Adolygu

Tu hwnt i’r llygad

Pumed Gainc y Mabinogi

Peredur Glyn

Pumed Gainc y Mabinogi

Y Lolfa, 222tt, £8.99, 2022

Tu hwnt i’r llygad
Eve Johnson

Amser darllen: 4 munud

01·03·2023

Yn ei gasgliad o straeon byrion, Pumed Gainc y Mabinogi, mae Peredur Glyn yn gofyn i ni nid yn unig ddychmygu fod yna bumed gainc i’r Mabinogi ond fod cynnwys y bumed gainc hon yn rhy beryglus i’w chyhoeddi. Mae’r gyfrol felly yn chwarae â syniadau ynghylch awduriaeth a rhyng-destunoldeb, rhywbeth sydd yn nodweddiadol o ryddiaith yr oes ôl-fodern. Yr hyn sy’n drawiadol yn yr achos hwn yw’r ffaith fod yr awdur nid yn unig yn tynnu ei ysbrydoliaeth o’r ffynhonnell ganoloesol, ond yn honni ei fod yn ychwanegu ati hefyd.

Fel sy’n wybyddus, mae’r Mabinogi yn gasgliad o ryddiaith Gymraeg ganoloesol sy’n ganolog i ganon llenyddiaeth Gymraeg. Dylanwadodd ar awduron ar draws y cenedlaethau ac ar draws ffiniau ieithyddol. Er mai yn llawysgrifau Cymraeg canoloesol Llyfr Gwyn Rhydderch (1325–1375) a Llyfr Coch Hergest (1375–1425) y ceir y Mabinogi, mae’r naratifau wedi goroesi mewn darnau y gellir eu dyddio yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg. Ond nid sefydlog mo’n dirnadaeth o’r llawysgrifau hyn – mae darganfyddiadau newydd a datblygiadau yn ein dealltwriaeth o ramadeg ac orgraff dros y canrifoedd yn gallu newid ein canfyddiad ohonynt. O ganlyniad, ni allwn fod yn sicr sut y byddai darllenydd – neu wrandäwr – canoloesol wedi ymateb iddynt. Mae hynny’n gofyn ystyried i ba raddau y mae’r gweithiau sydd gennym o’n blaenau heddiw yn rhoi i ni’r darlun cyflawn. 

Mae straeon Peredur Glyn yn chwarae gyda’r ymwybyddiaeth hon o ffiniau hydraidd ac awdurdod ansefydlog yr archif lenyddol. Yn y stori ‘Y Llyfr Glas’ rhannwn y profiad o ddarganfod llawysgrif goll wrth i’r adroddwr fyseddu ‘tudalennau’n hŷn na’r clawr’ a’r ‘felwm brau, brown-felyn’, gan sylwi bod yna ‘natur od i’r llawysgrifen. Pob llythyren bitw yn ei lle a phob llinell yn ddestlus, ond roedd rhyw frys i’w ysgrifennu, fel pe bai’r awdur am i’r geiriau gyrraedd y dudalen cyn iddo eu hanghofio. Craffais, a dechreuais ddarllen’. Er mai darganfyddiad newydd yw’r bumed gainc ym myd Peredur Glyn, mae dylanwad y gwaith canoloesol y mae’n ychwanegiad ato yn amlwg a gweithreda’r gwaith hwnnw fel rhyw fath o bresenoldeb rhithiol. Ond nid oes angen i ddarllenydd feddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r Mabinogi i fwynhau’r gyfrol ychwaith. Gellir darllen y straeon byrion hyn yn unigol hefyd, neu mewn deialog â’i gilydd, gan fod y storïau yn ymgysylltu’n thematig. Er enghraifft, mae’r casgliad yn cynnwys golwg ddiddorol ar symbolau sy’n gysylltiedig â thraddodiadau diwylliannol Cymreig, megis yr Orsedd (yn ‘Arswyd y Maen’) a’r delyn deires (yn ‘Tannau’r Delyn Ddu’), sy’n ein hysgogi i ystyried arwyddocâd y fath symbolau i hunaniaeth Gymreig. Yn wir, mae darllen y casgliad ar ei hyd yn codi cwestiynau pellgyrhaeddol am y cof, am fywyd a cholled, ac am ddiwylliant, cymuned a hunaniaeth.

Noda’r rhagair i Pumed Gainc fod y gyfrol hon yn ‘gylch o straeon arswyd sydd wedi eu gosod yn ein Cymru ni heddiw ond sy’n cael eu hysbrydoli gan ddrychiolaethau chwedloniaeth ei gorffennol’. Mae’r awdur felly yn lleoli’r gyfrol fel rhan o’r genre ‘arswyd cosmig’. Fel yr eglurir mewn ôl-nodyn ganddo ar ddiwedd y gyfrol, dyma genre a boblogeiddiwyd gan yr awdur H P Lovecraft. Noda ‘fod ofn pethau annealladwy yn amlygu ei hun [yn storïau Lovecraft] fel y rhai sy’n dod o’r tu allan’. Mae’n ymwrthod â hyn, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi’r elfennau arswydus sydd oddi mewn i’r unigolyn ei hun a’i ddiwylliant. Yn wir, mae Peredur Glyn yn defnyddio’r genreyn effeithiol i archwilio’r posibilrwydd bod mwy i fywyd nag y gallwn ei weld neu ei ddeall. Ystyrir pryderon ynghylch hunaniaeth a pherthyn mewn ffordd hynod o effeithiol, os brawychus. Yn y stori ‘Yn y Croen Hwn’, er enghraifft, mae arswyd a hunaniaeth yn gorgyffwrdd ar ffurf cymeriad sydd, yn llythrennol, yn byw yng nghyrff eraill. 

Wrth archwilio’r hyn sydd y tu hwnt i’n dealltwriaeth, mae Pumed Gainc yn llwyddo i gymylu’r ffiniau rhwng categorïau – a osodir yn aml mewn gwrthgyferbyniad â’i gilydd (er enghraifft, dynol/an-ddynol) – gan gwestiynu effeithiolrwydd ein tueddiad i amgyffred y byd mewn termau deuaidd. Cymylir y ffiniau rhwng y gorffennol a’r presennol; yr hyn a wyddom a’r hyn nad ydym yn ei ddeall; hen draddodiadau a’r rhai newydd. Un o gryfderau mawr y gyfrol yw’r ffordd ddeheuig a chynnil y plethir i wead y storïau themâu sy’n gyffredin mewn llenyddiaeth ganoloesol, er enghraifft arwyddocâd (a grym) y byd naturiol, mythau, a chwestiynau am yr hyn allai fodoli y tu hwnt i'n dealltwriaeth. Er mai storïau heddiw ydynt, cânt eu haflonyddu gan ysbryd llenyddiaeth ganoloesol. Gan Peredur Glyn cawn ddarlun grymus o’r modd y gall presenoldeb y gorffennol newid ein dealltwriaeth o’n hanes a’n traddodiad llenyddol. Beth os oes testunau cudd yn ein gorffennol, wedi’r cyfan, sydd â’r gallu i chwalu’n rhagdybiaethau am bwy ydym?

Mae Eve Johnson yn astudio ar gyfer doethuriaeth mewn llenyddiaeth Saesneg (llenyddiaeth y canol oesoedd) ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd.

Mae straeon Peredur Glyn yn chwarae gyda’r ymwybyddiaeth hon o awdurdod ansefydlog yr archif lenyddol

Pynciau:

#Canol Oesoedd
#Rhyddiaith