James Lovelock 1919–2022
Gwerthfawrogiad personol
Heb os, doedd neb tebyg i James Ephraim Lovelock, a fu farw eleni ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 103 oed. Roedd gwreiddioldeb ei gyfraniad i gynifer o feysydd yn rhyfeddol. Roedd yn heddychwr ac yn rebel, yn llawn dychmyg a direidi, ac eto derbyniodd glod ac anrhydedd y sefydliad. Yn eofn ac annibynnol ei farn, roedd hefyd yn fodlon newid ei feddwl. Ac yn ddi-ffael roedd yn fonheddig.
Nid gormodiaith yw honni ei fod yn un o wyddonwyr mwyaf dylanwadol yr 20g. Ond un, yn ei henaint, a wrthododd y label ‘gwyddonydd’. Gwell ganddo oedd ystyried ei hun yn beiriannydd. Er ei allu a’i ddylanwad nid adeiladodd yrfa draddodiadol o fewn cynteddau’r byd academaidd neu sefydliadau ymchwil: am ddegawdau, bu’n byw ymhell o ddwndwr Llundain, naill ai yn nyffryn Tamar rhwng Cernyw a Dyfnaint neu, yn ddiweddar, mewn bwthyn diarffordd ger Traeth Chesil lle bu farw fis Gorffennaf.
Cyfrifir Lovelock yn broffwyd gan lawer a hynny’n arbennig gan y mudiadau gwyrdd. Er hynny, ac yn nodweddiadol o’i annibyniaeth meddwl, brwydrodd dros ynni niwclear. Am gyfnod, roedd o’r farn bod rhai yn gorbryderu am fygythiad cynhesu byd-eang ond yn ddiweddar ailfeddyliodd a datgan ei bryderon yn groyw yn ei lyfr olaf, Novacene: The Coming Age of Hyperintelligence (2019). Mae Novacene yn gyfrol wreiddiol a heriol a gyhoeddwyd ac yntau yn 99 oed. Ynddi rhagwelir dyfodiad oes newydd, y Nofasen, o ganlyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial. Dyma oes lle rhagwelir dynoliaeth yn troi yn weision i ‘siborgiad deallus’, yn ôl Lovelock. Nid ystyriai hynny’n drasiedi i’r byd – i’r gwrthwyneb, gwelai hynny fel achubiaeth i’r Ddaear.
Cyfrannodd at sawl maes, gan osgoi’r arbenigedd cul sy’n nodweddu cymaint o wyddoniaeth ein cyfnod. I mi mae dwy elfen yn sefyll allan. Yn gyntaf un, camp dechnegol ac yn ail, camp syniadol a achosodd chwyldro deallusol.
Ar ddiwedd y pumdegau datblygodd Lovelock y ‘Datgelydd Cipio Electronau’ (Electron Capture Detector). Dyfais dwyllodrus o syml ydi hon sydd, o’i chyplysu â Chromatograff Nwy, yn gallu mesur lefelau eithriadol o isel o gemegolion peryg, megis CFCs, ymysg eraill. Bu’r ddyfais hon yn rhan hanfodol o’r ymdrech led lwyddiannus i leihau llygredd a rheoli ein hallyriadau o’r nwyon sy’n dinistrio’r haen warchodol o oson, sef yr hyn a’n hamddiffynna rhag ymbelydredd uwchfioled yr haul.
Yn ddeallusol, ei gyfraniad mawr, gyda’i gyfaill Lynn Margulis, oedd damcaniaeth Gaia: sef bod ein Daear yn greadur byw (neu’n ymdebygu i un, o leiaf); hynny yw, mae’r Ddaear yn hunangynhaliol ac yn rheoli ei hun er sicrhau ei pharhad. Cyfrannodd y cysyniad o Gaia at dwf cymunedau hipi ‘New Age’ ond yn fwy pellgyrhaeddol na hynny, newidiodd yn araf bach holl agwedd gwyddoniaeth at y berthynas rhwng bywydeg a daeareg, gan arwain at ddatblygu ‘gwyddoniaeth unedig y Ddaear’. Ar sail gwaith Lovelock yn fwy na neb arall, sylweddolwyd bod tynged dyn, a thynged ein planed, yn cydblethu ac yn gyd-ddibynnol.
Ni chefais y fraint o’i gyfarfod yn bersonol ond cefais ambell i lythyr ac ebost dros y degawdau. Yn wreiddiol bûm yn trafod ag ef y berthynas rhwng halwynedd y cefnforoedd cynnar a chrynhoad ionau mewn celloedd byw, ac yn fwy diweddar ynni a newid hinsawdd. Er ei enwogrwydd roedd pob llith oddi wrtho yn gwrtais a meddylgar. Ar ei ben-blwydd yn 102 debyniais yr ebost gwâr a chartrefol isod oddi wrtho. Nodyn sy’n dweud cymaint am James Lovelock y dyn.
Dear Gareth,
What a wonderful birthday present it was to receive your article in Welsh. When I was young 90 years ago, I read the book on Wales by George Borrow. I was fascinated and determined one day to follow in his footsteps. In 1936 I travelled to Bala by train and walked over the mountains from Ffestiniog onwards. It was a wonderful vacation, and I was determined to return to Wales whenever I could.
During the first two years of World War II, I was a student at Manchester University, and by making friends with medical students I was able to travel with them in their cars to Wales and stay at their mountaineering club hut, Tal y Braich, in the Ogwen Valley. What an enthralling nation you have.
I still walk a few kilometres along the splendid coastline of Dorset but, sadly, I am now too old to resume mountain climbing and walking in Wales.
With warmest regards,
Jim Lovelock
Cyfrol ddiweddaraf R Gareth Wyn Jones yw Energy – the Great Driver (GPC, 2019).