Cyfansoddi

Siarad papur ar y Mekong

Chwarae Bob Dylan – a Monopoly

Dyfan Maredudd Lewis

Amser darllen: 7 munud

08·04·2020

Rywbryd yn ystod fy arddegau cynnar, llwyddodd fy mrawd i gael gafael ar chwaraewr recordiau o rywle, a’i osod yn ei ystafell wely. Ro’n i’n llawn cyffro ynghylch y datblygiad hwn, gan fod stôr o recordiau feinyl oedd yn eiddo i fy rhieni yn sydyn iawn ar gael i ni wrando arnyn nhw. Roedd hyn cyn dyddiau ffrydio cerddoriaeth, a byddai’r cyfyngiad ar yr opsiynau gwrando’n ein cymell ni i fforio a darganfod a gwrando ar bob modfedd o’r stac feinyl.

Wrth gwrs – fy mrawd oedd yn cael dewis y record bob tro, fel y mae hierarchiaeth brodyr mawr a bach yn datgan. Ond, serch hynny, ro’n i’n hapus i eistedd a gwrando, naill ai drwy’r wal, neu yn ei stafell ef. Rwy’n credu mai’r unig dro i mi gael fy nghyffroi cymaint fel bod rhaid i fi fynd drws nesaf i’w holi beth oedd yn ei chwarae oedd yn ystod ail hanner albym Bob Dylan, Bringing It All Back Home, pan glywais i ‘It’s Alright, Ma (I’m Only Bleeding)’ am y tro cyntaf. Doeddwn i erioed wedi clywed unrhyw beth tebyg o’r blaen. Y riff yn ailadrodd ar ddiwedd pob pennill, llafarganu llawn agwedd ac odlau mewnol cymhleth oedd fel rhyw fath o proto-rap. Ro’n i wedi fy nghyfareddu.

Mae’r gân honno’n fy nghyfareddu o hyd. I ddechrau, dim ond clywed a deall ambell ddywediad oeddwn i: ‘the handmade blade, the child’s balloon’ neu ‘even the President of the United States sometimes must have to stand naked’, ac yn y blaen. Ymhlith y delweddau digyswllt hyn roedd fflachiadau o wirioneddau mawr wnaeth aros a phlannu eu hunain yn fy ymwybyddiaeth, ac ymledu fel rhyw dyfiant. Daethon nhw’n rhywbeth yr oeddwn i’n gallu eu cymhwyso i fy mywyd personol. Un o’r llinellau arhosodd yn y co’ oedd yr hynod, ‘while money doesn’t talk, it swears’. 


Ha Thi Be, 67 oed, yn ei chartref teuluol, a ddisgynnodd i’r Mekong yn Ionawr 2017 / Sim Chi Yin

 

Nid dyna fy mhrofiad cyntaf o glywed y ddihareb ‘money talks’, ond dyna pryd y gwnaeth argraff arna i am y tro cyntaf, a hynny oherwydd dweud cyforiog Dylan oedd yn llwyddo i luosi ac i helaethu haerllugrwydd y gwreiddiol. 

Money talks. Mae’n ddihareb sy’n ysgwyd braidd. Ceir sinigiaeth bendant ynddi, rhyw ddatganiad am wirioneddau creulon y systemau rydyn ni’n bodoli oddi mewn iddyn nhw. Mae’n rhegi arnot ti yn y lle cyntaf, yn sgrechen mai dyma yw’r drefn, mai cyfalaf yw mesur llwyddiant, ac yn fwyaf brawychus mai drwy arian y mae cyfathrebu â’th gyd-ddyn.

Eto, ni allwn ei hysgwyd o ’mhen wrth deithio yng ngwledydd Asia. Roedd hi bron fel pe bai’n fantra newydd i mi, a’r mwyaf ro’n i’n ei hailadrodd, y mwya ro’n i’n gweld ei pherthnasedd yng ngwledydd y Mekong. A hynny oherwydd y diffyg cynildeb llwyr yno ynghylch arian. Roedd y diwylliant trin a thrafod arian mor wahanol i’r un ro’n i wedi arfer ag ef fel Cymro. Gyrwyr tuk-tuk yn ceisio codi dwbl, gwragedd yn cerdded y traeth yn ceisio gwerthu breichledi neu ffrwythau, y bargeinio, a’r twyllo wrth roi newid.

Roedd talu rhagor yn golygu gwasanaeth cyflymach: os oeddet ti eisiau cyflawni rhyw orchwyl, arian oedd y ffordd i wneud hynny. Rwy’n cofio hen wragedd llwyth yr Akha’n gwrthod rhoi caniatâd i mi dynnu eu llun. Dangosais bapur 500 baht yr un iddyn nhw, a newidiodd eu hagwedd yn sydyn iawn – un o’r eiliadau nad ydw i’n or-falch ohoni ar y daith, ond eto doedd dim iaith gyffredin gennym, a neb i gyfieithu fy mwriad iddyn nhw. Neb i esbonio fy mod yn wahanol i’r falangs eraill oedd yn ymweld â’u pentref. Dyna’r chwedl ro’n i’n ei dweud wrthyf fy hun, ta beth. Bu’n rhaid i mi adael i’r arian siarad drosta i.

Eto, wrth imi deithio, roedd hi fel tasai ystyriaethau amgen ar waith yn hytrach na’r dehongliad arferol o’r ddihareb. Un o’r pethau a’m trawodd ar ôl dod ar draws arian gwledydd eraill oedd y gwahaniaeth rhwng dyluniad y papurau a’r ceiniogau a’r arian ro’n i wedi arfer ag ef. Mae yna bleser neilltuol mewn astudio’r delweddau sydd ar arian estron, ac nid yw iaith weledol arian de-ddwyrain Asia’n ddim gwahanol yn hynny o beth. 

Daethon ni ar draws cyd-wladwyr i ni yn Hanoi, Fietnam. Cwpl yn eu chwedegau oedd ar eu gwyliau, a thrafodon ni yn Gymraeg sut y dylid esbonio beth oedd Cymru i’r bobl leol. Daeth yr un ystrydebau i’r golwg: Tom Jones, Gareth Bale ac yn y blaen. Cyfeiriodd y gŵr at arian Fietnam, y dong, fel ‘Monopoly money’ a’i fod e’n methu dygymod â’r rhifau echrydus oedd arnyn nhw. (Mae can mil dong yn werth tua thair punt.)

Yn wir, roedd y lliwiau, y rhifau a’r darluniau ar yr arian yma’n egsotig tu hwnt i’m llygaid estron i. Ac o’u hastudio daeth hi’n amlwg fod arian yn rhan o ymdrech y wladwriaeth i gynnal naratif y wlad: ‘Uncle’ Ho Chi Minh ar bob un darn papur, yn gwenu’n dawel ar y defnyddiwr, a lluniau o’r werin yn gweithio mewn ffatri. Holl hanes comiwnyddol y wlad wedi’i argraffu ar un arf cyfalafol.

Yn Cambodia roedd hi’n sefyllfa debyg – adeiladau mwyaf hynod Angkor Wat oedd i’w gweld ar y blaen, ac yng Ngwlad Thai ffigwr lled-sanctaidd y Brenin oedd yn addurno’r papurau. Fe’m trawyd mai’r un swyddogaeth yr oedd lluniau o’r Frenhines a Churchill ar bapurau pumpunt yn ei chyflawni ar ran y Wladwriaeth Brydeinig: ychwanegu at ddolenni’r sefydliad i gadw’r deyrnas ynghyd.

Un peth sy’n gwahaniaethu’r bunt oddi wrth arian y gwledydd hyn, fodd bynnag (ac eithrio’r baht yng Ngwlad Thai) yw diffyg hyder eu defnyddwyr. Er i lywodraeth Fietnam geisio’i gorau glas i ddefnyddio’r arian fel allwedd i falchder cenedlaethol, ymddengys fod ganddyn nhw broblem brandio. Nid oes hyder gan bobl Fietnam yn y dong, na phobl Cambodia yn y riel, ac mae’r agendor hwnnw’n arwain at yr angen am arian cadarn a dibynadwy. Doleri America sy’n llenwi’r bwlch, ac fe’u defnyddir hyd yn oed gan lywodraethau’r gwledydd hynny – eironi mawr o ystyried hanes Fietnam ac America yn yr 20g.

Canlyniad grym economaidd America yw hyn, wrth gwrs. Y mae hyder pobl y Mekong yng nghryfder economi’r Unol Daleithiau yn drawiadol. Ac yn sgil y grym hwn hefyd y mae ystyr arall i ‘money talks’ yn amlygu ei hun, sef iaith y grym ariannol, iaith y doleri: yr iaith Saesneg. Dyma’r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu ag ymwelwyr rhyngwladol. Dyma’r iaith y bydd plant yn Angkor yn ei siarad â thwristiaid wrth werthu nwyddau, yn hytrach na bod yn yr ysgol. Dyma’r iaith y bydd pob un gyrrwr tuk-tuk a chanddo rywfaint o grap arni yn mynnu ei harddel.

Roedd ffenomen yr iaith Saesneg yn y gwledydd hynny, a’r grym economaidd oedd yn rhan annatod ohoni, yn syfrdanol mewn gwirionedd, a daeth ‘money talks’ yn llaw-fer i grynhoi fy holl deimladau ynghylch hyn. Mae’n llwyddo i grynhoi fy mhrofiad o ymblethiad arian, diwylliant ac iaith yn ne-ddwyrain Asia mewn modd cryno a thwt. Ac er i mi feddwl am dipyn, mae’n wir na lwyddais i ganfod cyfieithiad addas ar gyfer y dywediad idiosyncratig hwn.

Mae hynny’n addas, gan ei fod yn arwydd o fethiant sylweddol ar fy rhan i fel ymwelydd. Ni lwyddais i fynd y tu hwnt i’r Wlad Thai Saesneg, na’r Laos Saesneg, na’r Fietnam Saesneg, na’r Cambodia Saesneg. Methais fynd o dan groen y gwledydd anhygoel hyn er i mi fod yno am dri mis. Dim ond crafu’r wyneb wnes i, a des i i sylweddoli mai iaith oedd y rheswm y tu ôl i hyn.

Fel twrist gwyn yn dilyn ôl troed llwybrau twristiaid gwyn eraill y gwelais i dde-ddwyrain Asia. Sylweddolais yn gyflym fod ceisio canfod profiadau a bywyd beunyddiol cyffredin trigolion y gwledydd hyn yn her. Ro’n i’n rhan o’r llif o Ewropeaid ac Americanwyr oedd ar yr un siwrnai, ac roedd popeth wedi’i becynnu ar gyfer ymwelwyr, ei saniteiddio, a’i gyfieithu i’r Saesneg. 

Boed yn ymwybodol neu beidio, oherwydd natur y sefyllfaoedd lle’r oedd cyfathrebu rhwng yr ymwelwyr a’r bobl leol, roedd y defnydd o’r iaith Saesneg yn dueddol o fod mewn cywair neilltuol.
Dim ond yn y cywair hwnnw yr oeddwn i’n gweld y gwledydd, ac yn bodoli felly o fewn rhyw fath o realiti penodol oedd ar wahân i’r bobl leol, gan mai iaith wedi’i dysgu fel mynediad at gyfoeth y gorllewin ydoedd, ac nid ar gyfer bywyd bob dydd. Wrth gwrs, byddai llygedyn o olau’n ymddangos bob hyn a hyn yn y cwmwl twristaidd. Un tro cofiadwy oedd yfed te gyda llwyth y Lisu ar ôl ymweld â’r Akha ynghynt, heb un gair o iaith gyffredin gan neb ohonom ni.

Hyd yn oed yn yr eiliadau braf hynny, roedd yr agendor anferth rhwng ein cyfoeth ni fel ymwelwyr a realiti economaidd y bobl leol yn codi i’r wyneb. Ac er i ni ddod o lefydd gwahanol, siarad ieithoedd gwahanol, gweld prydferthwch mewn pethau gwahanol, trin ein gilydd mewn ffyrdd gwahanol, y peth cyson a chyhafal yr oeddem yn ei rannu (heblaw am de) oedd cyfalafiaeth. Nid ein profiad o gyfalafiaeth, oedd yn bur wahanol, nac ychwaith ein sefyllfa economaidd, ond yn hytrach mai hon oedd y gyfundrefn roedden ni’n trefnu ein bywydau trwyddi ac o’i hamgylch. Ennill cyfalaf, a’i wario. Ac wrth weld yr hyn yr oedd raid i drigolion y wlad wario’u harian prin arno – iechyd ac addysg os oeddent yn ddigon ffodus, hanfodion byw fel arall – daeth diwedd ar siarad yr arian a, chwedl Dylan, dechrau ei regi.

Mae’r ysgrif hon yn ddetholiad o gyfrol arfaethedig Dyfan LewisAmser Mynd – sydd yn ymateb i brofiadau yn ne-ddwyrain Asia, i’w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae’r awdur yn cydnabod cefnogaeth Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru, a gefnogir yn ei thro gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Er i ni ddod o lefydd gwahanol, gweld prydferthwch mewn pethau gwahanol, trin ein gilydd mewn ffyrdd gwahanol, y peth cyson yr oeddem yn ei rannu oedd cyfalafiaeth

Pynciau:

#Rhifyn 12
#Teithio
#Cyfalafiaeth
#Dyfan Maredudd Lewis