Adolygu

Tir caled yr Elenydd

Adolygiad o’r rhaglen ddogfen ‘Hel y Mynydd’

Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 9 munud

14·01·2020

Mynyddoedd y Cambrian

Ysbrydolwyd y rhaglen ddogfen Hel y Mynydd (12 Ionawr 2020, S4C) gan y ffenomen sakte-TV yn Llychlyn, sef ‘teledu araf’. Yn 2009 darlledwyd rhaglen saith awr hynod boblogaidd ar y sianel NRK2 yn dogfennu siwrnai drên o Bergen i Oslo, prosiect a ddisgrifwyd yn y New Yorker fel ‘the iconic slow-TV programme’ ac a sbardunodd genre newydd. Enghraifft fwy diweddar ydi Reinflytting: Minutt for Minutt (Symud ceirw: o funud i funud), cyfres 168 awr o hyd a ddarlledwyd yn Norwy yn 2017. Trwy ddefnyddio drôns a cheir eira, a gosod camerâu ar gyrn y ceirw, aeth y darlledwr Norwyeg NRK ar drywydd dros 1000 o geirw wrth iddynt deithio tua’r gogledd. Recordiwyd rhaglen debyg yn Sweden, All Aboard the Sleigh Ride (BBC4, 2015) a ffilmiwyd o berspectif sled carw traddodiadol y Sami, a hynny heb gerddoriaeth, cyflwynydd na sylwebaeth: dim ond crenshian yr eira a’r tirwedd gwyn, eang. Gellid gweld dogfennau teledu o’r fath fel gwrthgyffur ar gyfer ein bywydau prysur, fel ffordd o wreiddio’r gwyliwr mewn gofod, amser a chymuned arbennig. Dyma gyfle i ymgolli mewn amgylchedd hollol wahanol i’n bydoedd cynyddol ddinesig, lle gwariwn ran helaeth o’n hamser yn sownd mewn adeiladau â gwres canolog a goleuadau artiffisial.

 

 

Ar ôl dod ar draws sakte-TV Gwledydd Llychlyn, aeth Siân Roderick a Meic Birtwistle at S4C a chynnig syniad am raglen debyg am ffermwyr Cwm Elan, cwm afonig i'r gorllewin o Rhaeadr ym Mhowys. Fel yr eglurodd Roderick, y cyfarwyddwr, mewn cyfweliad â Shan Cothi (10 Ionawr, BBC Radio Cymru), er bod y comisiynydd yn frwdfrydig, doedd hi ddim yn meddwl y byddai teledu mor araf â hyn yn addas ar gyfer S4C – ‘felly mae hwn yn slow-ish TV,’ esbonia, gan chwerthin, ac yn ‘arbrawf bach’. Er nad wyf innau wedi gwylio’r rhaglenni araf o Lychlyn – maen nhw’n gofyn am ymroddiad amser sylweddol, wrth reswm – roeddwn i’n falch iawn o weld arbrawf fel hyn yn cael ei gomisiynu a’i ddarlledu ar ein sianel genedlaethol. Meddai golygydd y rhaglen Norwyeg am symud y ceirw: ‘The aim of the project is to make a completely unknown part of Norwegian daily life known to the rest of the Norwegians,’ a dyma yr oedd Roderick a Birtwistle yn awyddus i’w wneud hefyd: codi ymwybyddiaeth am hen draddodiad a chymuned ym mynyddoedd y Cambrian, ‘asgwrn cefn Cymru’ sy’n rhedeg rhwng Rhaeadr a Thregaron, nad yw llawer ohonom yn ymwybodol o’i bodolaeth.

Ar ddechrau Hel y Mynydd, wrth i’r gwaith graffig soffistigedig ddangos map o’r Elenydd a’r dair fferm, Hirnant, Glanhirin a Chlaerwen, cofiais am eiriau Harri Webb y dysgais pan yn bymtheg oed, wrth gymryd rhan mewn opera roc am hanes Tryweryn:

Colli tir a cholli tyddyn
Colli Elan a Thryweryn 
Colli Claerwen a Llanwddyn
A’r wlad i gyd dan ddŵr llyn

Yr eironi ydi bod creu’r cronfeydd yng Nghwm Elan er mwyn darparu dŵr ar gyfer dinasoedd canolbarth Lloegr wedi cynhyrchu’r amodau ar gyfer y gymuned unigryw hon. Dim ond oherwydd y cronfeydd y mae tirwedd heb ffensys wedi goroesi ar fynyddoedd ystâd Cwm Elan. Mae’r tirwedd yn gwbl agored, felly, a’r defaid o bob fferm yn rhydd i gymysgu â’i gilydd. Gwelwn y bugeiliaid yn cydweithio wrth ymgasglu a didoli’r defaid, yn gweithio fel un, heb fod angen i arian gyfnewid dwylo (‘does neb yn gwneud pres, neb yn colli pres, pawb jyst yn helpu’i gilydd’). Mae pawb yn torchi’u llewys, gan gymryd eu tro i ddarparu’r bwyd (er, sylwais mai’r merched sy’n rhoi’r bwyd ar y bwrdd). Ceir lluniau drôn o’r defaid yn eangderau’r mynyddoedd, yn llifo i’r un cyfeiriad, a’r ffermwyr a’r cŵn yn eu hamgylchynu. Mae’r raddfa‘n syfrdanol. Gellid cerdded am filltiroedd heb weld yr un ffordd nac enaid byw. ‘Mae’r Elenydd yn dir caled i bobl ac anifeiliaid,’ meddai troslais Matthew Gravelle – tipyn o danosodiad. Fel y dywed un o’r ffermwyr, Erinna, mae’n dirwedd mor anghysbell, hawdd iawn fyddai colli eich ffordd a darganfod eich hun mewn trafferth, heb signal ffôn. Wrth i’r niwl ar yr ucheldir gau am un o’r ffermwyr eraill, Glyndwr, prif fugail ystâd Cwm Elan, dywed: ‘Dwi’n sefyll fan hyn fel pererin mewn anial dir.’ Fel mae’n digwydd, mae hen lwybr pererinion yn croesi’r mynyddoedd hyn, o Abaty Cwm Hir yn y dwyrain i Ystrad Fflur yn y gorllewin. Cawn glywed fod yr ‘anial dir’ mynyddig hwn hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn arafu lledaeniad yr iaith Saesneg i orllewin Cymru


Hen gerdyn post o Graig Goch, Cwm Elan
 

Ffocws y rhaglen, yn syml iawn, ydi crynhoi’r defaid. Does dim plot yma, dim narrative jeopardy (chwedl y comisiynwyr), dim cyfweliadau wyneb-yn-wyneb na dénouement dramatig. Defnyddiwyd camera drôn a chamerâu ar y beiciau cwad, a cheir ffotograffiaeth arbennig gan Mike Harrison, oedd yn ffilmio o’i cwad ei hun. Gwna Roderick rywfaint o’r ffilmio hefyd. Trwy’r amrywiol lensys hyn, cawn weld y defaid yn rhedeg i lawr y mynyddoedd, ar draws y mynyddoedd, ac i fyny’r mynyddoedd. Gwelwn ferlod gwyllt yn carlamu heibio, gan adael cymylau o lwch ar eu holau, a golygfeydd hir o’r ffermwyr yn teithio ar eu beiciau cwad – neu yn merlota – ym mhob tymor, ac yn eistedd o amgylch byrddau gyda’u cymdogion, yn rhannu bwyd ac yn sgwrsio’n hwyliog. Clywir lleisiau’r ffermwyr wedi eu dybio dros y lluniau – nid oes yma gyfweliadau confensiynol – a llais melfedaidd Gravelle yn sylwebu bob yn hyn a hyn. Mae yma dywydd garw, a gwelwn wynebau wedi eu llosgi’n goch gan oerfel, a phawb yn swatio mewn beudy yn yfed tê wrth aros i’r niwl godi. Gwelwn ddŵr yr afon yn llifo, haul orengoch yn suddo y tu ôl i’r bryniau, gwennol yn hedfan o’i nyth dan y to. Clywn gri’r gylfinir a gwelwn was y neidr yn y glaswellt. (‘Mae’n wyrth o beth bod creadur mor fach yn byw mewn lle mor anghysbell ac mor unig,’ meddai’r bugail profiadol, Erwyn, gan gyfeirio at y fan hon fel ‘paradwys’.)

Dyma’r math o deledu y byddwn i’n hapus i’w wylio bob nos Sul. Mae’n wreiddiol, yn wledd i’r llygaid, ac yn meddu ar naws unigryw. Nid yw’n teimlo’n araf, mewn gwirionedd: mae rhywun yn ymgolli yn y byd anghyfarwydd hwn ac yn anghofio amser yn gyfan gwbl – a fallai mai dyma y dylai unrhyw ffilm anelu ato, yn y bôn. 

Er hynny, mae is-destun chwerwfelys yn perthyn i’r cyfan. Er ei bod yn dogfennu cymuned sy’n byw rwan hyn, teimla hon fel ffilm hanesyddol, rhywsut, ac nid yn unig am fod yma ddeunydd archifol o helfa Cwm Elan ym 1966 a cherddoriaeth draddodiadol, ingol. Cefais fy atgoffa fwy nag unwaith o’r ffilm ddogfen Ȇtre et avoir (2002), am flwyddyn mewn ysgol gynradd wledig yn Ffrainc – fallai am ei bod yn agor ag aelodau o’r gymuned yn hel gwartheg, fallai am ei bod yn portreadu bywyd bob dydd a thro’r tymhorau, neu fallai am ei bod hithau, hefyd, yn dilyn cymuned fregus, fel petai’n portreadu’r gorffennol hyd yn oed wrth ddadlennu’r presennol yn ei holl gyfoeth. 
 


 

Beth fydd yma yn y dyfodol? ‘Llai o ddefaid, mwy o redyn, mwy o molinia [gwellt y gweunydd],’ meddai un o’r bugeiliaid. Yn y chwedegau roedd dros 50,000 o ddefaid ar y mynyddoedd hyn; dim ond 30,000 sydd ar ôl bellach. Ychydig o bobl sy’n parhau i ffermio yn y modd hwn. Ar ddiwrnod cneifio cawn glywed mai dim ond 60 ceiniog y cnu mae’r ffarmwr yn ei dderbyn am ei waith caled a medrus, ac 80 ceiniog i’r cneifiwr, tra roedd y gwlân yn arfer talu’r rhent ‘a dipyn bach yn sbâr’.

‘We’re all dealing with the same issues here really,’ meddai un o’r ffermwyr, Tanya. ‘How do you bring up a family here, how do you survive here, how do you run a business here?’ Mae hi’n ddeng milltir i’r siop fach agosaf ar gyfer prynu peint o lefrith, meddai, a does dim trydan ganddynt. ‘From November through to next lambing in March or April, we’re going “have we got enough fuel, have we got enough heating” – how do you survive here over the winter? We’re all facing these same things.’ Gwelwn fel y mae ffermwyr y mynydd agored yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni fyddai modd goroesi yn y fath amgylchedd heb y gymundodaeth hon, y cyfnewid help. Ac nac anghofier y cŵn, chwaith: dywed Clive o Hirnant ei fod yn gwbl ddibynnol ar ei gŵn, sydd ‘fel llaw chwith’ iddo. Cawn gipolwg ar ffordd o fyw sydd fwy neu lai wedi dod i ben yn y Gorllewin, lle mae perthynas dyn ag anifail, hen wybodaeth a hen rwydweithiau yn rhan hanfodol o fywyd. Yn wyneb grymoedd modernedd, mae’n rhwydwaith yr un mor fregus â’r gwe pry cop y gwelwn ar ddechrau un olygfa, sy’n disgleirio â gwlith yn haul y bore. Yr hyn sy’n codi’r galon ydi gweld y to ifanc sydd wedi ymuno â chymuned y mynydd, a’u brwdfrydedd dros eu gwaith: llygedyn o oleuni, â Brexit yn gwmwl du ar y gorwel.

Llwydda’r tȋm cynhyrchu i greu portread o gymuned sy’n agos-atoch-chi heb fod yn rhy ymwthgar, a heb greu rhyw fath o ffetish ohoni. Gellid dadlau fod Gideon Koppel yn ei ffilm sleep furiously (2008) – sy'n dogfennu fan lyfrgell yn teithio trwy gefn gwlad Ceredigion – mewn peryg o ffetisheiddio cymuned wrth gadw pellter artistig, ac ychydig yn oeraidd, oddi wrth yr hyn yr oedd yn ei recordio. Tipyn o her yw magu agosatrwydd a chadw pellter ar yr un pryd, gan ddathlu ffenomen unigryw heb greu gwrthrych ohoni. Yn achos Hel y Mynydd mi faswn i wedi mwynhau darn hirach – nid oedd 47 munud yn ddigon i wneud cyfiawnder â’r pwnc – a byddai wedi medru bod yn arafach, hefyd. Mi faswn i wedi gwerthfawrogi llai o gerddoriaeth a sylwebaeth, waeth pa mor hyfryd oedd y ddwy elfen hyn. Byddai wedi bod yn braf clywed hyd yn oed mwy o sŵn y defaid a’r gwynt a chwibanau’r ffermwyr, heb unrhyw ymyrraeth. 

Ar ddiwedd y rhaglen, erys nifer o gwestiynau yn fy meddwl. Sut y daeth Tanya (dynes a ddisgrifir fel ‘superwoman’ gan ei merch) i ffermio mewn cymuned mor ddiarffordd, a pha mor anodd yw bod yn rhan o fyd mor draddodiadol wrywaidd? (‘Most farmland is owned by fellas, that’s just the way of it,’ meddai.) Lle mae’r plant yn mynd i’r ysgol? Byddai’n dda gwybod mwy am sut yr addasodd gwraig o Stratford-Upon-Avon, Wendy, i fywyd ar un o ffermydd mwyaf anghysbell Cymru (‘a city girl I suppose you’d call me’) – tybed oes ganddi fywyd cymdeithasol tu hwnt i’r ffermydd? Sut y mae’r argyfwng hinsawdd wedi effeithio ar y gymuned dros y blynyddoedd diwethaf (‘We humans think we’re very clever at everything but then nature shows you who’s boss,’ meddai Tanya). A tybed beth yw eu barn am y ffenomen ‘ail-wylltio’ a’r ffaith fod cynifer yn dadlau mai diffeithdir heb neb yn byw ynddo ydi’r rhan hon o Gymru – yr union sylwebwyr sydd â diddordeb brwd mewn hanesion ‘pobl frodorol’ mewn rhannau mwy egsotig o’r byd?

Ond nid ateb cwestiynau oedd bwriad y rhaglen ddogfen hon, wrth gwrs, ac annheg yw creu disgwyliadau o’r fath. Pwrpas y rhaglen, fel yr esbonia Siân Roderick yn ei chyfweliad ar Radio Cymru, oedd treiddio i batrwm a rhythm y ddefod o grynhoi defaid, gan ddangos y bugeiliaid a’r defaid yn dilyn yr un llwybrau â’u hynafiaid mewn amgylchiadau caled tu hwnt. Mae’n rhaglen ddogfen sy’n cyfleu harddwch syfrdanol y tirwedd; ond mae hefyd yn gwrthod rhamanteiddio ffordd anodd iawn o wneud bywoliaeth mewn byd sydd yn prysur newid. Gobeithio y gwelwn fwy o waith pwyllog, cyfoethog a sensitif y tȋm cynhyrchu hwn ar ein sianel, gwaith sy’n ymwrthod â chonfensiynau ystrydebol a ffuantus y cyfrwng ac yn gwneud yr hyn y dylai unrhyw raglen ddogfen gwerth ei halen ei gwneud – agor drws, yn araf bach, ar fyd arall.

Mae Angharad Penrhyn Jones yn Olygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt.

Gwelwn fel y mae ffermwyr y mynydd agored yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni fyddai modd goroesi yn y fath amgylchedd heb y gymun-dodaeth hon, y cyfnewid help

Pynciau:

#Yr amgylchedd
#Ffermio
#Angharad Penrhyn