Cyfansoddi

I’r galon goch

Llŷr Gwyn Lewis

Amser darllen: 15 munud

19·04·2017

Gwaedda –
Ni chynhyrfi braidd y llethrau hyn,
rhaeadr y defaid maen,
y panig di-frys, di-fref,
y rhuthr pendramwnwgl, stond

                                    T Rowland Hughes

They don’t care about you and me, obviously,
No, not us: we’re the Mountain People

                                    Gruff Rhys

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll,
ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll

                                    T H Parry-Williams

Amau, yn llond y galon. Amau pob troedle a phob gafaelyn bychan o graig; gwybod y byddai llithriad, yma, yn farwol. Methu wynebu tramwyo’r awch uchel ei hun, ond heb fod eisiau disgyn i lawr y llethr yn ormodol chwaith. Heb fod eisiau disgyn, yn fwy na dim.

Eisiau gwasgu fy hun at y graig roeddwn i, ei theimlo’n agos ac yn gadarn ac yn ddi-syfl, ond doedd hi ddim. Roeddwn i’n gorfod profi pob gafaele â’m llaw cyn ymroi; weithiau mi fyddai darn o garreg, mwyaf sad ac oesol yr olwg, yn dod i ffwrdd yn syth yn fy llaw, fel darn jig-so. Neu droedle lle’r oeddwn i ar fin rhoi fy mhwysau i gyd yn briwsioni fel bisged ac yn diflannu i lawr yr oleddf, a finnau’n ofni am f’einioes y byddwn i’n dilyn. Ac ystyried ei fod yn lle mor anodd a gwirion ei gyrraedd, roedd yn amlwg fod gormod o bobol wedi dod y ffordd hon o ’mlaen.

Doedd dim amdani ond cropian, fel cranc wysg fy ochr, ar hyd y grib. Gorfod bradychu’r hen arfer, a droes yn reddf, o ymddiried yn y garreg gadarn ac amau’r glaswellt llithrig. Fel arall oedd hi fan hyn: osgoi gwydr llaith y graig a chwilota â bodiau ’nhraed am gilfachau o fwd a graean a thalp o wair. Bob tro y llithrai fy nhroed, byddai brawddeg o’r llyfr a oedd gennyf yn fy mag, Dringo Mynyddoedd Cymru gan Ioan Bowen Rees, yn dychwelyd i ’mhen:

Gwadnau vibram o rwber caled, rhychiog yw’r gorau’n gyffredinol, ond mae iddynt un gwendid – tuedd i lithro nid yn unig ar rew ond ar graig wleb oni fo’r graig yn hollol lân o lysieuach (fel creigiau uchel yr Alpau) ac oni fo’r troed wedi ei osod yn boenus o ofalus. Oherwydd hyn, gwell gan rai gadw at hoelion.

Am yn ail oedd hi, am ryw reswm, rhwng y frawddeg honno a llinell o gân mab Ioan Bowen Rees: ‘They don’t care about you and me, obviously, no, not us, we’re the Mountain People.’

Penderfynais rannu’r holl grib yn adrannau creigiog: mi allwn i gyrraedd y slabyn fflat yna a chael fy ngwynt ataf. Dim ond croesi’r darn cul hwn ac mi fyddwn ar i lawr wedyn. Ac anelu i gyffwrdd y wythïen wen, mellten yng nghanol cochni gweddill y graig, yn agos at gopa’r grib: roeddwn eisoes yn hen gyfarwydd â hon, gan ei bod yn fflach amlwg reit yng nghanol y darlun o’r Grib Goch a’r Wyddfa gan Rob Piercy a hongiai uwchben y piano, gartref yn nhŷ fy rhieni. Cofiaf wrthod yn lân â chredu mai paentiad ydoedd pan ddywedwyd hynny wrthyf gyntaf, a finnau’n argyhoeddedig mai ffotograff oedd hwn. Twyll dirgroes, rywsut, i’r ffaith na allwn gredu’n iawn y funud honno mai fi oedd yma, yn gwneud hyn mewn gwirionedd, ac nad paent oedd y cyfan o’m cwmpas ond y gwir ffotograffig.

Ond doedd dim amau nad fy nghalon i fy hun oedd yn dychlamu yn erbyn f’asennau yr eiliad honno: yr unig beth sydyn a gwyllt o fewn clyw na golwg, a churiad adenydd y gigfran gerllaw yn osgeiddig braf o gymharu, heb i’r uchder chwil a agorai oddi tanom fennu dim arni.

*

Cymharol dawel fy nghuriad fûm innau'n ogystal tan hyn; fymryn yn fyr o wynt, efallai, ond â’m pen yn agos at y graig a’m meddwl yno hefyd ar flaenau ’mysedd, yn ei chyffwrdd yn ei chilfachau ac yn profi’i lleithder bob tro cyn ymrwymo. Doedd na chodi pen nac oedi i feddwl tra bod y mynydd fel wal o’n blaenau a llwybr i’w ganfod. Ond mwya’ sydyn doedd yna ddim mwy o graig, dim byd rhwng ein ’sgwyddau a’r awyr, a dim ond y mymryn miniog lleia’ o garreg i sodro’n traed a’n penolau arni.
 

Yr Wyddfa o Grib Goch - dyfrlliw gan Rob Piercy


O’n blaen, ymestynnai’r Grib yn wirion o fain i feddwl mynd ar ei hyd. A phwy wedyn oedd y ffyliaid ddeuai yma yn y gaeaf? Troi’n ôl i mewn at y galon wnes i a thrio’i distewi: wnâi adrenalin yr un ffafr â neb mewn lle fel hyn, na fflachiadau sydyn o ddychmygu llithro, rhwygo, sŵn ffôn yn canu’n rhywle, a chrawc y frân; ac felly rhoddais nhw heibio efo’r adrenalin ym mhoced fy mag, i’w harchwilio wedyn.

Roeddem ni wedi oedi’n hir ar y gyffordd wrth Fwlch Moch lle gwahanai’r llwybr i fyny’r Grib oddi wrth lwybr Pyg, a’r torfeydd yn cronni eisoes. Dyma fwrw’n golygon tuag i fyny gan geisio rhagweld y niwl. A Llyn Llydaw yn glir oddi tanom a’r cymylau ymhell, roeddem wedi’i mentro hi. Ond a ninnau bellach wedi cyrraedd y top ac yn barod i groesi, wrth inni hel ein paciau daethai’r niwl i lawr. Ac er diawlio’r diffyg golygfa sawl tro ers hynny, bron nad oeddwn i’n falch, wrth groesi, fod y niwl wedi cyrraedd jest mewn pryd i roi clogyn llwyd dros fy marwoldeb fy hun fel na welwn i mohono’n llechu oddi tanaf.

Bellach roedd rhaid croesi, gan fod hynny’r mymryn lleiaf yn fwy apelgar na’r syniad o ildio a gorfod ceisio sgrialu i lawr y ffordd y daethom. Anadl ddofn – ond wedyn, cyn imi allu dechrau arni, ces achubiaeth ennyd: gan deulu ifanc a thri o hogiau ganddynt, yr hynaf heb fod ymhell heibio’r deg, yn ei lartsio hi ymlaen wedi’u clymu i’w gilydd gan raffau, a gwaedd y plant yn cael ei chipio gan y niwl a’i thaflu i lawr i Gwm Uchaf. Rhaid felly oedd gohirio’r artaith eto am ennyd, er mwyn gadael iddynt basio.

*

Y diwrnod blaenorol roedd tri ohonom wedi mentro draw drwy Lanuwchllyn ac i fyny Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Yn y fan honno, cawsom ddogn o’r hyn roeddwn i wedi bod yn ei ddeisyfu: ymdeimlad o ddianc ac o esgyn uwchlaw pethau. Maen nhw'n dweud wrthym bellach fod rhaid inni roi heibio hen haniaethau fel iaith a thir; nid y rheini sy'n gwneud cenedl ond concrit a phobol, a sefydliadau. Ond er gwybod hynny, dyw Cymru byth yn teimlo'n fwy o wlad gyflawn i mi na phan fydda’ i'n sefyll ar ben mynydd ac yn gweld rhannau helaeth ohoni ynghyd. Ac rwy'n amau mai am hynny’r oeddwn i'n crefu wrth ddianc adref i fynydda: am gael gweld a chyfannu gwlad. Ar ôl iddi gael ei rhwygo yn fy meddwl, ar ôl iddi ddangos ei hun yn fwy anoddefgar, mwy milain, a mwy di-asgwrn cefn nag y dychmygais y gallai hi fod – ar ôl iddi ddangos nad gwlad oedd hi o gwbl ond anecs – roeddwn ar binnau i’w gweld eto’n gyfan fel cenedl o flaen fy llygaid os nad yn fy nghalon. Ond roedd y mynydd yn styfnig, yn gwrthod ildio hynny imi heddiw. Ar ôl ychydig o esgyn, welem ni ddim ond niwl, a’r wlad yn cuddio rhagom o gywilydd.

Troi unwaith, felly, i ffarwelio â Llyn Tegid ac yna i mewn i’r cwmwl â ni – ac yno y buom ni weddill y bore nes rhedeg yn drwm ryw ddwyawr yn ddiweddarach i lawr llethr gwelltog at ben Cwm Cywarch. Welson ni’r un adyn byw arall ar y copaon hynny, heb hyd yn oed Fwgan y Brocken yn gwmni. Yna, wedi disgyn i’r cwm, ffermwr clên yn dod â’i jîp i stop ryw hanner milltir o’i gartref: ‘Cymry ydech chi?’, ac efo hynny roeddem yn y cefn ac yn gwibio i lawr tua’r pentre, yn cael hanes y teulu – lle’r oedden nhw i gyd ar wasgar, pwy oedd yr un oed â phwy – ac yn dysgu enwau’r caeau o’n cwmpas. Allasem ni ddim cael profiad mwy Cymraeg, debyg, pe baem ni’n byw i fod yn gant.

Ac eto roedd rhywbeth ynof heb ei ddiwallu. Blaengad yw’r mynyddoedd hynny, o bosib, llinell gynta’r amddiffynfa, ac roeddwn innau am dreiddio’n ddyfnach, am ddianc yn llwyrach i galon pethau. Doedd dim amdani, drannoeth felly, ond anelu am yr Wyddfa, am ei chalon goch, a’i breichiau a’i llwybrau’n ymestyn fel gwythiennau oddi wrthi. Mi wyddwn fod y mynydd hwnnw’n gwaedu llynnoedd gleision, a'r glas yn arwydd o dras brenhinol: calon hen deyrnas Gwynedd. Y trydydd ar hugain o Orffennaf, fis union ar ôl y tirlithriad.

*

Mi gredwn ein bod ar ein pennau’n hunain ar y mynyddoedd: unig, yn ystyr gorau’r gair, ymhell o bopeth ac o bobman ac o gyffro geiriau’r eithafwyr oll. Gwnawn graig o’n harwahanrwydd a’i gosod rhyngom a’r hyn y deisyfwn beidio â bod. Rhown cordon sanitaire fel cwm o’n hamgylch ein hunain er mwyn cadw allan yr hyn sy’n amhur neu’n fudur, yn groes i’r hyn y credwn yr ydym yn ei gredu. ‘They don’t care about you and me – obviously – we’re the Mountain People.’ Ond yn ddiweddar roedd fy nghred – fy ffantasi – ein bod ni rywsut yn elfennol wahanol iddyn nhw, bod rhywbeth yn ein gwneud ni felly, neu’n ordeinio mai felly yr oedd hi i fod, ac y gallwn i ddod o hyd iddo yma ar y graig, roedd hynny wedi cael ei chwalu mor hawdd ac mor gyflym ag yr holltwyd y graig ei hun unwaith, i lawr yn y fan acw ar lethrau Elidir Fawr.

Mi ddylwn fod wedi amau, wrth gwrs. Flynyddoedd yn ôl, a ninnau’n fach, ar odreon Alpau’r Swistir, roeddem wedi mentro hefo Dad a Mam mewn ceir cebl i fwynhau’r olygfa uwchben Schaffhausen, a Dad wedi llusgo’r camera fideo mawr heglog i fyny hefo fo. Dyma bwyntio’r camera tua’r uchelfannau i geisio dal yr Alpau, a’r eira heb ddiflannu’n llwyr eto oddi ar eu copaon, a phanio drostynt. Ond wedi dod i lawr, a dychwelyd gartref i weld holl ril y gwyliau’n gwibio heibio eto, dyma gael bod yr olygfa benodol honno wedi’i throslunio â delweddau eraill: llun awyren yn hedfan, merched yn dawnsio, cyflwynwyr yn parablu, a rhaglen sebon bellennig yn mynd rhagddi’n felodramatig. Lle’r oeddem ninnau wedi credu ein bod yn nistawrwydd a heddwch yr uchelfannau, ym mhobman o’n cwmpas roedd tonfeddi a signalau yn anfon rhaglenni, rhai lleol a rhai o America a phob cwr, i bob cyfeiriad drwy ganoldir – drwy galon – Ewrop o’n cwmpas, a’r camera wedi cael cip ar y cyfan. Hyd yn oed yn fan'no, doedd dim dianc. Mor naïf fûm i felly — a finnau bellach yn gallu derbyn signal 4G ar ochr y graig — wrth gredu y gallwn ddychwelyd at rywbeth mwy elfennol, heb ei gyffwrdd na’i gyffroi, yn fan hyn ar y Grib.

Beth mae mynd i galon pethau yn ei olygu? A beth oeddwn i ei eisiau, gan hynny, o ddod yma i galon pethau? Mi allai olygu dianc, ond mi allai olygu mynd reit i’w chanol hi hefyd, i wynebu fy ofnau wrth gerdded rhaff dynn y Grib Goch, yn uchel uwchben Cwm Dyli a Gwastadnant, lle mae pob pryder a phoendod arall yn pylu yn wyneb y posibilrwydd byw iawn o lithro. Yn union fel y mae’ch cartref, a’ch tref, a’ch holl fyd daearyddol yn gallu ymddangos mor ddibwys o bitw o’r fan hon, felly hefyd dirlun yr emosiynau, holl fap pryderon y galon, yn erbyn yr un gyllell hon o graig.

Ond oherwydd yr ofn hwnnw, efallai, roeddwn i’n falch, yma, o gael pobol eraill o ’nghwmpas. Cofiaf weiddi ar Rh, gan erfyn arno i beidio â mynd yn ei flaen yn rhy bell – aros efo fi. Ac ni waeth pwy ydyn nhw nac o ble down nhw, mae rhywun yn falch o gael eraill i fyny fan hyn, mewn lle mor ddiffaith, i rannu’r profiad, i wneud jôc a thynnu coes am yr Ewros, neu i gynnig cysur distaw drwy fod yn fwy amlwg ofnus na chi. Mi fedrwch chi chwarae rhan y bois mawr wedyn, ac mae chwerthiniad rhwng tri neu bedwar yn tueddu i argyhoeddi'n well nag un fref yn erbyn atsain y gwagle oddi tanoch.

A wir, rhwng y tynnu coes, y mynd a’r dod, gadael i rai fy mhasio a phasio eraill fy hun, a’r plant ar raffau oedd fel pe baent heb sylwi o gwbl eu bod ar ymyl gagendor o ddibyn miniog dros naw can metr uwchlaw lefel y môr, yn gweiddi ac yn chwarae’r diawl â’i gilydd tra stryffaglai eu mam o’u hamgylch, roeddwn innau hefyd erbyn cyrraedd y pinaclau wedi mynd i deimlo fy hun yn dipyn o lanc. Tro Rh oedd hi bellach i ddechrau simsanu braidd, wedi mynd o amgylch y tŵr cyntaf o graig, gan weld y nesaf o’n blaenau a bwlch diadlam, diachub i’w groesi. Pa rym rhew fu’n ddigon aruthrol i gerfio’r tyrau hyn ar ben y byd, a’u gollwng yma fel rhyw Jac Codi Baw cynhanesol? Rhyw rymuster y tu hwnt i’m dirnadaeth i, yn saff; fel edrych i fyny mewn braw ar Dair Chwaer Glencoe, a chael ar ddeall ar yr un pryd mai troedfryniau yn unig oedd y mynyddoedd presennol hyn o gymharu â’r cewri fu yno unwaith, cyn eu herydu’n siwrwd. Yn wyneb hynny i gyd, pa ots pe bawn innau’n syrthio’n bendramwnwgl i lawr i gesail Cwm Uchaf? Dim ond briwsionyn oddi ar graig.

Daeth ein tro yn y ciw, a phan ddaeth, doedd dim amdani ond rhoi hop a naid dros y dibyn cyn dod o hyd i set o silff-risiau digon cyfleus i’n tynnu’n hunain tua’r top. Ar ôl gwagle gwyntog y grib, yn fan hyn roedd rhywbeth am anferthedd solet y graig, a ddylasai fod yn fraw, yn hytrach yn gysur ac yn goflaid.

Rhwng y plantos a’u rhaffau a’r criw a oedd wedi ymgasglu y tu ôl iddynt, disgynnodd giang go helaeth o bobol fel rhaeadr wedyn i lawr o’r pinaclau ac i Fwlch Coch. Ac er yr holl sôn sydd am Grib Goch mewn llyfrau a thudalennau gwe, prin wedyn ydi’r rhybuddion am Grib y Ddysgl, y ddringfa nesaf, sydd hefyd yn gofyn am gryn dipyn o ddwylo a dibyn-fordwyo, a ninnau bob amser yn credu y byddai pethau’n esmwytháu dros y boncan nesaf, ein bod bron â chyrraedd y copa, cyn i’r niwl fel rhyw gonsuriwr ceiniog-a-dime weiddi ‘ta-da!’, a dadorchuddio craig arall i’w hesgyn neu i sleifio o’i chwmpas.

Ond ymhen hir a hwyr daethom at grib uwch, esmwythach, gan gyrraedd o’r diwedd risiau gwneud i’n cario at y copa, a’r wlad o hyd yn ymguddio rhagom.

*

Dyma ddisgyn eto i’r col, ac at y prif lwybrau: at y gyffordd honno rhwng llwybr Pyg a llwybr Llanbêr, a lle mae’r Snowdon Ranger hefyd yn sleifio i fyny o du ôl y mynydd, a’r tyrfaoedd, mwyaf sydyn, yn glanio fel niwl trwchus. Roedd rhywbeth go smyg ynom ni, griw bychan, wrth weld y rhain yn pwffian i fyny o Lanberis. Ond daeth yr hen gasineb yn ei ôl hefyd a minnau eisiau gwaredu’r mynydd o’r holl leisiau uchel, cras. Gorfoledd y grib, mae’n siŵr, a ninnau fwy na thebyg yr un mor groch ar ben y pinaclau. Ond er ysu i ofyn iddynt onid oedden nhw’n deall sut yr holltai eu brygowthan ddistawrwydd y lle ’ma, Mynyddoedd Pawb oedd y mynyddoedd hyn mewn difri’ bellach, a hyd yn oed o weiddi’n ôl arnynt, chwedl T Rowland Hughes, ‘ni ddychryni’r rhain’.

Wrth ddisgyn i Lanberis ar hyd y llwybr hir a chlir, allan o’r niwl dros Glogwyn Coch, gan weld y cwm yn agor o’n blaenau a Chlogwyn Du’r Arddu’n wg i gyd dan gap o gwmwl, ceisiais wrando ar y gwahanol acenion wrth basio. Lerpwl, Manceinion … Cymraeg? Na – Saesneg cytseiniog y Sgowsars yn ymrithio’n acen Bangor yn fy nghlust, dyna i gyd. Acenion eraill hefyd, o bellach i ffwrdd, o Ffrainc a’r Almaen, India hefyd. Roedd llwybr Llanbêr y diwrnod hwnnw yn un o’r llefydd mwyaf cosmopolitan, mae’n siŵr, drwy Wynedd, ond roedd hefyd gyda’r mwyaf Saesneg, a minnau heb glywed dim ond dwy sgwrs Gymraeg ar y mwyaf yr holl ffordd i lawr. Efallai fod y Cymry Cymraeg i gyd yn arfer dod i fyny o Ryd-ddu.

Roeddem wedi colli gweddill criw y Grib yn nrysfa’r copa, a ninnau heb drafferthu mynd i mewn i’r caffi gorlawn i gael ein cinio. Ond roedd un cwpwl wedi aros ar yr un cyflymdra â ni, fwy neu lai, ers inni eu goddiweddyd ar y sgrambl i fyny o Fwlch Moch. Cylchem ein gilydd, fel electronau o amgylch niwclews y mynydd. O Fanceinion y deuent, a phan ofynnodd y gŵr ifanc inni, ar y ffordd i fyny o Fwlch Moch, a oeddem wedi dringo’r Grib o’r blaen, atebodd Rh, ‘No, but we are local’, fel pe’n ceisio sefydlu’i oruchafiaeth, fel petai bod yn lleol yn ail agos i adnabod y ddringfa fel cledr llaw. Fel pe bai bod yn lleol yn rhinwedd y byddai’r mynydd yn ei gydnabod; y byddai’n penderfynu felly, yn ei ras, bod yn fwy maddeugar tuag atom ac yn gadael inni ddod o hyd i’r llwybrau’n haws. Cawsom beint yn eu cwmni yn yr Heights wedyn. Roedden nhw’n synnu atynt eu hunain na ddeuent yma’n amlach, ac mi benderfynon nhw yn y fan a’r lle y bydden nhw’n gwneud o hynny ymlaen. A wir, heblaw iaith, doedden ni ddim mor wahanol â hynny i’n gilydd. Gadawsom hwy, a mynd yn ôl ar y bws i Ben y Pas, cyn dod i lawr yr ochr arall i wlychu’n pig ym Mhen y Gwryd.

*

Yno, dan drem Hillary a Tenzing a’u hesgidiau hoelion, bu hen ddadansoddi a dramateiddio holl dreialon y diwrnod, ei uchelfannau a phob dibyn hefyd, a’r mwynhad mwyaf mewn edrych ’nôl ar y miniogrwydd o gysur pren y dafarn. Ond roedd gwên y ddau arloeswr ar y wal yn f’atgoffa nad oeddwn wedi dianc o hyd, hyd yn oed yma. Roedd un o symbolau mawr ola’r Ymerodraeth yn gwenu i lawr arnom, fel y gwna’r rheini gan amlaf.

A dyma ofyn i mi fy hun beth roeddwn i’n dymuno’i weld yn y llun hwnnw. Gallai fod wedi f’atgoffa nad oedd Seisnigrwydd a Phrydeindod yr Wyddfa yn ddim byd newydd mewn gwirionedd, na chwaith yr awch hwnnw i goncro pob mynydd. Gallai fod wedi f’atgoffa mor hir y buom yn gwneud yr hyn roeddwn innau eisiau ei wneud, sef dianc tua’r llethrau; ond hefyd mor sydyn yr ildiodd y mynyddoedd hyn, a fu’n fur i’r Cymry cyhyd, rai canrifoedd yn ôl dan gochl Rhamantiaeth a’r awch crwydrol. F’atgoffa, wedi canrifoedd o’i chadw allan ag arfau a saethau, mai sleifio i mewn fel morgrug a wnaeth y Saesneg hyd lwybrau a baratowyd iddi. Neu, fe allwn geisio gweld y ffotograff llawn gwenau hwnnw fel symbol o gydweithio rhyngwladol, o’r hyn y gallai traddodiad Alpiniaeth ar ei orau ei greu a’i warchod, a gweld y dafarn hon hefyd yn arwydd o’r ffordd y mae’r Wyddfa, ac Eryri, yn perthyn fel cadwyn i’r Alpau a’r Pyrénées, yr Urals a’r Himalaya. Fe wyddwn fod un ffordd o’i gweld hi yn llawer mwy naïf na’r llall. Ond roedd un yn apelio at y pen, a’r llall at y galon, ac yn yr haf niwlog oedd ohoni, y galon oedd drechaf.

Allwn ni ddim newid pwy sy’n troedio’r llethrau hyn. Ond chawn nhwythau ddim rhwygo’r enwau oddi arnynt, na’n gorfodi i gilio a gwneud mur o’r mynydd, na thorri’r llinyn arian rhwng calon Eryri a chalon Ewrop. Chawn nhw ddim ein gorfodi i droi’r lleoedd hyn yn ddihangfeydd. Yn hytrach, rhaid i ninnau droi’r mynyddoedd hyn yn llwybrau sy’n mynd i rywle, ac yn barhad: calon a’i gwythiennau yn ymestyn hyd gyrion cyfandiroedd. Oherwydd pan fyddwch chi wedi dringo i le diadlam a phan fydd hi’n rhy hwyr i droi’n ôl, pan fydd y dibyn yn bendro bob ochr ichi a’r holl fynydd ar ddiflannu, does dim amdani ond gafael yn y galon ddychlamol, ymdynghedu i groesi, ac ymddiried yn sadrwydd ansad a llithrig y graig.

Mae Llŷr Gwyn Lewis yn olygydd adnoddau gyda CBAC yng Nghaerdydd. 

Delwedd: 'Yr Wyddfa o Grib Goch', dyfrlliw gan Rob Piercy. Diolch i'r artist am ganiatâd i atgynhyrchu'r gwaith.

Maen nhw’n dweud wrthym bellach bod rhaid inni roi heibio hen haniaethau fel iaith a thir

Pynciau:

#Rhifyn 2
#Ysgrifau
#Brexit
#Llŷr Gwyn Lewis
#Cerdded
#Mynydda