Cyfansoddi

Archfarchnad

Gwynt y Dwyrain

Mihangel Morgan
11·05·2022

Llun: Safeway gan Morgan Aragon/Unsplash

 

Doedd gan R S Thomas gynnig i’r gair archfarchnad, am ryw reswm. Roedd archangel ac archesgob yn dderbyniol iddo, mae’n debyg. Dyma ddarlun o’r siop fach hen ffasiwn draddodiadol ’slawer dydd yn un o’r Tribannau,

Mae Siarl wrth baco sebon
A phwyso pupur duon
Gan serfo ei gwsmeriaid lu
Yn nyddu cynganeddion.

Rwy’n cofio mam yn mynd ‘draw’r hewl’ i’r siopau bach lleol i nôl neges. Siopau gwahanol i’r rhai yn y dre oedd y rhain (‘mynd i’r pentre’ fyddai mam yn dweud; dim ond pobl ‘o off’ fyddai’n dweud ‘mynd i’r dre’), roedd pob un yn nabod ei gilydd, a’r rhai oedd yn cadw’r siopau yn gyfarwydd i ni: Mr Evans y bwtsiwr, Mrs Davies siop losin, Frank yr Eidalwr a’i gaffi, hen Mr Evans siop tsips, Mills siop y papurau, Mrs Walters Siop-y-Parc a werthai losin a phapurau Cymraeg nes i siop-dipyn-o-bopeth Dilys ddod yn ei lle. Does dim un ar ôl nawr. Mae Siop Babi Bach, sy’n gwerthu dillad i blant bach, yn lle Siop-y-Parc bellach. Siopau trin gwallt a bwyd-i-fynd sydd wedi dod i lenwi ambell fwlch. Yr archfarchnadoedd sydd wedi sgubo’r siopau bach i ffwrdd.

Yn ei gerdd ‘Safeways’ mae Iwan Llwyd yn gweld yn yr archfarchnad ryw ddiogelwch ffug, seintwar fasnachol hynod o ddibynadwy ond noddfa arwynebol ydyw rhag bygythion allanol arswydus a rhyfelgar, 

ac mae’r silffoedd yn llawn cysuron,
wedi’u dethol yn barod i’w llwytho i’r fasged, 
yn fara beunyddiol archfarchnadol, 
yn fyd ar agor drwy’r adeg,
yn fwy na digon ...

a diolch byth bod golau yn ‘Safeways’ 
yn estyn ei belydrau i’r nos,
yn cynnig cysur a lloches 
ac oglau bara newydd ei bobi ...

Yn bersonol, braidd yn amwys yw fy nheimladau tuag at archfarchnadoedd. Ar y naill law gwerthfawrogaf gyfleustra’r siopau mawr hyn gyda’r arlwy amrywiol ac eang o nwyddau dan un to. Ar y llaw arall mae’r dewis di-ben-draw yn codi pendro arna i, ac mae’r ‘miwsac’ yn codi’r dincod, yn fy ngwylltio weithiau. Ac on’d yw hi’n hen bryd cael rhyw fath o reolau traffig ar gyfer trolïau? 

Ta beth, pan glywodd mam gynta fod cwmni Lidl yn dod ag archfarchnad i’r Gadlys (hynny yw, ‘draw’r hewl’) roedd hi’n gandryll. ‘Jyrmans’, meddai. Ond yn y diwedd roedd chwilfrydedd yn drech na hi a bu’n rhaid iddi fynd i gael cipolwg ar beth oedd gan y lle i’w gynnig. A phan welodd fod y prisiau’n ddigon rhesymol a dewis o bethau danteithiol ac anghyffredin i’w gael yno fe newidiodd ei hagwedd yn llwyr. A fe’i hargyhoeddwyd pan ddywedais fod Lidl yn hen air Cymraeg, fel yn y gân, 

Dacw ’nghariad lawr yn y berllan,
Tw ral-di-rw raldi radl-Lidl-lal.

Hoffai mam fynd draw i Lidl wrth ei phwysau ac yna, yn lle defnyddio un o fasgedi’r cwmni, ai o gwmpas y siop â’i bag ei hun gan ddewis o’r silffoedd trymlwythog a dodi’r nwyddau’n syth yn y bag. Pan welais i hi’n gwneud hyn gynta bu bron i mi gael trawiad. ‘Sdim ots,’ meddai yn ddidaro, ‘maen nhw’n napod fi yma’. Ai at y til ac yno tynnai’r holl nwyddau ma’s o’r bag, fesul un, a thalu amdanyn nhw ag arian parod ei phensiwn. Pan aeth hi yno i siopa gynta, dywedodd wrth y staff na allai gario basged, ei bag siopa ei hun a’i ffon. A chwarae teg iddynt roedden nhw wedi derbyn yr esboniad yn lle galw’r heddlu i arestio hen fenyw (roedd hi’n tynnu am ei deg a phedwar ugain ar y pryd) gyda glawcoma, yn drwm ei chlyw (mor fyddar â stepen drws, a bod yn fanwl gywir), gyda chlefyd y siwgr a chlun newydd (dyna’r rheswm dros y ffon). A chyda’r ddealltwriaeth honno, roedd mam yn un o’u cwsmeriaid ffyddlonaf hyd ei dyddiau ola.

Pan glywodd mam gynta fod cwmni Lidl yn dod ag archfarchnad i’r Gadlys (hynny yw, ‘draw’r hewl’) roedd hi’n gandryll. ‘Jyrmans’, meddai

Pynciau:

#Mihangel Morgan
#Gwynt y Dwyrain
#Iwan Llwyd
#Tribannau