Adolygu

Mesur daioni

... a’r hyn sydd arnom i’r dyfodol

William MacAskill

What We Owe The Future

Basic Books, 352tt, £20, 2022

William MacAskill

DOING GOOD BETTER

Guardian Faber Publishing, 336tt, £10.99, 2015

Mesur daioni
Robert Lacey

Amser darllen: 6 munud

20·09·2023

Rhywbeth ‘agos at y galon’ yw elusengarwch yn aml iawn. Delweddau torcalonnus sy’n gwneud i nifer fawr ohonom estyn am y cerdyn banc. Ymateb dealladwy a dynol yw helpu. Ond a ninnau’n bell i ffwrdd a heb berthynas bersonol â’r dioddefwyr, oni ddylem sicrhau bod ein cymorth yn gwneud y lles mwyaf i’r nifer fwyaf o bobl? Bob blwyddyn mae 0.7 miliwn o bobl yn dal i farw o falaria ac 1.6 miliwn yn marw o effeithiau’r dolur rhydd. Afiechydon cymharol rwydd i’w trin yw’r rhain, a hynny â meddyginiaethau sydd wedi bod ar gael ers blynyddoedd. Mae ceisio pwyso a mesur dioddefaint yn gadael blas cas ond oni fyddai rhagor o ddaioni yn deillio o gyfraniadau cyson i’r achosion hyn nag o roi yn achlysurol i ddioddefwyr llifogydd a daeargrynfeydd? 

‘Why you shouldn’t donate to disaster relief’ yw teitl profoclyd un o benawdau Doing Good BetterMae’r awdur, William MacAskill (1987–), yn athronydd yn y Global Priorities Institute ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ansicrwydd moesol, iwtilitariaeth, sylfeini allgaredd effeithiol (effective altruism) a moeseg cenedlaethau’r dyfodol. Fel un fu wrth wraidd y mudiad effective altruism o’r dechrau, dadleua MacAskill fod angen gwybodaeth mor ddibynadwy â phosib cyn penderfynu lle i roi ein punnoedd. Golyga hyn edrych y tu hwnt i ragoriaethau tybiedig cynlluniau megis PlayPumps (sy’n harneisio ynni o chwarae plant mewn parciau i godi dŵr yfed o’r ddaear). Mwy pwrpasol fyddai rhoi ein sylw i raglenni i waredu llyngyr o gyrff plant sydd, am bob $1000, yn arwain at 139 yn fwy o flynyddoedd yn yr ysgol, gyda’r holl fendithion anodd iawn eu mesur a ddeillia o hynny. (Gyda llaw, mae’r rhaglenni uchod yn llawer mwy effeithiol o ran addysg plant nag anfon llyfrau yn rhodd i ysgolion. Effeithia absenoldeb o’r ysgol lawer mwy ar addysg na phresenoldeb llyfrau yn y dosbarth – llyfrau y tu hwnt i’r maes llafur – sydd ond yn denu’r lleiafrif mwy ‘academaidd’.) Nid collfarnu ein hymateb greddfol i bobl mewn angen a wna’r awdur fel y cyfryw ond gofyn inni ymbwyllo ac ystyried: os yw achub un bywyd yn beth da i’w wneud, mae’n rhaid fod achub pump, deg neu ugain o fywydau hyd yn oed yn well. Ac felly oni ddylid ystyried beth yw’r ffordd orau o wneud hynny a pha mor debygol yr ydym o lwyddo? Ond wedyn, ystyriaf, beth am y plentyn sy’n elwa ar lyfrau rhodd yng nghornel y dosbarth ac yn mynd rhagddynt i gyflawni pethau mawr?

Yn y gyfrol hon, mae angerdd MacAskill dros wella pethau yn ymestyn y tu hwnt i wledydd tlawd y byd i newid hinsawdd a hefyd lles anifeiliaid, lle mae’r effaith faterol arnom, o newid y drefn, dipyn yn uwch. Ond mae rhywun sydd yn ennill cyflog blynyddol o £18,200 ymhlith y 5% cyfoethoca ym mhoblogaeth y byd ac mae ein punt neu’n ewro neu’n doler fach ni yn prynu llawer iawn rhagor yng ngwledydd tlota’r byd ac felly’n cyflawni llawer mwy. A dyna pam y mae’r awdur am ein perswadio i feddwl yn ofalus ynghylch pa yrfa i’w dilyn. Mae’n un o sylfaenwyr 80,000 Hours, menter sydd yn cynorthwyo pobl i ddewis gyrfa ar sail eu heffaith debygol ar broblemau mwyaf argyfyngus ein hoes (mae’r ffigwr yn cyfeirio at nifer yr oriau yr ydym ar gyfartaledd yn ei dreulio mewn oes yn y gwaith). Anogir yr ‘allgarwyr effeithiol’ hyn i fynd am swyddi dylanwadol yn agos at ganolfannau grym. Nid bod yn feddyg gyda Médecins Sans Frontières yw’r dewis amlwg bob tro. Mewn brawddeg, yn ôl gweledigaeth MacAskill, gellir mesur daioni – a gellir defnyddio mathemateg i grisialu dewisiadau moesol cymhleth yn gyfres o hafaliadau cost-elw.
 


Yn ei gyfrol ddiweddaraf, What We Owe The Future (2022), mae MacAskill yn ystyried y grym rhyfeddol sydd gennym ni heddiw dros y cenedlaethau a ddêl a’r ddyletswydd foesol sydd arnom i wneud penderfyniadau rhesymol o safbwynt y dyfodol. Dyma athroniaeth ‘longtermism’, maes sydd wedi bod ar gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n dadlau y dylid rhoi’r un pwysau, fan lleiaf, i’r dyfodol pell ag i’r pesennol wrth wneud penderfyniadau moesol a gwleidyddol. Does dim gobaith ymdrin yn deg â’r llyfr hwn mewn adolygiad byr, fodd bynnag. Mae’r rhwyd yn cael ei bwrw’n eang iawn a’r awdur yn llwyddo i edrych ar bethau o ogwydd gwahanol ac annisgwyl. Nid yw’n anghydweld â phwysigrwydd dadgarboneiddio ond y mae hefyd yn gweld pwysigrwydd sicrhau bod digon o danwydd ffosil ar ôl yn y ddaear rhag ofn bod ein gwareiddiad dynol ni yn dymchwel yn llwyr a bod angen y tanwydd arnom wrth ailafael ym mhethau ar lefel dechnolegol is o lawer na heddiw, cyn ein bod yn gallu ailddyfeisio’r technolegau gwyrdd y bydd eu hangen arnom o hyd. Wrth drafod annhyfiant (stagnation), a’r posibilrwydd y gallai hynny barhau am gyfnod maith, cydnebydd MacAskill anhawster ceisio dyfalu beth fydd gwerthoedd a dyheadau bodau dynol sydd wedi bod trwy sawl cenhedlaeth o ddiffyg twf, yn wahanol iawn i dwf a newid parhaol ein hoes ni. 

Nid luddite mohono o gwbl. Gwêl dechnoleg fel erfyn cwbl allweddol i ddatrys problemau’r presennol ac i sicrhau dyfodol llewyrchus. Byddai biliynau ar biliynau o bobl yn lledaenu ar draws ein galaeth yn ddatblygiad cadarnhaol yn ei farn ef, a fyddai’n sicrhau dyfodol dyn ymhell ar ôl i’r ddaear droi’n golsyn – gan sicrhau dyfodol bywyd ehangach y ddaear. Yn y cyd-destun hwn ceir trafodaeth ddiddorol sy’n tynnu ar waith yr athronydd Derek Parfit a ‘moeseg poblogaeth’ (population ethics): dadleuir fod geni bod dynol i’r byd yn beth da yn ei rinwedd ei hun – cyn belled â bod ansawdd y bywyd hwnnw yn ddigon da. O dderbyn hynny mi fyddai difodiant yr hil ddynol yn hynod andwyol, oherwydd y bywydau a fyddai’n dod i ben a cholli holl genedlaethau’r dyfodol – nifer a allai fod yn llawer mwy na’r boblogaeth ddynol sydd wedi bodoli hyd yn hyn. Er mwyn sicrhau bywyd da i’r cenedlaethau hyn rhaid inni wneud penderfyniadau doeth am yr amgylchedd, yr hinsawdd, arfau niwclear, deallusrwydd artiffisial a llu o bethau eraill ond heb gaethiwo’n hunain yn ormodol, meddai, i un model neu set o werthoedd yn rhy gynnar (value lock-in). Gallai hynny hefyd fod yn andwyol pe bai’n rhwystro newid cyfeiriad heb lawer o ymdrech ac amser. 

Mae’r pwyslais hwn ar genedlaethau’r dyfodol wedi denu beirniadaeth ac ystyrir gweledigaeth MacAskill gan rai fel ideoleg seciwlar. Cwestiwn arall sy’n codi yw i ba raddau mae canolbwyntio ar fesur gweithredu elusennol yn nhermau cost-elw yn colli gafael ar rywbeth sylfaenol yn ein natur. Ond onid yw ein tosturi a’n cydymdeimlad yn rhan sylfaenol o athroniaeth MacAskill eisoes? Gofyn a wna inni ddefnyddio ein rheswm hefyd er mwyn gwneud y gorau o’n greddfau moesol da. 

Er ei fod yn cydnabod nad oes modd rhagweld y dyfodol, mae MacAskill yn optimistaidd y gall y deall dynol baratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Mae’n gredwr mawr yng nghyfraniad unigolion arbennig; gwêl hefyd bwysigrwydd cydweithio i greu amodau a fydd yn caniatáu dewisiadau gwell i’n disgynyddion a hynny mewn byd tecach – byd a fyddai nid yn unig yn decach i ni ond i holl greaduriaid y ddaear.

Robert Lacey yw awdur Sut i fod yn hapus (Barddas, 2012). Mae'n Bennaeth Datblygu Casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Manylion y llun: Aelodau o deulu o ffoaduriaid o Balesteina, yng ngwersyll Baqa ger Amman, Dwyrain Jordan (1977). Hawlfraint y llun: UN Photo/George Nehmeh

Mae MacAskill yn ystyried y grym rhyfeddol sydd gennym ni heddiw dros y cenedlaethau a ddêl a’r ddyletswydd foesol sydd arnom i wneud penderfyniadau rhesymol o safbwynt y dyfodol

Pynciau:

#Moeseg
#William MacAskill
#Elusengarwch
#Robert Lacey