Cyfansoddi

Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2019

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019

Beirniad: Aled Llion Jones
08·08·2019

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019.

Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017. Mae'n cyfrannu yn gyson at gyhoeddiadau megis O'r Pedwar Gwynt, BarddasY Stamp, ac mae hefyd yn rhan o gynllun Awduron wrth eu Gwaith / Writers at Work Gŵyl y Gelli. Yn 2018, enilllodd Dlws Coffa D Gwyn Evans (a gyflwynir gan Barddas) am yr ail flwyddyn yn olynol. Ef hefyd oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr un flwyddyn. Ym mis Hydref 2018, roedd yn un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru a bu'n Fardd y Mis BBC Radio Cymru ym mis Ionawr eleni. Mae'n gweithio fel ysgrifennwr a chyfieithydd llawrydd. Mae Morgan yn derbyn Ffon yr Her Gyfieithu a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ynghyd â gwobr ariannol o £200 gan Brifysgol Abertawe.

Yr her eleni oedd cyfieithu dwy gerdd gan y bardd Pwyleg cyfoes, Julia Fiedorczuk: 'Szuflada' a 'Relentlessly craving'. Mae Julia Fiedorczuk yn fardd, awdur, cyfieithydd ac yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Warsaw. Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones o sefydliad Mercator Rhyngwladol: 

'Nod y gystadleuaeth flynyddol hon yw ceisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg. Elfen graidd o’r Her Gyfieithu yw cyrraedd dealltwriaeth o destun mewn un iaith a chyfleu hynny mewn iaith arall. Sefydlwyd yr Her Gyfieithu yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol, gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol mae'r wobr hon hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol.'


Y feirniadaeth

Derbyniwyd pedwar cynnig eleni ac roedd safon y darnau a ddaeth i law yn uchel. Pwyleg oedd yr iaith wreiddiol, ac efallai i hynny beri mwy o ofid nag y dylasai. Nid yn unig fod y canllawiau yn nodi’n echblyg y croesewid cyfieithiadau ar y cyd neu rai torfol hyd yn oed, ond gwahoddwyd y cyfieithydd di-Bwyleg o Gymro neu Gymraes i fynd am dro i gaffi neu dafarn er mwyn cael hyd i gyfaill newydd i’w holi ynghylch cyfrinachau’r Slafeg. Dyma gyfieithu fel sbardun i gyflwyniad, cyfathrach a chyfeillach, felly – yn weithred gymunedol.

Diddorol yw’r ffaith bod y cyfieithwyr wedi cael dau gyfieithiad arall i’w hystyried: un i’r Saesneg ac un i’r Sbaeneg. Arfer digon cyffredin wrth gwrs yw cyfieithu cyfryngol sy’n defnyddio testun mewn lingua franca fel pont: yr her gyfieithu mewn achosion o’r fath yw peidio â gadael i’r bont droi’n dynfaen, gan ieuo’r cyfieithiad i’r iaith anghywir. Rydym erbyn hyn yn hen gyfarwydd â’r dewis y mae rhaid ei wneud rhwng cyf-ieithu, trosi a trans-latio; y dewis rhwng creu cerdd Gymraeg o lais estron, a gadael i’r Gymraeg leisio’n estron. Ni waeth pa ddewis a wneir, rhaid medru clywed y llais a leisiodd gyntaf i fedru gadael iddi siarad iaith arall, ag acen fwriadol ai peidio. 

Yn achos y gystadleuaeth hon, nodwedd weddol gyffredin ar y cyfieithiadau oedd nad oedd eu hawduron wedi treulio cweit digon o amser yn y caffi neu’r dafarn, neu wrth ford y gegin, yn cael deall gan Bwyl neu Bwyles yr hyn sydd y tu ôl i’r seiniau. Cyfieithiadau o gyfieithiadau a gafwyd, felly – cyfieithiadau o gerddi eraill ac mewn ambell achos roedd y cerddi a gyfieithwyd yn bur wahanol i’r testunau Pwyleg a osodwyd gerbron. Serch hynny, rhaid nodi bod safon yr ysgrifennu yn uchel, ac mae llwyddiannau’r cyfieithwyr i’w canmol yn fawr.

Nodwedd bwysig yng ngherddi Julia Fiedorczuk yw’r ffordd y mae’n defnyddio geiriau o wahanol feysydd – gwahanol ieithweddau – er mwyn gadael i leisiau seinio y tu hwnt i’r dynol. Mae’r yd naturiol, yr amgylchedd, yn cael ei ddeall nid yn rhamantaidd ond yn wyddonol, ac mae’r gwrthrychol yn cael bod yn oddrych. Un her i’r cyfieithwyr oedd ymwrando ar yr amrywiadau mewn cywair yn y cerddi ac yna ystyried a ddylid – a sut y dylid – eu cyfleu yn Gymraeg. Nid hawdd hyn bob tro: mae’r gair anarferol o Ladinaidd,  ‘ekwinokcjum’ yn taro’r glust ar unwaith mewn modd na all ‘equinox’ nac ‘equinoccio’. Dewisodd ein cyfieithwyr bron bob un lyfnhau’r dweud yn eu cyfieithiadau, bron fel petai'r nod oedd creu cerdd ‘bert’ – cerdd ‘farddonol’. Wele’r ymadrodd hir (a braidd yn lletchwith) ‘pożywiające się darno wymarłym gatunkiem trawy’ yn cael ei symleiddio gan lawer un, gan hepgor y gair ‘gatun[ek]’ (‘rhywogaeth’), a’i gynodiadau gwyddonol hollbwysig o gyfrif a chategoreiddio, o ddeall yn ôl dulliau epistemolegol penodol.  [Aled Llion Jones]


Y cyfieithiadau buddugol gan Morgan Owen

Relentlessly Craving

ar gyfer BG

gerdd, gerdd bydd gref
fel trawiad twrf, Concerto Grieg yn A leiaf,
bwria wreiddiau, cer i lygad y ffynnon,
blodeua, cnydia, 
bywioga, gerdd, dwi am gael dy waed

gerdd, gerdd bydd beryglus hardd
fel y feddwen ym mhaentiad Munch,
dim ond y lliwiau sylfaenol sy’n cyfri
melyn, du, coch
tân sy’n cyfri

mae amser i obaith
ac amser i ofid

tân sy’n cyfri
heb gorff 
nid adwaenost na chariad
nac angau chwaith

gerdd, gerdd bydd yn yr haul
yn llygad y byd
yn nhrawsffurfiad y bara’n fynd
yn y datod parhaus sy’n amod
pob synthesis
yn y gwaed

dân,
bydd

mae amser i obaith
ac amser i ofid
tân ac iâ sy’n cyfri

gerdd, gerdd bydd fel noson dywyll yr enaid

                           Julia Fiedorczuk; cyfieithiad i'r Gymaeg gan Morgan Owen


Drôr 

Mae rhai’n cywain lluchion y gorffennol,
mor hynod â barrug
ar fedw ymylon y ffyrdd.
O bwys neilltuol yw’r eiliadau prin 
pan fo’r meddwl yn ddiarwybod ar ddihun:
cyhydnos.

Ei chofroddion: crugyn o gylchgronau lliw
ac ynddynt holl harddwch y byd.
Clytiau o ffabrig a wnïwyd 
yn wisgoedd at bob achlysur.

Edau lliwgar. Clustog. O dan hyn oll
daw rhywun, ryw bryd, ar draws map
o fyd a ddarfu.
Tirwedd gwladwriaethau coll.
Bagad o anifeiliaid marw
yn bwydo ar rywogaethau glaswellt
sydd wedi hen ddiflannu.

Tai a lyncwyd gan y dŵr a’r gwynt, ac yn y tai
hen luniau o’r preswylwyr yn melynu.

                                Julia Fiedorczuk; cyfieithiad i'r Gymaeg gan Morgan Owen

 

Gair gan y cyfieithydd, Morgan Owen, ynghylch sut yr aeth ati ... 

Bu tri cham i’r broses gyfieithu. Er nad oedd yr un cam ar ei ben ei hun yn cynnig dealltwriaeth lawn o’r testunau, gyda’i gilydd roeddent yn ddigon o sylfaen i alluogi’r weithred derfynol: creu cerddi Cymraeg. 

Yn gyntaf, darllenais y testunau yn ôl f'adnabyddiaeth o’r iaith Rwsieg. Canfûm gysgodion eu hystyr, a chefais ryw syniad llac o’u rhediad, ond nid llawer iawn, am taw ieithoedd eithaf gwahanol yw’r Bwyleg a’r Rwsieg, er eu bod yn gorgyffwrdd. Ond o leiaf nid oedd gramadeg y Bwyleg yn rhy ddieithr i mi. Gallwn weld, er enghraifft, y modd cyfarchol yn ymddangos yma a thraw, a sylwais pa mor bwysig y byddai ei gadw yn y cyfieithiadau Cymraeg.

Yn ail, anodais bob gair o ran ei ystyr a’i etymoleg (am fod geiriau mewn ieithoedd synthetig, dwys-ffurfdroadol yn llawn atseiniau ystyron). Wedi gwneud hynny, a ‘deall’ y cerddi gwreiddiol ar wastad ieithyddol, euthum ati i’w cymharu â’r cyfieithiadau Saesneg a Sbaeneg a ddarparwyd, a nodi lle’r oeddent hwythau yn gwyro oddi wrth y gwreiddiol. Yn hyn o beth, cefais gymorth geiriadur/llyfr gramadeg Pwyleg a brynais ar drip ysgol i Kraków pan oeddwn yn fy arddegau, a minnau’n credu’n ddelfrytgar a naïf ar y pryd y gallwn ddysgu Pwyleg i mi fy hun. Rhyfedd fel y bu’r llyfr mor ddefnyddiol bron i ddegawd yn ddiweddarach!

Y trydydd cam oedd y mwyaf sylweddol, yn nwy ystyr y gair. Wedi imi ganfod ystyr a rhediad y cerddi gwreiddiol, euthum ati i drosi’r ysbryd y tu ôl iddynt, y peth annelwig hwnnw sy’n bywhau llenyddiaeth ac sy’n sefyll uwchlaw ystyr lythrennol, noeth. Rhywbeth tu hwnt i eiriau, bron. Ceisiais drosi’r ystyr ‘arall’ hon i’r Gymraeg mewn modd a wnâi gyfiawnder ag ysbryd ac adnoddau ein hiaith. Dyma yw'r bont: cyfnewid gwefr.  [Morgan Owen]

Trefnir cystadleuaeth yr Her Gyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, The Polish Cultural Institute a chylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

Dyma gyfieithu fel sbardun i gyflwyniad, cyfathrach a chyfeillach – yn weithred gymunedol

Pynciau:

#Yr Her Gyfieithu
#Morgan Owen
#Cyfieithu
#Aled Llion Jones