Adolygu

Hanes llawr gwlad

Angharad Tomos a T E Cathan Davies (goln)

Merched Peryglus

Honno, 256tt, £10.99, 2023

Hanes llawr gwlad
Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 4 munud

13·12·2023

Mae cyfrolau sy’n dogfennu hanes cyfredol, a symudiadau gwleidyddol, trwy straeon a gyfleir yn uniongyrchol – fel y gwelwn yn Brittle with Relics: A History of Wales 1962–97 (2022) ac Out of the Darkness: Greenham Voices 1981–2000 (2021) – yn apelio ataf fwyfwy y dyddiau hyn. Mae golygyddion cyfrolau o’r fath yn siapio’r naratif, wrth reswm, trwy’r broses o ddewis beth i’w gynnwys a beth i’w ddiarddel, a thrwy fframio cwestiynau yn ôl eu hagenda eu hunain. Ond mae uniongyrchedd y dweud, heb ddamcaniaethu awdurdodol y trydydd person, yn dod â’r hanes yn fyw. Dwi’n mwynhau ‘clywed’ y gwahanol leisiau: fel y gwelir yng ngwaith yr hanesydd llafar Americanaidd, Studs Terkel, mae grym arbennig i’w ganfod yn y stori bersonol, yng ngwead y manylion bob dydd ac yn symlrwydd y dweud.

Pleser felly oedd darllen casgliad Angharad Tomos a Tamsin Cathan Davies am y ‘merched peryglus’ sydd wedi bod yn greiddiol i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ers ei sefydlu yn 1962. Ceir cyfraniadau gan 40 o ferched. Mae rhywfaint o ailadrodd a gorgyffwrdd yn anochel, efallai; mae’r gyfrol fel clytwaith, gydag adleisiau o’r un patrwm, a’r cyfan yn creu darlun diddorol a chofnod pwysig o gyfnod tyngedfennol yn hanes ein hiaith. Mae’r ffurf ei hun yn adlewyrchu natur gymunedol ymgyrchu a’r croesbeillio sy’n digwydd o fewn, a rhwng, mudiadau gwleidyddol.

Pan ymunais â phrotestiadau Cymdeithas yr Iaith am y tro cyntaf, fel merch ifanc, cefais fy syfrdanu gan y merched oedd yn arwain y gad – Angharad Tomos, Siân Howys, Sioned Huws, Meinir Ffransis, Branwen Niclas, a dwsinau o ferched eraill. Roedd yn fudiad croesawgar i ferched; roeddwn i, yn bersonol, yn cysylltu’r mudiad â merched, yn bennaf. Nhw oedd asgwrn cefn y celloedd, fel y gwelir yn aml mewn mudiadau llawr gwlad: y merched sy’n trefnu, yn cydlynu, yn gwneud y gwaith caib a rhaw. Ond yn yr achos hwn, roeddynt hefyd yn sefyll ar lwyfannau, yn trafod ar baneli, yn siarad â’r Wasg, yn dringo mastiau teledu ac yn cael eu carcharu am weithredu’n uniongyrchol. Braf yw gweld yr arwresau hŷn yn cael eu sylw dyledus yn y gyfrol hon, y merched a osododd y seiliau ar gyfer merched iau. Mae’r to iau hefyd yn cynnig eu straeon a’u persbectif nhw ar yr ymgyrch iaith; merched sydd wedi eu magu mewn cymdeithas fwy unigolyddol o lawer, ac sydd wedi troi at ddulliau ymgyrchu newydd, efallai – ond sydd yn rhannu angerdd ac ymroddiad eu cyn-famau a neiniau.

Yr hyn sy’n fy nharo dro ar ôl tro wrth ddarllen straeon yr ymgyrchwyr ydi pa mor hawdd yw gweld ein hanes mwyaf diweddar, hyd yn oed, yn mynd yn angof (mor fyr yw cof cenedl!); a pha mor hawdd yw cymryd ein breintiau a’n hawliau yn ganiataol ac anghofio am yr holl frwydro sydd y tu ôl i’r pethau mwyaf sylfaenol yn nhirwedd y Gymru gyfoes: arwyddion ffyrdd dwyieithog, papurau swyddogol dwyieithog, ysgolion Cymraeg eu hiaith, sianel deledu Gymraeg. (Yn yr un modd, wrth gwrs, roedd y merched beiddgar hyn yn rhan o’r chwyldro cymdeithasol a arweiniodd at weld mwy o ferched yn camu allan o’r gegin ac i fewn i swyddogaethau cyhoeddus: cyfrol am y frwydr ffeminyddol yw hon, hefyd.) Fallai bod angen datgan yr amlwg: mi fyddai sefyllfa ein hiaith yn dra gwahanol oni bai am y merched eofn a gweithgar hyn a’u parodrwydd i dorri’r gyfraith, i wynebu trais y wladwriaeth ac aberthu eu rhyddid. Mae ein dyled iddynt yn anferth. Yr un pryd, cawn ein hatgoffa, wrth ddarllen, fod yr hawliau a enillwyd yn frawychus o fregus, a bod bygythiadau newydd i’r iaith yn dod i’r fei mewn oes o neo-ryddfrydiaeth eithafol. Fel y dywed yr ymgyrchydd ifanc, Heledd Melangell Williams, ‘Y dyddiau hyn, teimlaf fel petawn mewn byd sydd wedi ei drechu gan gyfalafiaeth […] Tybed a oedd gyrfagarwch neo-ryddfrydol wedi trechu gwreiddiau protest y gymdeithas Gymraeg ei hiaith?’ 

Diddorol oedd darllen am brofiadau merched dros Gymru gyfan: rhai yn teimlo’n unig wrth wneud safiad dros yr iaith mewn ardaloedd Seisnig, ond yn dal eu tir ac yn magu hyder; eraill wedi eu radicaleiddio mewn cymunedau lle roeddynt yn rhan o’r mwyafrif ieithyddol. Mae’r cyfraniadau, wrth reswm, yn amrywio o ran safon, gydag ambell un ychydig yn ddi-fflach ac arwynebol; a byddai’r gyfrol yn sicr wedi elwa o gael ei golygu yn fwy trylwyr. Ond mae yma ddarnau unigol gwych, ac mae pennod Jane Aaron, sy’n sôn am ei phrofiad o garchar, yn uchafbwynt. (Roeddwn i’n ddigon ffodus i astudio o dan ei thiwtoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, a wyddwn i ddim fod yr academydd ysbrydoledig yn ddynes mor ‘beryglus’.) Mae ei disgrifiad o fywyd tu fewn i furiau carchar Puckle-church yn gadael argraff ddofn. Bu Enfys Llwyd, hefyd, yn garcharor, ac mae ei hanesion yn ingol a rhyfeddol: 

Pan o’n i yng ngharchar Holloway byddem yn cael ein cloi yn ein cell am tua 23 awr y dydd weithiau. Er mwyn codi ein calonnau, bydden ni’n dwy’n canu dipyn yn ein celloedd. Byddai llawer o’r carcharorion eraill yn gofyn i ni ganu gan ei fod yn helpu i’w diddanu a’u tawelu gyda’r nos pan nad oedd unrhywbeth arall i’w wneud. O ganlyniad i hyn cawsom wahoddiad i fod yn rhan o gôr y carchar. Dyma lle cawsom y profiad rhyfedd ac iasoer o ganu mewn chwechawd gyda Myra Hindley!

Mwynheais natur amlgyfryngol y gyfrol, gyda cherddi gan Menna Elfyn, clipiau papur newydd a ffotograffau yn ychwanegu lliw at y clytwaith. Mae safon yr argraffu yn isel, ond mae yma ymdeimlad o zine, sydd yn gwbl addas mewn cyfrol am wleidyddiaeth radicalaidd. Dylid diolch i Wasg Menywod Honno – sydd â hanes llawr gwlad ysbrydoledig ei hun – am ei chyhoeddi.

Pan ymunais â phrotestiadau Cymdeithas yr Iaith am y tro cyntaf, fel merch ifanc, cefais fy syfrdanu gan y merched oedd yn arwain y gad

Pynciau:

#Rhifyn 23
#Cymdeithas yr Iaith
#Angharad Tomos
#Angharad Penrhyn