Adolygu

Penwythnos gydag Iris

Cloriannu gŵyl ffilm Gwobr Iris

Dylan Huw

Amser darllen: 8 munud

25·10·2017

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia (NYU Press, 2009), mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw wedi ei gyrru gan feddylfryd iwtopig. Defnyddir 'criwsio am ryw' fel trosiad ganddo ar gyfer ei weledigaeth (sydd yn benthyg gan Heidegger, theorïau celfyddyd gyfoes a chan ddadansoddiadau Muñoz ei hun o weithiau queer penodol). O ddychmygu ar y cyd ddyfodolau posib, gwell, mae'n argyhoeddedig y gellir amgyffred potensial cymunedau LGBT+. Ond, yn gyntaf, rhaid dychmygu iwtopia, a hynny yn ein celfyddyd, yn ein rhywioldeb ac yn ein bywyd liw nos.

Ers tro, dwi'n hoff o’r syniad bod cruising ac iwtopia, yn nisgrifiadau chwareus Muñoz ohonynt, yn fframweithiau y gellid eu cymhwyso at wead gwyliau ffilm. Ac os oes yna ŵyl y mae’r fframweithiau hynny’n gweddu’n berffaith iddi, Gŵyl Gwobr Iris yw honno. Fe’i cynhelir yng Nghaerdydd bob mis Hydref a daeth gŵyl eleni i ben – y ddegfed a’r fwyaf llwyddiannus eto – ar nos Sul 22 Hydref. Mae Gŵyl Gwobr Iris yn un o’r gwyliau ffilm mwyaf blaenllaw yn y byd sy’n canolbwyntio ar ffilmiau â chynnwys LGBT+, ac mae’n ymfalchïo lawn cymaint yn ei hawyrgylch glòs, deuluol a diymhongar ag y mae yn ei detholiad eang a dibynadwy o’r gwaith cyfoes gorau o fyd(oedd) sinema LGBT+.
 

Noson agoriadol Gŵyl Gwobr Iris - Cyfarwyddwr yr ŵyl, Berwyn Rowlands, yn annerch y dorf

Noson agoriadol Gŵyl Gwobr Iris. Cyfarwyddwr yr ŵyl, Berwyn Rowlands, yn annerch y dorf 

Un o nodweddion arbennig Gŵyl Iris, ynghyd â’i bywyd hwyrol bywiog a’i phwyslais ar gymuned, ydy ei ffocws ar ffilmiau byrion, er nad gŵyl ffilmiau byrion yn unig mohoni. Mae Iris yn cynnig platfform sylweddol i lond llaw o ffilmiau nodwedd LGBT+aidd mwya’ blaenllaw’r flwyddyn (i’m tyb i, mae Inxeba, neu The Wound, am ddefod greithio gan lwyth yn Ne Affrica, a Beach Rats, am fachgen ifanc ar ymylon tywodlyd dinas Efrog Newydd sy’n dod o hyd i dynerwch ac empathi wrth gwrdd â dynion o wefannau camsex, yn ddwy o ffilmiau cryfa’r flwyddyn mewn unrhyw genre neu thema). Ond mae hyd yn oed y ffilmiau nodwedd arbennig hyn yn cael mynd i’r sedd gefn yng Ngŵyl Iris o’u cymharu ag adrannau cystadleuol y ffilmiau byrion. Mae yna reswm da dros hynny: prif wobr Iris, am ffilm fer â thema LGBT+ wedi’i chreu yn unrhyw le yn y byd, yw’r wobr fwyaf am ffilm fer a gynigir gan unrhyw ŵyl ar y blaned (LGBT+ neu beidio) – mae’n cynnig gwobr gwerth £30,000 sy’n caniatáu i’r cyfarwyddwr buddugol fentro gwneud ei ffilm nesaf.

Enillydd annisgwyl y brif wobr ryngwladol eleni oedd Mamma Vet Bäst, neu Mother Knows Best, gan Mikael Bundsen, y cyfarwyddwr cyntaf o Ddenmarc i gipio’r wobr. Mae hi’n ffilm ar ffurf sgwrs – un siot yw rhan helaeth ei chwarter awr o hyd – rhwng mam a mab mewn car, ar ôl iddi hi gwrdd â’i gariad am y tro cyntaf. Mae symlrwydd y plot – a dyna ddisgrifio fwy neu lai’r oll sy’n digwydd yn y ffilm fuddugol – yn cuddio portread troellog a chelfydd o berthynas ac iddi hanes cymhleth a sawl tensiwn yn berwi dan yr wyneb. Mae’n ffilm a chanddi lawer iawn i’w ddweud am derfynau a rhagrith goddefgarwch rhyddfrydol ein hoes, ac fe ddatgelwyd ei phŵer ymhellach i mi o’i gwylio eilwaith yn ystod penwythnos olaf yr ŵyl.

Ffilm yr un mor syml ar yr wyneb ond ac iddi lai i gydio ynddo oedd The Mess He Made, ffilm un-nodyn Americanaidd am dad ifanc sy’n lladd amser wrth aros am ganlyniad prawf clinig iechyd rhywiol. Dwi’n hoff o wyliau sy’n lleihau eu rhestrau byrion yn raddol, fel y mae Iris, ac sydd yn cyflwyno’u dangosiadau o’r tri uchaf ar yr hyn y maen nhw’n ei alw’n ‘Super Saturday; mae hynny’n cynnig gwell cipolwg o ddeinameg a chwaeth rheithgor na chyhoeddi enwau’r enillwyr yn unig. Yn achos tri uchaf y brif wobr ryngwladol eleni, roedd hi’n amlwg iawn bod y rheithgor hwn – a gadeiriwyd gan Brian Robinson o’r BFI gynt – yn ffafrio ffilmiau wedi’u gyrru gan un cysyniad cryf a steil hyderus, uniongyrchol.

Roedd hyn yn sicr yn wir am Odd Job Man, gan Marianne Blicher, am ddyn canol oed sy’n colli ei swydd a’i wraig, ac yn dod o hyd i newid byd o fath ar ôl dechrau gweithio fel tasgmon mewn clwb drag. Gellid dadlau mai hon oedd y ffilm fwya’ soffistigedig ei harddull ym mhrif gystadleuaeth Iris eleni. Ond, yn bersonol, dwi'n falch iawn bod y rheithgor wedi penderfynu peidio â gwobrwyo ffilm ac iddi bersbectif mor gyfarwydd, mewn gŵyl sydd wedi ei bwriadu fel llwyfan i leisiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol. Gellid dadlau hefyd bod yna le i straeon am gymunedau hoyw wedi’u hadrodd gan bobol nad ydynt ar y sbectrwm LGBT+, a hyd yn oed ar gyfer ffilmiau sy’n canoli profiad dyn syth, gwyn, cisrywiol sy’n ymwelydd mewn sîn LGBT+ danddaearol, fel y mae Odd Job Man – ond nid prif wobr Gŵyl Iris yw’r lle hwnnw.

Roedd ychydig mwy o amrywiaeth (o sawl math) i’w weld yn y ffilmiau a ddaeth i’r brig yng nghategori Iris ar gyfer ffilmiau byrion o’r Deyrnas Gyfunol. Été, i mi, oedd y ffilm fwyaf telynegol, synhwyrus a chynnil yn y tri uchaf mewn unrhyw gategori eleni. Mae’n adrodd hanes mud bachgen sydd wedi mopio ar ei ffrind yn ystod haf o gneifio defaid ac ymlacio ger llynnoedd a ffyrdd cul Swydd Henffordd. Ond mae’r cyfarwyddwr, Greg Oke, yn fframio’r sefyllfa ddigon arferol hon yn ymdrechion y bachgen i ddysgu Ffrangeg, a'i obsesiwn â’r canwr Jacques Dutronc, sydd yn chwarae dros dalpiau hir o drac sain y ffilm (rhyw ugain munud o hyd). Nid yw’r ffilm yn esbonio’r elfen hon na llawer o bethau eraill yn Été chwaith. (Cefais gyfle i ofyn i’r cyfarwyddwr, yn un o nifer o bartïon Iris, a oedd yna gysylltiad pendant ro’n i wedi methu â’i weld rhwng gwahanol linynnau’r ffilm – fe’m cysurodd trwy ddweud ei fod wedi dod at wahanol ddylanwadau’r ffilm fwy neu lai ar hap.) Ond mae’r ffilm yn waith llawer mwy awgrymog, a chyfoethog, o ganlyniad i’r aflonyddwch chwareus hwn.
 

Dathliadau yng Ngŵyl Gwobr Iris

Dathliadau yng Ngŵyl Gwobr Iris

Byddai’n anodd dadlau, serch hynny, nad oedd enillydd yr adran hon, We Love Moses, yn deilwng o’r wobr. Mae hon yn ffilm ac iddi bersbectif unigryw: mae’n dilyn merch ddeuddeg mlwydd oed sy’n magu obsesiwn â pherthynas agos ei brawd gyda’i ffrind gwrywaidd. Yr hyn sy’n nodweddu’r naratif hwn yw ei benodolrwydd; mae ei themâu, sy’n ymwneud ag amwysedd rhywiol a phwysau cymdeithasol ar ferched ifainc, wedi eu gosod mewn cymuned ddinesig ac mae pob aelod o’r cast a’r criw yn bobol groenddu. Mae yna hiwmor a chwilfrydedd yn y stori hefyd, a’r rhain yn cyfuno i sicrhau ei bod yn un o ffilmiau mwyaf argyhoeddiadol Iris 2017.

Roedd hi’n braf hefyd gweld ffilm ddogfen sensitif – y math o ffilm a fyddai wedi gallu llithro trwy rwyd gŵyl fel Iris yn ddigon rhwydd – yn cyrraedd tri uchaf adran ffilmiau’r Deyrnas Gyfunol. Mae Where We Are Now, a gyfarwyddwyd gan Lucie Rachel, yn portreadu’r berthynas esblygol rhwng tad a merch yn yr Alban wedi i’r ddau ddod allan, y tad fel dynes trans a’r ferch fel lesbiad. Dydy hon ddim yn ffilm sy’n gorbwysleisio nac yn pregethu – mae’n ffafrio arddull arsylwadol, yn hytrach, sydd yn goleuo arlliwiau y berthynas arbennig hon mewn ffordd ryfeddol o gynhwysfawr, o ystyried ei bod yn ffilm mor fer.

Yn nhudalennau olaf Cruising Utopia, mae Muñoz yn galw arnom i chwilio – mewn gwaith esthetig ac mewn sefyllfaoedd cymunedol ag iddynt botensial iwtopig – am strategaethau er mwyn cael dianc o afael ‘a narrow version of the here and now’, i fynnu gwell i gymunedau nad ydynt yn rhan o gyfundrefnau normadol cymdeithas ac i gamu ‘out of this place and time to something fuller, vaster, more sensual, and brighter’. Rhoddodd cyfnod byr Gŵyl Iris eleni – safon y detholiad o ffilmiau, y ddiod a’r dawnsio, yr oriau o sgyrsiau a gafwyd – flas imi o’r ddelfryd iwtopig llachar-lawn hon. Cawsom ein hatgoffa gan sawl un o ffilmiau a siaradwyr Iris ein bod, yn ein cwr ni o’r byd, wedi gweld cynnydd pendant o ran materion LGBT+. Ond beth am fynnu gwell eto i bobol ar hyd sbectrwm rhywioldeb ymhob cwr o’r byd? Beth am fynnu iwtopia?

Mae Dylan Huw yn frodor o Landre, Ceredigion. Mae'n astudio ar hyn o bryd am radd MA yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Ei brif ddiddordebau yw diwylliannau ffilm a chelfyddyd gyfoes.

Ceir mwy o wybodaeth am Ŵyl Gwobr Iris yn y fan hon. Diolch i'r trefnwyr am ganiatâd i ddefnyddio'u lluniau.

Beth am fynnu gwell eto i bobol ar hyd sbectrwm rhywioldeb ymhob cwr o’r byd? Beth am fynnu iwtopia?

Pynciau:

#Dylan Huw
#Ffilm