Rysáit i gadw dau ben llinyn ynghyd
ar ôl Günter Grass
I greu y saig mwyaf moethus, mynned
doriadau gorau y cig: y golwyth, yr ysgwydd, y goes.
Ond i’r sawl sydd am fyw’n gynnil,
cofied ein neiniau darbodus
yn paratoi’r sgrag am oriau ers talwm,
y ffrei oen, y cigach, y syrth;
y wermod a’r brywes a’r potes pig tegell.
Ac os yw’r prynhawn yn mynd yn hirbryd
dewised y lobsgóws troednoeth,
ateged lwyeidiau o ffacbys a ffa;
rhoed gynnig gobeithiol ar bopty brys.
A gall rhywun sy’n syllu yn llygad y geiniog
agor tuniau o datws i arbed y nwy
a’u halltu’n hael â gofal.
Ychwaneged fel tamaid i aros pryd
fesur o geirch neu ddogn o fran
a phupur sy’n eger fel pryder.
Gosoded y bwrdd â lliain main gofid
a’i addurno ag addewidion;
ac yn y pen draw, gweined y pryd
â dyrnaid mawr iawn o ddim.
Cafodd y gerdd hon ei darlledu ar BBC Radio Cymru ym mis Tachwedd 2022 pan oedd Mererid Puw Davies yn Fardd y Mis.