys. Oherwydd ym marn Renan, rhaid i bobl ewyllysio bod yn genedl. Ond nid dyna’r cwbl sydd ei angen, meddai; roedd gofyn hefyd i’r bobl uniaethu â’u hynafiaid ac ymfalchïo yn eu gorffennol arwrol:
Mae cenedl felly yn undod mawr, wedi ei ffurfio gan ymdeimlad o’r aberthau y mae wedi eu gwneud a’r rhai y mae’n barod i’w gwneud eto. Mae’n rhagdybio gorffennol; eto fe’i hailadroddir yn y presennol gan ffaith ddiymwad: cydsyniad, dyhead sydd wedi ei fynegi’n eglur i barhau bywyd cyffredin. Mae bodolaeth cenedl [...] yn refferendwm dyddiol (un plébiscite de tous les jours), fel y mae bodolaeth unigolyn yn gadarnhad parhaol o fywyd.
Eto, nid yw Renan fel pe bai’n hollol sicr o bwysigrwydd y dimensiwn hanesyddol. Yn un peth, wrth grynhoi mae’n dweud mai ewyllys y genedl i barhau sy’n allweddol: ‘Nid yw byth o fudd gwirioneddol i genedl gyfeddiannu neu ddal gafael ar wlad yn groes i’w hewyllys. Dymuniad cenhedloedd, yn y pen draw, sy’n dyngedfennol, yr unig faen prawf cyfreithlon y dylid dychwelyd ato bob amser.’ Dyma ergyd arall yn erbyn yr Almaen mae’n debyg, ac ergyd eironig hefyd o gofio trefedigaethu Ffrainc ei hun yn Affrica, Indo-Tsieina a rhannau eraill o’r byd yr adeg honno.
At hynny, yn gynharach yn y ddarlith mae Renan yn cydnabod y gall dealltwriaeth o hanes wanhau cenedl drwy ddadlennu darlun rhy gyflawn o’i gorffennol:
Mae anghofio, a byddwn yn dweud hyd yn oed hanes cyfeiliornus, yn ffactor hanfodol ar gyfer creu cenedl, a dyna pam y mae’r cynnydd mewn astudiaethau hanesyddol yn aml yn berygl i genedligrwydd. Mewn gwirionedd, mae ymchwil hanesyddol yn bwrw goleuni ar weithredoedd treisgar sydd wedi digwydd ym mhob endid gwleidyddol, hyd yn oed y rheiny sydd wedi cael y canlyniadau mwyaf bendithiol.
Roedd hynny’n arbennig o wir am Ffrainc. Eto, er i dde Ffrainc gael ei uno â’r gogledd drwy goncwest waedlyd yn y drydedd ganrif ar ddeg (a gafodd ei chyfiawnhau fel ‘croesgad’ yn erbyn hereticiaid Catharaidd neu Albigensaidd y rhanbarth) ac er i filoedd o Huguenotiaid Protestannaidd gael eu llofruddio gan y Catholigion yng Nghyflafan Dydd Sant Bartholomew yn 1572, roedd erchyllterau o’r fath bellach wedi eu hen hanghofio ac felly heb amharu ar undod cenedlaethol y wlad. Wrth gwrs, drwy gyfeirio at y digwyddiadau roedd Renan yn cymryd bod ei gynulleidfa’n gwybod yn iawn amdanynt o hyd. Beth mae’n ei olygu, yn hytrach, yw nad oeddent bellach yn corddi teimladau pobl yn yr un modd, dyweder, â Rhyfel Cartref Sbaen ac unbennaeth Franco. Os felly, dichon i Renan olygu rhywbeth tebyg i’r ymgyrchydd heddwch a’r ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol Henry Richard wrth iddo honni mewn anerchiad etholiadol yn 1868 fod y Cymry’n prysur anghofio’r hanesion am greulondeb a thwyll eu gormeswyr Sacsonaidd a Normanaidd, neu o leiaf y teimladau drwg a oedd ynghlwm wrth yr hanesion hynny.
Yn ymhlyg yng ngeiriau Ernest Renan a Henry Richard mae’r rhagdybiaeth y daw adeg pan fydd digwyddiadau’r gorffennol wedi cilio’n rhy bell yn ôl i’r gorffennol iddynt ennyn ymateb emosiynol bellach. Mae hynny’n wahanol iawn, dyweder, i Ryfel Cartref Sbaen a rhyfeloedd neu derfysgoedd cartref diweddarach megis Helyntion (‘Troubles’) Gogledd Iwerddon, rhyfeloedd y Balcanau neu hil-laddiad Rwanda, digwyddiadau sydd yn dal o fewn cof pobl heddiw, boed drwy brofiad uniongyrchol neu wybodaeth a drosglwyddwyd gan dystion sydd bellach wedi marw, a’i chadw’n fyw gan eu disgynyddion (yn ffilm Almodóvar mae Janis wedi clywed am hanes ei hen daid gan ei nain sydd yn ei thro’n cofio beth glywodd gan ei mam). I ddisgynyddion dioddefwyr, mae’r gorffennol yn dal yn rhywbeth poenus o anorffen. Mewn sefyllfaoedd o’r fath mae llawer mwy yn y fantol na dehongliad o hanes, er pwysiced hynny wrth geisio deall y digwyddiadau treisgar dan sylw. Eto, nid yw rhagdybiaeth Renan a Richard yn dal dŵr bob amser: weithiau bydd arweinwyr gwleidyddol yn ceisio corddi teimladau drwy gyfeirio at gamau honedig a ddigwyddodd ganrifoedd yn ôl, fel y gwnaeth Slobodan Milošević mewn araith a draddododd yn 1989 ar faes brwydr Kosovo, uchafbwynt diwrnod o weithgareddau i goffáu chwechanmlwyddiant y frwydr, lle trechwyd y Serbiaid gan yr Otomaniaid Islamaidd, wrth iddo bortreadu’r Serbiaid fel olynwyr teyrnas Gristnogol Serbia’r Oesoedd Canol na fyddent yn barod i ildio eu gafael ar Kosovo byth eto er gwaethaf awydd poblogaeth Foslemaidd y diriogaeth i ymwahanu.
Mae darlith Renan hefyd yn awgrymu bod tensiwn rhwng dealltwriaeth o hanes fel pasiant arwrol sy’n uno cenedl a disgyblaeth feirniadol sy’n ceisio mynd i’r afael â chymhlethdod y gorffennol gan ddinoethi rhaniadau a gwrthdaro. Dichon bod Renan yn ymateb i ddwy duedd flaenllaw yn Ffrainc ar yr adeg y traddododd ei ddarlith, y ddwy’n rhan o ymgais ehangach gan y Drydedd Weriniaeth (1870–1940) i ddysgu gwersi gan yr Almaen yn sgil buddugoliaeth Prwsia yn rhyfel 1870–1, sef gwneud hanes Ffrainc yn rhan o’r cwricwlwm ysgol wrth greu cyfundrefn addysg orfodol a sefydlu hanes fel pwnc beirniadol ‘gwyddonol’ yn y prifysgolion ar batrwm yr hanesydd Almaenig nodedig Leopold von Ranke (1795–1886) a’i ddisgyblion. Symbolau arwyddocaol o’r ail amcan oedd y Revue Historique, cyfnodolyn a sefydlwyd yn 1876 er mwyn hyrwyddo’r hanes proffesiynol newydd, yn debyg i’r Historische Zeitschrift (1856–) yn yr Almaen, a llawlyfr Charles-Victor Langlois a Charles Seignobos, Introduction aux études historiques (Cyflwyniad i Astudiaethau Hanesyddol, 1898), gyda’i bwyslais ar yr angen i ddilyn methodoleg feirniadol wedi ei seilio ar ddogfennau – pwyslais a grynhowyd yn natganiad bachog yr awduron, ‘dim dogfennau, dim hanes’. Ond roedd gan yr haneswyr academaidd proffesiynol ddylanwad sylweddol hefyd ar addysg yr ysgolion, yn arbennig fel awduron gwerslyfrau – a oedd yn aml yn crynhoi ac yn symleiddio gweithiau mwy swmpus ar gyfer oedolion – a ddarllenwyd gan filiynau o ddisgyblion. Un o’r haneswyr hyn oedd Ernest Lavisse (1842–92). Yn debyg i Seignobos treuliodd Lavisse gyfnod yn astudio yn yr Almaen, gan gwblhau traethawd doethurol ar wreiddiau brenhiniaeth Prwsia yn 1875. Ond y wers bwysicaf a ddysgodd gan orchfygiad y Ffrancwyr yn 1871 oedd bod angen adfer eu balchder cenedlaethol ac i’r perwyl hwnnw dechreuodd ysgrifennu gwerslyfrau i ysgolion yn 1876, gan gynnwys y ‘Petit Lavisse’ ar gyfer dosbarthiadau cynradd o 1884 ymlaen. Nod y rhain oedd meithrin gwladgarwch drwy argyhoeddi disgyblion o fawredd unigryw Ffrainc a’i hanes arwrol a’u gwahodd i weld eu hunain yn perthyn i gadwyn o drigolion ‘ein daear’ ar hyd yr oesoedd: ‘ein hynafiaid, dyna ni yn y gorffennol; ein disgynyddion, dyna ni yn y dyfodol’.
Er iddynt aros mewn print hyd ganol yr ugeinfed ganrif, roedd gwerslyfrau Lavisse wedi hen ddyddio erbyn hynny. Dros y degawdau dilynol bu her gynyddol i hanes arwrol o’r fath a’i gwnâi’n llawer mwy anodd cynnal gweledigaeth unol, gyffredin o’r gorffennol fel sail i hunaniaeth genedlaethol, a hynny am ddau reswm cysylltiedig, sef cyfnewidiadau cymdeithasol carlamus a’r ehangu cynyddol ym maes hanes fel pwnc academaidd wrth iddo fynd i’r afael ag agweddau ar y gorffennol a oedd wedi eu hanwybyddu a’u hesgeuluso o’r blaen. Eto, er bod croeso i’r datblygiadau hyn mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Cymru fel y gwelwn yn y man, bu adwaith yn eu herbyn hefyd yn y ‘rhyfeloedd hanes’ a ddaeth yn rhan mor amlwg o ‘ryfeloedd diwylliant’ ehangach ein dyddiau ni. Wrth wraidd y rhain mae gweledigaethau gwahanol o’r gymdeithas neu’r genedl. Dyna pam y bu canlyniadau caethwasiaeth a threfedigaethu, gan gynnwys cofebau a godwyd i goffáu unigolion a fu’n gysylltiedig â’r rheiny, yn gymaint o asgwrn y gynnen yn ddiweddar. A chyffredinoli’n enbyd, bydd un ochr i’r ddadl yn mynnu (yn gywir yn fy marn i) fod rhaid wynebu’r agweddau hynny ar y gorffennol yn agored a derbyn bod iddynt oblygiadau pellgyrhaeddol i’n dealltwriaeth o hanes, tra bod eu gwrthwynebwyr yn eu cyhuddo o gamliwio’r gorffennol drwy ei (goll)farnu yng ngoleuni anacronistaidd gwerthoedd heddiw a thrwy hynny danseilio darlun o’r gorffennol y gallai pobl ymfalchïo ynddo ac uniaethu o’i gwmpas.
*
Fel cynnyrch systemau addysg orfodol a ddatblygodd ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae meysydd llafur a gwerslyfrau hanes yn ddrych dadlennol o’r ymatebion gwahanol i’r her o ddod i delerau â gorffennol sydd i’w weld yn fwy cynhennus a chymhleth nag erioed o’r blaen. Dengys llu o astudiaethau academaidd fod llawer o werslyfrau hanes mewn gwledydd gwahanol dros y byd yn ceisio trwytho dinasyddion y dyfodol mewn gwerthoedd penodol a meithrin ymwybyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol, gan adlewyrchu ideoleg a pholisïau ehangach y llywodraethau sy’n llywio’r cwricwlwm ysgol i ryw raddau neu’i gilydd. Dyna un rheswm pwysig pam bod gwerslyfrau’n cael eu hailysgrifennu’n aml, wrth i newidiadau gwleidyddol esgor ar ofynion newydd, er na ddylid diystyru ffactorau eraill megis yr angen i ymateb i newidiadau mewn dulliau o addysgu. Wrth gwrs, gan fod gwerslyfrau’n perthyn i gyd-destun ehangach, mae’n llawer haws canfod eu hamcanion na mesur eu heffaith ar ddisgyblion: i ddechrau, mae’r llyfrau’n rhan o broses ehangach o ddysgu maes llafur yn y stafell ddosbarth, a bydd yr athro neu’r athrawes yn dylanwadu ar y defnydd a’r ddealltwriaeth ohonynt; ar ben hynny, rhaid ystyried dylanwad deongliadau eraill o hanes y tu allan i’r dosbarth, dyweder ar y teledu neu ar y we, neu drwy siarad gyda theulu a ffrindiau. A dichon y bydd dealltwriaeth disgyblion o hanes, ac yn enwedig o hanes diweddar, wedi ei lliwio i ryw raddau gan eu hymateb emosiynol i’r digwyddiadau dan sylw.
Serch hynny, mae meysydd llafur a gwerslyfrau’n bwrw goleuni arwyddocaol ar ymdrechion i gyflwyno dealltwriaeth o’r gorffennol sy’n diwallu anghenion cyfoes. Mae hynny’n wir am y Cwricwlwm i Gymru (ar gyfer disgyblion 3–16 oed) y dechreuwyd ei ddysgu yn 2022. Cawn syniad go lew o amcanion uchelgeisiol y cwricwlwm cyn belled ag y mae hanes yn y cwestiwn yn y canllawiau ar gyfer maes y dyniaethau a gyhoeddwyd ar wefan Hwb. Mae’r ‘Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ yn agor fel hyn: ‘Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.’ Yna, yn nes ymlaen, darllenwn:
Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn cwmpasu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.
Dyma gyhoeddi’r bwriad, felly, o feithrin dealltwriaeth feirniadol o hanes wedi ei seilio ar dystiolaeth yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysol a lluosog sy’n cydnabod amrywiaeth pobl a’u profiadau, lluosedd a ymgorfforir yn y defnydd o’r gair ‘straeon’ yn y dyfyniad.
Mae’r cyfeiriadau at ‘straeon Cymru’ yn ein hatgoffa bod dysgu hanes Cymru bellach yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, a bydd yn ddiddorol gweld beth ddaw o’r ymrwymiad hwn o’i gymharu ag ymdrechion blaenorol i ddysgu’r hanes hwnnw mewn ysgolion ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Digon nodi yma fod cwricwlwm newydd Cymru’n adlewyrchu gwerthoedd ac amgylchiadau’r unfed ganrif ar hugain drwy ymateb nid yn unig i ymgyrchu ers blynyddoedd dros gynyddu’r sylw i hanes Cymru mewn ysgolion, ond hefyd, ers 2020 yn enwedig, i’r ysgogiad a roddwyd i addysgu hanes pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan y mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys. Ac ar ben hynny, mae’r agwedd at hanes a amlygir yn gydnaws â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ac eraill o’r Gymru gyfoes fel gofod sifig sydd â hunaniaeth genedlaethol amrywiol a chynhwysol. Yn debyg i lawer o systemau addysg eraill, rhan o fwriad y cwricwlwm yw cyflwyno egwyddorion a gwerthoedd i ddinasyddion. Dyma i chi eiriau agoriadol datganiad y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, ar ‘Hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru’:
Rydym yn credu y dylai pawb ddysgu am hanes ein gwlad a’i holl amrywiaeth a gallu ymdrin â’r pwnc yn feirniadol. Ein gweledigaeth yw y bydd ein dinasyddion, gan gynnwys pob person ifanc, yn deall sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant wedi llunio’r Gymru fodern, y genedl unigryw a balch yr ydym yn rhan ohoni heddiw. (15 Tachwedd 2022)
Trawiadol hefyd yw’r modd y cyflwynir hanes Cymru fel rhywbeth sy’n sefyll rhwng hanes lleol a hanes byd-eang, hyn, mae’n debyg, er mwyn ei leoli mewn fframwaith ehangach o amgyffred y gorffennol a rhoi’r cyfle i gynnwys enghreifftiau Cymreig wrth gyflwyno themâu cyffredinol. Er enghraifft, mae’r canllawiau ar gyfer cynllunio cwricwlwm y dyniaethau’n awgrymu trafod gwrthryfel Glyndŵr, Rhyfel Cartref Sbaen a rhyfeloedd byd yr unfed ganrif ar hugain er mwyn dangos sut y ‘[m]ae hanes lleol, Cymreig a’r byd wedi eu cysylltu, eu siapio ac yn cael eu gwerthfawrogi’.
Eto, yn unol ag egwyddorion cyffredinol y Cwricwlwm i Gymru, awgrym yn unig – ac un digon heriol, byddwn yn tybio – yw hwn: mater i’r athrawon yw dewis enghreifftiau a phenderfynu sut i’w dysgu. Neu cymerer Hanes yn y Tir (2021), testun darluniadol gan Elin Jones sy’n olrhain hanes pobl Cymru o Oes y Cerrig hyd heddiw. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dangos eu cymeradwyaeth i’r gwaith drwy roi cymhorthdal tuag at ei gyhoeddi a’i ddosbarthu, ynghyd â’r fersiwn Saesneg cyfatebol, i bob ysgol yng Nghymru fel adnodd ar gyfer athrawon a disgyblion, prin ei fod yn gyhoeddiad sy’n cynnig dehongliad swyddogol y llywodraeth o hanes Cymru, llai fyth yn ymgais i gyfiawnhau safbwyntiau ideolegol drwy wthio dehongliadau a ystyrir yn gamarweiniol neu’n gwbl wallus gan haneswyr (yn wahanol i’r arfer mewn rhai gwledydd, fel y cawn weld). Yn hytrach, dyma ddehongliad amlweddog gan hanesydd profiadol sy’n annog disgyblion i feddwl am y dulliau gwahanol o ddod o hyd i wybodaeth am y gorffennol yn ogystal ag am brofiadau amrywiol trigolion Cymru dros y canrifoedd; at hynny ceisiwyd sicrhau addasrwydd y llyfr drwy ei dreialu mewn nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd.
*
Nid ymladdwyd rhyfel cartref ar dir Cymru ers yr ail ganrif ar bymtheg. Ond sut mae dysgu hanes mewn cymdeithas ranedig sydd wedi dioddef rhyfel cartref neu wrthdaro mewnol arall yn lled ddiweddar? Cawn un ateb yn y cymal yn Neddf Cof Hanesyddol Sbaen sy’n dweud bod rhaid i system addysg y wlad sicrhau bod gwerslyfrau’n cynnwys deunyddiau ar ‘y gorthrwm’ a ddigwydd-odd ‘yn ystod y Rhyfel a’r Unbennaeth’. Fel y gwelsom, mae’r cyfnod hwnnw’n dal i ennyn ymateb cryf sy’n adlewyrchu rhaniadau gwleidyddol dwys, ac ymddengys mai pwrpas y gofyniad, yn debyg i’r ddeddf yn gyffredinol, yw sicrhau bod yr anghyfiawnderau a gyflawnwyd rhwng 1936 a 1975 yn cael eu cydnabod. Ateb arall i’r her o ddod i delerau â gorffennol treisgar yw dysgu amdano mewn ffordd sy’n ceisio hyrwyddo cymod a chyd-ddealltwriaeth. Dyna nod un o amcanion statudol cwricwlwm Gogledd Iwerddon ar gyfer disgyblion 11–14, sef ‘Archwilio achosion a chanlyniadau tymor hir a byr rhannu Iwerddon a sut y mae hyn wedi dylanwadu ar Ogledd Iwerddon heddiw gan gynnwys digwyddiadau a throb-wyntiau allweddol’. Cyflwynwyd y cwricwlwm presennol yn 2007, bron i ddau ddegawd wedi Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998, ac yn debyg i’r Cwricwlwm i Gymru caniateir cryn hyblygrwydd i athrawon benderfynu sut yn union i’w ddarparu. Yng Ngogledd Iwerddon, fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod modd i athrawon fanteisio ar yr hyblygrwydd hwn er mwyn osgoi trafod pynciau yn ymwneud â’r Helyntion (nid yw’r cwricwlwm yn pennu pa ‘ddigwyddiadau a throbwyntiau allweddol’ y dylid eu trafod), pynciau sy’n dal yn sensitif mewn cymdeithas ranedig a dealltwriaeth y disgyblion ohonynt wedi ei lliwio gan eu teuluoedd a’u cymunedau. Felly, er bod y cwricwlwm yn rhoi cyfle i ysgolion hybu cymod drwy annog astudiaeth feirniadol o hanes diweddar y dalaith sy’n cymryd safbwyntiau gwahanol i ystyriaeth, nid yw’n gwarantu y bydd hynny’n digwydd.
Eto, os oes gwendid yng nghanllawiau cwricwlwm Gogledd Iwerddon ar gyfer dysgu hanes diweddar y dalaith, hwyrach ei fod yn wendid sy’n dangos mai dim ond hyn a hyn y gall system addysg ei gyflawni ar ei phen ei hun mewn cymdeithas ranedig lle mae’r hanes hwnnw’n bwnc llosg o hyd. Prin y byddai’n deg, felly, condemnio’r cwricwlwm am geisio cyflwyno hanes mewn modd sy’n mynd i’r afael â rhaniadau dwfn. Yn hyn o beth, mae’n adlewyrchu datblygiadau addysgol ehangach sydd hefyd i’w gweld yn y Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag yng nghwricwlwm hanes Gweriniaeth Iwerddon. Yn y tair cyfundrefn addysg hyn caiff hanes ei gyflwyno fel pwnc sy’n codi cwestiynau am y gorffennol yn hytrach na chynnig atebion cwbl bendant a therfynol, ac yn annog disgyblion i ddeall hunaniaeth genedlaethol fel rhywbeth amrywiol a lluosog. Rhaid pwysleisio nad dyna sy’n digwydd ym mhobman: weithiau defnyddir hanes er mwyn dwysáu rhaniadau gan fraenaru’r tir ar gyfer trais newydd. Yn ôl yr hanesydd Dubravka Stojanović o Brifysgol Belgrad yn Serbia, cyfrannai gwerslyfrau hanes gwledydd y cyn-Iwgoslafia at ‘Falcaneiddio’r cof’, proses a ddechreuodd wedi marwolaeth Tito yn 1980, sef cynnig dealltwriaeth newydd o Iwgoslafia fel gwlad a chanddi hanes o wrthdaro a rhwygiadau yn hytrach nag o gyd-fyw mewn cymdeithas luosog, dealltwriaeth a gyfrannai yn ei thro at gyfiawnhau’r rhyfeloedd rhwng gwledydd y cyn-Iwgoslafia yn y 1990au. Er enghraifft, roedd y gwerslyfrau hanes a gyflwynwyd yn Serbia yn 1993 yn portreadu’r Croatiaid fel gelynion y Serbiaid ers yr unfed ganrif ar bymtheg tra’n canmol gweithredoedd arwrol a hunanaberth y Serbiaid; tebyg oedd neges gwerslyfrau hanes Croatia, ond bod rhannau’r Croatiaid a’r Serbiaid wedi eu troi o chwith.
Trafodir sawl agwedd ar y thema hon yn Nationhood and Politicization of History in School Textbooks (2020), casgliad o ysgrifau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar Iwgoslafia a’i gwladwriaethau olynol. Dengys y gyfrol fod gwerslyfrau hanes y gwladwriaethau hynny’n cyfleu dehongliadau cenedlaetholgar o hyd, er mewn ffordd lai digymrodedd nag yn y 1990au, yn rhannol oherwydd y camau a gymerwyd i ymuno â sefydliadau Ewropeaidd fel Cyngor Ewrop ac, yn achos Croatia a Slofenia, yr Undeb Ewropeaidd. At hynny, ceir tystiolaeth nad yw rhannau sensitif o’r cwricwlwm, yn arbennig rhyfeloedd y 1990au, yn cael eu dysgu o angenrheidrwydd ac mai gan eu teuluoedd y daw gwybodaeth disgyblion am hanes diweddar eu gwlad yn bennaf – sefyllfa sy’n atgoffa rhywun o brofiad Gogledd Iwerddon o ddysgu cyfnod yr Helyntion. Arwyddocaol hefyd yw’r penderfyniad i ddarparu gwerslyfrau gwahanol i bob un o dair ‘pobl gyfansawdd’ Bosnia a Herzegovina, sef y Bosniaid, y Croatiaid a’r Serbiaid, yn dilyn diwedd y rhyfel cartref rhyngddynt yn 1995, cyfaddawd sy’n tanlinellu parhad y rhwygiadau dwfn rhwng y bobloedd hynny ar ôl i’r ymladd ddod i ben. Mae’n bwysig cofio hefyd fod gwerslyfrau’n rhan o ymdrechion ehangach i gynnig fersiynau cenedlaetholgar newydd o hanes yn ystod ac ar ôl y rhyfeloedd yng ngwladwriaethau olynol Iwgoslafia, law yn llaw â thynnu cofebau i lawr ac ailenwi miloedd o strydoedd – dulliau pur gyffredin o ailddyfeisio’r gorffennol a fabwysiadwyd mewn llawer o wledydd yn sgil ennill annibyniaeth, nid yn unig yn nwyrain Ewrop wedi cwymp comiwnyddiaeth ond hefyd mewn cyn-drefedigaethau yn Affrica a rhannau eraill o’r byd.
Mae’r India’n enghraifft arall o wlad lle defnyddir hanes at ddibenion ideoleg sy’n cyfiawnhau trais, y tro hwn drwy bortreadu Cristnogion ac, yn anad dim, Moslemiaid yn ‘Arall’ estron gelyniaethus nad oes modd iddynt gyd-fyw’n heddychlon â’r mwyafrif Hindŵaidd. Rhoddir cefnogaeth nerthol i’r cenedlaetholdeb Hindŵaidd (Hindutva) hwn gan Narendra Modi, prif weinidog poblyddol yr India ers 2014, a’i blaid y Bharatiya Janata (BJP), plaid sydd yn ei thro’n deyrngar i’r mudiad cenedlaetholgar Rashtriya Swayamsevak Sangh (RSS) a sefydlwyd yn 1925 gyda’r amcan o sefydlu cenedl (rashtra) Hindŵaidd yn yr India. Un wedd ar hynny yw’r camau a gymerwyd, gan y llywodraeth ganol yn ogystal â chan lywodraethau taleithiau a reolir gan y BJP, i gomisiynu gwerslyfrau newydd sy’n hyrwyddo eu hideoleg genedlaetholgar fwyafrifol. Yn ogystal â honni (yn anghywir) mai’r Hindŵiaid yw pobl wreiddiol, gysefin yr is-gyfandir, cynyddir y sylw i ddysg a gwareiddiad yr India Hindŵaidd hynafol a champau arweinwyr Hindŵaidd canoloesol tra’n bychanu cyfraniad pobloedd eraill y wlad, yn enwedig y Moslemiaid yng nghyfnod goruchafiaeth yr Ymerodraeth Mughal dros ogledd yr India o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg hyd ganol y ddeunawfed ganrif. Dyma olwg wahanol iawn ar hanes yr India i’r eiddo Jawaharlal Nehru, prif weinidog cyntaf y wlad wedi annibyniaeth, yn ei lyfr The Discovery of India (1946), gyda’i bwyslais ar gyd-fyw a chymhathu ffrwythlon rhwng pobloedd wahanol yr India dros y canrifoedd. Prin ei bod yn syndod, felly, fod gwerslyfrau hanes a sgrifennwyd yn ddiweddar o safbwynt cenedlaetholgar Hindŵaidd yn anwybyddu Nehru ac yn diweddu drwy fawrygu Modi fel pensaer India fodern a chadarn.
*
Mae’r gwerslyfrau o’r India’n enghraifft eithafol o beryglon a ddaeth o dan chwyddwydr R T Jenkins bron i ganrif yn ôl ar dudalennau’r Llenor. Targed ei ysgrif ‘Yr Apêl at Hanes’ (1924) oedd yr ymgais i ddefnyddio hanes at ddibenion y presennol. Dywed R T Jenkins iddo gael ei ysgogi i ysgrifennu gan honiadau Ambrose Bebb mewn erthygl yn rhifyn blaenorol Y Llenor fod profion hanesyddol yn cadarnhau ei ddaliadau gwleidyddol. Er imi droi at ‘Yr Apêl at Hanes’ sawl gwaith dros y deugain mlynedd diwethaf, dim ond wrth baratoi’r erthygl hon y darllenais ysgrif Bebb am y tro cyntaf. Teitl yr ysgrif yw ‘Trydedd Anffawd Fawr Cymru’. Ar ôl egluro mai’r ddwy anffawd arall oedd ‘colli ein hannibyniaeth yn 1282’ a ‘[g]wasgu’r grefydd Brotestannaidd arnom’, mae Bebb yn troi at y drydedd anffawd, sef caniatáu i Gymru gael ei chynrychioli yn senedd San Steffan yn ystod teyrnasiad Harri VIII. Eto, nid cwyno mai corff Seisnig oedd y senedd honno y mae’r awdur yn bennaf, ond ymosod ar ddemocratiaeth seneddol fel cyfundrefn wleidyddol. Clywn yma adlais o Charles Maurras a’i fudiad asgell dde, yr Action Française, y bu Bebb yn edmygydd brwd ohonynt pan fu’n byw ym Mharis ar ddechrau’r 1920au, gan achub ar y cyfle i fynychu cyfarfodydd y mudiad, wrth iddo ragweld y byddai Ffrainc yn gwrthod ‘gwenwyn’ gwleidyddiaeth seneddol yn fuan, gan ddilyn esiampl glodwiw Mussolini, Lenin a Primo de Rivera yn yr Eidal, Rwsia a Sbaen. Eto, er mor gyffrous y datblygiadau cyfoes hyn, troi at y gorffennol mae Bebb wrth derfynu ei lith: ‘Myfyriwn yn ddyfnach yn ein hanes. O’r gorffennol y daw goleuni inni. Tynnwn wersi ohono.’
Cwbl gyfeiliornus oedd anogaeth o’r fath yn nhyb R T Jenkins. Dadl ganolog ‘Yr Apêl at Hanes’ yw’r angen i barchu annibyniaeth anhydrin y gorffennol, i gydnabod ei amlochredd a’i gymhlethdod yn lle dewis a dethol agweddau ohono sy’n digwydd cynnig ysbrydoliaeth neu gyfiawnhad ar gyfer anghenion y presennol. Ac yn bendant rhaid peidio â rhamantu amdano fel rhyw wynfyd coll. ‘Dyletswydd yr hanesydd’, meddai, ‘yw ail-greu’r gorffennol, ei ail-greu yn ei gyfanrwydd.’ Dyna pam y mynnodd R T Jenkins, er mor hoff ydoedd o’r Oesoedd Canol, ‘yr wyf yn sicr o un peth – na charaswn fyw ynddynt’. Cam arall â’r gorffennol, meddai, oedd bychanu ei bwysigrwydd, un ai drwy ei anwybyddu’n llwyr neu drwy ‘ei ystyried yn unig fel rhagymadrodd i’r presennol’. Ac wrth ddiweddu, mae R T Jenkins yn gwadu bod apelio at hanes yn gallu torri dadleuon yn y presennol, gan ymwrthod yn llwyr ag anogaeth Bebb ar derfyn ei ysgrif yntau drwy ddatgan yn blwmp ac yn blaen, ‘Ond am y dull hanesyddol (historical method), y mae’n werth sylwi, er nad oes ei well am egluro, nad yw’n profi dim.’
I R T Jenkins, felly, amherthnasol yw apelio at hanes er mwyn cyfiawnhau safbwynt neu ddadl yn y presennol. Yn hyn o beth roedd yn adlewyrchu tuedd ehangach erbyn yr ugeinfed ganrif ymhlith haneswyr i gwestiynu gallu hanes i ddysgu gwersi, tuedd a ddeilliai o ymwybyddiaeth gryfach o bellter y gorffennol ac o’r gwahaniaethau rhwng cyfnodau a’i gwnâi’n fwy anodd cymharu ddoe a heddiw. Eto, drwy feirniadu’r hyn a ystyriai’n gamddefnydd o hanes roedd R T Jenkins yn cydnabod bod ei apêl yn mynd ymhell tu hwnt i’w ddelfryd o astudio’r pwnc yn ei holl gymhlethdod ar sail tystiolaeth. Yn un peth, fel y pwysleisia Donald Bloxham yn ei gyfrol Why History? A History (2020) wrth gynnig dosbarthiad o resymau dros astudio hanes, bu’r syniad o ‘Hanes fel Gwers’ yn ddylanwadol iawn yn Ewrop am gyfnod maith. Dyna i chi’r areithydd a’r awdur Rhufeinig Cicero yn y ganrif gyntaf cyn Crist yn datgan bod hanes yn ‘hyfforddwraig bywyd’ (magistra vitae), a haneswyr y Dadeni, yn eu plith y Cymro William Thomas yn ei Historie of Italie (1549), yn mynnu bod eu gweithiau’n cynnig esiamplau gwerthfawr i lywodraethwyr eu dydd. A hyd yn oed os bydd haneswyr proffesiynol yn gyndyn bellach i dderbyn bod hanes yn dysgu gwersi, mae digon o bobl eraill, gan gynnwys gwleidyddion, yn dal i feddwl hynny. At hynny, cawn sawl math arall o apêl at hanes, dyweder wrth geisio cyfreithloni hunaniaeth genedlaethol neu hybu gwerthoedd dinesig, fel cyfiawnhad dros gyfundrefnau llywodraethol neu ryfeloedd, fel adnodd sy’n cynnig gobaith am ryddid neu gyfiawnder yn y dyfodol, ac fel cyfeirbwynt sy’n ein helpu i leoli ein hunain yn y presennol. Ac fel y dengys penderfyniad Janis i gael hyd i weddillion ei hen daid yn ffilm Pedro Almodóvar, mae’r gorffennol yn gallu ennyn ymateb emosiynol sy’n cyplysu’r personol a’r gwleidyddol yr un pryd.
Cyfrol ddiweddaraf Huw Pryce yw Writing Welsh History: From the Early Middle Ages to the Twenty-First Century (OUP, 2022).