Gwobr Ysgrif 2021
Cyhoeddwyd ysgrif fuddugol Gwobr Ysgrif 2021 O’r Pedwar Gwynt yn Rhifyn Gaeaf 2021. Gellir darllen yr ysgrif yn y fan hon, a mwy am yr enillydd yn adran y wasg.
*
Cofrestrwch yn y fan hon ar gyfer gweithdy arbennig ar yr ysgrif dan arweiniad Angharad Price, 7-8.30 yr hwyr, 9 Mehefin 2021 (i'w gynnal ar Zoom) a 4 Awst 2021.
Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth ysgrif arbennig, i hybu a dathlu’r ffurf.
Bwriad y gystadleuaeth hon, a drefnir dan nawdd ac mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw annog mwy o awduron i roi cynnig ar gyfansoddi ysgrif, ac yn unol ag ystyr waelodol y gair – essai – hybu arbrofi deallusol mewn cywair personol ac mewn modd sy’n caniatáu i syniadau ddisgleirio yn eu holl gymhlethdod.
Ers cyhoeddi am y tro cyntaf yn Awst 2016, mae ffurf yr ysgrif wedi bod yn ganolog i O’r Pedwar Gwynt. Ysbrydolwyd gweledigaeth eangfrydig y cylchgrawn gan yr ysgrifwr Cymraeg digymar,
T H Parry-Williams. Dyma ffurf sy’n briodas rhwng emosiwn a rheswm ac sy’n cynnig cyfle i archwilio’r tir llwyd a gaiff yn aml ei esgeuluso. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cyfnod lle mae pwyslais ar fod yn gryno, a safbwynt yn cael ei ddatblygu yn gynyddol trwy ffurfiau unplyg, megis trydar.
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw un o unrhyw oedran – o 16 i 96 – ond ni ddylai ymgeiswyr fod eto wedi cyhoeddi cyfrol o ysgrifau gyda chyhoeddwr Cymraeg a gefnogir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Felly mae’n gyfle nid yn unig i leisiau newydd ond hefyd i leisiau mwy cyfarwydd fentro i dir anghyfarwydd, boed o un iaith i’r llall neu o un genre i’r llall.
Sut i ymgeisio?
Bydd y gwaith a gyflwynir:
- yn ysgrif bersonol rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau;
- yn cynnig ymdriniaeth wreiddiol, heriol – os anuniongyrchol – o unrhyw fater dan haul sydd â goblygiadau i gymdeithas heddiw yng Nghymru, ym marn yr awdur;
- yn cynnwys atodiad gydag amlinelliad byr iawn (hyd at 100 gair bob un) o ddwy ysgrif bellach yr hoffai’r ymgeisydd eu datblygu ar gyfer O’r Pedwar Gwynt.
Os yw’r ffurf yn anghyfarwydd, fel man cychwyn gellid troi am ysbrydoliaeth at ysgrifau T H Parry-Williams neu Ymbapuroli Angharad Price yn Gymraeg; y casgliad swmpus yn Saesneg a geir yn The Art of the Personal Essay gan Phillip Lopate, sy’n cynnwys amrywiaeth o ysgrifau, o Seneca i waith yr Americanwr Richard Rodriguez; neu at yr ystod o ysgrifau a gyhoeddir gennym yn O’r Pedwar Gwynt (darllenwch y cyfan ar pedwargwynt.cymru trwy danysgrifio am £10 y flwyddyn yn unig).
Y wobr
- Gwobr ariannol o £300.
- Cyhoeddi’r ysgrif yn O’r Pedwar Gwynt.
- Preswyliad awdur: bydd O’r Pedwar Gwynt yn gweithio gyda’r enillydd, os bydd yn dymuno hynny, i drefnu cyfnod preswyl byr mewn lleoliad pwrpasol lle caiff lonydd ‘i ffwrdd o adre’ er budd darllen ymhellach a gweithio ar ddatblygu un o’r ddwy ysgrif ychwanegol i’w cyhoeddi. Bydd O’r Pedwar Gwynt yn gofalu am y costau teithio a llety ond bydd disgwyl i’r awdur dalu am y costau byw bob dydd (bwyd ac ati).
Gweithdai arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth
Bydd gweithdai cyfansoddi ysgrif arbennig, dan arweiniad yr Athro Angharad Price o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer mis Mai a dechrau mis Awst. Os oes diddordeb gennych mewn mynychu, anfonwch air at Dr Ffion Eluned Owen yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd mwy o fanylion am y gweithdai yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Dyddiad cau
Dylid anfon eich ysgrif yn ddi-enw at O’r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth, Ceredigion SY24 5BE erbyn 31 Awst 2021. Dylid cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad mewn amlen gaeedig a'i rhoi yn yr un amlen.
Beirniaid
Mererid Puw Davies, Gwyneth Lewis, Llŷr Gwyn Lewis a Sioned Puw Rowlands
Nawdd
Mae O'r Pedwar Gwynt yn diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i noddwr preifat, sy'n dymuno aros yn ddi-enw, am eu cefnogaeth amhrisiadwy.
✒︎
Mwy o wybodaeth am O’r Pedwar Gwynt
Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes. Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes. Trwy ddarllen, holi a herio rydym yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd. Cyhoeddir rhifynnau arbennig mewn print ac ar lein haf, gaeaf a gwanwyn. Cyhoeddir hefyd yn wythnosol – bob nos Fercher – ar pedwargwynt.cymru. Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.
Mwy o wybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol.
Rheolau
- Ni ddylai’r ysgrif fod wedi ei chyhoeddi o’r blaen.
- Ni ddylai’r ymgeisydd fod eisoes wedi cyhoeddi cyfrol o ysgrifau gyda gwasg Gymraeg sy’n derbyn cefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.
- Ni fydd O'r Pedwar Gwynt na'r beirniaid mewn sefyllfa i drafod eu hysgrifau gyda’r ymgeiswyr a bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol.
- Cyn cyhoeddi, bydd yr ysgrif fuddugol yn cael ei golygu gan O’r Pedwar Gwynt.
- Gall O’r Pedwar Gwynt benderfynu atal y wobr.