Cyfansoddi

Cribo’r Dragon’s Back

Enillydd Gwobr Ysgrif 2021

Rebecca Thomas

Amser darllen: 12 munud

08·12·2021


                                                                                                                                                                 
Y Grib (Llun: Rebecca Thomas)

 

Mae’n dechrau gydag enw. A hwnnw’n enw digon di-nod. Dianc i’r Mynyddoedd Duon yw’r bwriad, mynyddoedd mwyaf dwyreiniol de Cymru. Na ddylid eu cymysgu â’r Mynydd Du, sy’n gwarchod y ffordd rhwng Sir Gâr a Phowys. Na, edrych tua ffin arall mae’r rhain. Trwy lwc daearyddol, caiff un ohonynt ei hawlio gan y Ddraig Goch a San Siôr ill dau. Twyn Llech yw mynydd uchaf Lloegr i’r de o Swydd Efrog. Chwerthin tra’n sbio i lawr arno wna ei gymdogion Cymreig. 

Tri chopa arall sydd ar ein rhestr ni, siâp pedol ar y map. Waun Fach yn y canol. Dyma’r rhiant – cyfrifoldeb sydd wedi gadael ei ôl. Er yn uwch, nid yw’n sefyll mor dal â Phen y Gadair Fawr i’r de-ddwyrain. Roedd ganddo simnai rywdro, ond mae honno wedi hen suddo i’r pridd. Mae hynny’n destun penbleth i gerddwyr sy’n chwilio am y man uchaf; ac yn siom i’r rhai â’u meddwl ar lun i brofi eu camp. I’r de-orllewin saif Mynydd Llysiau, yn wynebu Pen y Gadair Fawr ar draws y dyffryn ond yn anwybyddu ei frawd yn llwyr. Dyma’r byrraf o’r tri, ond nid yw’n un i ddioddef diffyg hyder. Does dim awydd ganddo i fod yn dal. Yn hytrach, ymfalchïa yn ei gefn hir a chul. 

Ein cynllun yw troi’r bedol yn daith (sydd bron yn) gron: maes parcio > Mynydd Llysiau > Waun Fach > Pen y Gadair Fawr > Waun Fach > maes parcio. Ond dyw dianc ddim yn hawdd. Gwaith cynnal a chadw ar y ffordd ... SatNav â’i feddwl ei hun ... mwy o waith ar y ffordd ... meddwl ein bod ni’n gwybod yn well na’r SatNav ... Dyw dianc ddim yn deimlad cystal pan mae’r amserlen yn rhacs. Wedi gadael y car ym maes parcio tafarn – manylyn pwysig, dychwelwn at hyn – does dim eiliad i’w sbario. Chwilota ydyn ni am y cyfuniad perffaith: y perlewyg mae’r arbenigwyr yn addo a ddaw o symud y corff, ynghyd â’r hunanfoddhad o osod tic wrth bob mynydd ar ein rhestr. 

Saith can medr uwch y môr, daw newid. Does dim brys yma. Does dim brys ar y barcud, aderyn hael sy’n llithro mor araf er lles y llun perffaith. Does dim brys ar y defaid: eu llwybr nhw yw hwn, diolch yn fawr! Does dim brys ar yr awel, sy’n gwybod yn iawn bod ganddi sawl awr eto i gocsio fy het i’w gafael. Wrth lwc, er ei bod yn un glyfar, mae modd stopio’r oriawr ar fy ngarddwrn, felly does dim brys arnom ninnau chwaith. Gallwn gymryd sawl seibiant heb effeithio ar ein ‘stats’. Nid Olympiaid mohonom.  

Saith can medr uwch y môr, mae brys ar y ddau feic modur sy’n dychryn y barcud a’r defaid gyda’u rhuo, ac yn llygru’r awel gyda’u mwg. Ni ddaw dianc yn rhwydd.

Saith can medr uwch y môr, un llaw sydd angen i gyfri’r cyfarchion. Er gwaethaf yr awyr las, er gwaethaf yr adeg o’r flwyddyn – penwythnos yn ystod gwyliau’r Pasg – ni cheir yma draffig Pen y Fan. Does dim cymaint o foddhad i’w chwenychu o ddringo ail fynydd uchaf de Cymru. Â’r rhan fwyaf i chwilio am y 75 medr ychwanegol. Un ‘morning’ ar y llwybr i fyny Mynydd Llysiau, dau ‘hello’ ar hyd y grib i Waun Fach, ac ‘would you like me to take a photo’ ar y copa. Ceir cyfeillgarwch unigryw ar lethr mynydd. Yr awyr iach yn meithrin bodlonrwydd, y bodlonrwydd yn meithrin awydd i estyn llaw i ddieithriaid.

Mae ein ‘helô’ ni yn wahanol, wrth gwrs. ‘O’ nid ‘oh’. A ‘plis’ nid ‘please’ i’r cynnig o lun. Does neb yn sylwi. Ddim y pâr hŷn â’u cotiau cyfliw, ddim y grŵp o ddisgyblion ysgol colledig sy’n chwilio am wobr Dug Caeredin, ddim yr athletwr sy’n brasgamu i fyny’r mynydd heb chwysu fawr ddim. Yn sicr ddim y gŵr sy’n ceisio cysylltu ag estroniaid y gofod – neu selogion eraill ar gopaon cyfagos – drwy ei set radio. Mae ei olwg ef ar bethau mwy. Ond mae lle gyda ni i fod yn hunanfodlon. Trwy ein hynganiad dewr o lafariaid rydym ni’n chwarae rhan mewn gwrthryfel. Efallai byddwn ni’n barod i fentro ‘bore da’ tro nesaf. 

Wedi cyrraedd cam olaf ein taith gron, trown am y Grib, ffordd gyswllt ddefnyddiol rhwng y mynydd a’r maes parcio sy’n osgoi diflastod aildroedio’r un llwybr. Mae’r ochr yma i Waun Fach yn fwy poblogaidd am ryw reswm, y rhes hir o bobl yn forgrug yn y pellter. Er yn fwy niferus, byr yw’r cyfarchion. ‘Hello, hi ...’ Does gan y rhai sy’n brwydro i fyny ddim cymaint o anadl i’w sbario â’r rhai sy’n hedfan am i lawr.  

Rhaid bod yn ofalus yn y fan hon. Mae’r tir yn donnog, gwair yn troi’n greigiau cyn troi’n wair eto. I ddechrau, does dim llwybr go iawn. Cawn yn ei le ryw hanner-llwybr, ôl traed unigolion – neu ddefaid – trwm eu camau sy’n ceisio denu eraill ar eu holau. Mae gyda ni gryn brofiad o lwybrau o’r fath: llwybrau sy’n tueddu i ddiflannu o dan eich traed. Ond mae’r ffordd ymlaen ar y Grib yn ddigon clir hefyd. Dilyn y cefn am i lawr, syrthio, yna’n wastad, syrthio, yna’n wastad. Wedi cyrraedd y gwaelod, mae cyfle i’r cerddwyr mwyaf egnïol fentro am i fyny unwaith eto. Dyma’r twmpath lleiaf yn y gadwyn, ond rhywsut llwydda bryngaer Castell Dinas i daflu cysgod dros y Grib ei hun.  

Dydw i ddim yn cymryd digon o ofal. Dyna farn un dyn sy’n dringo’r Grib ac yn stopio i’n cyfarch. Mae’n gywir, a bod yn deg, ddylwn i ddim bod yn sbio ar fy ffôn. Ond mae beirniadaeth y dieithryn yn codi fy ngwrychyn. Â’r cyngor digymell – a diangen? – tu hwnt i’r cyfeillgarwch unigryw a geir ar lethr mynydd. Rwy’n cuddio fy anfodlonrwydd tu ôl i wên, gan obeithio bydd y dyn yn barod i fynd ar ei hynt. Ond mae ganddo stori i’w rhannu. 

‘You haven’t woken it have you? It moves sometimes you know.’ 

‘O?’ 

‘The Dragon!’ 

Rhaid oedd llyncu’r chwedl yn ddiolchgar, chwerthin, a dymuno dydd da i’r dieithryn. Ond aros wnaeth y ddraig i gylchu uwch ein pennau, ei chorff swmpus yn atal yr haul, ei hadenydd cryf yn cynhyrfu’r gwynt. Y Grib oedd y ddraig, roeddwn wedi deall cymaint â hynny. Ond roedd arwyddocâd y trosiad tu hwnt i’m gafael. Oedd yna rywbeth yn arbennig o ddraconaidd am y Grib? Ynteu dragon oedd pob un o fynyddoedd Cymru bellach? Dyna farn y Dragon’s Back Race (Ras Cefn y Ddraig hefyd, i’r rhai sydd â llygaid craff), ras sy’n para diwrnodau o Gastell Conwy i Gastell Caerdydd (ceir dau symbol cenedlaethol am bris un yma) ar hyd ‘the mountainous spine of Wales’. Dragon yw pob mynydd, a dragon pob unigolyn a lwydda i’w goresgyn. Gallwn ni’r dringwyr i gyd ymfalchïo yn ein hunaniaeth ddraconaidd. 

‘Dach chi’n siarad Cymraeg?’ Mae’r ddraig yn ffoi wrth inni ymateb yn llon i gyfarchiad annisgwyl y cwpl ifanc arall. Rhyw bum can medr uwch y môr, does dim brys. Rhaid gwneud amser ar gyfer y cwestiwn hanfodol, defodol: ‘O le ’dach chi’n dod?’ Rhaid gwneud amser i ddadansoddi’r ateb.

*

Mae gennym ni dic wrth bob un o fynyddoedd de Cymru erbyn hyn. O Dwyn Llech i Foel Gornach, o Dwmpa i Gefn yr Ystrad. Sawl tic yn achos rhai ohonynt. Mae Bannau Sir Gâr yn arbennig o freintiedig i gael lle yn rhestr ffefrynnau’r SatNav. Gall hud y mynyddoedd yma ddal cerddwr yn ddiarwybod. Does dim geiriau sy’n gymwys i’w disgrifio. Mae cofnodi eu gwirionedd tu hwnt i allu unrhyw gamera. Nid rhestru esgusodion i osgoi’r dasg gerbron mo hyn. Wrth astudio’r mynyddoedd sy’n cysgodi Llyn y Fan (Fawr a Fach), bydd pâr o lygaid gwrthrychol yn nodi bod y llethrau’n siarpach, y cefnau’n fwy gwastad, y lliwiau’n wyrddach. O’r copaon, mae’n bosib gweld y môr, Gwlad yr Haf hyd yn oed ar ddiwrnod clir. Ond dydy’r swyn go iawn ddim yn weledol. Yma mae modd bod. Rhywle yn y niwl rhwng Fan Hir a Fan Gyhirych try pob ‘thenciw’ yn ddiolch.

Does dim byd yn cymharu â gweld golygfa o’r newydd, y persbectif unigryw ar wlad a geir o droelli ar gopa. Mae’r olygfa wastad yn newydd, y persbectif wastad yn unigryw. Dyw’r mynydd byth yn llonydd, byth yn gyfarwydd. Ond does dim byd chwaith yn cymharu â’r teimlad o glywed iaith gynefin mewn cyd-destun annisgwyl. Rydym ni’n bell o Fan Gyhirych yma. Digon synhwyrol yw hi i’r ddraig gadw draw.
 

Yr awdur ar y Grib (Llun: Rebecca Thomas)
 

Wedi ffarwelio â’r cwpl, hwyliwn ar don ein cyffro i gam olaf y daith: adfeilion y fryngaer. Ychydig iawn a wyddys am Gastell Dinas. Castell canoloesol, cartref dros dro i arglwyddi Normanaidd y Mers. Ni adawodd fawr o argraff ar y ffynonellau ysgrifenedig, yn anffodus. Man cwrdd ieithoedd a diwylliannau, siŵr o fod. Safle sawl brwydr, mae’n debyg. Castell, gallwn dystio, sydd wedi ei leoli ar fryn serth iawn. Tipyn o gamp fyddai i fyddin ei gipio. Digon dyrys yw baglu i’r copa i ddau gerddwr. 

Ond mae ganddo hanes hwy hefyd, wedi ei gladdu yn Oes yr Haearn. Yma, rydw i’n ddyledus i’r archaeolegwyr: does gyda ni ddim y sgiliau na’r arbenigedd i ddehongli’r adfeilion. Nhw sydd â’r allwedd i ddrws gorffennol Castell Dinas. Ac mae gyda nhw gymaint o allweddi eraill yn eu gofal. I ble y syrthia’r allweddi wedi i’r toriadau diddiwedd lorio’r ceidwaid? Bydd prifysgolion yn arbed arian, ond yn colli rhywbeth mwy. Distaw yw’r adfeilion heddiw.  

*

Mae fy meddwl wedi mynd ar drywydd tywyll, ac nid y ddraig sydd ar fai. Ond yn ôl yn y maes parcio try’r ddraig anweledig yn rhywbeth mwy concrit. The Dragon’s Back – na ddylid (hyd y gwn i) ei gymysgu â’r ras. Do’n i ddim wedi talu fawr o sylw i enw’r dafarn oedd yn berchen ar y maes parcio wrth gyrraedd – roeddem ni ar ei hôl hi, cofiwch. Nawr mae gennym gyfle i werthfawrogi’r ddraig yn ei llawn ogoniant. Y dafarn wedi ei henwi ar ôl y Grib? Ynteu’r Grib wedi ei henwi ar ôl y dafarn? Oedd yr eithin yn cael blas neilltuol ar gwrw? 

Ro’n i’n ffyddiog y byddai gan Google yr ateb; byddai Google yn cadarnhau’r hyn a wyddem eisoes o’r map Ordans a’n hen lyfr cerdded: y Grib oedd enw’r cefn y buom yn ei droedio. Ond na, poraf trwy ganlyniad ar ôl canlyniad heb weld ‘crib’ ar gyfyl y lle. ‘The Dragon’s Back’ oedd y ffasiwn ddiweddaraf, atyniad a ddechreuodd ymddangos mewn blogiau cerdded o’r 2010au, cyn amlhau yn oruchafiaeth yn algorithm y peiriant chwilio. 

Felly mae gennym ni ddraig arall. Dydyn ni erioed wedi bod yn brin o’r creaduriaid yng Nghymru. Er, doedden nhw ddim wastad mor osgeiddig â’r ddraig ar ein baner genedlaethol. Erbyn i Sieffre o Fynwy droi ei law at siapio mytholeg cenedl yn y 12g, dracones oedd yn brwydro o dan dir Prydain. Yr un creaduriaid sydd wrthi yng Nghyfranc Lludd a Llefelys, dreigeu y tro hwn. A dragon neu ddraig yw sawl tywysog yng ngherddi’r beirdd. Ond os treiddiwn ychydig ymhellach i’r gorffennol, down o hyd i greaduriaid go wahanol ym mynyddoedd Eryri. Roedd gan y clerigwr a gyfansoddodd Historia Brittonum (‘Hanes y Brythoniaid’) yng Ngwynedd y 9g ddiddordeb mewn dreigiau hefyd. Ond vermes sydd yma. Nadroedd, seirff ... neu fwydod. Nid oes yr un apêl i fwydyn coch fel symbol cenedlaethol rywsut. 

Ond nid enw’n unig oedd draig newydd y Mynyddoedd Duon. Cawn chwedloniaeth i’n diddanu hefyd. Esiampl o Dinnseanchas ysgolheigion Iwerddon: stori i roi ystyr i’r enw. Dydyn ni erioed wedi bod yn brin o’r rhain yng Nghymru. O’r Lladin historia y daw ystyr Cymraeg Canol. Pwrpas adrodd hanes (neu stori) yw egluro. Trof at ail gainc y Mabinogi am esiampl. Wedi difrodi ceffylau Matholwch, rhy Bendigeidfran geffylau newydd iddo i wneud iawn am y sarhad. Ebolion a geir gan un cwmwd, ‘ac wrth hynny y dodet ar y kymwt hwnnw, o hynny allan, Tal Ebolion’. Doedd dim enw’n rhy fach nac yn rhy fawr i fod yn destun stori yn y Canol Oesoedd. Aeth awdur Historia Brittonum ati i egluro’r enw mwyaf oll: Ynys Prydain. Yn ôl y stori hon, unigolyn o’r enw Britto, disgynnydd Aeneas o Droea, oedd y cyntaf i gamu ar dir Prydain. O’i enw ef, felly, y cafodd yr ynys yr enw Brittannia. Ganrifoedd yn ddiweddarach, ychwanegodd Sieffre o Fynwy bennod arall. Wedi marwolaeth Britto (Brutus yn y testun hwn), rhannwyd yr ynys rhwng ei dri mab, Camber, Locrinus, ac Albanactus. Cymru, Lloegr, a’r Alban. 

Doedd Dinnseanchas y Grib ddim mor fanwl. Hysbysebu presenoldeb draig gwsg yn y Mynyddoedd Duon a wnâi’r chwedloniaeth newydd. Mae gyda ni sawl un o’r rhain yng Nghymru yn barod. Yn wir, mae’r ddraig ar ein baner genedlaethol yn weddol unigryw o fod yn effro. 

Dychwelaf at y vermes yn Historia Brittonum. Yma cawn hanes brwydr y ddraig goch a’r ddraig wen am y tro cyntaf. Mae Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid, wedi ffoi i Eryri. Ei fwriad yw adeiladu castell i’w amddiffyn ei hun rhag y Saeson sy’n sgubo ar draws yr ynys. Ond mae grymoedd arallfydol yn cynllwynio i achosi helynt. Â Gwrtheyrn ati i gasglu’r holl ddeunydd i adeiladu’r castell, ond diflanna pob carreg a choedyn yn ystod y nos. Yn naturiol, digwydd hyn dair gwaith, sef rheol chwedloniaeth Gymreig: pam gwneud rhywbeth unwaith pan wneith tair gwaith y tro? Datrysiad go ryfedd – a gwaedlyd – sydd gan dderwyddon Gwrtheyrn: rhaid iddo ddod o hyd i fachgen heb dad a thaenu ei waed ar safle’r castell. Wrth lwc, mae’r fath fachgen i’w gael yng Nglywysing. Ddim yn annisgwyl efallai, dydy’r bachgen, Emrys, ddim yn awyddus i chwarae ei rôl ef yn y cynllun. Yn lle hynny, mae’n perswadio Gwrtheyrn i gloddio o dan safle’r castell. Yno mae dwy ddraig, dau vermis, yn cysgu ar babell – un yn goch, y llall yn wyn. Gwylia Emrys a Gwrtheyrn wrth i’r ddwy ddraig ddechrau ymladd. Ar y cychwyn, y gwyn sydd â’r oruchafiaeth, ond mewn datblygiad cyfarwydd i gefnogwyr rygbi, mae’r coch yn dod o hyd i’w chryfder yn yr ail hanner ac yn trechu’r gelyn. Gwthia’r ddraig wen i ffwrdd o’r babell yn gyfan gwbwl. Rhag ofn nad yw Gwrtheyrn yn deall, cynigia Emrys ddadansoddiad manwl o’r trosiad. Y babell yw dy deyrnas, mae’n egluro wrth y brenin. Y ddraig goch yw dy bobl. Y ddraig wen yw’r Saeson. Dyma broffwydoliaeth y clywn ei hadlais ar draws y Canol Oesoedd a thu hwnt. 

Gwna Emrys yn dda o’r cyfarfod: trosglwydda Gwrtheyrn y castell yn Eryri i’w berchnogaeth. Dyma Dinnseanchas Dinas Emrys ger Beddgelert. Bryngaer Oes yr Haearn arall oedd hon, castell canoloesol o ryw fath hefyd. Ond stori’r ddraig sydd wedi parhau. Ceir mainc wedi ei cherfio i’w siâp, cyfle i ymwelwyr ddarganfod ‘Merlin’s pool’ ar y llwybr i fyny ... Gall awdur Historia Brittonum orfoleddu: mae i’w waith draweffaith amlwg.  

Bron i fil a dau gant o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r ddraig wedi dod o hyd i gartref newydd. Mae’r creaduriaid hyn yn amlwg yn ffoli ar fryngaerau. Ond yn chwedloniaeth y Canol Oesoedd, roedd wastad ddwy ddraig. Tybed pa un sy’n cysgu yn y Mynyddoedd Duon? Ac i ble mae’r llall wedi ffoi?      

Rydym yn falch iawn o gael llongyfarch Rebecca Thomas, enillydd cyntaf ein cystadleuaeth ysgrif. Mae’n fraint cyhoeddi ei chyfraniad yn y rhifyn hwn. Yn wobr bydd yn derbyn £300 ynghyd â phreswyliad i weithio ar ysgrif bellach. 

Mae Rebecca Thomas yn gymrawd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Bangor. Canolbwyntia ei hymchwil ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Cyhoeddir ei chyfrol History and Identity in Early Medieval Wales yng ngwanwyn 2022. Bydd ei nofel hanesyddol ganoloesol i oedolion ifanc hefyd yn cael ei chyhoeddi yn 2022, gan wasg Carreg Gwalch. Hon yw ei hysgrif gyhoeddedig gyntaf.

Rydym yn diolch yn arbennig i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gydweithio’n ddiflino â ni ar y gystadleuaeth hon, ac am eu nawdd amhrisiadwy, ynghyd ag i’r noddwr preifat hael sy’n dymuno aros yn ddi-enw. Diolch hefyd i Angharad Price am ei gweithdai arbennig ar yr ysgrif, ac i’r beirniaid diwyd (Mererid Puw Davies, Gwyneth Lewis, Llŷr Gwyn Lewis a Sioned Puw Rowlands), yn ogystal ag i’r holl rai a gysegrodd amser a dychymyg i gystadlu.

*

Bwriad Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt, a sefydlwyd eleni ac a drefnwyd dan nawdd ac mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw annog mwy o awduron i roi cynnig ar gyfansoddi ysgrif, ac yn unol ag ystyr waelodol y gair – essai – hybu arbrofi deallusol mewn cywair personol.

Aros wnaeth y ddraig i gylchu uwch ein pennau, ei chorff swmpus yn atal yr haul, ei hadenydd cryf yn cynhyrfu’r gwynt

Pynciau:

#Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt
#Ysgrifau
#Mynydda
#Byd natur
#Iaith
#Rhifyn 17
#Rebecca Thomas