Adolygu

Nid drôn o fardd

Adolygu cyfrol o gerddi a lluniau llwybrau Llŷn

Guto Dafydd a Dafydd Nant

MAE BYWYD YMA:  CERDDI A LLUNIAU LLWYBRAU LLŶN

Carreg Gwalch, 134tt, £9.50, 2023

Nid drôn o fardd
T Robin Chapman

Amser darllen: 3 munud

08·08·2023

Yn ôl y broliant ar y cefn, ‘Dyma ddathliad … cyfanwaith yn dangos … holl gyfoeth cymhleth bywyd yn Llŷn’. Cytuno. Prin y cyhoeddir yr un gyfrol eleni mor drwyadl gadarnhaol a chymen â hon. Mae’n pefrio gan obaith. Ond ceir rhagor nag unfrydedd yn y dathlu yma, a rhagor nag unffurfiaeth yn y cyfanwaith. 

Dathlu’r ddawn i ddieithrio y mae ffotograffau rhyfeddol Dafydd Nant. Dyma harddwch heb sentiment. Dangosir traeth Abersoch o bellter penfeddwol uwch ei ben: y môr yn wrymiau gwyrdd fel gwydr tawdd, y traeth yn deisen frau, toeau glas, melyn, oren a brown y cytiau fel cynifer o deganau, a chopaon y coed y tu cefn i’r rheini yn gylchoedd deiliog. Tebyg yw’r golwg fertigol ar Orsaf Penychain. Aeth yn dirwedd, yn fap, yn ddiagram bron iawn. Gweddnewidir Marian y Môr yn rhes o liwiau a siapiau: strempiau gwyn ar gefndir gwynnach yr awyr, y dŵr fel rhew, y rhimyn o draeth yn unlliw ac o’r un defnydd, fe ymddengys, â’r grisiau pren cnotiog sy’n arwain ato. Aeth Porthdinllaen yn dalp o Kyffin. Machludoedd aur godidog. Mynyddoedd yn ymdoddi. Grug a swnt. Waliau cerrig igam-ogam. Ac o hyd ac o hyd, yn Nant Gwrtheyrn, Carreg Llam, Trwyn Cilan ac Aberdaron, y teimlad corfforol ein bod ar fin disgyn yn wysg ein pennau drwy ffrâm y llun. 

Ond yna, ar dudalen 133, try Dafydd Nant yn bortreadwr. Dyma’r bardd a’i deulu yng ngardd eu cartref: y rhieni gwenog a’r plant swil – sleid a gôl a lawnt yn y cefndir. Dedwyddwch domestig. Gwenwch. Clic. 

Arall yw dawn Guto Dafydd: y gallu i sefyll â’i draed yn sownd ar y ddaear, i wrthsefyll penstandod. Nid yw’n ddrôn o fardd. Ddeng mlynedd ar hugain a rhagor yn ôl, yn y gyfrol ffiniol a diffiniol honno, Dan Fy Ngwynt, yn cofnodi ei daith rhwng nihiliaeth egwyddorol a chyfaddawd cadarnhaol, mentrodd Iwan Llwyd yn ‘Uwchmynydd’ i ben draw Llŷn gan gredu bod yr iaith y cyfansoddai ynddi a’r gynulleidfa yr ysgrifennai iddi ar fin diflannu. Gwelodd '[y] dibyn yn agos, / yn nes nag erioed, am wn i’, a chyfaddef fod ‘gwefr mewn syllu’n / hir i eigion y lli’. Nid felly Guto Dafydd yn ei gerdd yntau yn dwyn yr un teitl. Fe dâl ei dyfynnu bron yn llawn gan mai hi yw’r echel y try'r gyfrol hon arni:

Nid yn sgil

dyletswydd i gofnodi diwedd hil
dwi’n sgwennu hyn i gyd;
dydi o ddim ond sbîl
un sy’n sbïo’n chwil
i lawr clogwyn
ym mhen
draw’r 
byd.

Gwell gan Guto Dafydd glydwch na gwefr, y llorweddol na’r fertigol. 

Ond craffer eto, ac fe welir rhwng y sôn cysurlon am ewythrod a modrybedd, gêmau ffwtbol a bysys bach y wlad, rywbeth go debyg i ddawn ddieithriol ond dathliadol Dafydd Nant ar waith. Edrycher yn un peth ar yr enwau a ddyfynna yn gyfesurynnau wrth fapio’i fro – Heaney, Chekov, Kerouac, Matthew Arnold a Nick Cave – pob un yn sôn am anocheledd newid a symud. Felly hefyd Guto Dafydd. Gwêl y bardd ei fro yn newid o’i gwmpas. Darfu am y diwydiant llechi a’r llongau masnach; caeodd y gorsafoedd rheilffordd; aeth y dŵr swyn yn Ffynnon y Filiast yn hesb; collodd cytiau rhyfel Porth Neigwl eu hamcan; aeth y lôn bost drwy Borthdinllaen yn llonydd; taenwyd tarmac i greu parc carafannau ar y caeau rhwng Tywyn y Fach a Lan Môr Chwarel lle bu cwningod yn chwarae. Ac mae’n ymglywed â newidiadau cyfatebol yn ei fywyd ei hun.  Daeth diwedd ar feddwi a snogio ei arddegau; ni all honni bod bellach yn un o’r ‘beirdd ifanc, pyncllyd, pert’. Ond eto, mae’n gwrthod derbyn ‘ceiniogwerth Fukuyama’ am ddiwedd hanes. Bydd parhad. Ein greddf yw hel: creiriau a chwedlau a phlantos ‘fel nad oes ots / fod popeth yn darfod’.

Ceir pethau mewn bywyd (a barddoniaeth) na all hyd yn oed y ffotograffydd mwyaf dawnus eu dal.

Mae T Robin Chapman yn uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Arall yw dawn Guto Dafydd: y gallu i sefyll â’i draed yn sownd ar y ddaear, i wrthsefyll penstandod

Pynciau:

#Iwan Llwyd
#Guto Dafydd
#T Robin Chapman
#Barddoniaeth
#Darllen llun
#Llŷn