Colofnau

Myn brain i!

Gwynt y Dwyrain

Mihangel Morgan

Amser darllen: 5 munud

06·12·2022

Rwy wedi gwneud ffrind newydd yn ddiweddar – ffrindiau, a gweud y gwir. A pheth anghyffredin a gwerthfawr yw cael gwneud ffrindiau newydd yn eich trigeiniau. Brain yw fy ffrindiau newydd. Ac mae cylch fy nghyfeillgarwch wedi ymestyn ymhellach na’r brain, hyd yn oed, at griw bywiog o jac-y-dos.

Pan arferwn ddodi bwyd yn yr ardd yn Nhal-y-bont, Ceredigion er mwyn bwydo ‘dyrnod’ (chwedl mam), denu’r rhai bach pert oedd fy nymuniad: titwod, pincod, rhai â phlu lliwgar; nace’r brain hyll, yn sicr. Gwelwn y brain fel pethau du, hagr, stwrllyd a haerllug, a fynnai fygwth yr adar mân a dwyn eu cnau. Ond yma, yn Aberdâr, sylwais ar rai yn y parc yn bwydo’r brain a hwythau’r brain fel petaent yn dod i nabod y bobl hyn gan eu dilyn o gylch y parc. Dysgais wedyn, wedi i mi wneud peth ymchwil ar y mater, fod y brain, weithiau, yn ‘gwobrwyo’ y sawl sydd yn dangos caredigrwydd tuag atyn nhw, gan ddod â phethau bach disglair iddyn nhw – anrhegion bach. Felly, dyma fi’n dechrau taflu tameidiau o fwyd i gyfeiriad y brain wrth i mi fynd â’r cŵn am dro. Dim ymateb am wythnosau, misoedd, efallai. Ond dyfalbarhau wnes i, ac yn y diwedd talodd amynedd. O’r diwedd, dyma un aderyn penodol yn dod yn gyfarwydd â mi. Gan fod marciau ar ei frest rwy wedi rhoi’r enw Brychan arno. Mae’n aderyn eitha sylweddol ac mae’n dod i gwrdd â mi yn gyson nawr a finnau’n rhannu ag ef beth o’r danteithion bach y bydda i’n eu rhoi i’r cŵn. A wele, dyma fe’n dod â’i ‘wraig’. Brychau yw’r enw rwy wedi ei ddodi arni hi. Mae’r ddau yn dod ata i yn ffyddlon nawr a finnau’n rhoi bwyd iddyn nhw bob tro y bydda i’n eu gweld nhw. Weithiau byddan nhw’n fy nilyn i ma’s o’r parc, yn croesi’r heol, ac yn dod ar f’ôl i beth o’r ffordd ar hyd y stryd.

Rwy wedi dysgu mwy am frain yn sgil y cysylltiadau hyn. Rwy wedi dod i weld nad pethau salw o gwbl mohonyn nhw. I’r gwrthwyneb, rwy wedi dod i werthfawrogi eu prydferthwch a gweld mor osgeiddig ydyn nhw a sylwi ar harddwch y plu ar eu hysgwyddau a sglein eu hadenydd. Brain (hynny yw, genws Corvus) sydd gyda’r creaduriaid mwya deallus a chlyfar ar y ddaear. Mae cof eithriadol ganddyn nhw. Mae brain yn cofio’r sawl sydd wedi bod yn gas wrthyn nhw a hynny am genedlaethau. Mae brain yn gallu llunio offer, ac felly, maen nhw’n perthyn i grŵp bychan dethol o greaduriaid. Rwy’n ddigon hen i gofio fel y credid taw dim ond i ddynolryw y priodolid y gallu hwn, y gallu i lunio offer, nes i Jane Goodall brofi fod y tsimpansî yn gwneud ‘twls’ yn rheolaidd. Ers hynny mae sawl creadur arall wedi cael eu hychwanegu at y rhestr. Yn eu plith, y brain sy’n gallu defnyddio ac addasu darnau o bren er mwyn symud a chyrraedd pethau yn ôl eu dymuniad.

Ac mae brain yn rhan o’n diwylliant a’n llên ni, wrth gwrs. Mor gynnar â’r nawfed ganrif mae Llywarch Hen yn gwneud y cysylltiad anffodus, braidd, rhwng brain ac angau: ‘Ac ar ei fron wen brân ddu’. Ond adar hynod o fywiog a chwareus ydyn nhw, mewn gwirionedd. Mae’r hen jac-y-do (Corvus monedula) a’i het wen a’i ddwy go’s bren yn nes at wir ysbryd y dyrnod hyn. Yn ein hen chwedlau mae brain yn fotîff, os nad yn gymeriadau, amlwg iawn. Fe gofir am y brain sy’n gweithredu fel gweision i Owain yn chwedl swrealaidd ‘Breuddwyd Rhonabwy’. Ac onid yw’r enwau Bendigeidfran a Branwen yn bwrw yn ôl at hen dduwiau Celtaidd? Ac yn Llyfr y Tri Aderyn y gigfran yw un o adar Morgan Llwyd. A cheir nifer o hen ddiarhebion sy’n sôn am frain: ‘brân i bob brân a dwy frân i frân front’ , ‘mae brân i frân y dyffryn’, ‘tinddu medd y frân wrth yr wylan’. Ac on’d yw brain yn hydreiddio’n ffigurau ymadrodd a’n priod-ddulliau fel mai bron nad yw’n bosibl siarad yr iaith hebddynt? Bwgan brain, brensiach y brain, mae ganddo sgrifen traed brain, awn ni fel yr hed y frân, mae ganddi lais brân, mae’r lle ’ma yn mynd rhwng y cŵn a’r brain, y frân wen wedodd wrtho i, dicon o’r i sythu’r brain, myn brain i!

Mae brain, yn anorfod, wedi denu sylw’r beirdd hefyd. Mae I D Hooson a John Williams ill dau yn cyfeirio at eu sŵn. Y naill yn sôn am eu ‘lleisiau cras’ a’r llall am eu ‘cleber’ a’u llawenydd, ‘er na ddeallwn yr iaith’. Ac i Euros Bowen, ‘hen bethau byth-a-hefyd-gyda-ni’ ydyn nhw ac yntau yn ogystal yn sôn amdanyn nhw’n ‘llafarganu salmau myfyrdodau’r dydd’. Mae’n arwyddocaol fod pob un o’r beirdd hyn yn meddwl am iaith y brain gan fod astudiaethau gwyddonol yn awgrymu fod ganddyn nhw, yn wir, rywbeth tebyg i iaith.

Wrth sylwi ar y brain yn fy nilyn yn y parc y diwrnod o’r blaen dyma fenyw yn dweud, ‘Hen bethau annymunol, dwi ddim yn lico nhw, ddim yn lico’u mwstwr nhw.’ Roedd hi’n rhoi bwyd i’r gwiwerod llwyd. ‘Well ’da fi’r rhain na rheina,’ meddwn i, ‘mewnfudwyr yw rheina sydd wedi disodli’n gwiwerod bach coch i gyd ac yn difetha’n coed.’ Tipyn o bregeth. Ond mae’r rhai sy’n dwlu ar wiwerod llwyd yn mynd ar fy nerfau.

Wrth i mi fwydo Brychan a Brychau mae criw o jac-y-dos wedi ymuno â ni gan fachu ar y cyfle i rannu peth o’r wledd. Adar bach bywiog a sionc ydyn nhw sy’n gallu dal briwsion yn yr awyr wrth i chi daflu tameidiau atyn nhw. Maen nhw’n perfformio mabolgampau wrth hedfan ac mae eu lleisiau’n fwy swynol na rhai eu cefndryd y brain. Ta beth, yn ddiweddar, mae’r brain a’r jac-y-dos wedi fy nilyn yr holl ffordd o’r parc a dod mor bell ag ymyl fy nghartref. Felly, rwy’n erfyn derbyn anrhegion bach disglair cyn bo hir, yn ad-daliad am yr holl fwyd rwy wedi ei roi iddyn nhw – cadwyn emog, efallai, broetsh, sofren aur, diemwntau, o bosib. Cawn weld.

Mae Mihangel Morgan yn un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt.

Manylion y llun a fewnosodwyd: Brychan a Brychau yn y parc yn Aberdâr (Llun: Mihangel Morgan).

Hawlfraint y llun ym mlaen y wefan: Mark Turnauckas/Flickr

Mae cof eithriadol ganddyn nhw. Mae brain yn cofio’r sawl sydd wedi bod yn gas wrthyn nhw a hynny am gened-laethau

Pynciau:

#Mihangel Morgan
#Gwynt y Dwyrain
#Byd natur