Tonnau sinema bob dydd
Cofio Jiří Menzel 1938-2020

Golygfa o Ostře sledované vlaky gan Jiří Menzel (1966)
Yr wythnos hon, bu farw un o ffigurau amlycaf sinema Tsiecoslofacia, Jiří Menzel (23 Chwefror 1938 – 5 Medi 2020). Tu hwnt i galon barth Ewrop, am ei ffilm Ostře sledované vlaky (1966, Llygad barcud ar y trenau) y mae Menzel fwyaf adnabyddus, gwaith a enillodd iddo wobr Oscar am y ffilm dramor orau yn 1968. Hon oedd un o’r ffilmiau Tsiec cyntaf i mi ei gweld. Roeddwn eisoes wedi fy nenu i’r byd du a gwyn hwn gan Žert (1969, Jôc), ffilm Jaromil Jireš o nofel gyntaf Milan Kundera. Dyma’r awdur Tsiec a ddaeth i lenwi fy mryd i a fy ffrindiau yn yr ysgol yn Aberystwyth ddiwedd yr wythdegau. Ond mwy melys a llai oeraidd na’r 'Jôc' ydi ffilm eiconig Menzel. Bildungsroman o stori ydi hi, am weithiwr y rheilffordd mewn gorsaf golledig sy’n osgoi plygu i ofynion y Nazïaid. Mae hi’n ffilm delynegol, yn ysgafn ei chyffyrddiad hefyd, ac yn llawn yr hiwmor abswrd a melancolaidd a gysylltir yn aml â gweledigaeth artistig y Tsiecoslofaciaid.
Roedd Menzel yn un o gnwd o sinematograffwyr oes aur a gafodd eu meithrin yn ysgol ffilm ddylanwadol Prâg, FAMU. Sefydlwyd yr ysgol hon yn 1947, yn dilyn gwladoli’r diwydiant ffilm yn 1945. Ar un olwg, bu’r gwladoli o gymorth i roi seiliau economaidd dibynadwy i’r diwydiant yn Tsiecoslofacia: roedd llawer o gyfleusterau pwrpasol er budd datblygu techneg o fewn cyrraedd i’r myfyrwyr. Er gwaetha’r gwahardd a fu ar ddigonedd o ffilmiau, a berodd i rai o gyd-fyfyrwyr Menzel i fynd yn alltud erbyn diwedd y chwedegau, mae’n debyg i FAMU lwyddo i gynnal diwylliant academaidd cymharol rydd, hyd yn oed yng nghyfnod llwm y drwgenwog normalizace a ddaeth wedi goresgyniad Gwanwyn Prâg gan y Warsaw Pact yn Awst 1968. Llwyddwyd i osgoi i raddau ymgais y gyfundrefn i wthio agitprop. Ac mae bri rhyngwladol yr ysgol yn parhau.
Ond drannoeth marwolaeth Menzel ym Mhrâg, ar fore Sul 6 Medi 2020, mae miloedd o Hwngariaid ar y stryd yn Budapest yn gweiddi, ‘Gwlad rydd, prifysgol rydd’. Darllenaf fod llywodraeth Viktor Orbán am wared annibyniaeth SZFE, sef ysgol ffilm a theatr fawr ei bri yr Hwngariaid hwythau, a sefydlwyd yn 1865. Cyhoeddwyd bod gweinyddiaeth SZFE i symud i sefydliad sydd dan law un o ffigurau amlycaf y kulturkampf a hyrwyddir gan lywodraeth Orbán: dyma Attila Vidnyánszky, cyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Hwngari er 2013. Yn y wasg Hwngaraidd, dadlau mae Vidnyánszky bod y myfyrwyr yn cael eu manipiwleiddio gan rymoedd a rhwydweithiau rhyngwladol sylweddol iawn, a chan gylch rhyddfrydol sydd am weld dymchwel llywodraeth Orbán. Ond wrth gael ei holi gan Le Monde yr wythnos hon, meddai un o’r protestwyr, sydd wedi gadael Hwngari i astudio am radd yn yr Eidal, ‘Mae’n bwysig dangos nad pawb yn Hwngari sy’n cefnogi’r feddylfryd o reoli meddyliau cenedlaethau’r dyfodol.’ Meddai myfyriwr sgriptio yn SZFE wrth y newyddiadurwr Jean-Baptiste Chastand: ‘Maen nhw’n dweud wrthym drosodd a throsodd eu bod wedi newid cyfansoddiad yr ysgol am y rheswm nad oes gogwydd digon cenedlaetholgar i’r hyn rydym yn ei astudio a’i ddysgu. Ond doedd dim ideoleg ar waith yn ein gwersi.’
Drigain mlynedd cyn hyn, ym Mhrâg, wrth i gyfundrefn llywodraeth Antonín Novotný – Prif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia rhwng 1953 a 1968, a’r Arlywydd rhwng 1957 a 1968 – ddechrau daffod rhywfaint ar Staliniaeth eu polisïau, roedd myfyrwyr FAMU am ysgwyd sosialaeth yn rhydd o orthrwm delfrydau. Hyd y gwelaf, nid oedd eu bryd ar fychanu, mwy na chlodfori, gorchestion yr ysbryd sosialaidd ond ar fod yn bresennol i’w donnau bychain bob dydd. Dirgelwch pethau’r byd hwn a’r diddrwg-didda sydd dan sylw yn eu ffilmiau, nid barnu a rhannu. Dyma’r arddull a ddaeth i ysgwyd confensiynau sinematograffiaeth y cyfnod gan fagu ei gwedd arbennig ei hun yn nwylo’r Tsieciaid (Tsiec, yn hytrach na Slofaceg, oedd iaith mwyafrif y ffilmiau hyn). Cyn hynny, yn ôl yr awdur Josef Škvorecký (1924-2012), a ffodd i Ganada yn dilyn goresgyniad Awst 1968, gan sefydlu gwasg ddylanwadol 68 Publishers yn 1971, chwerthin ar y dramâu a chysgu drwy’r comedïau fyddai ffawd y gynulleidfa. Doedd hynny ddim yn syndod o ystyried gafael uniongredaeth Staliniaeth ar y diwydiant ffilm yno hyd ddiwedd y 50au. Daeth amgylchiadau, ynghyd â dylanwad neorealaeth sinema’r Eidal a Nouvelle Vague y Ffrancwyr, i ysgafnhau cyffyrddiad a newid cywair.
Ymhlith myfyrwyr FAMU ar y pryd, yn gwmni i Menzel, roedd Věra Chytilová, a ystyrir yn wneuthurwraig ffeministaidd arloesol y cinéma vérité Tsiec, er nad oedd hi ei hun, mae’n debyg, yn gweld pethau fel hyn. Mae hi fwyaf adnabyddus am y ddrama-gomedi swrealaidd Sedmikrásky (1966, Llygad y dydd), lle’r adroddir hanes dwy ferch ifanc, sy’n rhannu’r un enw, yn mynd ati i wneud castiau od ar lun dwy Strempan. Megis llawer i wraig sy’n torri’n rhydd o gonfensiwn, ystyriwyd estheteg Chytilová yn eithafol a dros ben llestri gan rai ac yn avant-garde gan eraill. Ond mi roedd hi’n ddigon parod i ddisgrifio ei hun fel ‘tegell wedi gorboethi nad oes modd ei ddiffodd’. Tegell a drydanwyd gan gynhysgaeth cymdeithas yn gymaint â bioleg a magwraeth, debyg iawn. Meddai Kundera (1929-), a anwyd yn Brno ond sydd yn alltud ym Mharis ers 1975, am y ffilm hon: ‘Mae anffurfiaeth y prif gymeriadau wedi ei gyfleu’n syber, yn farddonol, yn freuddwydiol, ac yn hardd, ond heb eu gwneud nhw am eiliad yn llai angenfilaidd.’
Hefyd yn eu plith yr oedd Ivan Passer, a theitl ei ffilm fer 16 munud o hyd, Fádní odpoledne (1964, Pnawn di-ddim), yn cyfleu rhyddhad y sylw newydd hwn i’r diddrwg-didda. Dywed y cylchgrawn ffilm Ffrengig, Positif, am y ffilm hon: ‘Yn sydyn, mae’r llwydni’n creu rhywbeth go anarferol. Yn lle’r hyn a deimlir i ddechrau fel absenoldeb strwythur, daw cordiau cyfrinachol, hinsawdd unigryw, tempo a golau arbennig i ddadlennu’r artist.’ Roedd Passer, a fu farw ddechrau'r flwyddyn, yn un o’r rhai a adawodd am Efrog Newydd oherwydd y pwysau gwleidyddol a ddaeth yn sgil tanciau Awst 68, a thrwy gydol ei yrfa bu’n cydweithio â’r enwocaf o griw FAMU – un arall a adawodd – sef Miloš Forman, gwnaethurwr Amadeus (1984) a One Flew Over the Cuckoo’s Nest (1975).
Mae un stori bersonol gan Passer wedi aros hefo mi oherwydd ei bod yn f’atgoffa o allu nodedig rhai o’r Tsieciaid rwyf wedi eu hadnabod i balu cwys, waeth beth y rhwystrau. Stori am eu hynt ar ôl i Passer a Forman ffoi dros y ffin oedd hon. Cyn ei farw fis Ionawr 2020, dywedodd Passer wrth y Los Angeles Times, lle’r ymgartrefodd yn 1981, sut y bu iddo geisio perswadio Forman i fynd i weld seiciatrydd er mwyn delio efo’r iselder a ddaeth amdano wedi cyrraedd ochr draw’r Iwerydd. Pan wrthododd, gan ateb yn flin ‘Ti sydd angen seiciatrydd!’, penderfynodd Passer wneud hynny’n union, a mynd ei hun – ond mynd yn enw Forman. Atebodd gwestiynau’r meddyg yn sgidiau a llais ei ffrind. A dyna, yn ôl y stori, sut y bu i Forman wella – wedi iddo gymryd y tabledi a roddwyd ar bresgripsiwn i Passer yn ysbryd Forman.
Yn dilyn ‘Jôc’ Milan Kundera, trwy gyfrwng y llenor Bohumil Hrabal – un o awduron Tsiec mwyaf idiosyncratig llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif ac a anwyd, fel Kundera, yn Brno – y deuais i adnabod ffilmiau’r nová vlna ac estheteg arbennig y Tsieciaid. Yn ogystal â 'Pnawn di-ddim' Passer, Hrabal oedd awdur y nofel a ysbrydolodd ffilm hanesyddol Menzel. Buont yn cydweithio ar nifer o ffilmiau wedi hynny. Roedd un a gynhyrchwyd yn 1969 ar sail nofel Hrabal, Skřivánci na niti (Ehedyddion ar linyn), ac a enillodd iddynt wobr yr Arth Aur yng Ngwyl Ffilmiau Rhyngwladol Berlin yn 1990, yn fwy egr a llai ffugwylaidd ei harddull na ffilm arobryn gwobrau’r Oscar, ac wedi ei rhwystro rhag cael ei rhyddhau tan ar ôl y Chwyldro Felfed – oherwydd gwrthwynebiad yr awdurdodau comiwnyddol i’r portread o’r dosbarth bwrgais wedi eu hel i wersyll i’w hailaddysgu hyd abswrdiaeth.
Rydw i’n dal i geisio deall natur f’atyniad at ryddiaith Hrabal ond gwn ei fod â rhywbeth i’w wneud â’i barodrwydd i roi ffydd mewn delweddau fel ffordd o ddatblygu’r meddwl a’r deall. Cyn i mi ddarllen ei waith, deuthum ar draws neb tebyg iddo am wneud hynny. Meddai unwaith, wrth gael ei gyfweld: ‘Dwi’n anadlu delweddau i mewn ac yna dwi’n eu hanadlu allan.’ Mae’n arwyddocaol ei glywed yn sôn am anadlu. Soniodd Menzel hefyd am bwysigrwydd gweithio fel petai rhywun yn anadlu. A rhythmau dirgelion bob dydd, nid plot ynghrog, sy’n cynnal celfyddyd Passer yntau. Mewn cyfweliad yn 2005 mae’n cydnabod fod ei ffilm Intimní osvětelní (1965, Goleuo diddos) – un o ffilmiau mwyaf sylweddol yr ugeinfed ganrif, fallai, er na chafodd gymaint o sylw â ffilmiau Forman – yn cael ei gweld fel darn o gelfyddyd am ddim byd, ond ei fod yn gobeithio ei bod hefyd yn ffilm am lawer a erys ynghudd. Stori am ddau ffrind sy’n gerddorion ydi hon, wedi eu cyfleu nid gan actorion proffesiynol ond gan gerddorion go iawn (arfer arall cyffredin y sinema hon) – un wedi aros yn ei ardal enedigol a’r llall wedi mynd i’r ddinas i wneud ei farc. Mae’r olaf yn dychwelyd efo’i gariad i ymweld â’r cyntaf a’i deulu yng ngefn gwlad Bohemia. Yn y golygfeydd bob dydd a dynwyd heb ymyrraeth ymwthiol y camera, mae presenoldeb y gwneuthurwr ffilm o Siapan, Yasujirō Ozu, a edmygwyd gan Passer, i’w deimlo’n gynnes. Dywedodd Passer nad oedd yn gwrioni ar hanesion ‘rhy gryf’ oherwydd nad oes ynddynt ddigon o le i ymboeni ynghylch yr holl fanylion bychain hynny sy’n ffurfio ennyd lle nad oes dim byd mawr i’w weld yn digwydd. Mewn ysbryd digon tebyg, soniodd Menzel yn 1987 sut yr oedd yn anelu at un thema, a honno’n thema ddigon bwrgais, sef bod graslonrwydd yn gallu bod yn brydferth.
Fel cerddoriaeth weledol y byddwn i’n darllen Hrabal yn y nawdegau, heb boeni gormod am yr ystyr semantig. Ond er iddo fod yn ysbrydoliaeth gyson, yn lleuad i lanw a thrai’r don newydd hon yng nghalon barth Ewrop, nid lleihau ond chwyddo pethau oedd ei ffordd fel awdur. Yr hyn oedd yn ddifyr i mi oedd nad gwneud symbolau o ddelweddau y byddai, ond gwneud môr a mynydd go iawn, o flaen eich llygaid, fel petai yn y foment, yn ysbryd y pábení, y parablu chwareus, chwedl Hrabal. Nid annhebyg i’r cymeriad sy’n paentio yn ei amser sbâr yn Ostře sledované vlaky: gwell gan hwnnw ddefnyddio cardiau post, nid ehangder byd natur, yn sail i’w dirluniau – fel arall, oni fyddai’n rhaid iddo ganolbwyntio’i holl egni ar grebachu, yn lle mwynhau ymestyn?
Ymestyn oedd masnach Staliniaeth hefyd, fel Nazïaeth, wrth gwrs, ac Orbán heddiw: adeiladu symbolau marweddog i ysgogi emosiynau digonol i lenwi bywydau. Ond ymestyn o fath arall oedd yr hyn a alwodd Hrabal yn amddiffynfa iddo rhag ymyrraeth ideoleg ei ddydd – ehangu byrfyfyr, anstrategol, mynd i hwyliau a ‘siarad gwag’ pleser y foment, megis tynnu sgwrs ar hap â dieithryn, gan gymryd y gwynt o enau gwleidydda rhwysgfawr llawdriniol. Dyma guriad calon cinéma vérité y Tsieciaid. Onid realydd oedd Kafka yn dadlennu’r abswrd, wedi’r cyfan, chwedl y meddyliwr (Marcsaidd) a'r beirniad llenyddol Hwngaraidd, Georg (György) Lukács? A dyna’n union oedd yn fygythiad i’r sensoriaid yng ngwaith Hrabal: ei arddull, ei synnwyr anadlu naturiol – nid y ‘cynnwys’, a’u hanwybyddai. Meddai offeiriad wrth dad plentyn y mae ar fin ei fedyddio yn un o nofelau Hrabal: ‘Dim ond eich bywyd chi sy’n real [...] dyna pam y mae rheidrwydd arnoch ofalu nad ydych yn lleihau’r byd hwn yn ddim ond un symbol arall.’