Cyfansoddi

Y Lle Celf 2018 (I)

Detholiad o’r cerddi comisiwn I

Llŷr Gwyn Lewis
24·10·2018

 

Y siambr

(i ‘Cylch llawn II’ Steve Buck)

O le dwi’n sbio lawr fan hyn,
mae pethau’n edrych yn ddu
braidd, a gormod rywsut o bren
i adael i’r balŵn hwn adael
y ddaear; iddo fedru hedeg
hyd yn oed o lenwi’r siambar,
sori, mor llawn o aer poeth
â hyn. Er ein huchelgais
uwch y weilgi, mynnwn gario
gormod o falast. Gormod o falais
ddoe, nes na allwn ddisgrifio
ond cylchoedd modrwyog o ewyn
yn y môr hwnt i’r mur. A thybed
pryd daw ’na rywun i rwydo
fflotsam a jetsam ein llestr llesg,
ac mewn byd lle ffynna ffasgaeth ronc
rhwng pedair wal â’r dyfal donc,
pa iws ailhawlio tir o’r eigion
i godi palasau gwydrin, gweigion?

 

Llŷr Gwyn Lewis oedd Bardd Y Lle Celf eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Cafodd ei ddewis i fod yn rhan o brosiect New Voices from Europe Literary Europe Live yn 2017.

Pynciau:

#Llŷr Gwyn Lewis
#Barddoniaeth
#Y Lle Celf
#Celfyddyd weledol