Cyfansoddi

Heledd hwyedig

Cerdd

Mererid Puw Davies
06·07·2023


Yn y Dref Wen, erbyn y diwedd,
rhwng y niwl a’r mwg doedd nemor ddim
i ddidoli rhwng dydd a nos;
rhwng strydoedd a sgerbydau stafelloedd
tywyll heno.

Sefwch allan, ferched: syllwch
ar y traeth sydd fel lluwch o lo. 
Mae’r môr fel pyg, 
a lleuad felen yn cluro’r caddug
fel strimyn o fustl, ôl bawd gwrach.
Mae’r cwch bychan
yn rhygnu fel ar lwybr slecs.

Nid dewis mo’r dewis yma.
Mae arwyddbyst y sêr ar drai,
y goleudai wedi diffodd; 
a’r unig begwn yw’r ddelwedd frith 
fydd ar y lan draw yn rhywle, 
yn lle cwrlid oer yr huddyg a’r heli,
gwely gwyn, glân, isel.

 

Mae Mererid Puw Davies yn Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL). Mae hi'n un o olygyddion cyfranogol O'r Pedwar Gwynt.

Manylion y llun sy'n gysylltiedig â'r gerdd ym mlaen y wefan: darlun o ran o'r gyfres Dark Water, Burning World (2017) gan Issam Kourbaj, cyfres sydd bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Gellir darllen mwy am waith yr artist ar ei wefan yn y fan hon: issamkourbaj.co.uk. (Llun: parth cyhoeddus ar Flickr).

Pynciau:

#Mererid Puw Davies
#Barddoniaeth
#Ffoaduriaid
#Y môr