Colofnau

Plan A gan Yoav a Doron Paz

Darllen ffilm

Nathan Abrams

Amser darllen: 5 munud

21·09·2021

Golygfa o'r ffilm Plan A (gyda diolch i Signature Entertainment)
 

Dau frawd o Israel, Yoav a Doron Paz, sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo Plan A, ffilm newydd a seiliwyd ar y gyfrol Vengeance and Retribution Are Mine: Community, the Holocaust, and Abba Kovner's Avengers (2019) gan yr hanesydd Holocost o Israel, Dina Porat. Yn yr Almaen yn 1945 y mae'r cyfan yn digwydd: dramateiddir stori wir am yr Iddewon hynny a geisiodd ddial am farwolaeth eu teuluoedd, eu cyfeillion a'u cymunedau. Arweinir un o'r grwpiau hyn, a adwaenir wrth yr enw 'Nakam' (y gair Hebraeg am ddial), gan y cymeriad carismataidd, Abba Kovner. Kovner a ddyfeisiodd y cynllun mwyaf uchelgeisiol ar gyfer dial ar ran yr Iddewon. Mewn ymgyrch gyfrinachol herfeiddiol o'r enw Plan A, eu bwriad oedd lladd miliynau o ddinasyddion yr Almaen trwy wenwyno'r cyflenwad dŵr.

Mae'r ffilm yn olrhain hanes Max (August Diehl), hogyn a oroesodd yr Holocost, wrth iddo ddychwelyd adref i'w fferm deuluol i ddarganfod ei bod wedi ei chymryd gan Almaenwr o ffermwr ynghyd â'i deulu. Mae Max yn ei herio: Pam ei fradychu ef a'i deulu i'r Nazïaid? Ymateb y ffermwr ydi ei waldio â charn reiffl gan ddweud, 'Hyd yn oed os ydi'r rhyfel drosodd tydi o ddim yn golygu nad oes modd i ni ladd Iddewon mwyach.'

Wrth chwilio am ei wraig a'i fab, daw Max ar draws aelodau Brigâd Iddewig y Fyddin Brydeinig. Dan arweiniad atyniadol Michael (Michael Aloni), maent yn cymryd Max o dan eu hadain gan ddangos iddo sut yr ânt ati i gymryd materion i'w dwylo eu hunain – trwy ddial am farwolaethau eu cyd-Iddewon wrth ddod o hyd i Nazïaid a'u cydweithredwyr a'u lladd yn ddisymwth.

Cawn arddeall bod Michael yn cynrychioli'r Haganah – y grymoedd gwarcheidiol Iddewig ym Mandad Prydain ym Mhalesteina cyn sefydlu'r Wladwriaeth Iddewig. Oherwydd bod yr arweinyddiaeth Iddewig yn Israel yn poeni y bydd gweithredoedd Nakam yn dinistrio unrhyw obaith o sicrhau mamwlad Iddewig ym Mhalesteina, ar gais Michael mae Max yn ymdreiddio grŵp Abba Kovner er mwyn ei rwystro rhag rhoi ei gynlluniau ar waith.

Gellir gweld, felly, sut mae Plan A yn perthyn i is-genre o'r ffilm Holocost, sef y ffilm ddial Iddewig lle na chynrychiolir Iddewon yn syml fel dioddefwyr, neu yn nhermau'r frawddeg gofiadwy honno, fel 'defaid i'r lladd-dŷ'. Yr enghreifftiau mwyaf amlwg yw'r ffilm Defiance (2008) gyda'r actor Daniel Craig yn y brif ran a ffilm Quentin Tarantino, Inglourious Basterds (2009) lle mae Diehl – yn eironig – yn chwarae rhan swyddog Gestapo clyfar a thywyllodrus o'r enw Major Hellstrom.

Yn wahanol i'r ddwy ffilm honno, mae Plan A, yn yr un modd â ffilm gynharach Steven Spielberg, Munich (2005), yn myfyrio ar ba mor wrthgynhyrchiol ydi dial o'r fath. Mae'n agor a chloi â'r un cwestiwn: 'Beth pe bawn i'n dweud wrthyt bod dy deulu wedi eu llofruddio? Dychmyga am funud. Dy frodyr, dy chwiorydd, dy rieni, dy blant. Pawb. Wedi eu lladd am ddim rheswm o gwbl. Nawr 'te, gofyn i dy hun, beth fyddet ti'n ei wneud?'

Cynigir dau ateb gan y ffilm. Mae un yn ymateb mwy pwyllog: dwyn i brawf a dienyddio, sef yr hyn a fu drechaf yn Nürnberg yn 1946 – ac eleni, wrth gwrs, mae hi'n dri chwarter canrif ers y treialon enwog (sydd wedi eu dramateiddio gan ddrama radio BBC ardderchog). Yr ateb arall ydi'r hyn a gynigir gan Nakam, sef fel yr eglurodd Michael, y gair beiblaidd am ddial, ond sydd â chynodiadau 'tywyll' a 'pheryglus'. Yn grediniol fod holl boblogaeth yr Almaen, yn ddynion, merched a phlant, yn euog, mae Nakam yn anelu at weithredu meddylfryd 'llygad am lygad', neu 'chwe miliwn am chwe miliwn', fel y mae un cymeriad yn ei fynegi yn y ffilm. 'Wnawn ni ddim aros i'r llysoedd ddyfarnu cyfiawnder,' meddai Kovner wrth Max ac mae'r ffilm i weld yn ochri â safbwynt Kovner, nad yw'n syndod o ystyried mor anedifeiriol wrthsemitaidd ydi cynifer o ddinasyddion yr Almaen hyd heddiw. 

Ond mae'r ffordd yr aethpwyd ati i roi'r ffilm at ei gilydd yn wan. Mae wedi ei ffilmio ar leoliad yn yr Almaen, yn Israel ac Wcráin ac mae'n ffilm sydd yn sicr â sglein iddi – mae hi'n edrych ac yn swnio'n ardderchog. Ond does dim tensiwn, a hynny oherwydd does ond angen gwybodaeth fras o hanes er mwyn gwybod beth ddigwyddith. Tydi'r cymeriadu fflat ddim yn gymorth ychwaith, a'r prif gymeriadau'n lestri cyfleus ar gyfer y tensiynau croesdynnol ymysg yr Iddewon ar ôl y rhyfel: dial (Kovner) neu realpolitik (Michael). Aeth dawn Aloni (a chwaraeodd y brif ran yn y gyfres deledu Israelaidd, Shitsel) yn wastraff yn y ffilm hon. Mae'n edrych yn dda, ond dyna i gyd. Mae cymeriadau eraill, fel Sylvia Hoeks ac Ana, yn mynd a dod. Y diffyg dyfnder hwn sy'n ei gwneud hi'n anodd cymryd y cymeriadau o ddifri.

Dibynna'r ffilm yn llwyr ar Max, sydd yn edrych yn hagr, wedi ei hawntio, fel petai wedi camu o ffilm flaenorol gan yr un cyfarwyddwyr – y ffilmiau arswyd Golem a JeruZalem. Ond tydi Max byth yn dod drosodd fel llofrudd; yn wir, nid yw'n lladd yr un enaid byw drwy gydol y ffilm. Yn y darlun cyntaf hwnnw ohono yn cael ei daro gan Almaenwr mae rhywun am ei weld yn codi ar ei draed a tharo'n ôl. Pan gaiff y cyfle i ddial ar farwolaeth ei deulu trwy lofruddio Nazi, mae'n methu nes bron colli ei fywyd ei hun, tan ddaw aelod o'r Nakam i'r fei.

Wrth i Plan A ddirwyn i'w phen, gwelir lluniau archif o oroeswyr yr Holocost ac fe gawn ein cyflwyno â'r casgliad mai'r dial gwirioneddol fyddai 'mynd adref a byw yn dda'. Ond yn y pen draw, mae unrhyw neges y mae'r ffilm yn ceisio ei chyfleu yn cael ei thanseilio gan ei thriniaeth ddrwgargoelus a throm. Os am driniaeth lai clodwiw o wrthsafiad yr Iddewon yn erbyn y Nazïaid, llawn rheitiach fyddai gwylio Inglourious Basterds neu Defiance.

Mae Nathan Abrams yn Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Plan A yn perthyn i is-genre o’r ffilm Holocost, sef y ffilm ddial Iddewig lle na chynrychiolir Iddewon yn syml fel dioddefwyr

Pynciau:

#Nathan Abrams
#Yr Holocost
#Ffilm
#Darllen ffilm