Adolygu

Mynwentydd iaith

Darllen Stefan Zweig

Wes Anderson

Grand Budapest Hotel

99 munud, 2014

Mark Fisher

GHOSTS OF MY LIFE: WRITINGS ON DEPRESSION, HAUNTOLOGY AND LOST FUTURES

Zero Books, 246tt, £12.99, 2014

Stefan Zweig, cyf. Anthea Bell

BEWARE OF PITY

Pushkin Press, 464tt, £8.99, (1939) 2012

Stefan Zweig, cyf. Joel Rotenburg

THE POST OFFICE GIRL

Sort Of Books, 288tt, £6.99, (1982) 2009

Stefan Zweig, cyf. Anthea Bell

THE WORLD OF YESTERDAY: MEMOIRS OF A EUROPEAN

Pushkin Press, 480tt, £12.99, (1941) 2011

Morgan Owen
10·12·2021

Fienna, 2000 (Llun: Gueorgui Pinkhassov / Magnum Photos)
 

Mae iaith yn gynhenid ysbrydol: geiriau’r meirwon yw pob iaith. Erbyn i’n geiriau adael ein genau, maent eisoes wedi eu llyfnhau gan angau, gan dafodau a meddyliau’r holl siaradwyr a fu. Gan eu rhagdybiaethau, eu gobeithion, eu hofnau, eu golwg ar y byd. Yn hyn o beth, mae pob llefaru yn weithred gonsurio, yn seans hyd yn oed: mae pob gair yn llochesu ysbrydion, a thrwy iaith mae hwythau’n llefaru wrthym ninnau. Fel y dywedodd Jacques Derrida yn Spectres de Marx (Spectres of Marx, 1993): ‘maent bob amser yno, drychiolaethau, hyd yn oed os nad ydynt yn bodoli, hyd yn oed os nad ydynt mwyach, hyd yn oed os nad ydynt eto’. Ni ellir gwahanu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol – nid â geiriau. Yn wir, yn y gyfrol hon y bathodd Derrida y term ‘hawntoleg’ (hantologie), gair mwys sy’n bwganu’r gair ontoleg ac yn cynnig yr ochr arall iddo: natur yr hyn nad yw’n bod – nid mwyach, nid eto. Yng ngeiriau’r diweddar Mark Fisher, un o brif feithrinwyr hawntoleg mewn perthynas â diwylliant a’r celfyddydau, ‘it [hawntoleg] referred to the way in which nothing enjoys a purely positive existence. Everything that exists is possible only on the basis of a whole series of absences ... allowing it to possess such consistency and intelligibility as it does’ (Ghosts of My Life, 2014). Tu ôl i bob gair mae absenoldebau sy’n rhoi ystyr iddo. 

Mae’r ffrwd hon yn llifo i’r un llyn â damcaniaethau ynghylch spectrality, sef, yn ôl y beirniad Americanaidd Frederic Jameson, y syniad bod ‘the living present is scarcely as self-sufficient as it claims to be’ gan ei fod yn ddibynnol ar ysbrydion yr hyn a fu a rhithiau’r hyn a allai fod er mwyn gosod ei ffiniau amseryddol ei hunan (Ghostly Demarcations, 2008). Mae’n dilyn felly, bod llenorion yn ben-gonsurwyr, gan eu bod yn ymdrin ag iaith mewn ffordd mor ddwys, cyfrwng sy’n anorfod drymlwythog o ysbrydion. Un o’r llenorion a oedd yn arbennig o ymwybodol o hyn oedd yr awdur o Awstria, Stefan Zweig, nofelydd y bûm yn darllen ei waith yn ddiweddar.

Ym mlodau ei ddyddiau, yn yr 1920au a’r 1930au, Stefan Zweig oedd awdur mwyaf poblogaidd Ewrop, ac efallai’r byd. Cafodd ei eni yn 1881 a’i fagu yn Fienna, yn fab i deulu Iddewig cysurus eu byd, a chafodd ei dderbyn yn weddol ifanc i’r byd llenyddol yn ei wlad ei hun, cyn i’w enw ledu a’i waith fwynhau poblogrwydd rhyfeddol yn rhyngwladol. Fe’i cofir yn bennaf am ei ysgrifennu rhwydd, ysgafn: cyhoeddodd doreth o ysgrifau, straeon, portreadau, dramâu, ambell nofel, a hunangofiant. Ond ag yntau’n Iddew, cafodd ei wahardd rhag cyhoeddi wedi i’r Natsïaid ddod i rym a chyfeddiannu Awstria, a bwriodd ei flynyddoedd olaf yn alltud yn Llundain, yn Efrog Newydd ac yn olaf ym Mrasil, lle cyflawnodd hunanladdiad yn 1942. Erbyn hynny, roedd wedi anobeithio’n llwyr, ac yn ei nodyn ymadawol ysgrifennodd, ‘mae fy iaith fy hun wedi cilio ac mae fy nghartref ysbrydol, Ewrop, wedi dinistrio ei hun’. Yn syndod o fuan wedi hynny, edwinodd Zweig yn y dychymyg poblogaidd ym Mhrydain ac, i raddau llai, yn America. Ond daeth yn ôl i amlygrwydd yn y ffrwd ddiwylliannol Saesneg yn ddiweddar wrth i Pushkin Press a New York Review of Books Classics gyhoeddi cyfieithiadau newydd o’i waith, ac yn enwedig yn sgil y ffilm Grand Budapest Hotel (2014) a ysbrydolwyd, yn ôl ei chyfarwyddwr Wes Anderson,
gan waith Zweig, ac yn benodol ei nofelau Beware of Pity (Ungeduld des Herzens, 1939) a The Post Office Girl (Rausch der Verwandlung) a gyhoeddwyd wedi ei farw yn 1982, ac i ryw raddau ei hunangofiant, The World of Yesterday (Die Welt von Gestern, 1941). ‘It’s basically plagiarism’, meddai Anderson mewn cyfweliad adeg rhyddhau’r ffilm. Ond ysbrydoliaeth lythrennol oedd hon: daeth Zweig yn ôl fel revenant. Mae’r dychwelyd hwn yn drawiadol ac yn datgelu llawer am ein hoes. Mae’n foment hawntolegol.

*

Er pan oedd yn ifanc iawn, roedd Stefan Zweig wedi llwyr ymserchu yn nelwedd yr awdur a’r bardd, ac yn wir, yn unrhyw un a oedd yn gysylltiedig â chelfyddyd. Noda yn ei hunangofiant, ‘[roedd] unrhyw un a berfformiai’n gyhoeddus fel actor neu arweinydd, unrhyw un a oedd wedi cyhoeddi llyfr neu a ysgrifennai mewn papur newydd, yn seren yn ein ffurfafen’. Yng nghyd-destun y rhamantiaeth ddiwylliannol hon, sy’n nodweddiadol o’r diwylliant llengar Almaeneg traddodiadol, credai Zweig mewn Celf fel hanfod trosgynnol a safai uwchlaw’r gymdeithas fwrgais gyfyngus a gorbarchus a oedd yn dân ar ei groen trwy gydol ei lencyndod (‘collasant eu bywydau yn pendrymu ... gan glunhercian eu ffordd mewn sicrwydd a llewyrch’). Arweiniodd y delfrydu hwn at ei arfer o gasglu creiriau llenyddol, yn llawysgrifau a llofnodion, nes datblygu’n obsesiwn: yn ei feddiant roedd arteffactau gan ei gyfoedion, megis Hermann Hesse a Sigmund Freud, a hefyd gan awduron canonaidd ei gyfnod, megis Keats, Byron a Goethe. Roedd yn ei feddiant yn ogystal rai o lawysgrifau Mozart, Chopin, Schubert a mwy. Yn ei anterth, dyma oedd un o’r casgliadau enwocaf o’i fath yn Ewrop. Yn yr un modd, roedd yn gohebu’n helaeth â llenorion cyfoes y mae eu gwaith yn glasuron i ni heddiw, megis Rainer Maria Rilke a Thomas Mann. Cyfieithodd hefyd waith beirdd megis y symbolydd o Wlad Belg, Émile Verhaeren, gan eu dwyn i sylw darllenwyr Almaeneg a Saesneg fel ei gilydd. Roedd yn eiriol dros lenyddiaeth, ac yn ymgorffori person y littérateur mewn modd cwbl fwriadol a hunanymwybodol. 

Cawn yr argraff ei fod, trwy’r gweithgarwch hwn, yn celcio hanfod y syniad aruchel am Gelf, bron fel petai’n synhwyro’n ddiarwybod yr hyn a oedd ar gerdded: yr argyfwng a fyddai’n chwalu pob rhamantiaeth ynghylch gallu Celf i wrthsefyll a throsgynnu casineb a llygredigaeth mewn byd sydd wedi pallu, sef seiliau simsan y byd Modern(aidd). Pan ddrylliwyd Ewrop, drylliwyd ffydd Zweig yn y syniad o ddinasyddiaeth gyfannol Celf, a datblygiad y byd tuag at ddyfodol gwell, cynyddol wâr. Cyfeddyf wrth fwrw golwg yn ôl, ‘roedd y sylfaeni wedi eu tanseilio ymhell cyn hynny, ac roedd y dymchwel ... wedi dechrau gyda’r ganrif newydd’. A phan ddaw’r chwalfa, mae’r geiriau’n ysbrydaidd: yr un geiriau ydynt a gariodd ystyr yr hen fyd naïf a thwyllodrus, ond maent yn farw bellach; maent yn fyddarol gan sŵn angau. Pan ddeuai Zweig ar draws olion ei hen Ewrop yn ei alltudiaeth, mewn llinell o gerdd neu ddarn o gerddoriaeth, meddai (yn ei hunangofiant): ‘Nid yw dim yn rhoi’r fath ias annaearol â phan fo rhywbeth sydd yn farw, wedi ei gladdu ers tro, yn sydyn yn dychwelyd tuag atoch unwaith eto, yn ei hen ffurf ... dychwelodd holl erchyllterau’r gorffennol i aflonyddu arnaf, megis ysbryd.’ Yn hyn o beth, mae’r Ail Ryfel Byd yn foment hawntolegol: trwy ddileu’r syniad o Gynnydd, mae’n hollti cynifer o ffyrdd o synnu am y byd, gan geuo geiriau fel ‘cynnydd’, ‘gwarineb’, ‘cyfiawnder’. Fe’u llenwir gan ysbrydion y syniadau hynny, gan roi ystyr newydd iddynt trwy’r absenoldebau hyn. Dônt atom fel geiriau’r meirwon, ond parhawn i’w defnyddio yn eu hystyr newydd, sef eu hystyr briw, twyllodrus. Tebyg yw effaith cyfalafiaeth hwyr ein hoes ninnau ar iaith, ond down at hynny yn y man.

*

Briga rhyw ragredegydd i’r dadrith terfynol hwn yn nofelau Zweig, Beware of Pity a The Post Office Girl. Mae’r naill fel y llall yn ymwneud â’r holltiadau mewn delfrydau ymddangosiadol sefydlog a chysurus, ac amddifadedd geiriau wedi i’r hyn roeddent yn ei arwyddo gael ei ddryllio. Yn Beware of Pity, ceir hanes swyddog yn y fyddin, Hofmiller, sy’n cael ei wahodd i blasty yr uchelwr lleol a’r dyn cyfoethocaf yn y dalaith, Kekesfalva. Yno, mae’n gofyn i ferch Kekesfalva, Edith, ddawnsio gydag ef, heb sylwi ei bod hi’n methu cerdded, a’r siom a’r embaras sy’n deillio o hynny yw man cychwyn ymwneud Hofmiller â theulu’r Kekesfalvas. 

Daw yn ôl y diwrnod wedyn i ymddiheuro, a thros amser, mae ei dosturi dros y ferch a’r teulu yn ei dynnu yn ôl dro ar ôl tro nes iddynt ddechrau ei wahodd yn gyson. Rhydd bwysau ar ei hunan i galonogi Edith, sy’n cael ei thrin fel plentyn gan ei theulu a’i mygu gan eu gofal nawddoglyd, ond trwy beidio ag ymarweddu ati fel mae’r gweddill yn ei wneud, mae’n dod i ysgwyddo ei baich a’i hawydd i gael ei thrin fel person annibynnol â’i syniadau a’i chwantau ei hun. Ond nid yw Hofmiller am ymroi i unrhyw un, ac yntau’n ddyn gwamal, digyfeiriad, hunanol; ac eto mae’n gaeth i’r sefyllfa, ac yn methu â chefnu ar Edith chwaith, gan ei fod yn ymdeimlo â’i phoen. Yn ei awydd i’w chysuro hi, mae’n dweud wrthi bod triniaeth i’w chyflwr newydd gael ei darganfod, ond pan ddaw’n hysbys taw celwydd yw hynny, ni all oddef ei gweld hi bellach oherwydd ei euogrwydd am ei gelwydd, er ei bod hithau wedi datgan ei chariad tanbaid tuag ato. Ceisia Hofmiller ffoi, ond mae hithau’n bygwth lladd ei hun, ac o ganlyniad i bwysau a phryder ei thad aristocrataidd, Kekesfalva, mae’n cytuno i’w phriodi, yn groes i’w ddiffyg cariad tuag ati. Ond ffoi a wnaiff rhag ei addewid, ac mae Edith yn cyflawni hunanladdiad, ac yn fuan wedi hynny, gwna ei thad yr un fath. Mae Hofmiller yn dysgu hefyd nad uchelwr mo Kekesfalva wedi’r cyfan, ond dyn busnes a dwyllodd hen wraig o’i chyfoeth cyn ei phriodi o euogrwydd. Felly mae awyrgylch awdurdodol a boneddigaidd yr hen aristocrat yn rhith, ac mae teimlad Hofmiller o ddyletswydd tuag atynt yn rhinwedd eu safle yn dwyll. Arweiniodd yr holl ymhonni a’r cynffonna at gwlwm o ragrith sy’n dibennu â marwolaeth; dinoethwyd y mawrfrydigrwydd am ystum gwag. Digwyddiad olaf Hofmiller yw cael ei alw i’r ffosydd wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf dorri, digwyddiad a fydd yn dangos ceuedd a gwegi cymdeithas gyfan ar raddfa anhraethol fwy. Nid oedd dim yn aruchel, ac mae’r sylweddoliad yn un di-droi’n-ôl: grym a chwant grym yw gwreiddyn y drefn.

Yn The Post Office Girl, caiff merch, sef Christine, sy’n gweithio mewn swyddfa bost ddiarffordd yn y cyni wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, ei gwahodd gan fodryb gyfoethog – a briododd ddyn busnes a elwodd o’r rhyfel – i aros mewn gwesty crand, yn egwyl o’i bywyd diflas, anodd. Ar ôl i’r bourgeoisie ei chamgymryd am ferch ei modryb a’i hewythr, caiff ei thrin fel un ohonynt, ac aiff o deimlo’n gwbl ddieithr i deimlo’n gwbl gartrefol, yn fwy fel hwythau bob dydd. Ond mae menyw genfigennus yn darganfod y gwir ac yn ei gyhoeddi wrth bawb, ac mae modryb Christine yn ofni, yn sgil hynny, y cyhoeddir y gwir am ei hanes hithau: rhedodd ymaith i America gyda’r dyn busnes priod wedi i’w carwriaeth ddod i’r amlwg yn Awstria. Caiff Christine ei hanfon yn ôl i’w phentref, ac ni all oddef y tlodi: gwêl y cyfan yn gliriach, y rhygnu a’r ecsploetio a’r celwydd, a hynny yn erbyn cefnlen o hawddfyd gwirion y cyfoethogion yn y gwesty crand. Yn ôl gartref, mae’n cwrdd â dyn sydd newydd ddychwelyd i Awstria o un o wersylloedd rhyfel Rwsia, ac mae ef fel hithau wedi ei ddadrithio gan dlodi’r wlad, a’r modd y mae’r cyfoethog a’r breintiedig yn sathru ar bawb arall. Mae’r ddau yn gweld bod yr holl sôn am aberth, am ddyletswydd, am safle a threfn gymdeithasol yn gwbl wag, ac y bu felly erioed, hyd yn oed cyn y Rhyfel Mawr. Maent yn cynllunio dwyn swm digon mawr o arian i allu ffoi a byw ar herw dramor. Megis yn y nofel Beware of Pity, dadlennir twyll geiriau a sut maent yn lletya ysbrydion rhyw werthoedd a syniadau nad ydynt yn gwneud synnwyr bellach, os gwnaethant erioed. Mae’r ddwy nofel yn ymgorffori rhyw ymdeimlad o ddiwedd cyfnod, os nad diwedd byd. Maent yn dramateiddio diflaniad yr aruchel a’r naratifau hollgofleidiol a oedd yn cynnig ateb a chyfiawnhad i drefn pethau. Darluniant bobl ddadrithiedig sydd wedi eu hawntio gan yr hyn sydd newydd farw, ond sy’n wynebu dyfodol amhenodol a’r sylweddoliad mawr na ddaw’r hyn a addawyd i fod: nid oes trefn na throsgynnu; mae llinell syth cynnydd yn gam, mor gam fel ei bod yn crymu’n ôl yn gylch ar ei hunan. Sefyllian a wnaiff cymeriadau Zweig yn erthyliad y dyfodol.

*

Mae gwaith Zweig yn berthnasol i’r hyn a alwodd Fisher yn ‘the slow cancellation of the future’, cysyniad cyfoes sy’n nodweddu ein hoes ôl-fodern, gyfalafol hwyr. Yn ei gyfrol Ghosts of My Life yr amlinellir y cysyniad hwn ganddo. Yn dilyn ei lyfr dylanwadol Capitalist Realism (2009) dadleua ein bod, o tua chanol yr 1990au ymlaen, wedi fferru yn ein hunfan o ran ein gallu i greu ffurfiau celfyddydol newydd a dychmygu’r dyfodol: ‘Rather than the old recoiling from the new in fear and incomprehension, those whose expectations were formed at an earlier era are more likely to be startled by the sheer persistence of recognisable forms.’ Mae’n cynnig cerddoriaeth boblogaidd fel enghraifft drawiadol. Cymharer y gwahaniaeth rhwng 1960 a dechrau’r 1990au, neu hyd yn oed y gwahaniaeth rhwng 1985 ac 1990, ac mae’r datblygiad parhaus o ran ffurf ac arddull gerddorol yn anferthol, meddai. Gellir eu didoli’n gyfnodau a genres eglur. Ond cymharer 1990 a 2014 (blwyddyn gyhoeddi Ghosts of My Life), a’r hyn sy’n ein synnu yw faint o adleisio ac aildwymo – faint o retro – sydd i’w ganfod, a sut na chafwyd bron ddim sy’n herio ac yn aflonyddu’r hen arddulliau a ffurfiau fel y byddid wedi disgwyl ar sail datblygiadau’r degawdau blaenorol. Cafwyd retro on repeat yn gybolfa amhenodol:

While 20th century experimental culture was seized by a recombinatorial delirium, which made it feel as if newness was infinitely available, the 21st century is oppressed by a crushing sense of finitude and exhaustion. It doesn’t feel like the future. Or, alternatively, it doesn’t feel as if the 21st century has started yet. We remain trapped in the 20th century.

Fienna, 2014 (Llun: Thomas Dworzak / Magnum Photos)


Ond er y gellid wfftio hyn fel rhyw hiraeth ffôl, mae Fisher yn galw’r ddibyniaeth ar arddulliau a sefydlwyd beth amser yn ôl, bellach, yn ‘nostalgia am ffurf’. A’r hyn sydd fwyaf rhyfedd yw bod y cyfnod hwn sy’n nodweddiadol o’r ‘slow cancellation of the future’ yn un lle cafwyd newidiadau economaidd a gwleidyddol dirfawr ar gyflymder syfrdanol. Ffrwydrodd technoleg ac aeth neoryddfrydiaeth yn rhemp. Mewn llawer ystyr, mae wedi bod yn gyfnod o newid trawmatig, ond mae’r ymatebion celfyddydol iddo wedi bod yn flinedig ac aneffeithiol, ac yn aml yn ddim mwy na pastiche neu enciliad hiraethlon. Ni ellir edrych tua dyfodol amgen gan mor hegemonaidd yw grym y drefn bresennol. Fel y dyfynna Fisher eiriau Jameson: ‘it is easier to imagine the end of the world than to imagine the end of capitalism’ (Capitalist Realism). Mae amser wedi plygu yn ôl ar ei hunan, meddai Fisher, ‘and the impression of linear development has given way to a strange simultaneity’, lle mae sgyrion amrywiol y gorffennol oll yn cydfodoli yn y presennol, heb symud ymlaen. Mae’r anachroniaeth hon wedi colli unrhyw rym y gallai fod wedi meddu arno, ac mae’r gymysgedd retro yn normal ac yn ddiflas, heb y gallu i’n pryfocio. Troir mewn cylch. A yw ysbrydion yr 20g yn ein hawntio ni, neu ai ni yw ysbrydion yr 20g, ar goll yn yr 21g, yn fud ac yn ansylweddol?

*

A beth am Grand Budapest Hotel, felly? Y ffilm hon yw’r troad llawn parthed Stefan Zweig. Ynddi cawn ryw nostalgia am nostalgia Zweig, neu o leiaf fe ddefnyddir ei ymdeimlad ef o ddiwedd cyfnod i atseinio’r ymdeimlad cyfoes o ddadfeilio a llithro’n ôl. Yn y ffilm, fe’n tywysir i’r gwesty eponymaidd yn y flwyddyn 1985, gan awgrymu yn fwriadol ryw Ddwyrain Ewrop yn nyddiau olaf y drefn Gomiwnyddol, cyn adrodd hanes yr ‘awdur’ yn anterth bras y gwesty. Dyma gydlifiant go ryfedd: dangosodd Zweig sut y diberfeddwyd gwerthoedd ffals yr hen Ewrop y naill ochr a’r llall i’r Rhyfel Byd Cyntaf (cwblhaodd The Post Office Girl pan oedd ei waith wrthi’n cael ei losgi ar oddeithiau llyfryddol y Natsïaid); tra mae Grand Budapest Hotel yn cyniweirio ar ffin buddugoliaeth ymddangosiadol neoryddfrydiaeth dros Farcsiaeth (yr ‘end of history’ bondigrybwyll). Ond mae’r dewis i leoli’r ffilm yn y cyfryw gyfnod yn ddadlennol: mae’n arwyddo rhyw stasis. Mae hi fel petai’r estheteg faluriedig (y gorffennol crand, di-chwaeth a ddangosir yn nyddiau bras y gwesty ac wedyn y gragen lom a thlawd) yn derfynfa: stop olaf y trên diwylliannol sy’n methu â chyrraedd y dyfodol. Gwelir trwy dwyll y gorffennol hwnnw, ond ni ellir geni rhywbeth newydd. Er gwaethaf ‘buddugoliaeth’ cyfalafiaeth, dim ond atgofion sentimental a phresennol diflas, di-ystyr a gynigir gan y drefn hon yn gelfyddydol. Dyma kitsch ddoe yn lluniaeth ddi-flas. Yn wir, mae’r cyfosodiad yn gymaint o hen drawiad fel taw’r argraff a gawn, a dyfynnu Fisher eto, yw ‘a vague but persistent feeling of the past without recalling any specific historical moment’. Bodlonir ar y pydru, am fod hynny’n haws na dychmygu’r dyfodol.

Mae lleoliad ac amser Grand Budapest Hotel yn dwyn i gof ddrychiolaethau Derrida mewn ffordd ogleisiol o lythrennol: ‘the spectre will not allow us to settle into/for the mediocre satisfactions one can glean in a world governed by capitalist realism’, meddai Fisher. Cofir o hyd am yr her i’r gyfalafiaeth hon o du sosialaeth, ac er ei bod yn ymddangosiadol absennol, mae’n hawntio’r presennol: mae’n tarfu ac yn aflonyddu trwy ein hatgoffa y bu unwaith ewyllys i fynnu rhywbeth amgenach, ac felly nad yw’r presennol o reidrwydd yn anochel. Mae’r gwesty megis haunted house ystrydebol felly, ond ysbrydion yr hen wleidyddiaeth ryddfreiniol sy’n byw yno, a chelfyddyd fel yr oedd cyn i beiriant ailgylchu anferthol yr oes gyfalafol hwyr ei llesgáu. Mae’r hen dermau yn wag: daliwn i sôn am ein gwrthwynebiad i’r oes neoryddfrydol, ond pa ystyr sydd i ‘sosialaeth’ neu ‘ddemocratiaeth gymdeithasol’ bellach? Maent yn debyg i’r gwesty anachronistaidd hwn a bliciwyd o fyd Stefan Zweig; megis hen ffilm dreuliedig yn chwarae’n ddi-baid mewn sinema wag, adfeiliedig, ond mae’r ffilm a realiti wedi asio’n un: ‘no longer has the future not arrived, it is no longer possible’ (Ghosts of My Life). Rydym yn gaeth i’r gwesty gwag. Estheteg malurion sydd yn drech. Mae Grand Budapest Hotel yn foment hawntolegol annaearol. Fe’i rhyddhawyd yn 2014, ond mae’n estyniad ar y tir neb amseryddol a allai fod yn unrhyw bryd wedi dechrau’r 1990au. 

Beth ddaw nesaf, felly, gyda’n hiaith sy’n llawn ysbrydion? Hawntoleg yw ontoleg y pethau absennol, ac fel y dywedodd Derrida, ‘nid yw ysbryd fyth yn marw, mae bob amser yn aros i ddod a dod yn ôl’. Nid dim ond y gorffennol yw’r absennol hwn (y ‘no longer’), ond hefyd yr hyn ‘nad yw eto’ (Spectres de Marx). Gyda phob hawntio, mae elfen o alaru ond hefyd chwant: ni allwn ymadael â’r hyn a gollwyd, y dyfodol coll. Er bod yr oes sydd ohoni wedi gwagio iaith ein diwylliant o’i hystyron, mae eu hysbrydion yn ein cythryblu o hyd, a dyna arwydd iach. Rhaid cymodi â’r ysbrydion a chlustfeinio am y bylchau: y bylchau yw’r drysau tuag allan. A heb os, mae bylchau: ni all y pastiche poenliniarol guddio pob hollt wrth i’r blaned wegian ac anghyfartaledd gynyddu. Mater o ganfyddiad fydd peth helaeth o’r frwydr; er enghraifft, mae’r ymdeimlad nad oes modd newid dim yn atgyfnerthu’r sefyllfa bresennol gan dewi lleisiau gwasgarog ein protestio. Nid ysbryd y gorffennol oedd Gespenst (drychiolaeth) Marx ac Engels, ond ysbryd yr hyn a ddaw, wedi’r cyfan. Tiwniwn ein clustiau: nid dim ond dwndwr y gorffennol yw iaith, ond deunydd pob mynegiant newydd hefyd. 

Wedi treulio’r noson yng ngwesty gwag ein diwylliant fe sylweddolwn erbyn y bore nad oedd neb yno ond ni ein hunain wedi’r cwbl: ein meddyliau ni oedd y cyfan. Rhaid gweld yr adfail cyn gweld y dyfodol; rhaid derbyn gwacter geiriau cyn eu harfer ag ystyr ac arddeliad. Mae hawntoleg yn dadlennu’r cnoi cil sy’n nodweddiadol o waith Zweig a hefyd ein hoes ni, sydd fel petai ond yn gallu dychmygu’r dyfodol trwy olion y gorffennol. Diddymwyd dyfodol Zweig mewn modd erchyll; yn ein hachos ni, fel mae Fisher yn ei ddarnodi, mae posibiliad a chysyniad y dyfodol ei hun wedi pallu, o ganlyniad i ddinistr cyfalafiaeth hwyr a’n methiant i ymateb iddi yn ddiwylliannol. Byddwn oll yn ysbrydion ar blaned farw – oni bai y llwyddwn i adael y gwesty. Os gallwn gredu mewn ysbrydion o’r fath, gallwn gymryd y cam cyntaf o’n caethiwed.

Cyfrol ddiweddaraf Morgan Owen yw'r pamffled Ysgall a gyhoeddir gan wasg Pelydr yn Rhagfyr 2021.

A beth am Grand Budapest Hotel, felly? Y ffilm hon yw’r troad llawn parthed Stefan Zweig. Ynddi cawn ryw nostalgia am nostalgia Zweig

Pynciau:

#Ffilm
#Nostalgia
#Iaith
#Stefan Zweig
#Mark Fisher
#Rhifyn 17
#Morgan Owen
#Ewrop
#Cyfalafiaeth
#Wes Anderson