Adolygu

Nid mapiau degwm ydi pobl

Adolygu Cerdded y Caeau gan Rhian Parry

Rhian Parry

Cerdded y Caeau

Y Lolfa, 210tt, £20, 2022

Nid mapiau degwm ydi pobl
Llŷr Titus

Amser darllen: 5 munud

08·06·2022

Mae gwerth enwau ar i fyny. Dadansoddi enwau caeau Ardudwy a wna Rhian Parry yn Cerdded y Caeau; o dan groen caeau’r ardal hon yr aiff yr awdur ddyfnaf. Cawn hanes perthynas pobl â’r tir a’u defnydd ohono. Manylir ar gyd-destun ac ystyron yr enwau hyn gan ddadansoddi’r newid a fu i dirwedd yr ardal dros y canrifoedd a sut y gall enw fod yn gofnod o hynny. Defnyddir ystod eang o ffynonellau gan gynnwys delweddau o fapiau, o ddogfennau ac o’r tirwedd i atgyfnerthu’r geiriau. Trafodir ardaloedd y tu draw i Ardudwy hefyd a cheir digon o wybodaeth gefndirol – hanesyddol ac ieithyddol – i arfogi’r darllenydd i ehangu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o enwau unrhyw ardal yng Nghymru. 

Cynnig anogaeth i ni ddefnyddio’r gyfrol fel rhyw fath o fan cychwyn a wna’r awdur, felly. Pwysleisir yn gyson werth yr enwau nid yn unig fel cliwiau i hanes darn o dir neu ardal ond hefyd fel creiriau diwylliannol i’w harchwilio. Ceir trafodaeth o adnoddau a ffynonellau a chanllaw ymarferol yn ogystal ar sut i fynd ati i gasglu enwau, ynghyd â hanes ambell i ymgyrch flaenorol yn ysbrydoliaeth. Mae ôl ymchwil trylwyr i’r adnoddau hyn a diddordeb a brwdfrydedd yr awdur yn amlwg wrth iddi ein hatgoffa dro ar ôl tro o bwysigrwydd y deunydd dan sylw, nid yn unig fel cofnod ffeithiol ond fel angor hefyd sydd yn ein clymu fel pobl i’n hardaloedd. 

Dyma lyfr y medr rhywun bicio i mewn ac allan ohono a chael rhywbeth gwerth cnoi cil arno bob tro. Cefais well hwyl ar ei ddarllen mewn pytiau yn hytrach nag o glawr i glawr: cryfder Cerdded y Caeau i mi ydi’r darnau diddorol hynny sy’n trafod sut y bu i enwau unigol addasu, er enghraifft, neu’r golwg a gawn ar hanes darn penodol o dir; a’r ffeithiau annisgwyl – megis ystyr gwreiddiol y gair ‘cae’ (rhywbeth cwbl sylfaenol y gwnes ei gymryd yn ganiataol nes darllen y gyfrol). Dyma sut y cefais i ddifyrrwch wrth ddarllen y gyfrol hon, nid trwy ddilyn un naratif pendant o’i gwr. 

Ond rhaid i mi gyfaddef i mi flino ar rai agweddau ar y diwyg. Mae ôl blerwch a brys yn achos nifer o’r lluniau sydd yn y gyfrol. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn talu am eu lle, gan atgyfnerthu’r ysgrifennu, mae ambell un arall yn ei danseilio. Amrywiol ydi eglurdeb y lluniau, rhywbeth sydd ynddo’i hun yn siomedig ond pan mae hynny’n golygu bod rhai lluniau mor aneglur fel nad oes modd darllen yr ysgrifen arnynt, yna gwell i’m meddwl i fyddai eu hepgor. Ceir blerwch wrth labelu lluniau hefyd. Er enghraifft, mae rhai ohonynt yn cynnwys y llinell goch honno sy’n ymddangos dan eiriau wedi eu camsillafu yn rhaglen Word ac mae un darlun ar dudalen 28 yn dangos ochrau’r ‘bocs testun’ fyddai’n ymddangos wrth glicio arno. Mân bethau ydi’r rhain ond mân bethau na ddylid eu gweld mewn cyfrol mor ddeniadol â hon.

Dyma grybwyll hefyd un asgwrn sydd gen i i’w grafu efo’r awdur: nid mapiau degwm ydi pobl, siawns – onid newid ac addasu mae enwau ar lafar? I ba raddau mae dweud ‘Mach’ am Fachynlleth yn ‘ddiog’? Mae'r awdur yn cyfosod hynny â gosod enwau Saesneg ar hen enwau tai a ffermydd Cymraeg. Ond mi fyddwn i’n dadlau bod ‘Mach’, ‘Dol’ neu ‘Port’ yn rhan yr un mor fyw a gwerthfawr o enwau’n hardaloedd â’r enwau llawn. Tydi cyfosod y ddeubeth ddim yn gymorth chwaith i’r ddadl dros amddiffyn enwau. Ac fel mae’n digwydd, a finnau wedi byw yn ardal Pwllheli ar hyd fy oes, tydw i erioed wedi clywed neb yn cyfeirio at yr ardal fel ‘Pwll’, fel yr honnir wrth warafun defnydd y genhedlaeth ifanc o dalfyriadau. I fodloni cywreinrwydd, holais ambell un o ardal Pwllheli, dros dair cenhedlaeth, a doedden nhwythau erioed wedi clywed unrhyw un yn galw Pwllheli yn ‘Pwll’. Mi fyddai’n ddifyr gwybod yn lle’n union y daeth yr awdur ar draws y talfyriad hwn. 

Dwi’n gwbl gytûn y dylid gwneud mwy i gadw enwau cynhenid a bod gwerth hanesyddol digamsyniol iddynt, ond mi fyddwn i’n gobeithio hefyd fod lle i gydnabod bod defnydd tir yn newid ac yn sgil hynny fod perthynas pob cenhedlaeth â’r tir yn esblygu a’r enwau’n newid i adlewyrchu hynny. Tydi newid ddim yn ei hanfod yn beth drwg. Ydi’r enwau a osodwyd ar ein caeau ni acw gan fy nhaid dair cenhedlaeth yn ôl yn llai gwerthfawr na’r rhai a gofnodwyd yn y mapiau degwm, er enghraifft? Go brin. 

Ond tydi’r feirniadaeth hon ddim yn tynnu oddi wrth gyfraniad diamheuol Cerdded y Caeau, sy’n werth tyrchu drwyddi. Er bod yr apêl, yn ddigon naturiol, yn debyg o fod yn gryfach i drigolion Ardudwy, mae digon yn y gyfrol hon i ddiddori unrhyw un sydd yn gweld gwerth mewn enwau ac am ddysgu mwy am eu hanes. Mi ddysgais ddigonedd wrth ei darllen a dwi’n sicr y bydda i’n troi’n ôl ati hi hefyd.

Ydi’r enwau a osodwyd ar ein caeau ni gan fy nhaid dair cenhedlaeth yn ôl yn llai gwerthfawr na’r rhai a gofnodwyd yn y mapiau degwm?

Pynciau:

#Llŷr Titus
#Mapiau
#Cerdded
#Enwau lleoedd
#Iaith