Cantrefi
Dwy gerdd
i. Seithennin
Digon di-nod oedd dechrau’r peth:
rhyw fore, roedd llawr y gegin yn wlyb
a phinsied o dywod dan draed;
neges mewn potel ar garreg y drws,
seren fôr ar sil y ffenest.
Sylwodd neb arall ar ddim.
Cyn hir, mi glywem fôr-forwyn
yn canu, weithiau, gyda’r hwyr,
ac yna’n blygeiniol, beunydd.
Ecwinocs, efallai, cyhydnos: Alban Eilir?
Codai’r dyfroedd, a chodi rhagor.
Hwyliai’r galeonau uwchben; galwodd Dafydd Jos.
Tyfai’r cwrel yn y cyntedd.
Chwa pysgod trwy’r ffenestri
yn gawod arian fel glaw.
Roedd penwaig yn pefrio’n y pantri,
ystifflog ar y soffa, a lleden yn y tebot.
Tyfodd esgyll f’anwylyd mor wyrdd
â’r gwymon gwyllt yn ei gwallt.
Mi beidion ni â mynd allan: i beth,
a’r llanw tu mewn yn ein hwian mor fwyn?
Cysgwn mor drwm dan yr heli,
y Nawmor a’i donnau, trwy’n dyddiau dwfn.
ii. Maes Gwyddno
Mae moroedd
sydd mor ddwfn
nes bod
y dŵr
yn rhy drwm
i bron ddim
symud trwyddo;
cantrefi
rhy fwll
i’r un cysgod
eu tywyllu.
Bröydd diffaith
byd hallt.
Gwaelodion.
Dim ond weithiau
bydd llygedyn arian
yn araf lithro heibio:
un neges olaf efallai
ar sgrin ollyngodd rhywun
wrth groesi’r môr uwchben.
Neu fwcl esgid plentyn,
neu gen creadur o fyd arall
yn troelli a throelli
i lawr.
Glain o wisg gwraig fu’n dawnsio
unwaith mewn neuaddau mawr
na chlywodd dros sain y delyn
glochdar y clychau.
Mae Mererid Puw Davies yn Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL). Mae hi'n un o olygyddion cyfranogol O'r Pedwar Gwynt.
Manylion y llun ym mlaen y wefan: Olion coed yn y Borth ger Ynys Las, Ceredigion. Hawlfraint y llun: Richerman/Wikimedia Commons.